{"id":5722,"date":"2020-12-18T14:04:32","date_gmt":"2020-12-18T14:04:32","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5722"},"modified":"2020-12-18T14:04:52","modified_gmt":"2020-12-18T14:04:52","slug":"rhedeg-er-lles-dros-y-gaeaf-hwn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/12\/18\/rhedeg-er-lles-dros-y-gaeaf-hwn\/","title":{"rendered":"Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Team-Cardiff-woman-image.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1002\" height=\"598\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Team-Cardiff-woman-image.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5706\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Team-Cardiff-woman-image.jpg 1002w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Team-Cardiff-woman-image-566x338.jpg 566w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Team-Cardiff-woman-image-300x179.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Team-Cardiff-woman-image-768x458.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1002px) 100vw, 1002px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><strong><strong>Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i unrhyw un sy&#8217;n cael trafferth \u00e2&#8217;u hiechyd meddwl, ac eleni yn fwy nag erioed.&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond mae ymarfer corff fel rhedeg yn ffordd effeithiol o ofalu ar \u00f4l eich iechyd meddwl. Mae bod y tu allan yn y golau naturiol ac aros yn egn\u00efol yn helpu lles cyffredinol. Gall yr hwb serotonin a gawn o\u2019r haul ac ymarfer corff roi hwb i hwyliau, gwella cwsg a bod o fudd i&#8217;ch iechyd meddwl.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, gall cyfuniad o dywydd gwael, nosweithiau tywyll, a phwysau ychwanegol i ymdopi ag ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr \u00e2 gwaith ei gwneud hi&#8217;n anhygoel o anodd dod o hyd i&#8217;r amser a&#8217;r cymhelliant.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn rhedeg ar gyfer iechyd meddwl<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/1611837-womens-exercise-time-must-be-valued\" target=\"_blank\">Edrychodd astudiaeth a gynhaliwyd yn 2019 gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth \u00e2 threfnwyr Hanner Marathon Caerdydd\/Prifysgol Caerdydd, Run 4 Wales<\/a>, yn benodol ar pam mae menywod yn rhedeg, a&#8217;r ffactorau sy\u2019n eu rhwystro.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd menywod a ymatebodd i&#8217;r astudiaeth fod rhedeg yn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn lleddfu gorbryder ac yn gwella eu lles. Mewn gwirionedd, dywedodd 74% o fenywod mai buddion iechyd meddwl oedd un o&#8217;r rhesymau eu bod yn rhedeg.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond canfu&#8217;r astudiaeth hefyd fod pwysau gwaith a theulu yn effeithio ar yr amser sydd ganddynt i redeg. Gydag effaith ychwanegol COVID-19, nid yw&#8217;n syndod bod llawer o fenywod yn ei chael hi&#8217;n anodd dod o hyd i amser i wneud ymarfer corff, ar adeg y mae ei hangen fwyaf mewn gwirionedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Cael ffocws<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-1024x660.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5710\" width=\"323\" height=\"208\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-1024x660.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-300x193.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-768x495.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-1536x989.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/MH_071019_Cardiff_Uni_213-2048x1319.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 323px) 100vw, 323px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er nad oes ffon hud i greu mwy o oriau yn ystod y dydd, gall trin ymarfer corff fel rhan bwysig o&#8217;ch trefn hunanofal corfforol a meddyliol helpu wrth flaenoriaethu&#8217;r hyn sydd gennych i\u2019w wneud. Gall ymrwymo i her fod yn allweddol i gadw ffocws eich hun, a sicrhau eich bod yn cadw at eich targedau ymarfer corff.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\" target=\"_blank\">Hanner Marathon Caerdydd\/Prifysgol Caerdydd<\/a>&nbsp;bellach wedi&#8217;i drefnu ar gyfer 3 Hydref 2021 sy&#8217;n golygu bod tua naw mis tan ddiwrnod y ras. Cofrestrwch i redeg gyda #T\u00eemCaerdydd a byddwn yn helpu i gadw&#8217;ch cymhelliant gydag awgrymiadau a chyngor rheolaidd i&#8217;ch helpu i aros ar y trywydd iawn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Rhedeg&nbsp;i gefnogi ein hymchwil o safon fyd-eang<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim sydd gennym ar gyfer ein codwyr arian &#8211; dewiswch eich achos a chofrestrwch i gymryd rhan. Gallech ddewis cefnogi&#8217;r&nbsp;ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth sy&#8217;n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod eang o gyflyrau gan gynnwys iselder ysbryd, sgitsoffrenia, ac anhwylder deubegynol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mynegwch eich diddordeb<\/a> gyda ni a byddwn yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau\u2019r broses gofrestru a hawlio eich lle am ddim ar #T\u00eemCaerdydd.&nbsp;<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i unrhyw un sy'n cael trafferth \u00e2'u hiechyd meddwl, ac eleni yn fwy nag erioed.  ","protected":false},"author":904,"featured_media":5706,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170],"tags":[],"class_list":["post-5722","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5722","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5722"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5722\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5725,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5722\/revisions\/5725"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5706"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5722"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5722"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5722"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}