{"id":4946,"date":"2020-09-17T13:39:15","date_gmt":"2020-09-17T13:39:15","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4946"},"modified":"2020-09-17T16:21:45","modified_gmt":"2020-09-17T16:21:45","slug":"cwrdd-ar-ymchwilydd-sarah-lauder","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/09\/17\/cwrdd-ar-ymchwilydd-sarah-lauder\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd \u2013 Dr Sarah Lauder"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"712\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Sarah-FR-pic-crop-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4941\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Sarah-FR-pic-crop-1.jpg 960w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Sarah-FR-pic-crop-1-456x338.jpg 456w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Sarah-FR-pic-crop-1-300x223.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Sarah-FR-pic-crop-1-768x570.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Canser y fron yw&#8217;r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod a phob blwyddyn mae tua 55,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU yn unig. Cyn Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, buom yn siarad \u00e2&#8217;r ymchwilydd canser Dr Sarah Lauder (BSc 2002, PhD 2007), sy\u2019n Gydymaith Ymchwil yn Lab Imiwnoleg Canser Gallimore Godkin Prifysgol Caerdydd.\u00a0<\/em>\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil.\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein system imiwnedd yn gwneud gwaith gwych o glirio heintiau feirysol a bacterol, ond nid yw\u2019n gwneud gwaith cystal bob tro wrth greu ymateb a allai glirio canser. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar addasu ein system imiwnedd er mwyn ceisio gwella&#8217;r ymateb i ganser y fron.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a sut y gallai fod o fudd i gleifion canser y fron yn y dyfodol?\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Meet-the-resercher-image-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4949\" width=\"251\" height=\"223\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Meet-the-resercher-image-2.jpg 564w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Meet-the-resercher-image-2-300x266.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 251px) 100vw, 251px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy astudiaethau diweddar wedi canolbwyntio ar ddefnyddio cyffuriau sy\u2019n trin canserau gwaed yn llwyddiannus ar hyn o bryd, er mwyn gweld a allant wella&#8217;r ymateb imiwnedd i ganser y fron. Gallai&#8217;r gwaith hwn fod yn fuddiol iawn i gleifion, ac oherwydd bod y cyffuriau hyn eisoes yn cael eu defnyddio, rydym yn gwybod beth yw eu sgil-effeithiau ac ati sy&#8217;n golygu y gallai treialon mewn cleifion canser y fron ddechrau&#8217;n llawer cynharach os bydd ein data cyn-glinigol yn llwyddiannus. Gallai&#8217;r cyffuriau hyn gynnig opsiwn arall i gleifion lle nad yw triniaethau eraill wedi llwyddo.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth a&#8217;ch ysbrydolodd i ddilyn y maes ymchwil hwn?\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf bob amser wedi bod \u00e2 diddordeb mawr mewn imiwnoleg, ac yn enwedig yn r\u00f4l y system imiwnedd wrth reoli canser. Fodd bynnag, ar \u00f4l i&#8217;m mam gael diagnosis o ganser y fron Cam III yn 2016, roedd ffocws llawer mwy personol i fy ymchwil.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaethoch chi ei astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cwblheais BSc mewn Bioleg Gymhwysol yn 2002, ac yna ar \u00f4l 18 mis yn gweithio mewn diwydiant, dechreuais fy PhD yn yr Ysgol Feddygaeth, gan raddio yn 2007.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth i chi ddod i astudio yng Nghaerdydd?\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dewisais ddod i Gaerdydd i astudio fy ngradd israddedig gan fy mod yn mwynhau dod i&#8217;r ddinas i ymweld \u00e2&#8217;m mam-gu a thad-cu pan oeddwn yn blentyn. Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da iawn hefyd am ei chyrsiau biolegol a gwyddorau bywyd. Roeddwn wrth fy modd gyda&#8217;m hamser fel myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd ac roeddwn yn awyddus hefyd i gwblhau fy PhD yn y Brifysgol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich hoff bethau am y ddinas?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Meet-the-researcher-image-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4955\" width=\"182\" height=\"255\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Meet-the-researcher-image-3.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/09\/Meet-the-researcher-image-3-213x300.jpg 213w\" sizes=\"auto, (max-width: 182px) 100vw, 182px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i\u2019n hoffi bod gan Gaerdydd yr holl bethau y byddech yn eu disgwyl gan ddinas fawr, ond mae&#8217;r arfordir a&#8217;r parciau cenedlaethol ar garreg y drws.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth rydych chi&#8217;n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gen i ychydig o obsesiwn gyda rhedeg! Rwy&#8217;n treulio&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;m amser hamdden allan yn rhedeg i unrhyw le ac i bobman. Rydw i wedi rhedeg dros 20 marathon ledled y byd, Llundain, Boston, Tokyo a Singapore i enwi ond ychydig, ond fy ras gyntaf, ac un o&#8217;m hoff rasys, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\">yw Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd<\/a>, sy&#8217;n codi arian gwych ar gyfer ymchwil yng Nghaerdydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth roddwr neu godwr arian sy&#8217;n ystyried cefnogi ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?\u202f\u202f\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pob ceiniog sy\u2019n cael ei roi yn cael ei wario ar hyrwyddo ein dealltwriaeth o ganser a dod o hyd i ffyrdd newydd o drin cleifion.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" target=\"_blank\"><strong><em>Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu i gefnogi ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd<\/em><\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod a phob blwyddyn mae tua 55,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU yn unig. Cyn Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, buom yn siarad \u00e2'r ymchwilydd canser Sarah Lauder (BSc 2002, PhD 2007), sy\u2019n Gydymaith Ymchwil yn Lab Imiwnoleg Canser Gallimore Godkin Prifysgol Caerdydd.  ","protected":false},"author":904,"featured_media":4941,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-4946","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4946","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4946"}],"version-history":[{"count":17,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4946\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5210,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4946\/revisions\/5210"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4941"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4946"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4946"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4946"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}