{"id":4756,"date":"2020-07-31T10:14:45","date_gmt":"2020-07-31T10:14:45","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4756"},"modified":"2020-07-31T10:10:12","modified_gmt":"2020-07-31T10:10:12","slug":"hoffi-bwyd-casau-gwastraff-bwytan-foesegol-ac-effaith-y-cyfnod-clo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/07\/31\/hoffi-bwyd-casau-gwastraff-bwytan-foesegol-ac-effaith-y-cyfnod-clo\/","title":{"rendered":"Hoffi bwyd, cas\u00e1u gwastraff \u2013 bwyta\u2019n foesegol ac effaith y cyfnod clo"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/Lia-headshot-and-food2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4735\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/Lia-headshot-and-food2.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/Lia-headshot-and-food2-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/Lia-headshot-and-food2-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/Lia-headshot-and-food2-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><strong>Mae Lia Moutselou (Daearyddiaeth a Chynllunio 2002-2005) yn uwch-reolwr polisi ar gyfer corff gwarchod d\u0175r ac yn un o bedwar cyfarwyddwr&nbsp;<\/strong><\/em><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/liaskitchen.com\/\" target=\"_blank\"><em><strong>Lia\u2019s Kitchen<\/strong><\/em><\/a><em><strong>, sy\u2019n gwmni buddiant cymunedol. Mae gan Lia brofiadau eang ac mae wedi bod yn ddarlithydd yn ogystal \u00e2 myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.&nbsp; Yma, mae hi\u2019n trafod gwastraff bwyd, y diwydiant bwyd, ryseitiau newydd, a\u2019i barn ar y byd, ar \u00f4l y pandemig.&nbsp;<\/strong><\/em><strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>O ble ddaeth yr angerdd dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd?&nbsp;<\/strong>&nbsp;<strong>&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyna beth sydd wedi bod yn gyfarwydd i mi erioed. Roedd fy nheulu\u2019n byw fel hynny, ac mae wastad wedi bod yn bwysig i mi. Roedd fy rhieni o gymunedau amaethyddol mewn pentrefi bach yn Groeg, ac er roeddwn i\u2019n ddigon ffodus i gael fy magu mewn lle trefol a chael profiadau addysgol a diwylliannol gwych, fy atgof cyntaf yw bod yn agos at yr elfennau naturiol a\u2019r tir.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut oedd eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gweithiais ar brosiectau polisi amgylcheddol a gwleidyddiaeth yn gysylltiedig ag amgylchedd morol ac arfordirol. Roeddwn i wrth fy modd yn addysgu yn y Brifysgol. Roeddwn i\u2019n arfer addysgu cyfraith yr amgylchedd mewn sawl adran ac yn mwynhau trafod yr un pwnc ond ceisio ei drosglwyddo i ddisgyblaethau a myfyrwyr gwahanol, ac yn hoffi\u2019r sgyrsiau a\u2019r ymatebion gwahanol oedd yn deillio o hynny.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd gen i swyddfa yn y brif adeilad gyda golygfa o\u2019r gerddi. Allwn i ddim credu pa mor ffodus oeddwn i fod yno. Roedd hi\u2019n bleser gweithio i Brifysgol Caerdydd ac astudio yno. Mae\u2019n brifysgol a champws mor arbennig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/platter-resize.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4750\" width=\"339\" height=\"226\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/platter-resize.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/platter-resize-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/platter-resize-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 339px) 100vw, 339px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydych chi wedi cymryd rhan mewn sawl ymgyrch dros y blynyddoedd, wnewch chi s\u00f4n ychydig amdanynt?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhan fwyaf y gwaith gyda Lia\u2019s Kitchen yn ymwneud \u00e2 lleihau gwastraff bwyd. Dechreuodd hyn gydag&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.lovefoodhatewaste.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ymgyrch Hoffi Bwyd, Cas\u00e1u Gwastraff<\/a>&nbsp;a chynnal digwyddiadau lleol mewn llefydd fel y Rhath a Sblot, gan ymgysylltu \u00e2 phobl yn y cymunedau hyn. Fe gasglon ni wastraff bwyd o archfarchnadoedd a sgipiau a\u2019i drawsnewid yn ryseitiau anhygoel.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yna, fe wnaethom ehangu ein hymgyrchoedd, gyda&nbsp;<a href=\"https:\/\/liaskitchen.com\/2017\/12\/05\/the-wasteless-diaries-1\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Swper Diwastraff<\/a>&nbsp;a oedd yn canolbwyntio\u2019n gryf ar werthfawrogi bwyd. Roeddwn i eisiau trawsnewid rhywbeth mewn sgip yn bryd bwyd o safon fel bod pobl yn gallu gweld sut y gall canfyddiadau ynghylch bwyd newid, yn ddibynnol ar sut y mae\u2019n edrych.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-instagram alignright wp-block-embed is-type-rich is-provider-instagram\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\nhttps:\/\/www.instagram.com\/p\/CCOx7yLA-ze\/\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wedi bod yn gysylltiedig ag<a href=\"https:\/\/vegpower.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">&nbsp;ymgyrch Grym Llysiau<\/a>, yn hyrwyddo a chynyddu faint o lysiau mae pobl yn bwyta. Rydw i mewn llyfr gyda Paul McCartney a Jamie Oliver \u2013 mae fy ryseitiau yna!&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Prosiect arall sy\u2019n agos at fy nghalon oedd fy ngwaith gyda ffoaduriaid ac&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/oasiscardiff.org\/\" target=\"_blank\">Oasis Caerdydd<\/a>&nbsp;lle roeddwn yn cofnodi ryseitiau eu cleientiaid a\u2019u gwirfoddolwyr i helpu i greu cysylltiadau trwy fwyd, yn ogystal \u00e2 chyfleoedd cyflogaeth ac addysgol. Yna, fe wnes i greu bwydlen ar gyfer eu cerbyd bwyd, wnaeth fwydo llawer o bobl yn ystod g\u0175yl 2018.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yn eich barn chi, beth arall y gellid ei wneud i leihau gwastraff yn y diwydiant bwyd?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gennym nifer o fesurau iechyd a diogelwch, sy\u2019n wych ac yn bwysig iawn, ond weithiau mae\u2019n gallu bod yn wrthgynhyrchiol wrth ein haddysgu ynghylch beth y gallwn ei wneud gyda gwastraff. Rydw i\u2019n credu bod Caerdydd yn gwneud mwy erbyn hyn a llawer mwy na rhai llefydd eraill.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cymuned Caerdydd yn ymwybodol iawn, ond mae angen help ar fusnesau bwyd. Nid oes gan berchnogion busnesau bach yr amser bob tro i ystyried cynaliadwyedd pan fod angen iddynt oroesi, cyflogi pobl a chadw\u2019r blaidd o\u2019r drws. Mae angen cymaint o help arnynt \u00e2 phosibl; atebion sy\u2019n hawdd i\u2019w gweithredu ac sy\u2019n fforddiadwy. Ma angen i gynghorau a sefydliadau rheoleiddiol wneud pethau\u2019n haws a pheidio \u00e2 rhwystro busnesau sy\u2019n trio bod yn gynaliadwy. Er enghraifft, cynnig pecynnau cael gwared ar wastraff sy\u2019n fforddiadwy ac yn annog gwrteithio ac ailgylchu.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut ydych chi\u2019n meddwl y mae agwedd pobl tuag at fwyd a gwastraff bwyd wedi newid yn ystod y cyfnod clo?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl wedi edrych ar ardal cynigion yr archfarchnadoedd ac y tu mewn i\u2019w hoergelloedd yn fwy nag erioed, oherwydd cyfyngiadau ariannol ac i siopa. Yn ystod y cyfnod clo, doedd dim modd mynd i\u2019r siopau yn rheolaidd, felly defnyddiom ni beth oedd gyda ni yn barod.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hefyd, roedd bwyd yn cynnig cysur, yn weithred ac yn bleser i dynnu ein sylw oddi wrth realiti brawychus COVID-19. Mae hyn yn golygu ein bod ni\u2019n dod yn fwy dyfeisgar ac archwiliadol. O ymagweddau diwylliannol gwahanol, i dechnegau a chynhwysion newydd, daethom ni\u2019n fwy parod i dderbyn newid. Mae\u2019n rhywbeth gwych y dylem ni ddal gafael arno.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ydych chi wedi darganfod unrhyw ryseitiau\u2019r \u2018cyfnod clo\u2019?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wedi darganfod gymaint o ryseitiau newydd yn ystod y cyfnod clo. Rydw i wedi casglu dros 50 o lyfrau ar gyfer llyfrgell llyfrau coginio Lia\u2019s Kitchen. Dydw i ddim yn gwybod sut rydw i\u2019n mynd i\u2019w rannu, ond drwy\u2019r broses o bori trwy\u2019r llyfrau, rydw i wedi bod yn archwilio bwydydd newydd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wedi mwynhau mynd yn \u00f4l at brydau syml iawn yn ystod y cyfnod clo. Un o\u2019n nodau yn Lia\u2019s Kitchen yw sicrhau bod bwyd yn hygyrch, o safbwynt ariannol ond hefyd o ran manteision iechyd a chyfyngiadau amser. Rydw i wedi bod yn gwneud pethau syml a thymhorol gyda llysiau sydd wedi\u2019u tyfu\u2019n lleol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/lia-cooking.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4743\" width=\"163\" height=\"245\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/lia-cooking.jpg 333w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/07\/lia-cooking-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 163px) 100vw, 163px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut rydych chi\u2019n meddwl bod y cyfnod clo wedi effeithio ar y diwydiant bwyd?<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pawb yn addasu ond rydw i\u2019n credu ein bod ni\u2019n mynd i weld effaith mawr, tymor hir.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydw i wedi dilyn y busnesau bwyd a fy ffrindiau gyda chryn ddiddordeb a phryder \u2013 mae eu hysbryd entrepreneuraidd yn anhygoel. Mae\u2019r sefyllfa\u2019n fy mhoeni\u2019n fawr oherwydd rydw i wedi credu erioed ei bod yn sector nad yw\u2019n cael ei gwerthfawrogi ddigon. Mae angen d\u0175r a bwyd arnom i oroesi, ac rydym ni\u2019n cymryd tyfwyr a gwasanaethau bwyd yn ganiataol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond mae\u2019r cyfnod clo hefyd wedi ysgogi newidiadau cadarnhaol ynghylch gwastraff bwyd. Mae cymaint o brosiectau a chaffis gwych sy\u2019n gwneud cymaint i gefnogi eu cymunedau a\u2019r rheiny sydd mewn angen. Mae pobl wedi\u2019u sbarduno i droi bwyd a gwastraff yn gynhaliaeth, ond hefyd yn creu nifer o gyfleoedd eraill ar gyfer ymgysylltu ac ailddefnyddio deunyddiau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae 2020 wedi dangos i ni na allwn ragweld beth sydd ar y gorwel. O lifogydd i eira, sefyllfaoedd gwleidyddol, a phandemigau, mae&#8217;n rhaid i fusnesau weithredu mewn modd sy\u2019n eu galluogi i addasu a bod yn foesegol. Po fwyaf y gallwch addasu a bod yn foesegol, y mwyaf tebygol y byddwch o oroesi.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Lia Moutselou (Daearyddiaeth a Chynllunio 2002-2005) yn uwch-reolwr polisi ar gyfer corff gwarchod d\u0175r ac yn un o bedwar cyfarwyddwr Lia\u2019s Kitchen, sy\u2019n gwmni buddiant cymunedol. Mae gan Lia brofiadau eang ac mae wedi bod yn ddarlithydd yn ogystal \u00e2 myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.  Yma, mae hi\u2019n trafod gwastraff bwyd, y diwydiant bwyd, ryseitiau newydd, a\u2019i barn ar y byd, ar \u00f4l y pandemig.  ","protected":false},"author":1811,"featured_media":4735,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-4756","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4756","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4756"}],"version-history":[{"count":36,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4756\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4794,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4756\/revisions\/4794"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4735"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4756"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4756"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4756"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}