{"id":5223,"date":"2020-09-23T08:15:09","date_gmt":"2020-09-23T08:15:09","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=5223"},"modified":"2024-10-08T12:47:16","modified_gmt":"2024-10-08T12:47:16","slug":"osgoi-chwythu-eich-plwc-drwy-ddod-o-hyd-ich-peth-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/09\/23\/osgoi-chwythu-eich-plwc-drwy-ddod-o-hyd-ich-peth-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i&#8217;ch &#8216;peth&#8217; \u2013 I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" class=\"wp-image-4928\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-C.-FABA-pic.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-C.-FABA-pic.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-C.-FABA-pic-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-C.-FABA-pic-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-C.-FABA-pic-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Daeth Gemma Clatworthy (BA 2007) ar draws ei hangerdd dros adrodd straeon pan fu\u2019n astudio Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd, ond nid tan bandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol y dysgodd am b\u0175er canolbwyntio ar rywbeth rydych chi&#8217;n ei garu i leddfu straen. Yma, mae&#8217;n rhannu ei brwydrau gyda chydbwyso gyrfa, gofal plant a&#8217;r awydd afrealistig i fod yn berffaith, a sut y gwnaeth osgoi chwythu\u2019i phlwc o drwch blewyn drwy ddefnyddio grym ei theimladau i fod yn greadigol.\u00a0<\/em><\/strong>\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cyfnod cloi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o bobl. Profwyd nifer o heriau ac ansicrwydd sy\u2019n dal i fodoli, ac fel uwch-weithiwr risg proffesiynol, rydw i\u2019n ymwybodol ohonynt.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ddechrau, doeddwn i ddim wedi ystyried pa mor anodd fyddai ceisio jyglo gofal plant, addysgu yn y cartref a swydd amser llawn. Yn anochel, arweiniodd hyn at oriau hir, nifer o rwystredigaethau ac at y teimlad nad oeddwn yn gwneud unrhyw beth yn arbennig o dda. Rhoddais lawer o bwysau arnom ni fel teulu i gyflawni pethau. Dyma\u2019r cyfle i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r holl dasgau bach o amgylch y t\u0177. Gwnaethom gyflawni llawer, ond wrth gwrs doedden ni ddim yn cael seibiant ac roedden ni i gyd yn dechrau teimlo&#8217;r pwysau o fod &#8216;ar waith&#8217; bob amser.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i amser fynd yn ei flaen, roeddwn i\u2019n dechrau colli fy amynedd nes nad oedd dim ar \u00f4l. Roeddwn yn colli fy nhymer yn fwy aml dros bethau bach dwl, a gyda fy nheulu\u2019n bennaf. Roeddwn i wedi blino o hyd ac yn cysgu&#8217;n wael, felly roedd hynny\u2019n gwneud i mi deimlo&#8217;n waeth ac roeddwn yn ei cholli hi\u2019n fwy aml. Yna, roeddwn yn teimlo fy mod yn methu fel mam a phob tro roeddwn yn methu cyfarfod, roeddwn yn teimlo fy mod yn methu gyda\u2019m gwaith. Roeddwn yn colli trywydd ac yn teimlo fel bod popeth yn drech na mi.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nawr, wrth edrych yn \u00f4l, gallaf weld fy mod ar fin chwythu fy mhlwc. Roedd y disgwyliadau yn y gwaith a gartref yn ormod, ac nid oedd yr argraffiadau perffaith roedd pobl yn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud unrhyw les. Roedd gennym drefn arferol gartref ond bob tro roeddwn yn gweld llun o deulu allan am dro hyfryd ar y traeth, roeddwn yn teimlo&#8217;n euog, er ein bod yn byw sawl awr i ffwrdd o&#8217;r arfordir!\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd angen seibiant arnaf a rhywbeth i ffwrdd o&#8217;r gwaith a&#8217;r teulu. Rhywbeth i mi fy hun er mwyn fy nghadw yn fy iawn bwyll.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wastad wedi mwynhau ysgrifennu ac adrodd straeon. Rwy&#8217;n credu mai dyna pam dewisais astudio Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn wedi fy nghyfareddu gan fythau a chwedlau hynafol. Rwy\u2019n cofio i mi ychwanegu taith ffuglennol drwy bentref Celtaidd unwaith fel atodiad at un o&#8217;m traethodau, dim ond oherwydd fy mod eisiau gwneud hynny. Yn ffodus, ni wnaeth fy nhiwtor dynnu unrhyw farciau i ffwrdd am hynny, ond ni ychwanegodd rai chwaith!\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Es i yn \u00f4l i ysgrifennu yn ystod y cyfnod clo ac roeddwn yn teimlo&#8217;n well bob amser ar \u00f4l nodi rhywbeth i lawr. Un diwrnod, ar \u00f4l gweiddi ar fy mhlant annwyl am y canfed tro, a chael fy anwybyddu eto, roeddwn i&#8217;n meddwl y dylwn ysgrifennu rhywbeth i lawr i&#8217;w gael allan o&#8217;m system. Felly, ganwyd \u2018The Girl Who Lost Her Listening Ears\u2019, sef fersiwn ddigrif ar yr hyn oedd yn fy ngyrru i&#8217;n wallgof gartref.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dangosais fy stori i rai ffrindiau dibynadwy a oedd yn ei hoffi, ac awgrymodd un y dylwn ystyried ei chyhoeddi. Roedd gen i syniad am lyfr lluniau yn fy meddwl. Ond dydw i ddim yn artist a doeddwn i ddim yn gwybod sut i chwilio am ddarlunydd ar gyfer llyfr efallai na fyddai byth yn gweld golau ddydd.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5218\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-book-crop-1.jpg\" alt=\"\" width=\"182\" height=\"180\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-book-crop-1.jpg 431w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-book-crop-1-300x297.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-book-crop-1-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Gemma-book-crop-1-40x40.jpg 40w\" sizes=\"auto, (max-width: 182px) 100vw, 182px\" \/><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n mwynhau crefftio ac rydw i wedi mwynhau brodwaith appliqu\u00e9 ers i mi ddod ar ei draws tua dwy flynedd yn \u00f4l. Mae creu lluniau o ddarnau o ffabrig yn llawer o hwyl ac mae\u2019n rhywbeth cyffyrddol sy\u2019n tawelu fy meddwl. Roedd yn gyfle perffaith i gyfuno fy nghariad at ysgrifennu \u00e2 fy nghariad at grefftio.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Treuliais tua thri mis yn defnyddio unrhyw amser sb\u00e2r yn ysgrifennu, ailysgrifennu, creu&#8217;r gwaith celf a chael adborth ar fy llyfr cyn ei hunan-gyhoeddi drwy Amazon. Roedd yn waith caled ond roedd yn werth yr ymdrech a\u2019r amser. Rhoddodd bwrpas i mi ac yn rhywbeth i ganolbwyntio arno yn lle chwilio&#8217;r rhyngrwyd am ffigurau diweddaraf y coronafeirws. Mae hefyd wedi rhoi cyfle creadigol imi ac rwy\u2019n gobeithio parhau ag ef.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n dal i ddysgu am sut i gyhoeddi a bod yn awdur ac rwy&#8217;n hyderus erbyn hyn mai ysgrifennu a chrefftio yw fy &#8220;mhethau&#8221; i. Felly, beth yw eich rhai chi?\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dywedwch wrthym beth yw eich peth drwy drydar atom ni @cardiffalumni gyda&#8217;r hashnod #MyThingIs #FyMhethau\u202f \u202f<\/strong>\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Gallwch ddod o hyd i Gemma ar ei\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"http:\/\/www.gemmaclatworthy.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong><em>gwefan<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0neu\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"http:\/\/www.instagram.com\/gemmaclatworthy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong><em>Instagram<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0ac mae ei llyfr, The Girl Who Lost Her Listening Ears, ar gael ar\u00a0<\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.amazon.co.uk\/gp\/product\/B08FGJNNNX\/ref=as_li_tl?ie=UTF8&amp;camp=1634&amp;creative=6738&amp;creativeASIN=B08FGJNNNX&amp;linkCode=as2&amp;tag=gemmaclatwort-21&amp;linkId=058169ad1e6cd4cf8efb546f30be16f5\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong><em>Amazon<\/em><\/strong><\/a><strong><em>\u00a0ar hyn o bryd.<\/em><\/strong>\u00a0<br \/><br \/><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h6 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/h6>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\">wrth ein bodd yn clywed gennych<\/a>\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\">rhestr o ddigwyddiadau byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Daeth Gemma Clatworthy (BA 2007) ar draws ei hangerdd dros adrodd straeon pan fu\u2019n astudio Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd, ond nid tan bandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol y dysgodd am b\u0175er canolbwyntio ar rywbeth rydych chi'n ei garu i leddfu straen. Yma, mae'n rhannu ei brwydrau gyda chydbwyso gyrfa, gofal plant a'r awydd afrealistig i fod yn berffaith, a sut y gwnaeth osgoi chwythu\u2019i phlwc o drwch blewyn drwy ddefnyddio grym ei theimladau i fod yn greadigol.  ","protected":false},"author":904,"featured_media":4928,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170],"tags":[],"class_list":["post-5223","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5223","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5223"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5223\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10063,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5223\/revisions\/10063"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4928"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5223"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5223"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5223"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}