{"id":5464,"date":"2020-10-27T14:14:06","date_gmt":"2020-10-27T14:14:06","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5464"},"modified":"2020-10-27T14:13:36","modified_gmt":"2020-10-27T14:13:36","slug":"saith-o-leoedd-mwyaf-arswydus-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/10\/27\/saith-o-leoedd-mwyaf-arswydus-caerdydd\/","title":{"rendered":"Saith o leoedd mwyaf arswydus Caerdydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"665\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-wall-resize.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5445\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-wall-resize.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-wall-resize-508x338.jpg 508w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-wall-resize-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-wall-resize-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Gyda&#8217;i hanes hir sy&#8217;n aml yn erchyll, nid yw&#8217;n syndod bod Caerdydd yn gartref i rai lleoedd eithaf arswydus. Ac wrth i Galan Gaeaf gyrraedd eto, roeddem yn meddwl y byddem yn rhoi disgrifiad bach o safleoedd mwyaf arswydus y ddinas! Ymwelwch \u00e2 nhw os ydych chi&#8217;n meiddio &#8211; ac wrth gwrs os yw rheolau\u2019r cyfnod clo lleol yn caniat\u00e1u hynny!&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li><strong><strong>Castell Caerdydd<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-resize.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5454\" width=\"440\" height=\"292\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-resize.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-resize-300x199.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/spooky-cardiff-resize-768x509.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 440px) 100vw, 440px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae un o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, Castell Caerdydd, yn llawn etifeddiaeth Rufeinig, Normanaidd a Fictoraidd gyda bron i 2,000 mlynedd o hanes. Nid yw&#8217;n syndod dros amser fod nifer o achosion o weld pethau arswydus wedi cael eu cofnodi. Yn y nos, mae silw\u00e9t adfeilion y T\u0175r Normanaidd yn cysgodi&#8217;r tir, tra bod y palas Fictoraidd Gothig, gan gynnwys ei d\u0175r cloc, ei d\u0175r du a&#8217;i ragfuriau, yn bwrw cysgodion iasol. Cofiwch am yr wal anifeiliaid ar Stryd y Castell lle y gall deimlo weithiau fel bod rhywun\/rhywbeth yn eich gwylio!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r rhai hynny sydd am archwilio ymhellach, mae Caerdydd yn cynnal taith ysbrydion gyda&#8217;r nos yn rheolaidd sy&#8217;n galluogi ymwelwyr i ganfod ffenomena arswyd, synau rhyfedd a ffigyrau ysbryd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"2\"><li><strong><strong>\u2018Cyffordd Marwolaeth\u2019<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod llawer ohonom yn adnabod y gyffordd sy&#8217;n uno Heol&nbsp;Albany, Heol y&nbsp;Plwca, Heol Crwys, Plas&nbsp;Mackintosh&nbsp;a Heol&nbsp;Richmond&nbsp;yn y Rhath fel &#8216;Cyffordd Marwolaeth&#8217;, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol nad yw ei llysenw&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;i natur beryglus i gerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma&#8217;r man y cafodd ddau offeiriad a gyhuddwyd o frad eu crogi ym 1679. Mae plac glas bach ar adeilad&nbsp;NatWest&nbsp;yn nodi&#8217;r man y cafodd y Tad&nbsp;Phillip&nbsp;Evans a&#8217;r Tad John Lloyd eu crogi, eu diberfeddu a\u2019u chwarteru, ar \u00f4l cael eu cadw am fisoedd mewn carchar yn nh\u0175r du Castell Caerdydd. Eu trosedd? Ymarfer eu &#8216;dyletswyddau offeiriadol&#8217;. Yn y pen draw, datganwyd bod y&nbsp;ddau&#8217;n&nbsp;seintiau ac yn ferthyron gan y Pab Pawl VI ym 1970.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"3\"><li><strong><strong>Tafarn&nbsp;Rummers<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n honedig bod tafarn hynaf Caerdydd, Tafarn&nbsp;Rummers&nbsp;ar Stryd y Castell yn dyddio yn \u00f4l i 1713 os nad yn gynharach. Dros y blynyddoedd mae nifer o staff a chwsmeriaid wedi rhoi gwybod am brofiadau rhyfedd ac achosion o weld ysbrydion. Yn \u00f4l y s\u00f4n bu farw morwr cenfigennus yno ar \u00f4l dod o hyd i&#8217;w wraig yn y gwely gyda charwr cyfrinachol, ac yn \u00f4l y s\u00f4n mae ei ysbryd yn ymddangos yn seler a thoiledau&#8217;r dafarn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"4\"><li><strong><strong>Mynwent Cathays&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd unrhyw un sydd wedi cerdded heibio Mynwent Cathays ar eu ffordd gartref fin nos yn gwybod fod rhyw deimlad arswydus amdani. Ond mae&#8217;r fynwent Fictoraidd atmosfferig hon hefyd yn cynnwys rhywfaint o hanes hynod ddiddorol. Cafodd ei hagor ym 1859, ac mae mwy na 200,000 o bobl wedi cael eu cloddi yno, ac ymysg y capeli a&#8217;r clochdai gothig byddwch yn dod o hyd i rai preswylwyr rhyfeddol. Y fynwent yw&nbsp;gorffwysfan&nbsp;olaf y bocsiwr&nbsp;Jim&nbsp;Driscoll, arloeswr&nbsp;hedfanaeth&nbsp;Ernest&nbsp;Willows&nbsp;a Reardon Smith a oedd yn gymwynaswr mawr i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fedd y &#8216;Balloon&nbsp;Girl&#8217;;&nbsp;Louisa&nbsp;Maud Evans a oedd yn 14 mlwydd oed, a fu farw ar \u00f4l methu \u00e2 chroesi M\u00f4r Hafren drwy fynd i fyny mewn bal\u0175n fel rhan o Arddangosfa Caerdydd ym 1896.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/moody-castell-coch-resize-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5448\" width=\"432\" height=\"266\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/moody-castell-coch-resize-1.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/moody-castell-coch-resize-1-300x184.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/moody-castell-coch-resize-1-768x472.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 432px) 100vw, 432px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"5\"><li><strong>Castell Coch<\/strong>&nbsp;<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae castell hudolus Castell Coch y tu allan i Gaerdydd ym mhentref bychan Tongwynlais yn honni ei fod yn hawlio nifer o stor\u00efau a chwedlau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l y s\u00f4n mae Boneddiges Wen yn crwydro&#8217;r castell a&#8217;r coetir cyfagos, yn chwilio am enaid coll ei mab a oedd wedi boddi mewn pwll lleol. Mae hefyd y stori o &#8216;Farchog Castell Coch&#8217; a chredir ei fod wedi cuddio ei drysor yn nhir y castell, cyn gadael i ymladd yn y rhyfel cartref. Ni ddychwelodd fyth ond y si yw bod ei ysbryd yn parhau i chwilio am ei drysor coll.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"6\"><li><strong><strong>Ysbyty Brenhinol Caerdydd&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Agorwyd Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar Heol Casnewydd ym 1822. Mae wedi cael ei enwi fel ysbyty mwyaf ysbrydol y DU ac ers iddo agor, sef bron 200 mlynedd yn \u00f4l mae nifer o achosion o weld a phrofi pethau rhyfedd wedi digwydd yno. Gwnaeth hanesion o wragedd yn diflannu, milwyr clwyfus a plant direidus hyd yn oed ysgogi allfwriad (<em>exorcism)&nbsp;<\/em>yn y ward patholeg!&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"7\"><li><strong><strong>Chippy&nbsp;Lane am 2am<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir disgrifio&nbsp;Chippy&nbsp;Lane, neu Stryd&nbsp;Caroline&nbsp;sef ei enw cywir, fel un o leoliadau mwyaf rhyfedd a brawychus Caerdydd ar \u00f4l 2am ar Nos Sadwrn. Mae&#8217;r stryd yn adleisio clwcian ac ni all&nbsp;part\u00efwyr&nbsp;ymatal rhag y galw am fwyd ar \u00f4l sesiwn dafarn. Diolch byth, mae cyrri cyw-i\u00e2r-ar-yr-asgwrn&nbsp;Dorothy&nbsp;yn fwy na digon i adfywio gloddestwyr blinedig y ddinas ar gyfer eu taith hir gartref!&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gyda'i hanes hir sy'n aml yn erchyll, nid yw'n syndod bod Caerdydd yn gartref i rai lleoedd eithaf arswydus. Ac wrth i Galan Gaeaf gyrraedd eto, roeddem yn meddwl y byddem yn rhoi disgrifiad bach o safleoedd mwyaf arswydus y ddinas! Ymwelwch \u00e2 nhw os ydych chi'n meiddio - ac wrth gwrs os yw rheolau\u2019r cyfnod clo lleol yn caniat\u00e1u hynny!  ","protected":false},"author":1812,"featured_media":5445,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-5464","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5464","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5464"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5464\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5467,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5464\/revisions\/5467"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5445"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5464"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5464"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5464"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}