{"id":4832,"date":"2020-08-17T10:44:02","date_gmt":"2020-08-17T10:44:02","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4832"},"modified":"2020-08-18T10:01:04","modified_gmt":"2020-08-18T10:01:04","slug":"adeiladu-dyfodol-cynaliadwy-ar-gyfer-yr-amgylchedd-ynghyd-ar-economi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/08\/17\/adeiladu-dyfodol-cynaliadwy-ar-gyfer-yr-amgylchedd-ynghyd-ar-economi\/","title":{"rendered":"Adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd ynghyd \u00e2\u2019r economi\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/08\/Gerwyn-images-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4825\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/08\/Gerwyn-images-3.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/08\/Gerwyn-images-3-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/08\/Gerwyn-images-3-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Gerwyn Holmes (BSc 2005), sylfaenydd y busnes newydd arobryn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ecoslurps.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\" (opens in a new tab)\">Ecoslurps<\/a>,\u00a0<\/em>yn siarad \u00e2 ni<em>\u00a0am ein dibyniaeth ar blastig untro, gwersi a ddysgwyd mewn busnes, effeithiau COVID-19 a\u2019i gyngor ar gyfer Graddedigion 2020.<\/em><\/strong>\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Fel Cymro balch roeddwn eisiau astudio a byw ym mhrifddinas ein gwlad.<\/strong>&nbsp;Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cael ei chydnabod ymhlith y rhai gorau yn y DU, ac er i mi symud yma i astudio, rwyf erbyn hyn yn ei ystyried fel fy nghartref. Rwyf wrth fy modd \u00e2\u2019r ddinas hon a chredaf fod ganddi botensial enfawr i ehangu yn y dyfodol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rwyf wastad wedi bod yn frwdfrydig am ailgylchu.<\/strong>&nbsp;Rhoddodd fy swydd gyntaf fel rheolwr marchnata ar gyfer busnes ailgylchu newydd fewnwelediad ardderchog i mi o faint ydym yn dibynnu ar blastig untro yn ein bywydau bob dydd, a chymhlethdodau ailgylchu plastig. Yn ogystal, fe ddes i ddeall nad oedd ailgylchu yn mynd i fod yn ddigon. Er mwyn adeiladu dyfodol cynaliadwy mae angen i ni ddibynnu llai ar gynnyrch plastig untro a dechrau defnyddio cynnyrch bioddiraddadwy sydd angen llai o egni i\u2019w gynhyrchu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cenhadaeth\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ecoslurps.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" aria-label=\" (opens in a new tab)\">Ecoslurps<\/a>\u00a0yw bod yn garbon bositif.<\/strong>\u00a0Rydym yn cynnig dewisiadau eco-gyfeillgar fel dewis arall yn lle cynnyrch plastig untro i\u2019n cwsmeriaid, megis brwsys dannedd bamb\u0175, ffyn gwl\u00e2n cotwm, a chwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio. Mae gennym ddyheadau i ehangu ein cynnyrch amrywiol i gynnwys cynnyrch wedi eu gwneud o ffurfiau newydd o eco-blastig, sydd yn pydru ynghynt na\u2019r rhai traddodiadol pan maent yn cael eu hanfon i\u2019r tomenni sbwriel. Yn ogystal \u00e2 hyn, am bob cynnyrch rydym yn ei werthu, rydym yn addo plannu coeden. Nid yn unig yw hyn yn cefnogi rhaglenni ailgoedwigo ar draws y byd, ond hefyd yn ein helpu i wrthbwyso\u2019r \u00f4l-troed carbon gafodd ei greu yn ystod y gweithgynhyrchu a\u2019r cludo.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Fel busnes newydd, mae pob dydd yn cyflwyno her newydd.<\/strong>&nbsp;Y wers fwyaf rwyf wedi ei dysgu hyd yma yw, byddwch y cyntaf, byddwch yn well neu byddwch y rhataf. Yn y farchnad ar-lein orlawn, os nad ydych yn un o\u2019r categor\u00efau yma, bydd eich cynnyrch yn methu.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n hanfodol eich bod yn gwneud eich ymchwil ac yn defnyddio data i wneud penderfyniadau synhwyrol. Os rhowch eich cwsmer yn gyntaf ym mhopeth rydych yn ei wneud, bydd gennych fusnes llwyddiannus. Ond rwyf hefyd wedi dysgu na allwch wneud popeth eich hun. Er mwyn tyfu busnes yn ddigonol mae angen i chi ddefnyddio mwy o wasanaethau allanol ac awtomeiddio gweithrediadau lle bo\u2019n bosibl.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae bod yn entrepreneur yn gallu bod yn brofiad unig ar adegau.&nbsp;<\/strong>Rydych yn gyfrifol am gymaint o bethau ac yn rhy aml mae llwyddiant yn fyrhoedlog wrth i\u2019ch her nesaf lanio. Mae ennill a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau yn golygu cael eich cydnabod gan banel o arbenigwyr am wneud gwaith da. Mae\u2019n rhoi gymaint o falchder i mi ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o\u2019n busnes yn y gymuned ehangach.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gobeithio y gallwn ddefnyddio\u2019r llwyddiant cadarnhaol yma i helpu i gynnal y momentwm wrth edrych ymlaen. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthu\u2019n uniongyrchol i ddefnyddwyr, ond buaswn wrth fy modd yn gweithio gyda rhai o\u2019r masnachwyr mawr sy\u2019n rhannu fy angerdd am leihau gwastraff plastig a chefnogi ailgoedwigo. Rwyf hefyd yn benderfynol o ehangu i fod yn frand byd-eang erbyn diwedd y flwyddyn a dechrau gwerthu yn yr UDA, Awstralia, Dwyrain Canol a Chanolbarth America.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019r ymateb byd-eang i COVID-19 wedi dangos fod newid yn bosibl.&nbsp;<\/strong>Gan weld pa mor gyflym mae llywodraethau wedi cyflwyno cyfyngiadau symud a phecynnau economaidd sylweddol i gefnogi busnesau a\u2019u gweithwyr, mae\u2019n gwneud i ni ystyried pam nad yw\u2019r lefel hon o weithredu brys heb gael ei rhoi ar waith i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng newid hinsawdd. Rydym yn gwybod beth sydd i ddod, ac rydym yn gwybod na fyddwn mewn sefyllfa i\u2019w wrthdroi dros nos. Mae angen llawer mwy o ymrwymiad a gweithredu. Mae angen cynnig mwy o gefnogaeth i helpu i greu economi gynaliadwy werdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019n amlwg fod COVID-19 am greu llawer o heriau ar gyfer graddedigion eleni.&nbsp;<\/strong>Ond mae rhai pethau y gall pawb eu gwneud i helpu i ddatblygu eu profiad, cysylltiadau a hyder. Ni allaf bwysleisio digon ar bwysigrwydd rhwydweithio. Defnyddiwch wefannau fel Eventbrite a Meetup i gychwyn integreiddio mewn i wahanol gymunedau ac adeiladu eich rhestr o gysylltiadau. Gallech fod yn gweithio gyda rhai o\u2019r cysylltiadau yma yn y dyfodol ac fe wnewch ddysgu llawer drwy wrando ar wahanol arbenigwyr yn eu meysydd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuwch fusnes bach yn eich amser eich hun a dechreuwch werthu eich sgiliau yn syth. Mae gwefannau fel&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.upwork.com\/\" target=\"_blank\">Upwork<\/a>&nbsp;yn cysylltu busnesau \u00e2 gweithwyr llawrydd. Wrth symud tuag at weithio o bell a defnyddio gwasanaethau allanol, rwy\u2019n ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pob math o dasgau gwahanol, ac mae\u2019n ffordd wych o amrywio eich sgiliau heb fod angen cyflogwr. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yn bwysicaf oll, ceisiwch wneud rhywbeth rydych yn angerddol amdano.<\/strong>&nbsp;Mae\u2019r bobl hapusaf rwy\u2019n eu adnabod yn treulio eu diwrnodau yn gweithio mewn swyddi maent yn eu mwynhau. Ceisiwch ddod o hyd i sefydliad sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019ch gwerthoedd chi fel person ac ewch ati. Os ydych yn barod i weithio\u2019n galed ac addysgu, byddwch ymhell ar eich ffordd ar eich llwybr gyrfa yn fuan iawn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Gerwyn Holmes (BSc 2005), sylfaenydd y busnes newydd arobryn Ecoslurps, yn siarad \u00e2 ni am ein dibyniaeth ar blastig untro, gwersi a ddysgwyd mewn busnes, effeithiau COVID-19 a\u2019i gyngor ar gyfer Graddedigion 2020. ","protected":false},"author":1812,"featured_media":4841,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-4832","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4832","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4832"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4832\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4845,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4832\/revisions\/4845"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4841"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4832"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4832"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4832"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}