{"id":6139,"date":"2021-02-26T09:54:04","date_gmt":"2021-02-26T09:54:04","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6139"},"modified":"2021-03-12T15:53:14","modified_gmt":"2021-03-12T15:53:14","slug":"cwrdd-ar-gwirfoddolwr-glyn-lloyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/02\/26\/cwrdd-ar-gwirfoddolwr-glyn-lloyd\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2\u2019r Gwirfoddolwr \u2013 Glyn Lloyd"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Glyn Lloyd <strong><em>(<strong><em>LLB 2002<\/em><\/strong><\/em><\/strong>, <strong><em>MSc 2003<\/em><\/strong>, <strong><em>PGDip 2007<\/em><\/strong>, <strong><em>PhD 2008)<\/em><\/strong> yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy&#8217;n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar \u00f4l graddio, gan rannu ei brofiad a&#8217;i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli i gynnig eich amser i gefnogi&#8217;r Brifysgol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n dod o gefndir heb addysg uwch yn bersonol a gallaf gydymdeimlo \u00e2&#8217;r heriau sy&#8217;n dod law yn llaw \u00e2 hynny. Doedd gen i ddim cysylltiadau proffesiynol nag unrhyw deulu yn y sector cyfreithiol, a doeddwn i ddim wir yn deall beth oedd gyrfa yn y gyfraith yn ei gynnwys tan i mi ddechrau gwneud ceisiadau am gontractau hyfforddi ar \u00f4l graddio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn sicr wedi newid fy agwedd a nawr fel cyflogwr fy hun, rwy&#8217;n teimlo&#8217;n arbennig o gryf ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gyfraith. Mae&#8217;n hanfodol ein bod yn cefnogi darpar gyfreithwyr drwy godi ymwybyddiaeth o&#8217;r cyfleoedd yn y proffesiwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A allwch chi ddweud ychydig wrthym am y gwaith gwirfoddol rydych chi wedi&#8217;i wneud i\u2019r Brifysgol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel myfyriwr, gwirfoddolais yn y t\u00eem ehangu cyfranogiad yn y Brifysgol, a oedd yn ceisio chwalu&#8217;r rhwystrau i addysg uwch a helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial. Ar \u00f4l treulio rhyw bum mlynedd mewn practis preifat fel cyfreithiwr, dychwelais i&#8217;r Brifysgol i ymgymryd \u00e2 r\u00f4l y Pennaeth Cyngor yn y gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr. Drwy fy nghylch gorchwyl des i yn \u00f4l mewn cysylltiad \u00e2 grwpiau a chymunedau myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, gan roi cymorth penodedig i&#8217;r rhai hynny sy&#8217;n ymuno \u00e2&#8217;r Brifysgol ac i fyfyrwyr presennol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers gadael y Brifysgol, rwyf wedi sefydlu fy nghwmni fy hun, ond rwyf yn angerddol o hyd am ehangu cyfranogiad a pharhau i gydweithio ag Ysgol y Gyfraith. Rwyf yn siarad mewn digwyddiadau fel gwirfoddolwr ac yn ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr drwy fentrau amrywiol sy&#8217;n codi ymwybyddiaeth o astudio&#8217;r gyfraith a dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy Newfields, rwyf wedi gallu cynnig lleoliadau profiad gwaith yn ychwanegol at gyflogaeth \u00e2 th\u00e2l i&#8217;r rhai hynny sy&#8217;n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys ei graddedigion. Yn ogystal \u00e2 chefnogi&#8217;r myfyrwyr, mae ein cydweithrediadau wedi helpu i amrywio&#8217;r busnes sy&#8217;n golygu y gall ein cleientiaid uniaethu&#8217;n well \u00e2&#8217;n cynghorwyr. Mae&#8217;n wych gallu gweithio mewn amgylchedd sy&#8217;n chwalu&#8217;r hierarchaethau traddodiadol sy&#8217;n dal i fodoli mewn nifer o sefydliadau cyfreithiol a rhai nad ydynt yn gyfreithiol.<br><br><strong>Sut mae gwirfoddoli wedi eich helpu neu fod o fudd i chi yn bersonol ac yn broffesiynol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cymerais ran mewn nifer o gyfleoedd gwirfoddoli pan oeddwn yn fyfyriwr ac ar \u00f4l graddio. Mae&#8217;r cyfuniad o&#8217;r profiadau hyn wedi llywio fy mhersbectif, a nhw yw&#8217;r rhesymau dros pam ein bod, fel cwmni, yn gwneud pob ymdrech i gynnig cyfleoedd i eraill. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys lleoliad gwaith, gwasanaethau pro bono a chyfleoedd am waith \u00e2 th\u00e2l. Rydym wedi ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr i&#8217;n cefnogi ar brosiectau TG a&#8217;r we, gan gynnwys rolau cefnogol ar gyfer ein cynghorwyr. Rwyf yn cyflwyno ein staff iau i lawer o fentrau a materion gwaith y byddai&#8217;n gyfyngedig i lefel uwch-bartner mewn cwmn\u00efau cyfreithiol confensiynol. Mae sicrhau bod gwirfoddolwyr a staff ar bob lefel yn ymgysylltu \u00e2&#8217;i gilydd yn wych ar gyfer mor\u00e2l ac mae&#8217;n cael gwared ar hierarchaethau gan sicrhau bod pawb yn cael chwarae teg. Nid yn unig y bydd pawb yn rhannu cyfrifoldebau ac atebolrwydd, ond byddant hefyd yn rhannu&#8217;r clod ar gyfer y gwaith rydym yn ei wneud. Mae gweld t\u00eem hapus sy&#8217;n cynnwys amrywiaeth o gefndiroedd sy&#8217;n cydweithio tuag at nodau a rennir yn ysbrydoledig. Yn ddiweddar, fe wnaethom ni ennill Cwmni Cyfreithiol y Flwyddyn Boutique yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru, ac mae hynny oherwydd ymrwymiad y t\u00eem, heb os nac oni bai.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth wnaeth i chi ddod i astudio yng Nghaerdydd?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Aeth y rhan fwyaf o fy ffrindiau i brifysgol arall, ond mae gan Ysgol y Gyfraith Caerdydd enw rhagorol. Gwnaeth hynny, a Diwrnod Agored heulog fy helpu i ddewis Caerdydd ym 1999. Ar \u00f4l graddio, fe wnes i barhau gyda&#8217;m hastudiaethau drwy astudio MSc, PhD ac LPC. Mae Caerdydd yn ddinas fach ond bywiog, ac mae ganddi gymaint i&#8217;w gynnig ac rwyf bellach yn byw ac yn gweithio yno. Dwi wir heb edrych yn \u00f4l ers gwneud y penderfyniad i symud i brifddinas Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd neu eich atgofion gorau ohoni?<br><br><\/strong>Roeddwn i&#8217;n ddigon ffodus i ddechrau yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Cwpan Rygbi&#8217;r Byd. Fe wnes i fwynhau gwneud ffrindiau oes, gan adael y sefydliad yn hyderus i ddefnyddio fy nghrefft!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"840\" height=\"284\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6145\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined.jpg 840w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-300x100.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-768x260.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 840px) 100vw, 840px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth ydych chi&#8217;n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n treulio gymaint o fy amser gyda&#8217;r cwmni bellach. Mewn pedair blynedd fer, mae Newfields wedi tyfu o bractis dan arweiniad un ymarferydd i gwmni \u00e2 naw aelod o staff, wedi&#8217;i leoli yng Nghaerdydd ac yn Hong Kong. Mae&#8217;r daith wedi bod yn anhygoel. Mae twf mewn unrhyw bandemig yn rhyfeddol, ac rwy&#8217;n rhoi&#8217;r clod i fy nh\u00eem gwych, ein hymagwedd a&#8217;n harbenigedd. Y tu allan i&#8217;r gwaith rwy&#8217;n mwynhau gwylio rygbi, heicio yn y bryniau, a threulio amser yn yr awyr agored gyda fy nwy ferch anhygoel.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth gynfyfyriwr arall sy&#8217;n ystyried rhoi ei amser i gefnogi&#8217;r Brifysgol a&#8217;i myfyrwyr?<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l sefydlu a rheoli fy musnes fy hun, rwy&#8217;n teimlo dyletswydd i rannu fy ngwybodaeth a&#8217;m profiad i helpu&#8217;r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol. Rydym yn byw mewn cyfnod heb ei debyg o&#8217;r blaen ac ni fydd y daith ymadfer ar \u00f4l y pandemig yn un hawdd. Mae&#8217;r angen i gefnogi myfyrwyr ar ei fwyaf. Byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i ystyried cynnig cyfleoedd.&nbsp; Mae&#8217;n brofiad gostyngedig a gwobrwyol. Rydych yn teimlo eich bod wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Os hoffech chi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">gymryd rhan a gwirfoddoli<\/a> ar ran Prifysgol Caerdydd, gallwch wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd croeso i chi bob amser yn rhan o d\u00eem Prifysgol Caerdydd.<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Glyn Lloyd (PhD 2008, PGDip 2007, MSc 2003, LLB 2002) yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar \u00f4l graddio, gan rannu ei brofiad a'i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.","protected":false},"author":1812,"featured_media":6128,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-6139","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6139","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6139"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6139\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6394,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6139\/revisions\/6394"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6128"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6139"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6139"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6139"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}