{"id":5429,"date":"2020-10-26T09:12:17","date_gmt":"2020-10-26T09:12:17","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5429"},"modified":"2020-10-26T09:12:55","modified_gmt":"2020-10-26T09:12:55","slug":"beca-o-bake-off-yn-trafod-caerdydd-gyrfaoedd-a-choginio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/10\/26\/beca-o-bake-off-yn-trafod-caerdydd-gyrfaoedd-a-choginio\/","title":{"rendered":"Beca o Bake Off yn trafod Caerdydd, gyrfaoedd, a choginio"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Beca-2-pics-version-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5425\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Beca-2-pics-version-2.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Beca-2-pics-version-2-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Beca-2-pics-version-2-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Beca-2-pics-version-2-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004) yn awdur, darlledwr a chyrhaeddodd y rownd derfynol ar Great British Bake-Off a dilynodd ei gyrfa lwybr annisgwyl. Mae Beca&#8217;n disgrifio ei hamser ar y gyfres Deledu boblogaidd ac yn esbonio sut yr oedd yn cymhwyso&#8217;r sgiliau a ddysgodd o&#8217;i gradd mewn cerddoriaeth at rannau eraill o&#8217;i bywyd. Mae hefyd yn trafod rhai o&#8217;i hatgofion mwyaf gwyllt a hyfryd o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.&nbsp;&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn aml mae rhywun yn gofyn i mi, a ydw i&#8217;n bobydd neu&#8217;n gogydd? Ac rwyf bob amser yn dweud fy mod i&#8217;n ychydig o&#8217;r ddau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae bwyd yn gyson; mae yna pan rydych yn teimlo&#8217;n isel, mae yna ar gyfer dathliadau, ac mae yna pan rydych yn s\u00e2l. Mae&#8217;r weithred o goginio&#8217;n therapiwtig iawn ac mae&#8217;n dda i chi gael amser i chi eich hun. Gallwch wir fynd i mewn i&#8217;ch meddylfryd eich hun.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond nid oedd coginio bob amser yn rhan mor fawr yn fy mywyd&#8230;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Des i Gaerdydd yn 2001 ar \u00f4l cymryd rhan mewn blwyddyn i ffwrdd ac roeddwn i wir am astudio cerddoriaeth. Roeddwn i&#8217;n nerfus gan na wnes i fwynhau bywyd yn y Brifysgol y tro cyntaf.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn i mewn fflat, t\u0177 4 yn Ne Tal-y-Bont, y llawr cyntaf ar y chwith. Rwy&#8217;n ei gofio mor glir! Yn fy fflat hyfryd roedd gennym bob math o bobl yn dod i mewn. Roedd y myfyrwyr yn y fflat gyferbyn yn wych a daethom yn agos iawn a gwnaeth hyn i mi deimlo&#8217;n hapus a&#8217;n gartrefol. Gwnes i hyd yn oed fyw gyda rhai ohonynt yn Llundain ar \u00f4l i mi adael y brifysgol. Mae gen i gymaint o atgofion o fod gyda fy ffrindiau a chael yr amser gorau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n cofio&#8217;n benodol rhedeg am Gadeirydd IMG yn ystod fy amser yng Nghaerdydd. Roedd y r\u00f4l yn cynnwys trefnu gemau p\u00eal-droed a ph\u00eal-rwyd ar gyfer y cymdeithasau. Fy slogan trawiadol oedd \u2018Beca\u2019s got balls\u2019. Er mwyn cael sylw pobl yn yr orsaf bleidleisio, penderfynais i a fy ffrindiau y byddai&#8217;n ddoniol petawn i&#8217;n cymryd llun ohonof i heb grys gyda ph\u00eal-rwyd a ph\u00eal-droed o flaen fy mron.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Aethom i d\u0177 un o&#8217;r bechgyn i ddwyn eu p\u00eal Rygbi a gwnaethom gymryd y llun, felly nid oeddech yn gallu gweld unrhyw beth. Roed gen i w\u00ean fach slei ar fy wyneb ac roedd pawb yn meddwl ei fod e&#8217;n ddoniol iawn. Rwyf wedi cael pobl o Brifysgol Caerdydd yn dod i fyny ataf, flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn dweud, &#8220;Rwy&#8217;n cofio dy boster!&#8221;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n strategaeth a oedd yn gweithio, ac roeddwn i wrth fy modd yn gweithio fel y Cadeirydd IMG. Ges i ysgrifennu colofn wythnosol ym mhapur newydd y Brifysgol am y gemau a gynhaliwyd. Roedd yn wych. Roedd gymaint o gyfleoedd yng Nghaerdydd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Richard Elvin Jones, neu Reg fel roeddwn i&#8217;n arfer ei alw, oedd fy hoff ddarlithydd. Mae&#8217;n ffrind i&#8217;r teulu felly roeddwn i&#8217;n ei adnabod ymlaen llaw, ond fe oedd fy nhiwtor personol hefyd. Chwaraeodd yr organ yn fy mhriodas. Roedd yn anhygoel ac mor hyfryd ei gael fel rhan o&#8217;r dathliad.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy merched wedi dechrau dysgu cerddoriaeth nawr, felly mae fy ngradd wedi bod yn ddefnyddiol i&#8217;w helpu gyda&#8217;u theori. Rwyf hefyd yn canu gyda Ch\u00f4r Gwragedd Milwrol yng Nghaerdydd ac rwy&#8217;n helpu gydag ymarferion. Mae&#8217;n ffordd neis o ddefnyddio fy sgiliau heb lawer o bwysau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud gyda fy ngradd, ond gwnes i wir fwynhau fy mhrofiad yn y brifysgol. Oni bai eich bod yn gwybod yn glir beth yr hoffech ei wneud mewn bywyd, mae angen i chi edrych ar lwybrau gwahanol i ddefnyddio eich sgiliau. Rwy&#8217;n berson creadigol sy&#8217;n mwynhau celf ac mae hynny&#8217;n cael ei gyfleu yn fy nghoginio hefyd. I mi, mae am fod yn greadigol mewn ffyrdd gwahanol \u2013 sy&#8217;n dod \u00e2 fi n\u00f4l at Bake Off.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni fyddwn i yma heb Bake Off. Rhoddodd ail yrfa i mi, un rwy&#8217;n caru ac wedi bod eisiau ei wneud ers oeddwn i&#8217;n ferch fach. Ond cymerodd drosodd yn ein bywydau hefyd. Pan oeddem yn ffilmio, roeddem mewn swigod Bake-Off. Nid oeddech yn meddwl am unrhyw beth arall ac nid ydych yn cael siarad amdano. Roedd yn hurt!&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Es i ar y rhaglen heb ddisgwyl cael dim byd allan ohono, ac ychydig wythnosau i mewn i&#8217;r rhaglen dechreuais gael cynigion i addysgu mewn ysgol goginio a diweddais i fyny gyda fy nghyfres deledu fy hun ar S4C. Ers hynny, rwyf wedi gwneud ambell i raglen deledu arbennig ac wedi gweithio gyda Borough Market fel un o&#8217;u cogyddion. Cyhoeddais fy llyfr cyntaf ac rwyf ar fy ail bellach.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Bake Off dal yno ond rwy&#8217;n teimlo fel fy mod i wedi creu enw i fy hun nawr. Mae pobi mewn pabell ar y teledu wedi fy arwain i yma. Rwyf hyd yn oed yn mynd trwy radd arall i fod yn ddeietegydd er mwyn ehangu ar y gwaith rwy&#8217;n ei garu. Hir oes i hynny!&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth goginio, ac mewn bywyd, peidiwch \u00e2 bod ofn methu. Os bydd pethau&#8217;n mynd o&#8217;i le, peidiwch \u00e2 gadael i hynny eich atal rhag rhoi cynnig arall arni. Rydym yn dysgu o gamgymeriadau. Gwnewch nodyn ohono a rhowch gynnig arall arni. Byddwch yn dysgu sut mae osgoi&#8217;r camgymeriadau. A pheidiwch \u00e2 bod yn rhy uchelgeisiol! Dechreuwch gyda rhywbeth sylfaenol ac yna dysgwch o hynny!&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Cawl-image-resize.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5416\" width=\"367\" height=\"530\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Cawl-image-resize.jpg 416w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Cawl-image-resize-208x300.jpg 208w\" sizes=\"auto, (max-width: 367px) 100vw, 367px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rys\u00e1it cawl &#8211; saig Gymreig glasurol<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r rys\u00e1it yma\u2019n fy atgoffa o fy mam-gu a\u2019m plentyndod. Roeddwn yn ei fwyta\u2019n aml wrth i mi dyfu i fyny. Gwraig fferm oedd fy mam-gu, felly ni fyddai unrhyw beth yn cael ei wastraffu. Roedd hi\u2019n medru creu pryd allan o ddim. Mae fy merched wrth eu bodd yn ei goginio nawr hefyd &#8211; mae&#8217;n saig sy\u2019n rhoi cysur go iawn iddyn nhw hefyd. Mae hefyd yn saig iach, hawdd iawn i&#8217;w gwneud! Dyma&#8217;r rys\u00e1it:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cynhwysion (ar gyfer 6)<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">1kg ysgwydd cig oen, ar yr asgwrn&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">5 taten fawr&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">3 moron&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">1 swejen&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">1 cenhinen fawr&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">persli ffres&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">halen a phupur&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">olew a menyn&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dull (paratoi: 15 munud, coginio: hyd at 3\u00bd awr)&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhowch y cig mewn sosban fawr a&#8217;i orchuddio \u00e2 d\u0175r. Dewch \u00e2\u2019r cyfan i\u2019r berw, yna trowch y gwres i lawr a mudferwch y cawl,&nbsp;gan sgimio unrhyw saim sy\u2019n codi i\u2019r wyneb. Bydd y cig yn cymryd 2-3 awr i&#8217;w goginio nes ei fod yn dyner ac yn cwympo oddi ar yr asgwrn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l yr amser hwn, piliwch a thorri&#8217;r tatws, y swejen a&#8217;r moron i ddarnau maint brathiad, ychwanegwch nhw at y sosban a&#8217;u sesno \u00e2 halen a phupur. Mudferwch am 20 munud cyn ychwanegu&#8217;r cennin wedi&#8217;u sleisio a&#8217;u coginio am 10 munud arall. Blaswch i wirio&#8217;r sesnin ac ychwanegwch ychydig o bersli wedi&#8217;i dorri ar y diwedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ychydig cyn ei weini, tynnwch y cig a&#8217;i dorri&#8217;n ddarnau maint brathiad cyn ei ddychwelyd i&#8217;r sosban. Gweinwch mewn powlenni gyda bara a chaws.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Darllenwch lyfr newydd Beca,&nbsp;<\/em><\/strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.amazon.co.uk\/Feeding-Army-Beca-Lyne-Pirkis\/dp\/178562329X\" target=\"_blank\"><strong><em>Feeding My Army<\/em><\/strong><\/a><strong><em>, sy&#8217;n gasgliad o ryseitiau a hanes teuluoedd milwrol gan archwilio ein cysylltiadau \u00e2 bwyd.&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004) yn awdur, darlledwr a chyrhaeddodd y rownd derfynol ar Great British Bake-Off a dilynodd ei gyrfa lwybr annisgwyl. Mae Beca'n disgrifio ei hamser ar y gyfres Deledu boblogaidd ac yn esbonio sut yr oedd yn cymhwyso'r sgiliau a ddysgodd o'i gradd mewn cerddoriaeth at rannau eraill o'i bywyd. Mae hefyd yn trafod rhai o'i hatgofion mwyaf gwyllt a hyfryd o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.   ","protected":false},"author":1811,"featured_media":5425,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-5429","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5429","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5429"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5429\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5434,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5429\/revisions\/5434"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5425"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5429"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5429"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5429"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}