{"id":6225,"date":"2021-03-09T09:02:52","date_gmt":"2021-03-09T09:02:52","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6225"},"modified":"2021-03-15T10:12:36","modified_gmt":"2021-03-15T10:12:36","slug":"covid-19-a-chanser-deall-agweddau-a-thorri-rhwystrau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/03\/09\/covid-19-a-chanser-deall-agweddau-a-thorri-rhwystrau\/","title":{"rendered":"COVID-19 a chanser: Deall agweddau a thorri rhwystrau"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"980\" height=\"552\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6217\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT.jpg 980w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-768x433.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Screenshot-EDIT-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 980px) 100vw, 980px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Anthropolegwr meddygol yw Dr Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy&#8217;n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae&#8217;n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser.<\/em><\/strong>&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr ysgogiad i eisiau helpu pobl a wnaeth fy arwain at y maes hwn o ymchwil, a&#8217;r ffaith y bydd un o bob dau ohonom yn cael ei effeithio gan ganser rywbryd yn ein bywydau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ran ymchwil canser, mae&#8217;n bwysig ystyried yr unigolyn cyfan a sut mae&#8217;n ymgysylltu \u00e2 gofal iechyd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml, mae pobl yn meddwl bod ymchwil canser yn cynnwys rhywun sy&#8217;n sefyll mewn labordy yn edrych i lawr microsgop, ond mae gan y broses sbectrwm cyfan. Mae&#8217;n dechrau gydag unigolyn yn cydnabod bod ganddo symptom ac yn mynd at y meddyg.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Osgoi diagnosis&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r rhwystrau ar gyfer cael sgrinio canser yn amrywio ar gyfer rhaglenni sgrinio gwahanol, ond rwy&#8217;n credu mai craidd y mater yw bod pobl sydd byth yn ymgysylltu am y tro cyntaf yn annhebygol o ymgysylltu yn ddiweddarach mewn bywyd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall pobl sy&#8217;n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd gael dealltwriaeth neu brofiad gwahanol o sgrinio, ac maent yn tueddu i gael barn dyngedfenyddol am ganser. O&#8217;u safbwynt nhw, mae ambell i stori dda am adfer canser, ac o ganlyniad, gall pobl osgoi cael diagnosis o ganser.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond yr ardaloedd lle mae&#8217;r nifer fwyaf o achosion o ganser yn tueddu i fod yn y poblogaethau sydd \u00e2&#8217;r credoau mwyaf tyngedfenyddol. Os gallwn ymyrryd yn y cylch tyngedfenyddol, yna gallwn gyflwyno newidiadau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Y neges &#8216;arhoswch gartref&#8217;<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnes i a&#8217;r Athro Kate Brian (BA 1992, PhD 1996) gais am grant yn gynnar y llynedd ar ddechrau&#8217;r pandemig. Roeddem yn poeni am yr effaith y byddai COVID-19 yn ei chael ar agweddau ac ymddygiadau canser, gan gynnwys sgrinio canser.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Kate oedd&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.thelancet.com\/journals\/lanonc\/article\/PIIS1470-2045(20)30242-4\/fulltext?utm_source=related_article_headline&amp;utm_medium=Impact%20of%20the%20COVID-19%20pandemic%20on%20the%20symptomatic%20diagnosis%20of%20cancer:%20the%20view%20from%20primary%20care-clk_0&amp;utm_campaign=mashupmd_related_articles\" target=\"_blank\">prif awdur erthygl<\/a>&nbsp;ar ddechrau&#8217;r pandemig. Roedd yn mynegi ei phryder bod y neges &#8216;arhoswch gartref, gwarchodwch y GIG, achubwch fywydau&#8217; yn creu tuedd i osgoi mynd at y meddygon gan fod pobl yn poeni am eu gorlwytho.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi cynnal&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/gtr.ukri.org\/projects?ref=ES%2FV00591X%2F1\" target=\"_blank\">astudiaeth drawstoriadol<\/a>&nbsp;gyda 7,543 o gyfranogwyr ledled y DU. Cyhoeddwyd rhan gyntaf yr arolwg ym mis Awst 2020. Yn yr arolwg, gwnaethom ofyn sut roedd eu hiechyd wedi bod yn ystod y chwe mis diwethaf, a oeddent wedi gweithredu ar symptomau ai peidio, a gwnaethom ystyried sgrinio ac ymddygiadau iechyd hefyd. O&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/2501357-nearly-half-of-people-with-potential-cancer-symptoms-in-first-wave-of-pandemic-did-not-contact-gp,-study-finds\" target=\"_blank\">ganlyniadau&#8217;r arolwg cyntaf<\/a>, rydym wedi dysgu bod 44.8% o gyfranogwyr a gafodd symptom heb weithredu arno.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Harriet-phone-image-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Harriet-phone-image-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6222\" width=\"303\" height=\"207\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Harriet-phone-image-1.jpg 984w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Harriet-phone-image-1-300x205.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/Harriet-phone-image-1-768x524.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 303px) 100vw, 303px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r symptomau hyn yn cynnwys pesychu gwaed, dod o hyd i lwmp, a gormod o flinder. Felly, hyd yn oed gyda&#8217;r symptomau baner goch, rydym yn gweld bod pobl yn llai tebygol o fynd at y meddygon.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym nawr yn cysylltu \u00e2\u2019r cyfranogwyr hynny i edrych ar eu hymddygiadau a gweld a oes unrhyw wahaniaeth wedi bod yn ystod y chwe mis diwethaf.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl dal yn ystyried bod sgrinio yr un mor bwysig ac yn ymroddedig i gymryd rhan, ond y prif rwystr bellach yw bod pobl yn teimlo&#8217;n nerfus am fynd i gael eu sgrinio gan fod naratif y cyfryngau wedi bod yn dweud wrthyn nhw bod yr ysbytai a&#8217;r canolfannau gofal iechyd yn llawn cleifion COVID-19.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi dysgu nifer o wersi syml o&#8217;r astudiaeth hon a all fod yn effeithiol iawn i&#8217;r GIG. Er enghraifft, os bydd rhywun yn ffonio ar gyfer apwyntiad meddyg teulu, bydd rhoi canllaw clir iddynt ar beth i&#8217;w ddisgwyl wrth gyrraedd ac mewn apwyntiadau yn helpu i bobl deimlo&#8217;n gyfforddus a bydd yn annog presenoldeb.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hefyd, mae angen cyfleu negeseuon clir, gan ddweud wrth bobl bod yr ysbytai&#8217;n ddiogel. Er mwyn i hyn weithio, mae angen i bobl ymddiried yn ffynhonnell y negeseuon hyn, mae angen i&#8217;r ysbytai, y meddygon teulu a&#8217;r cyhoedd ymddiried yn ei gilydd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Manteision parhaus rhaglen Arweinwyr y Dyfodol<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r hyfforddiant cyfryngau a gefais fel rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol wedi helpu i roi&#8217;r hyder i mi gytuno i&#8217;r math hwn o gyfle. Rwyf hefyd wedi cwrdd \u00e2 phobl sy&#8217;n gweithio ar rannau gwahanol o&#8217;r llwybr canser, ac mae&#8217;r rhwydweithio hwn wedi bod yn fuddiol iawn i mi.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yn ddiddorol dysgu am y mathau o brofion maen nhw&#8217;n ei wneud yn y labordy a dilyniannu genynnol. Roedd hefyd yn ddiddorol i ymchwilwyr labordy glywed am wyddoniaeth ymddygiadol canser a sut rydym yn ceisio ymyrryd cyn gynted \u00e2 phosibl. Mae wedi helpu i roi darlun cyfan i ni o&#8217;r claf a&#8217;i daith, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar y ffordd rydym yn cynnal ein hymchwil.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Uchelgeisiau ymchwil<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd golygiadau hirdymor enfawr ar ddiagnosiau o ganser ar \u00f4l y pandemig. Newydd ddechrau eu deall ydyn ni, felly byddai cael estyniad o&#8217;r ymchwil hon yn wych.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn edrych ar bethau tebyg yn Fietnam ond o safbwynt diwylliannol gwahanol, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gallwn drosglwyddo ein gwybodaeth yn rhyngwladol er mwyn helpu gwledydd eraill.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, fy nghasbeth yw pa mor anghyfartal yw diagnosiau o ganser a chyfraddau goroesi, sy\u2019n dibynnu ar statws economaidd-gymdeithasol. Mae canser yn glefyd annheg, ond mae&#8217;n annerbyniol nad oes chwarae teg o&#8217;r cychwyn cyntaf.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni ddylech fod yn fwy tebygol o gael canser gan eich bod wedi&#8217;ch magu mewn ardal ddifreintiedig. Rwy&#8217;n gobeithio mynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn gyda&#8217;r gwaith rwy&#8217;n ei wneud ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Harriet on anthropology &amp; cancer research | Mae Harriet yn siarad am anthropoleg ac ymchwil canser\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/SrYdqr1y8lg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Dysgwch fwy am ymchwil Harriet yn y digwyddiad digidol sydd i ddod,<\/em><\/strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/events\/view\/2486413-public-awareness-of-cancer-in-the-covid-19-era\" target=\"_blank\"><strong><em>&nbsp;Ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yn oes COVID-19<\/em><\/strong><\/a><strong><em>, a gynhelir ym mis Mai 2021.&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Anthropolegwr meddygol yw Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy'n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae'n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser. ","protected":false},"author":1811,"featured_media":6217,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-6225","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6225","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6225"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6225\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6396,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6225\/revisions\/6396"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6217"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6225"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6225"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6225"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}