{"id":5902,"date":"2021-02-18T16:15:09","date_gmt":"2021-02-18T16:15:09","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5902"},"modified":"2024-10-08T12:45:56","modified_gmt":"2024-10-08T12:45:56","slug":"sut-gwnaeth-gwaith-caled-fy-rhieni-fy-ysbrydoli-i-lwyddo-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/02\/18\/sut-gwnaeth-gwaith-caled-fy-rhieni-fy-ysbrydoli-i-lwyddo-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Sut gwnaeth gwaith caled fy rhieni fy ysbrydoli i lwyddo \u2013 I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-images.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" class=\"wp-image-5887\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-images.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-images.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-images-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Combined-images-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae\u00a0Jackie\u00a0Yip\u00a0(BA 2018) wedi teithio\u2019r byd ac wedi\u00a0ymdrwytho\u00a0ym mhob cyfle sydd wedi dod ei ffordd. Gan ddefnyddio\u2019r agwedd at waith a ysbrydolodd ei rhieni ynddi, ynghyd \u00e2\u2019r gefnogaeth ar gael gan Brifysgol Caerdydd, llenwodd\u00a0Jackie\u00a0ychydig flynyddoedd byr \u00e2 llond oes o brofiadau.\u00a0<\/em><\/strong>\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni aeth fy rhieni i&#8217;r brifysgol erioed ac nid ydw i\u2019n credu i fy nhad orffen yr ysgol.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe gyrhaeddon nhw Loegr fel mewnfudwyr o\u00a0Hong\u00a0Kong ar adeg pan oedd siopau bwyd parod Tsieineaidd yn ffynnu, felly roedden nhw&#8217;n rhentu\u00a0tecaw\u00ea\u00a0bach ar Heol\u00a0Gloucester\u00a0ym\u00a0Mryste\u00a0ac yn byw yn y fflat un ystafell wely uwch ei ben.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-5-edit-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5890\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-5-edit-2.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"212\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-5-edit-2.jpg 929w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-5-edit-2-300x213.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-5-edit-2-768x545.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan anwyd fy\u00a0efaill\u00a0a minnau, rwy\u2019n cofio cysgu gyda fy chwaer ar wely dwbl, fy mam yn cysgu ar ei waelod, a fy nhad yn cysgu ar wely sengl yn yr un ystafell. Byddent yn gweithio saith diwrnod yr wythnos i wneud bywoliaeth. Fel plant, dechreuon ni helpu ein rhieni yn y siop pan oedden ni tua naw oed, gan gymryd archebion ac ysgubo lloriau. Mae fy\u00a0etheg\u00a0waith i gyd yn dibynnu ar y blynyddoedd hynny a dreuliais yn eu gwylio a&#8217;u helpu.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ran ymgeisio i astudio cerddoriaeth yn y brifysgol, nid oedd gan fy rhieni unrhyw ddealltwriaeth o system prifysgolion y DU a chawson nhw eu syfrdanu gan y gweithdrefnau ymgeisio a chost astudio. Ni allen nhw hyd yn oed fynd \u00e2 mi i&#8217;m clyweliadau oherwydd bod yn rhaid iddynt weithio.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n cofio cael sgwrs anodd \u00e2 nhw yngl\u0177n \u00e2 sut roeddem ni&#8217;n mynd i allu fforddio&#8217;r cyfan. Fe wnaethon ni ymdrechu gyda&#8217;r ffurflenni cyllid myfyrwyr gan nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf ac nid oeddwn i, gan fy mod yn newydd i hyn, yn gwybod sut i symud ymlaen. Fe lwyddon ni i\u2019w cwblhau yn y diwedd ac roeddwn i&#8217;n gallu sicrhau benthyciad, ond fe wnes i hefyd gymryd ail swydd i sicrhau fy mod i&#8217;n gallu ariannu fy astudiaethau heb fod yn faich ar fy rhieni. Roeddwn i&#8217;n gweithio chwe diwrnod yr wythnos yn yr haf ac yna es i\u2019n syth i weithio yn y\u00a0tecaw\u00ea\u00a0gyda&#8217;r nos.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5884\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-3.jpg\" alt=\"\" width=\"182\" height=\"244\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-3.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-image-3-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 182px) 100vw, 182px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Talodd yr holl ymdrech hon ar ei ganfed! Fe ges i le ym Mhrifysgol Caerdydd, a oedd yn wych oherwydd mai rhan o ap\u00eal Caerdydd oedd y fwrsariaeth y gwnes i gymhwyso amdani. Sicrheais \u00a32000 i dalu rhai o fy nghostau byw am y tair blynedd nesaf. Gwnaeth hyn gymaint o wahaniaeth ac roedd yn golygu fy mod yn gallu talu fy rhent a chanolbwyntio&#8217;n llwyr ar fy astudiaethau. Caniataodd hyn imi\u00a0fachu\u00a0ar bob cyfle.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diolch i&#8217;r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr,\u00a0darganfyddais\u00a0fod yr adran Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig\u00a0<a href=\"http:\/\/Diolch i'r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr, darganfyddais fod yr adran Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig interniaethau wedi'u hariannu a chyfleoedd i astudio dramor.\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">interniaethau\u00a0wedi&#8217;u hariannu a chyfleoedd i astudio dramor.<\/a> Llwyddais i yn fy nghlyweliad ar gyfer Cerddorfa&#8217;r Brifysgol a theithiais i ledled Ewrop yn ystod haf fy mlwyddyn gyntaf a\u2019m ail flwyddyn i berfformio &#8211; a hyn wedi&#8217;i ariannu&#8217;n llawn gan y Brifysgol. Llwyddais hefyd i sicrhau\u00a0interniaeth\u00a0gystadleuol yn\u00a0Hong\u00a0Kong yn ystod haf fy mlwyddyn gyntaf, a ariannwyd hefyd gan y Brifysgol. Dychwelais o Ewrop a hedfan yn syth i\u00a0Hong\u00a0Kong am fis!\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhyfeddodd fy rhieni fy mod wedi gallu gwneud hyn i gyd trwy&#8217;r Brifysgol ac nid oedd yn rhaid iddynt boeni am sut y byddwn yn fforddio&#8217;r cyfleoedd hyn. Yn fy nhrydedd flwyddyn, cefnogodd Cyfleoedd Byd-eang fy mlwyddyn dramor i Helsinki, y Ffindir lle cefais astudio cerddoriaeth yn un o&#8217;r prifysgolion mwyaf mawreddog yn y byd. Fe wnes i hyd yn oed ganu\u2019r piano i Arlywydd Gwlad yr I\u00e2! Tra roeddwn i yno, cefais fy nanfon ar awyren i Tsieina ar gyfer ymddangosiad cyntaf Cerddorfa&#8217;r Brifysgol yn\u00a0Xiamen.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-Yip-image-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5897\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-Yip-image-1-803x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"198\" height=\"253\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-Yip-image-1-803x1024.jpg 803w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-Yip-image-1-235x300.jpg 235w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-Yip-image-1-768x979.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/02\/Jackie-Yip-image-1.jpg 1004w\" sizes=\"auto, (max-width: 198px) 100vw, 198px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr eisin ar y gacen oedd pan wnes i redeg yn llwyddiannus yn etholiadau Undeb y Myfyrwyr yn fy mlwyddyn olaf a sicrhau swydd i raddedigion fel Is-lywydd Addysg ac Arlywydd Undeb y Myfyrwyr y flwyddyn ganlynol.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er ei fod yn swnio fel ychydig flynyddoedd anhygoel o brysur, byddwn i\u2019n neilltuo amser o hyd i fynd adref i helpu fy rhieni. Roedd y fwrsariaeth a&#8217;r gefnogaeth a gefais yn golygu fy mod yn rhydd i wneud y mwyaf o&#8217;r cyfleoedd hyn heb orfod poeni.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan darodd y pandemig COVID-19, nid oedd fy rhieni yn gallu gweithio yn y\u00a0tecaw\u00ea. Roedd hyn yn golygu nad oedd ganddynt incwm ac ni fyddent wedi bod mewn sefyllfa i&#8217;m helpu pe bai angen cymorth arnaf.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw llawer o fy ffrindiau neu fyfyrwyr presennol yn gallu cael hyd i waith haf na swyddi ar hyn o bryd ac mae eu hamser yn y Brifysgol wedi\u2019i darfu\u2019n sylweddol. Gwnaeth y gefnogaeth a gefais newid fy mywyd ac mae&#8217;n dal i fynd, hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf heriol, ac mae&#8217;n gwneud fy rhieni a minnau mor falch inni ddewis Prifysgol Caerdydd.<br \/><br \/><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h6 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/h6>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a> neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o <\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Jackie Yip (BA 2018) wedi teithio\u2019r byd ac wedi ymdrwytho ym mhob cyfle sydd wedi dod ei ffordd. Gan ddefnyddio\u2019r agwedd at waith a ysbrydolodd ei rhieni ynddi, ynghyd \u00e2\u2019r gefnogaeth ar gael gan Brifysgol Caerdydd, llenwodd Jackie ychydig flynyddoedd byr \u00e2 llond oes o brofiadau.  ","protected":false},"author":1811,"featured_media":5871,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-5902","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5902","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5902"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5902\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10059,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5902\/revisions\/10059"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5871"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5902"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5902"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5902"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}