{"id":5632,"date":"2020-12-14T15:33:04","date_gmt":"2020-12-14T15:33:04","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5632"},"modified":"2020-12-14T15:33:15","modified_gmt":"2020-12-14T15:33:15","slug":"dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-anne-rosser","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/12\/14\/dewch-i-gwrdd-ar-ymchwilydd-yr-athro-anne-rosser\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2\u2019r ymchwilydd \u2013 yr Athro Anne Rosser"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"980\" height=\"577\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5627\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1.jpg 980w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1-574x338.jpg 574w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1-300x177.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1-768x452.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/12\/Meet-the-Researcher-Ann-image-1-70x40.jpg 70w\" sizes=\"auto, (max-width: 980px) 100vw, 980px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae clefyd Huntington yn un dinistriol, a achosir gan enyn diffygiol sy&#8217;n atal yr ymennydd rhag gweithio&#8217;n iawn, gan effeithio ar symudedd, dysgu, meddwl ac emosiynau. Mae&#8217;r symptomau&#8217;n gwaethygu dros amser ac ar hyn o bryd nid oes modd gwella\u2019r clefyd. Mae&#8217;n gyflwr etifeddol ac mae ganddo siawns o tua 50% y caiff ei basio i lawr gan riant. Fe wnaethom siarad \u00e2&#8217;r ymchwilydd Anne Rosser, Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.&nbsp;&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil.\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddod o hyd i driniaethau ar gyfer y cyflwr niwroddirywiol, clefyd Huntington. Mae gennym ddiddordeb yng nghlefyd Huntington oherwydd ei fod yn cynrychioli maes o angen clinigol mawr, ond cydnabyddir hefyd ei fod yn fodel da ar gyfer clefydau niwroddirywiol eraill, sy&#8217;n golygu y gall canfyddiadau fod yn drosglwyddadwy.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae clefyd Huntington yn gyflwr niwroddirywiol lle mae nerfgelloedd yn cael eu colli&#8217;n araf ond yn ddiwrthdro o ran benodol o&#8217;r ymennydd o&#8217;r enw&#8217;r striatwm. Oherwydd bod y striatwm wedi&#8217;i gysylltu ag ardaloedd eang o&#8217;r ymennydd, mae niwed iddo yn arwain at ystod eang o symptomau gan gynnwys dirywiad yn y gallu i symud, anhawster wrth feddwl ac aflonyddwch ymddygiadol.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r cyflwr fel arfer yn dechrau mewn pobl canol oed ac yn gwaethygu dros gyfnod o oddeutu 20 mlynedd nes bod dioddefwyr yn colli eu gallu i symud yn sylweddol ac angen help gyda&#8217;r mwyafrif neu holl weithgareddau bywyd bob dydd. Un o\u2019r agweddau arbennig o boenus ar glefyd Huntington yw&#8217;r newid i bersonoliaeth y dioddefwr a&#8217;r symptomau seiciatryddol a all effeithio ar allu unigolyn i weithio ac i gynnal perthnasoedd, hyd yn oed yn ystod camau cynnar y clefyd. Agwedd drist arall yw y bydd dioddefwr gyda chlefyd Huntington yn trosglwyddo&#8217;r cyflwr i tua hanner ei blant, felly mae&#8217;n gyflwr sy&#8217;n cael effaith sylweddol ar yr uned deuluol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel gwyddonydd clinigol, rwy&#8217;n gweithio mewn labordai ac yn glinigol ac wedi gweithio ar sawl agwedd ar glefyd Huntington, yn amrywio o ymchwil i\u2019r agweddau sylfaenol ar annormaleddau ymddygiadol y clefyd, a cheisio deall mwy am yr hyn sy&#8217;n mynd o&#8217;i le yn yr ymennydd, i ymchwil labordy ac ymchwil glinigol gyda&#8217;r nod o brofi triniaethau posibl newydd.&nbsp;&nbsp;<strong><strong>&nbsp;<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un llinyn sydd wedi rhedeg drwy&#8217;r gwaith dros y 25 mlynedd diwethaf yw therapi celloedd. Mewn therapi celloedd rydym yn defnyddio amryw o gynhyrchion celloedd (mae llawer ohonynt yn deillio o f\u00f4n-gelloedd) i geisio atgyweirio organ sydd wedi&#8217;i ddifrodi. Mae hyn yn bwysig mewn niwrowyddoniaeth gan mai gallu cyfyngedig iawn sydd gan yr ymennydd i atgyweirio&#8217;i hun.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw celloedd yn cael eu rhoi yn llif y gwaed trwy bigiad, ychydig iawn fydd yn cyrraedd yr ymennydd, felly mae angen i ni eu cyflwyno\u2019n uniongyrchol trwy lawdriniaeth niwrolawfeddygol. Rydym wedi bod yn datblygu&#8217;r mathau hyn o therap\u00efau dros nifer o flynyddoedd yn y labordy, gan geisio deall y fioleg sy&#8217;n sail i drawsblaniadau llwyddiannus fel y gallwn wneud y gorau o&#8217;r gweithdrefnau.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym bellach ar y cam i gynnal treialon clinigol cynnar gyda chleifion. Gan fod hwn yn waith arbrofol iawn, mae angen inni weithredu&#8217;n ofalus, felly mae&#8217;r treialon hyn yn cynnwys niferoedd bach o gyfranogwyr i wneud yn si\u0175r bod y gweithdrefnau&#8217;n ddiogel. Mae&#8217;r treialon yn hynod gymhleth felly dechreuon ni weithio ar hyn ychydig flynyddoedd yn \u00f4l ac rydyn ni&#8217;n gobeithio cwblhau&#8217;r astudiaeth gyfredol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a sut y gallai fod o fudd i gleifion \u00e2 Chlefyd Huntington nawr ac yn y dyfodol?&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nod llawer o driniaethau ar gyfer clefydau niwroddirywiol fel clefyd Huntington yw arafu cynnydd y cyflwr. Mae arafu proses y clefyd yn bwysig iawn, ond ni fydd yn adfer celloedd sydd eisoes wedi&#8217;u cymryd gan y clefyd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae therapi celloedd yn cynnig y syniad o ddisodli&#8217;r celloedd nerfol sydd wedi dirywio \u00e2 chelloedd newydd a all fabwysiadu eu swyddogaeth. Dylai therap\u00efau celloedd fod yn gydnaws \u00e2&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r triniaethau i addasu clefydau sy&#8217;n cael eu datblygu ar gyfer clefyd Huntington. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at ffordd o wella ansawdd bywyd pobl \u00e2 chlefyd Huntington.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r gwaith hwn yn gymhleth ac wedi gofyn am gydweithrediad \u00e2 gwyddonwyr eraill yn fy labordy (Gr\u0175p Atgyweirio Ymennydd Caerdydd) a grwpiau eraill yn y DU a&#8217;r tu allan iddo a gydag amrywiaeth o ymchwilwyr eraill, yn enwedig ein hathro Niwrolawdriniaeth lleol a phennaeth yr adran niwrowyddoniaeth yn y Ganolfan Ymchwil Treialon.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli neu sydd o ddiddordeb i chi yn y maes ymchwil penodol hwn?&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wastad wedi bod \u00e2 diddordeb yn sut mae&#8217;r ymennydd yn gweithio ac roedd hyn yn sbardun dylanwadol wrth wneud cais i astudio meddygaeth. Yna cefais fy ysbrydoli gan lawer o niwrowyddonwyr gwych yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Caergrawnt. Tra roeddwn yn fyfyriwr meddygol es i i ddarlith gan Steve Dunnett ar drawsblaniadau niwral ar gyfer clefydau\u2019r ymennydd, ac wnaeth hynny fy nghyffroi\u2019n arw. Flynyddoedd yn ddiweddarach, b\u00fbm yn ffodus i weithio gyda Steve.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod i weithio yng Nghaerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd sawl peth gyda\u2019i gilydd wedi fy ysbrydoli i ystyried symud i Gaerdydd. Roedd yn amlwg tua diwedd y 90au bod Caerdydd yn caffael m\u00e0s critigol gan ddatblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer niwrowyddoniaeth a geneteg seiciatrig. Yn ogystal \u00e2 hyn, symudodd Martin Evans, arbenigwr b\u00f4n-gelloedd (a gafodd wobr Nobel am y gwaith hwn yn dilyn hynny) o Brifysgol Caergrawnt i Brifysgol Caerdydd. Hefyd, symudodd fy nghydweithiwr Steve Dunnett ei labordy i Gaerdydd ym 1999, a oedd yn atyniad arall \u2013 yn y pendraw b\u00fbm yn cydweithio&#8217;n agos \u00e2 Steve nes iddo ymddeol yn 2017. Yn olaf (ond yn hollbwysig!) cynigiwyd swydd i fy ng\u0175r hefyd fel Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi s\u00f4n am yr hyn y mae\u2019r Brifysgol yn ei gynnig, ond rydw i hefyd wedi dod i garu dinas Caerdydd.&nbsp; Rwy\u2019n hoff iawn o\u2019r cyfuniad o ddiwylliant, treftadaeth, a\u2019r bobl leol gyfeillgar a\u2019r ffaith mai ychydig iawn o amser y mae\u2019n ei gymryd i gyrraedd y bryniau neu\u2019r arfordir.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth rydych chi&#8217;n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy hoff weithgaredd yw treulio amser gyda fy nhair merch \u2013 sydd bellach i gyd yn oedolion. Rydyn ni&#8217;n mwynhau cerdded, sg\u00efo a threulio amser gyda&#8217;n gilydd yn gyffredinol. Rwyf hefyd yn angerddol am dyfu llysiau a phaentio ac rwy&#8217;n mwynhau cerddoriaeth \u2013 rwy&#8217;n hoffi mynd i Opera Cenedlaethol Cymru yn arbennig (ond nid ar hyn o bryd yn amlwg\u2026.)&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/how-you-can-help\/neuroscience-and-mental-health-research\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/how-you-can-help\/neuroscience-and-mental-health-research\" target=\"_blank\"><strong><em><strong><em>Rhagor o wybodaeth am sut y<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" target=\"_blank\"> gallwch gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd.<\/a><\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/a><\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae clefyd Huntington yn un dinistriol, a achosir gan enyn diffygiol sy'n atal yr ymennydd rhag gweithio'n iawn, gan effeithio ar symudedd, dysgu, meddwl ac emosiynau. Mae'r symptomau'n gwaethygu dros amser ac ar hyn o bryd nid oes modd gwella\u2019r clefyd. Mae'n gyflwr etifeddol ac mae ganddo siawns o tua 50% y caiff ei basio i lawr gan riant. Fe wnaethom siarad \u00e2'r ymchwilydd Anne Rosser, Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.  ","protected":false},"author":1811,"featured_media":5627,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170],"tags":[],"class_list":["post-5632","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5632","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5632"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5632\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5700,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5632\/revisions\/5700"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5627"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5632"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5632"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5632"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}