{"id":5332,"date":"2020-10-02T13:48:19","date_gmt":"2020-10-02T13:48:19","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5332"},"modified":"2020-10-02T13:47:28","modified_gmt":"2020-10-02T13:47:28","slug":"codwyr-arian-rhithwir-timcaerdydd-nelson-selvaraj","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/10\/02\/codwyr-arian-rhithwir-timcaerdydd-nelson-selvaraj\/","title":{"rendered":"Codwyr Arian Rhithwir #T\u00eemCaerdydd Nelson Selvaraj"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"933\" height=\"682\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Nelson-pic-edit-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5320\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Nelson-pic-edit-2.jpg 933w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Nelson-pic-edit-2-462x338.jpg 462w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Nelson-pic-edit-2-300x219.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/10\/Nelson-pic-edit-2-768x561.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 933px) 100vw, 933px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Nelson Selvaraj (MSc 2015) yn aelod o staff ac yn gynfyfyriwr sydd newydd redeg ras rithiol i godi arian ar gyfer ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae\u2019n s\u00f4n am yr hyn a\u2019i ysbrydolodd i wynebu\u2019r her gorfforol hon ac mae\u2019n rhannu ei ddoethineb \u00e2\u2019r rheini sy\u2019n ystyried gwneud rhywbeth tebyg. <\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw \u2018ras rhithiol\u2019 a sut mae ei rhedeg?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae \u2018ras rhithiol\u2019 yn debyg i unrhyw ddigwyddiad rhedeg \u2018swyddogol\u2019, ond rydych yn dewis y lleoliad eich hun, pryd byddwch yn rhedeg, a pha mor gyflym y byddwch yn rhedeg unrhyw bellter o\u2019ch dewis chi. Gall fod yn hwyl, ac mae gennych reolaeth dros sut rydych am redeg y ras, ond mae angen llawer o baratoi ac ymrwymiad o hyd, yn enwedig ar gyfer rhedeg pellter hir fel hanner marathon neu farathon llawn. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r rhan fwyaf o rasys rhithwir yn gweithio&#8217;r un fath. Mae\u2019r rhedwyr yn cofrestru a thalu&#8217;r ffi gofrestru, ond mae rhai rasys rhithiol yn rhad ac am ddim. Wrth i chi gofrestru, gallwch ddewis y pellter yr ydych am ei redeg. Ar \u00f4l i chi redeg y ras, gallwch lanlwytho eich amseroedd ar-lein a chael medal am orffen y ras drwy\u2019r post gan drefnwyr y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut gwnaethoch chi feddwl am yr her hon?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn yn bwriadu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd\/Prifysgol Caerdydd ym mis Hydref eleni a chodi arian i Brifysgol Caerdydd, ond oherwydd y pandemig presennol, cafodd nifer o ddigwyddiadau rhedeg poblogaidd eu canslo neu eu gohirio. Ond doedd hyn ddim am fy atal rhag gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn yn hollol benderfynol a dechreuais chwilio am wybodaeth am ddigwyddiadau rhedeg rhithiol. Gallwch gael cymaint o wybodaeth o flogiau nifer o redwyr, ac mae gan y gymuned rhedeg leol rai rhedwyr &#8216;rhithwir&#8217; anhygoel. Heb os nac oni bai, rhoddodd eu hangerdd dros redeg yr hyder i mi redeg ras rithwir. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oes gennych chi unrhyw brofiad rhedeg blaenorol? <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddwn yn falch pe gallwn ddweud fy wedi dwli ar redeg o\u2019r tro cyntaf un ond nid felna roedd hi mewn gwirionedd. Doeddwn i byth yn berson &#8216;athletaidd&#8217; yn yr ysgol na&#8217;r brifysgol, er fy mod yn eithaf da am gerdded yn bell gyda fy ffrindiau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhedeg yn rhywbeth gweddol newydd i fi; mae\u2019n broses araf a chyson a threuliais nifer o flynyddoedd yn mireinio fy nhechneg rhedeg. Mae nifer o fy ffrindiau a chydweithwyr yn rhedwyr profiadol, a dwi\u2019n mwynhau gwrando ar rai o&#8217;u straeon rhedeg yn fawr. Felly, penderfynais osod her i fy hun a rhedeg fy ras hir gyntaf. Hanner Marathon Caerdydd 2016 oedd honno ac rwy&#8217;n amau fy mod wedi dal y &#8216;byg rhedeg&#8217;! Ar \u00f4l hynny roeddwn wrth fy modd yn rhedeg yn bell ac yn gweld fy hun yn datblygu ac yn gwella. Hyd yma, rydw i wedi gwneud nifer o rasys mewn parciau, 10Ks a phum hanner marathon swyddogol (Caerdydd, Manceinion, Bryste, Ras Fawr y Gogledd a Ras Fawr Rithiol y Gogledd) \u2013 ac rydw i\u2019n falch iawn o hynny!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth oedd yr ysbrydoliaeth i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n amlwg bod y pandemig presennol wedi cael effaith economaidd enfawr ar wahanol sectorau ledled y byd ac mae canslo digwyddiadau codi arian yn golygu bod sefydliadau fel Prifysgol Caerdydd ar eu colled o ran arian ymchwil. Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn arwain ar nifer o <a rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\" (opens in a new tab)\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/about\/our-profile\/who-we-are\/civic-mission\/responding-to-coronavirus-covid-19\" target=\"_blank\">fentrau ymchwil sy&#8217;n achub bywydau mewn ymateb i\u2019r coronafeirws<\/a>, ac fel aelod o staff a chynfyfyriwr, roeddwn am rannu&#8217;r newyddion da a chodi ymwybyddiaeth o&#8217;r gwaith rhyfeddol y mae ein t\u00eem o wyddonwyr yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Caerdydd, yn enwedig y gwaith presennol o <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/2060003-cardiff-scientists-switch-from-cancer-research-to-help-develop-coronavirus-vaccine\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\" (opens in a new tab)\">ddatblygu brechlyn newydd ar gyfer COVID-19<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pa rwystrau rydych chi wedi&#8217;u hwynebu wrth ymarfer ar gyfer eich digwyddiad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o&#8217;m pryderon mwyaf o ran y cyfnod clo oedd methu \u00e2 rhedeg. Gyda chyfyngiadau lleol ar waith, doeddwn i ddim yn gallu cadw at fy nghynllun hyfforddi gwreiddiol ac roedd hynny\u2019n eithaf rhwystredig. Ond ni wnaeth hynny fy rhwystro rhag gwneud ymarfer corff \u2018cartref\u2019 (redeg ar yr unfan, cyrcydu a gwasgau byrfraich) i fy nghadw\u2019n egn\u00efol. Pan gafodd y cyfyngiadau clo lleol eu llacio, roeddwn mor hapus ac es i n\u00f4l i redeg yn rheolaidd. Roedd yn anodd ar y dechrau oherwydd roedd yn rhaid i mi gael cynllun hyfforddi newydd a dechrau popeth o&#8217;r dechrau. Er gwaethaf yr her gychwynnol, dechreuais fwynhau rhedeg ac yn y pen draw, fe wnes i ailgydio yn fy mhatrwm rhedeg. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd mynd i redeg fel cael fy achub. Roeddent yn fy helpu i gofnodi nifer penodol o filltiroedd bob wythnos, a hefyd yn helpu fy lles meddyliol ac yn fy rhoi mewn hwyliau da am weddill y diwrnod. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer pobl eraill sy\u2019n ystyried gwneud rhywbeth tebyg?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw rhedeg at ddant pawb, ond nid chi yw&#8217;r unig un. Rydw i wedi bod yn yr un sefyllfa \u00e2 nifer ohonoch chi. Dechreuodd fy nhaith redeg gydag ychydig o &#8216;gerdded \/ jog&#8217; a\u2019r tro cyntaf y gwnes i redeg unrhyw bellter, rhedais ychydig llai na 2K! Doeddwn i ddim yn teimlo\u2019n dda o gwbl y diwrnod hwnnw, ond rydw i wedi cadw ffydd yn fy hun ac wedi ceisio cadw\u2019n bositif. Mae hynny\u2019n hollbwysig i ni gyd. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer o gynlluniau hyfforddi ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, sy&#8217;n wych ond efallai na fyddant yn gweithio i bawb. Fy nghyngor i yw gwrando ar eich corff a cheisio datblygu eich cynllun hyfforddi a&#8217;ch trefn ddyddiol eich hun. Bydd hyn yn sicr yn eich helpu i fwynhau pob un tro y byddwch yn mynd allan i redeg a chyflawni&#8217;r hyn rydych eisiau ei gyflawni. Hefyd, ymunwch \u00e2 chlwb rhedeg lleol a gallwch gael llawer iawn o wybodaeth mewn blogiau gan redwyr a&#8217;r gymuned. Ewch ati i fod yn rhan o bethau, a pheidiwch ag ofni rhannu eich syniadau a\u2019ch profiad (gan gynnwys y rhai na wnaeth weithio!), bydd rhywun yn si\u0175r o werthfawrogi eich help yn fawr. Buan iawn y byddwch yn sylweddoli eich bod yn gwneud yn llawer gwell!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych am godi arian ar gyfer elusen, ewch amdani! P\u2019un a ydych yn bwriadu cropian neu redeg, bydd pobl sy&#8217;n barod i roi rhodd yn awyddus i wybod am eich cynnydd, felly rhowch wybod iddyn nhw am eich cyflawniadau a rhoi &#8216;hunluniau&#8217; neu luniau iddynt. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac yn bwysicaf oll, dywedwch &#8216;diolch&#8217; \u2013 nid yw hynny yw&#8217;n costio ceiniog!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A oes gennych unrhyw fwriad codi arian yn y dyfodol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd fy mhrofiad o godi arian yn gadarnhaol ac yn galonogol, felly \u2018ydw\u2019 yw fy ateb. Hoffwn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\" (opens in a new tab)\">gofrestru fy niddordeb gyda #T\u00eemCaerdydd <\/a><em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\" (opens in a new tab)\">a<\/a><\/em> chefnogi rhai o&#8217;r digwyddiadau codi arian sydd ar y gweill. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Nelson Selvaraj (MSc 2015) yn aelod o staff ac yn gynfyfyriwr sydd newydd redeg ras rithiol i godi arian ar gyfer ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae\u2019n s\u00f4n am yr hyn a\u2019i ysbrydolodd i wynebu\u2019r her gorfforol hon ac mae\u2019n rhannu ei ddoethineb \u00e2\u2019r rheini sy\u2019n ystyried gwneud rhywbeth tebyg. ","protected":false},"author":1811,"featured_media":5320,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-5332","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5332","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5332"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5332\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5335,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5332\/revisions\/5335"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5320"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5332"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5332"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5332"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}