{"id":5366,"date":"2020-10-19T15:50:27","date_gmt":"2020-10-19T15:50:27","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5366"},"modified":"2020-10-19T15:50:40","modified_gmt":"2020-10-19T15:50:40","slug":"phillip-cooke-phd-2008","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/10\/19\/phillip-cooke-phd-2008\/","title":{"rendered":"Phillip Cooke (PhD 2008)"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5361\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Philip-Cooke-Cropped-1-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Dr Phillip Cooke\n<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Astudiodd Phillip Cooke <span style=\"color: #ff0000\">(PhD 2008)<\/span> yn yr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/music\">Ysgol Cerddoriaeth<\/a> ac mae bellach yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Aberdeen. Dywed i&#8217;r cyfleoedd addysgu a roddwyd iddo fel myfyriwr PhD ei helpu gyda&#8217;i yrfa arfaethedig yn ogystal \u00e2 rhoi&#8217;r profiad angenrheidiol ar gyfer ymgeisio am swyddi ar \u00f4l graddio.<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy hoff\natgofion o fy nghyfnod yng Nghaerdydd yw&#8217;r cyfleoedd oedd ar gael i fi fel\ncyfansoddwr ac academydd. Dysgais lawer ond cefais lawer o brofiadau hefyd.\nRoedd gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn uchafbwynt, fel\noedd gweithio gydag amrywiol ensembles a pherfformwyr proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd hefyd yn\nwych cael bod yng Nghaerdydd, wrth iddi dyfu&#8217;n ddinas fyd-eang. Roedd gweld yr\nadeiladau newydd yn ymddangos a gwylio&#8217;r ddinas yn dod o hyd i&#8217;w hunaniaeth yn\nrhywbeth gwych i gael bod yn rhan fach ohono.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyflwynodd yr\nYsgol Cerddoriaeth set wych o alluoedd i mi eu defnyddio fel cyfansoddwr, athro\nac academydd, ac rwyf i&#8217;n dal i ddefnyddio pob un heddiw. Yn sicr roedd y\ncyfleoedd a gefais i addysgu yn gymorth i fi ddod yn ddarlithydd gwell, a\nhelpodd y cyfle i weithio gyda cherddorion gwych fi fel cyfansoddwr.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ar \u00f4l graddio b\u00fbm i&#8217;n ffodus i gael Cymrodoriaeth Datblygu Gyrfa yng Nghyfadran Cerddoriaeth Prifysgol Rhydychen. Fe&#8217;i cyfunais gyda Chymrodoriaeth Ymchwil Iau yng Ngholeg Queen&#8217;s, Rhydychen. Roedd yn newid mawr o Gaerdydd, ond yn gam buddiol arall yn fy ngyrfa.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gweithiais yn\nRhydychen am bum mlynedd cyn symud i Aberdeen. Rwyf i wedi parhau i gyfansoddi,\ngan weithio gyda nifer o gorau ac ensembles blaenllaw&#8217;r wlad gyda llawer o\nrecordiadau, darllediadau a chyhoeddiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar hyn o bryd, fi yw Pennaeth Cerddoriaeth yr <a href=\"https:\/\/www.abdn.ac.uk\/music\/\">Adran Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberdeen<\/a>. Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ond ers dod yn Bennaeth, rwyf i wedi cyfnewid darlithio am gyfarfodydd, sy&#8217;n drueni mewn rhai ffyrdd ond mae&#8217;n ddiddorol bod yn rhan o ddatblygiad strategol y ddisgyblaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar\nhefyd rwyf i wedi cael fy mhenodi&#8217;n arholwr allanol ar raglenni israddedig ym\nMhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy nghyngor i\nfyfyrwyr presennol yw bod maes cyfansoddi a&#8217;r byd academaidd yn hynod o anodd i\nfynd iddyn nhw, ond mae hynny&#8217;n iawn. Ambell waith&nbsp; mae pethau&#8217;n anodd ond, heb geisio swnio fel\ncanllaw hunangymorth, po fwyaf o bethau anodd sydd yn rhaid i chi eu goresgyn,\ny mwyaf y byddwch ar eich ennill o&#8217;u goresgyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddwn i&#8217;n\ndweud wrthyf fy hun fel person ifanc i wneud y gorau o bob cyfle a ddaw a mwynhau\ncael y lle a&#8217;r amser i weithio&#8217;n galed ar y peth sy&#8217;n bwysig i chi. Unwaith y\nbydd gennych chi swydd lawn amser a phlant, does dim cymaint o le ac amser ar\ngael i chi.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Pe bai&#8217;n rhaid i fi ddisgrifio Prifysgol Caerdydd mewn pum gair byddwn i&#8217;n dewis: cynhwysol, cosmopolitan, byd-eang, cofiadwy ac wedi&#8217;i thanbrisio.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr argraff\nsydd wedi aros gyda fi o&#8217;r brifysgol yw lle croesawgar gyda phobl wych a\nchyfnod gwirioneddol ddifyr yn fy mywyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dr Phillip Cooke Astudiodd Phillip Cooke (PhD 2008) yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac mae bellach yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Aberdeen. Dywed i'r cyfleoedd addysgu a roddwyd iddo [&hellip;]","protected":false},"author":1389,"featured_media":5360,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1991],"tags":[],"class_list":["post-5366","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-music-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5366","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1389"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5366"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5366\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5372,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5366\/revisions\/5372"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5360"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5366"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5366"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5366"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}