{"id":6261,"date":"2021-03-10T11:00:41","date_gmt":"2021-03-10T11:00:41","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6261"},"modified":"2021-03-10T11:00:31","modified_gmt":"2021-03-10T11:00:31","slug":"canolfan-ymchwil-awtistiaeth-cymru-dathlu-10-mlynedd-o-lwyddiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/03\/10\/canolfan-ymchwil-awtistiaeth-cymru-dathlu-10-mlynedd-o-lwyddiant\/","title":{"rendered":"Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru: Dathlu 10 mlynedd o lwyddiant"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/03.06.19-mh-Innovation-awards-EDIT.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"948\" height=\"569\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/03.06.19-mh-Innovation-awards-EDIT.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6155\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/03.06.19-mh-Innovation-awards-EDIT.jpg 948w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/03.06.19-mh-Innovation-awards-EDIT-563x338.jpg 563w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/03.06.19-mh-Innovation-awards-EDIT-300x180.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/03.06.19-mh-Innovation-awards-EDIT-768x461.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 948px) 100vw, 948px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) wedi bod wrth wraidd polis\u00efau ac arferion pwysig ers 10 mlynedd, gan ddarparu data y gellir ei drosi yn gamau gweithredu ac sy&#8217;n cael effaith wirioneddol ar weithwyr proffesiynol yn y gymuned awtistig. Mae cyn-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr presennol WARC yn cwrdd i fyfyrio ar eu cyflawniadau gan edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Lansiwyd WARC yn 2010 gan y Cyfarwyddwr, yr Athro Sue Leekam, a hon oedd y ganolfan genedlaethol gyntaf ar gyfer ymchwil awtistiaeth yn y DU.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sefydlwyd y ganolfan gan&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/web.archive.org\/web\/20140516224457\/http:\/autism-cymru.org\/\" target=\"_blank\">Awtistiaeth Cymru<\/a>&nbsp;ac&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.autistica.org.uk\/\" target=\"_blank\">Autistica<\/a>, yr&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/psychology\" target=\"_blank\">Ysgol Seicoleg<\/a>,&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/explore\/research-units\/cardiff.ac.uk\" target=\"_blank\">Prifysgol Caerdydd<\/a>&nbsp;a&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/gov.wales\/\" target=\"_blank\">Llywodraeth Cymru<\/a>, a chafodd ei chefnogi gan roddion hael gan&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.autisminitiatives.org\/\" target=\"_blank\">Autism Initiatives<\/a>,&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.bailythomas.org.uk\/\" target=\"_blank\">Cronfa Elusennol Baily Thomas<\/a>,&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/www.waterloofoundation.org.uk\/\" target=\"_blank\">Sefydliad Waterloo<\/a>, Sefydliad Jane Hodge,&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/www.researchautism.net\/\" target=\"_blank\">Ymchwil Awtistiaeth,<\/a>&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/mcf.org.uk\/?charity-merge\" target=\"_blank\">Elusen Fawr y Seiri Rhyddion<\/a>&nbsp;a Phrifysgol Caerdydd&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers 2019, mae&#8217;r ganolfan wedi bod yn nwylo Dr Catherine Jones sydd wedi parhau \u00e2&#8217;i gwaith ynghyd \u00e2 th\u00eem anhygoel o academyddion a myfyrwyr PhD. Gwnaeth Sue a Catherine gwrdd eto&#8217;n rhithwir er mwyn myfyrio ar y 10 mlynedd ddiwethaf.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sefydlu WARC&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sue:<\/strong> Dechreuais yn 2009 ac roedd y cyllid ar gyfer y ganolfan eisoes ar waith diolch i fenter codi arian wych gan elusennau Awtistiaeth Cymru ac Autistica, a weithiodd ar y cyd \u00e2&#8217;r Athro Dylan Jones, o Brifysgol Caerdydd. Roedd yn fenter gyffrous ac arloesol a Hugh Morgan, Prif Swyddog Gweithredol Awtistiaeth Cymru a chyn-gynghorydd awtistiaeth arbenigol Llywodraeth Cymru, oedd yr unigolyn allweddol yn ysgogi&#8217;r fenter. Roedd yn cynghori ar y gwaith o sefydlu&#8217;r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth, sef y cyntaf o&#8217;i fath yn y DU. Fel agwedd arloesol ar hyn, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys y ganolfan ymchwil awtistiaeth fel rhan o&#8217;r strategaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yn sefyllfa ddiddorol i mi, fel academydd, fod yn rhan o&#8217;r gwahanol feysydd hyn o bolis\u00efau ac arferion. Roedd yn her wych ac roeddwn i wrth fy modd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Llwyddiannau ac uchafbwyntiau<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Catherine:<\/strong> I mi yn bersonol, ei gwir gryfder yw&#8217;r gwaith gyda Llywodraeth Cymru a chael ymchwil wedi&#8217;i chyfieithu. Mae codi ymwybyddiaeth yn rhan o&#8217;r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth a thrwy ein cydweithrediad rydym wedi gallu diwallu rhai o&#8217;r anghenion hynny.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/The-Birthday-Party-EDIT.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/The-Birthday-Party-EDIT.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6158\" width=\"310\" height=\"232\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/The-Birthday-Party-EDIT.jpg 848w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/The-Birthday-Party-EDIT-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/The-Birthday-Party-EDIT-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 310px) 100vw, 310px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom nodi arwyddion pwysig iawn o awtistiaeth sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth a&#8217;u rhoi mewn ffilm o&#8217;r enw&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/autismwales.org\/en\/community-services\/i-work-with-children-in-health-social-care\/the-birthday-party\/\" target=\"_blank\">The Birthday Party<\/a>, er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol a rhieni i ddeall mwy am awtistiaeth. Ynddi, rydych yn dysgu am arwyddion awtistiaeth a&#8217;r ffordd amrywiol y mae&#8217;r arwyddion hyn yn ymddangos. Mae&#8217;r ffilm honno wedi cael mwy o sylw nag oeddwn i byth yn ei ddisgwyl ac rydym wedi cael dros 170 o geisiadau gan sefydliadau ledled y byd yn gofyn i gael defnyddio&#8217;r ffilm yn eu hyfforddiant. Mae wedi cael ei gyfieithu i chwe iaith ac mae wedi cael ei chwarae fwy nag 83,000 o weithiau. Mae&#8217;n wych teimlo fel ein bod yn darparu adnoddau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i&#8217;r llywodraeth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sue:<\/strong> Mae hyn wedi bod yn gymaint o fuddugoliaeth gan nad ydym yn ymchwilwyr polis\u00efau. Seicolegwyr ydyn ni. Rydym yn gweithio mewn maes arbenigol ac mae cysylltu&#8217;r polis\u00efau a&#8217;r arferion wedi ein galluogi i ddod \u00e2&#8217;n pwnc academaidd i&#8217;r brif ffrwd a chael ein cydnabod. Cyflawnwyd hynny drwy ddatblygu cydberthnasau sydd wedi bod yn barhaus.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sue:<\/strong> Nid yw WARC wedi bod yn brosiect &#8216;t\u00e2n siafins&#8217; &#8211; rydym yn falch o&#8217;i gyfraniad tymor hir i&#8217;r gymuned. Ar hyn o bryd mae ein t\u00eem presennol o staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn llawer o ddatblygiadau ymchwil newydd ac yn gysylltiedig \u00e2 Th\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol newydd y llywodraeth.&nbsp; Mae gennym gysylltiadau ag Uned Asesu Niwroddatblygiad Prifysgol Caerdydd (NDAU) hefyd ac rydym yn gysylltiedig \u00e2&#8217;r gwaith o ddatblygu polis\u00efau sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r llwybr niwroddatblygiadol (datblygu polisi GIG Cymru).&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/2468-004-a-med-EDIT.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/2468-004-a-med-EDIT.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6161\" width=\"309\" height=\"216\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/2468-004-a-med-EDIT.jpg 953w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/2468-004-a-med-EDIT-300x210.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/2468-004-a-med-EDIT-768x538.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 309px) 100vw, 309px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Catherine: <\/strong>Mae gennym ystafell synhwyraidd yn NDAU a, hyd y gwyddom, ni yw&#8217;r unig ganolfan ymchwil sydd ag amgylchedd amlsynhwyraidd pwrpasol lle gallwn wneud gwaith ymchwil. Cawsom yr ystafell fel rhodd gan Mike Ayres Design, cwmni a oedd yn cydnabod bod ymchwil sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth yn bwysig i arwain ymarferwyr. Rydym wedi bod yn ystyried sut mae plant awtistig yn defnyddio ystafelloedd synhwyraidd ac mae hynny&#8217;n rhan arloesol iawn o&#8217;r hyn rydym yn ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sue:<\/strong> Dros y degawd diwethaf, mae llawer o bethau hyfryd a serendipaidd wedi digwydd a&#8217;n cydberthynas \u00e2 Latfia yw un ohonynt. Sefydlodd rhiant plentyn awtistig elusen yn Latfia a daeth i ymweld \u00e2&#8217;n canolfan i ddysgu am yr hyn roeddem yn ei wneud. Hefyd, cymerodd hi ran mewn cynhadledd rhieni WARC yng Nghaerdydd a gwnaeth gymaint o argraff arni nes iddi fynd yn \u00f4l i Latfia a sefydlu cynhadledd debyg. Yn ogystal \u00e2 hyn, sefydlodd gysylltiadau newydd \u00e2 phartneriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Catherine:<\/strong> Arweiniodd y cysylltiad hwn at gydweithrediad ymchwil ac rydym wedi cyhoeddi data ar hunan-adroddiad rhieni Latfia am ymddygiadau eu plant. Nid oedd unrhyw ddata ar broffil ymddygiad plant awtistig wedi cael ei gyhoeddi o&#8217;r blaen yn Latfia. Felly, mae wedi bod yn arbennig iawn gall cyflawni&#8217;r gwaith hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Effaith ar y gymuned<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Catherine:<\/strong> Rydym yn ceisio deall pobl awtistig yn well, deall eu cryfderau a&#8217;u heriau. Mae dealltwriaeth well yn allweddol i sicrhau newid cadarnhaol. Mae&#8217;n ymwneud ag adeiladu haenau o ymchwil a chydweithio \u00e2 thimau eraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sue:<\/strong> Mae&#8217;r <em>birthday film<\/em> wedi helpu rhieni i fynd at feddygon teulu a mynegi pa ymddygiadau maen nhw&#8217;n eu gweld yn eu plentyn. Mae&#8217;n ffilm rymusol ar gyfer y gymuned. Erbyn hyn, mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol yn yr ysgol wybodaeth well am yr hyn y gallai pobl awtistig ei feddwl a&#8217;i deimlo. Mae ganddynt ymwybyddiaeth well a gallant addasu eu dulliau neu ailfeddwl eu strategaethau i hwyluso canlyniadau gwell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Gobeithion ar gyfer y dyfodol<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/20.12.18-mh-CU-Psychology-Kids-EDIT.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/20.12.18-mh-CU-Psychology-Kids-EDIT.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6164\" width=\"312\" height=\"208\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/20.12.18-mh-CU-Psychology-Kids-EDIT.jpg 972w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/20.12.18-mh-CU-Psychology-Kids-EDIT-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/20.12.18-mh-CU-Psychology-Kids-EDIT-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 312px) 100vw, 312px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Catherine:<\/strong> Yn fy marn i mae angen i WARC ymateb i sut mae pethau&#8217;n mynd, sef i ffwrdd o gategoreiddio a thuag at gydnabod bod pobl awtistig yn fwy na diagnosis. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 deall cymhlethdod y profiad o fod yn awtistig. Mae pwysigrwydd cynnwys pobl awtistig yn y broses ymchwil, ac nid fel cyfranogwyr yn unig, yn cyd-fynd \u00e2 hyn i raddau helaeth. Rydym wedi bod yn datblygu holiadur mewn ymgynghoriad \u00e2 phobl awtistig. Mae wedi bod yn broses hynod ddiddorol ac mae WARC wedi ymrwymo i gynyddu&#8217;r gwaith o gyd-gynhyrchu ei ymchwil wrth symud ymlaen. Rydym hefyd eisiau cynnal enw da am gydweithredu, ac mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chanolfannau blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys NDAU a&#8217;r Ganolfan ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol (IROHMS). Gall gweithio gyda chydweithwyr sy&#8217;n gweld pethau o safbwynt gwahanol fod yn hynod egn\u00efol a gall helpu i lunio ymchwil arloesol, sy&#8217;n ein galluogi yn y pen draw i helpu pobl awtistig a&#8217;u teuluoedd yn y ffordd orau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) wedi bod wrth wraidd polis\u00efau ac arferion pwysig ers 10 mlynedd, gan ddarparu data y gellir ei drosi yn gamau gweithredu ac sy'n cael effaith wirioneddol ar weithwyr proffesiynol yn y gymuned awtistig. Mae cyn-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr presennol WARC yn cwrdd i fyfyrio ar eu cyflawniadau gan edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.  ","protected":false},"author":1811,"featured_media":6155,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170],"tags":[],"class_list":["post-6261","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6261","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6261"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6261\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6286,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6261\/revisions\/6286"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6155"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6261"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6261"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6261"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}