{"id":5524,"date":"2020-12-09T10:18:01","date_gmt":"2020-12-09T10:18:01","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5524"},"modified":"2020-12-09T10:18:29","modified_gmt":"2020-12-09T10:18:29","slug":"dewch-i-gwrdd-ag-arweinydd-newydd-ymchwil-canser-caerdydd-cyfnod-cyffrous-i-ddod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/12\/09\/dewch-i-gwrdd-ag-arweinydd-newydd-ymchwil-canser-caerdydd-cyfnod-cyffrous-i-ddod\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd ag arweinydd newydd ymchwil canser Caerdydd &#8211; cyfnod cyffrous i ddod"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1020\" height=\"622\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Awen-image-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5509\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Awen-image-3.jpg 1020w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Awen-image-3-554x338.jpg 554w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Awen-image-3-300x183.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Awen-image-3-768x468.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1020px) 100vw, 1020px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Yr Athro Awen Gallimore yw Arweinydd Thema Canser newydd Prifysgol Caerdydd. Mae hi\u2019n llawn egni a brwdfrydedd ac mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer llywio ymchwil canser yng Nghaerdydd. Cawsom air gydag Awen i gael ei mewnwelediad i&#8217;r datblygiadau a&#8217;r arloesedd cyffrous sy&#8217;n cael eu cynnal yn y maes hwn.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth yr Athro Awen Gallimore yn Arweinydd Thema Canser Prifysgol Caerdydd yn gynharach eleni &#8211; yn hollol anymwybodol o&#8217;r hyn oedd o&#8217;n blaenau yn 2020. Mae addasu prosiectau ymchwil a mynd i\u2019r afael \u00e2 materion cyllido o ganlyniad i bandemig COVID-19 wedi bod yn her. Mae ganddi ddull ymarferol ond mae hefyd yn gadarnhaol ac yn llawn cymhelliant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cYng Nghaerdydd mae gennym bortffolio amrywiol iawn o ymchwil. Mae gennych ymchwil yn rhychwantu o&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd ar y fainc yn y labordy, i drin cleifion bywyd go iawn,\u201d mae&#8217;n dechrau egluro, wrth iddi osod mwg o goffi ar y ddesg o&#8217;i blaen. Mae hi&#8217;n cymryd sip cyflym ac yn parhau i rannu ei barn gyda&#8217;r rhai ohonom ar alwad Zoom.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cFy uchelgais, fel Arweinydd Thema Canser y Brifysgol, yw dod \u00e2 phawb ynghyd i greu ymdeimlad mwy cydlynol o gymuned. Trwy wneud hyn, gallwn wella allbynnau a dod yn fwy cynaliadwy &#8211; mae ymdeimlad o gymuned yn allweddol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar hyn o bryd mae gan Gymru&#8217;r cyfraddau goroesi canser isaf yn y DU<br>ac, fel gwlad, mae gennym anghydraddoldebau iechyd difrifol. Mae Awen yn credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at hyn, siarad amdano, a gweithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae canlyniadau cleifion yn well mewn amgylcheddau sy\u2019n gwneud gwaith ymchwil. Os ydych chi&#8217;n glaf sydd wedi&#8217;i gysylltu ag ysbyty athrofaol, yna rydych chi&#8217;n gwneud yn well na chlaf nad yw. Yr ateb amlwg yw cael amgylchedd ymchwil mwy gweithredol. Gan mai ni yw\u2019r brifysgol fwyaf yng Nghymru, ein cyfrifoldeb ni yw ymateb i&#8217;r her honno a cheisio datrys y broblem.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Gwaith blaenorol rhagorol Prifysgol Caerdydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Awen yn mynegi balchder ac edmygedd mawr o&#8217;r gwaith caled a&#8217;r llwyddiant a gyflawnwyd eisoes gan gynifer yn ei maes, gan enwi llawer a&#8217;u cyflawniadau:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5567\" width=\"384\" height=\"216\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1.jpg 873w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Breast-cancer-dr-rob-jones-1-870x489.jpg 870w\" sizes=\"auto, (max-width: 384px) 100vw, 384px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>\u201cMae\u2019r Athro Duncan Baird <\/strong><\/strong>ar ei 15<sup>fed<\/sup> flwyddyn o gyllid Cancer Research UK, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/1195011-innovation-award-for-diagnostic-cancer-technology\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/1195011-innovation-award-for-diagnostic-cancer-technology\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ac mae ei waith yn gyffrous iawn. <\/a>Mae t\u00eem Duncan yn astudio strwythurau DNA arbennig a geir y tu mewn i\u2019n celloedd, a elwir yn delomerau, a\u2019r r\u00f4l y maent yn ei chwarae mewn canser. Mae gwaith y t\u00eem yn agor llwybrau newydd ar gyfer diagnosis ac ar gyfer helpu i ddewis cleifion ar gyfer y mathau cywir o driniaeth canser.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>\u201c<\/strong>Mae <strong>Dr Rob Jones <\/strong><\/strong>wedi cyflwyno canlyniadau <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/1510756-improving-breast-cancer-treatment\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/1510756-improving-breast-cancer-treatment\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">astudiaeth glinigol cam 2 o\u2019r enw FAKTION.<\/a> Astudiaeth yw hon sy&#8217;n profi cyfuniadau o gyffuriau newydd mewn menywod \u00e2 chanser y fron ac mae&#8217;n dangos cynnydd yn rheolaeth canser metastatig y fron.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>\u201c<\/strong>Mae\u2019r<strong> Athro Andrew Sewell <\/strong><\/strong>yn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/1749599-discovery-of-new-t-cell-raises-prospect-of-universal-cancer-therapy\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/1749599-discovery-of-new-t-cell-raises-prospect-of-universal-cancer-therapy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gweithio ar gelloedd imiwnedd sy\u2019n<\/a> cydnabod ac yn lladd sawl math gwahanol o gelloedd canser ac mae posibilrwydd bydd hyn yn drawsnewidiol ar gyfer imiwnotherapi canser.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/Professor-Andrew-Sewell-with-Research-Fellow-Garry-Dolton-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5569\" width=\"384\" height=\"208\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>\u201cCyhoeddwyd gwaith <strong>yr Athro Andrew Godkin <\/strong><\/strong>ar astudiaeth cam cynnar ychydig flynyddoedd yn \u00f4l gan ddefnyddio cyffur at ddiben newydd i drin cleifion \u00e2 chanser metastatig. Stori \u2018o&#8217;r labordy i erchwyn y gwely\u2019 o Gaerdydd yw hon i raddau helaeth. Mae&#8217;n astudiaeth a aeth o ddefnyddio modelau anifeiliaid, i brofi&#8217;r cyffur ar gleifion yng Nghaerdydd. \u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Awen yn oedi ac yn cymryd anadl, yn ymwybodol bod llawer mwy o enwau yr hoffai eu crybwyll ond nad oes amser ganddi i\u2019w henwi i gyd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yna mae&#8217;n egluro bod rhai astudiaethau&#8217;n cael effaith uniongyrchol ar gleifion ac eraill yng nghamau cynnar y datblygiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cGall gymryd amser hir i ymchwil gael budd uniongyrchol i gleifion. Yn ogystal ag ymchwil mewn labordy, gall ymchwilio i agweddau ymddygiadol ar reoli canser ddod \u00e2 buddion sylweddol trwy ddylanwadu ar bolis\u00efau iechyd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2413601-uk-wide-research-to-look-at-impact-of-covid-19-on-early-cancer-diagnosis\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2413601-uk-wide-research-to-look-at-impact-of-covid-19-on-early-cancer-diagnosis\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae gwaith<strong> yr Athro Kate Brain yn enghraifft o hyn<\/strong><\/a><strong>.<\/strong> Mae hi&#8217;n rhan o brosiect aml-ganolfan gyda&#8217;r nod o archwilio sut mae negeseuon y llywodraeth wedi effeithio ar ymddygiad pobl o ran ceisio cymorth meddygol gyda symptomau cynnar. Mae hi&#8217;n ymwneud ag edrych ar yr effaith y mae negeseuon COVID-19 yn ei chael ar ddiagnosis canser ac effaith oedi wrth sgrinio canser. Mae&#8217;n debygol y bydd canlyniadau&#8217;r prosiect hwn yn dylanwadu ar bolisi&#8217;r llywodraeth ynghylch sut y dylai&#8217;r GIG fod yn gweithredu yn ystod y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>COVID-19 a\u2019i effaith ar fyd ymchwil<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/11\/cancer-researcher-image-1024x681.jpg\" alt=\"Cancer researcher in the lab\" class=\"wp-image-5512\" width=\"384\" height=\"297\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae COVID-19, heb os, wedi cael effaith ar lawer o feysydd ymchwil a chyllid, ond mae Awen yn credu bod ymchwilwyr wedi gwella o ganlyniad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydyn ni&#8217;n gweithio trwy&#8217;r her hon ac yn defnyddio dulliau cyfunol newydd yn ein gwaith. Mae ymdrechion enfawr yn cael eu gwneud i ddal ati.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMewn rhai ffyrdd, rydyn ni wedi dysgu llawer oherwydd COVID-19. Bu achosion lle mae&#8217;r broses adolygu foesegol wedi&#8217;i symleiddio a&#8217;i chyflymu oherwydd yr ymdeimlad o frys a gr\u00ebwyd gan y pandemig. Os gall hyn weithio i COVID-19, yna beth am gymhwyso&#8217;r arferion gwaith mwy effeithlon hyn i bethau eraill? Os ydym yn ddigon call i ddysgu o&#8217;r sefyllfaoedd hyn, gallwn ni gael y budd mwyaf ohono. \u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daw&#8217;r ateb i COVID-19 mewn sawl ffurf ac mae ymchwilwyr canser yn ymateb mewn amryw ddimensiynau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cWrth edrych ar daflwybr imiwnotherapi canser ledled y byd, rwy\u2019n gyffrous iawn am yr ymchwil imiwnoleg sy\u2019n cael ei gynnal yng Nghaerdydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi tyfu mewn niferoedd o ran ymchwilwyr, grantiau ac incwm, a darparu therap\u00efau i gleifion. Rwy&#8217;n credu bod hwn yn faes cyffrous iawn ac mae llawer mwy i adeiladu arno! \u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ein helpu ni i gyflawni ein targedau a\u2019n dyheadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r rhai sy&#8217;n ystyried rhoi tuag at ymchwil canser y Brifysgol, mae Awen yn cynghori dod i&#8217;r labordy (pan fo hynny&#8217;n bosibl) a siarad ag ymchwilwyr i ddysgu mwy am y gwaith sy&#8217;n cael ei gynnal yno.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cNid ni yw\u2019r ganolfan ymchwil canser fwyaf, ond mae\u2019r rhai sy\u2019n gweithio yng Nghaerdydd yn arbenigwyr yn eu maes ac mae ganddyn nhw hanes rhagorol, ac mae hyn yn gyffrous! Rydyn ni\u2019n croesawu cefnogwyr i ddod i ddysgu mwy am ein gwaith, i gwrdd \u00e2&#8217;n clinigwyr a&#8217;n gwyddonwyr, ac i ymweld \u00e2&#8217;n labordai. Y bwriad yw byddan nhw\u2019n ein helpu i gyflawni ein nodau a&#8217;n huchelgeisiau wrth iddynt gyflawni eu diddordebau a\u2019u blaenoriaethau ym maes ymchwil canser.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae ein harddangosfeydd rhithwir yn gyfleoedd delfrydol i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy&#8217;n digwydd ym myd ymchwil canser yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Cofiwch <\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/alumni\/events\"><strong><em>ymweld \u00e2&#8217;n tudalen digwyddiadau<\/em><\/strong><\/a><strong><em>, ymuno \u00e2 ni yn ddigidol, neu ail-wylio digwyddiadau ymchwil blaenorol.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Rhagor o wybodaeth am sut y<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> <\/a><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" target=\"_blank\">gallwch gefnogi ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.<\/a><\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yr Athro Awen Gallimore yw Arweinydd Thema Canser newydd Prifysgol Caerdydd. Mae hi\u2019n llawn egni a brwdfrydedd ac mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer llywio ymchwil canser yng Nghaerdydd. Cawsom air gydag Awen i gael ei mewnwelediad i'r datblygiadau a'r arloesedd cyffrous sy'n cael eu cynnal yn y maes hwn.","protected":false},"author":1811,"featured_media":5509,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170],"tags":[],"class_list":["post-5524","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5524","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5524"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5524\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5578,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5524\/revisions\/5578"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5509"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5524"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5524"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5524"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}