{"id":4641,"date":"2020-06-26T12:34:33","date_gmt":"2020-06-26T12:34:33","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4641"},"modified":"2020-06-26T12:34:45","modified_gmt":"2020-06-26T12:34:45","slug":"maen-rhaid-i-ddiwydiannau-creadigol-gefnu-ar-docenistiaeth-ar-fod-yn-arwynebol-ac-anwiredd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/06\/26\/maen-rhaid-i-ddiwydiannau-creadigol-gefnu-ar-docenistiaeth-ar-fod-yn-arwynebol-ac-anwiredd\/","title":{"rendered":"Mae\u2019n rhaid i ddiwydiannau creadigol gefnu ar docenistiaeth, ar fod yn arwynebol ac anwiredd"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Joycelyn-Longdon-Crop4-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4638\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Joycelyn-Longdon-Crop4-1.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Joycelyn-Longdon-Crop4-1-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Joycelyn-Longdon-Crop4-1-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Joycelyn-Longdon-Crop4-1-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Joycelyn Longdon (BSc 2019) yn farchnatwr llawrydd a sylfaenydd&nbsp;<\/em><\/strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.blackonblackcreative.com\/\" target=\"_blank\"><strong><em>BLACKONBLACK<\/em><\/strong><\/a><strong><em>, asiantaeth greadigol sy\u2019n hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol a chefnogi pobl greadigol o liw. Cawsom air gyda hi am ei gwaith, effaith COVID-19 ac&nbsp;<\/em>#MaeBywydauDuoBwys,<em>&nbsp;a beth ddaw gyda\u2019r dyfodol.<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Roeddwn yn benderfynol i adael Llundain ond roeddwn i wir eisiau mynd i Brifysgol Gr\u0175p Russell.<\/strong>&nbsp;Wrth chwilio\u2019r tablau am brifysgolion oedd yn dda ar gyfer gwyddoniaeth, ffiseg yn benodol, roedd Caerdydd yn y deg uchaf ac felly roedd yn enillydd i mi. Penderfynais astudio Astroffiseg gan fy mod yn chwilfrydig. Roeddwn eisiau gwybod sut mae\u2019r bydysawd yn gweithio ac wedi cael blas wrth wylio rhaglenni dogfen, ond roeddwn wir eisiau dysgu mwy.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rwyf wastad wedi bod yn greadigol ac entrepreneuraidd.<\/strong>&nbsp;Drwy gydol fy amser yn yr ysgol roeddwn o hyd yn meddwl am syniadau busnes. Byddwn yn darllen yr Harvard Business Review ac fe wnes hyd yn oed gychwyn fy musnes gemwaith fy hun ym mlwyddyn wyth. Rwyf yn berson sy\u2019n defnyddio dwy ochr fy ymennydd ac ni allaf gael un heb y llall &#8211; felly roedd fwy o anghenraid yn ystod fy ngradd i mi gychwyn BLACKONBLACK, fy asiantaeth greadigol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<br><strong>Roedd dod yn ail yng Ngwobrau i Fusnesau Newydd Prifysgol Caerdydd am BLACKONBLACK yn anhygoel.<\/strong>&nbsp;Fe wnaeth ein helpu i greu cyfleoedd a phrosiectau ar gyfer ein cymuned, oedd yn golygu y gallwn eu cefnogi drwy gyfnod anodd iawn. Mae ein prosiect \u2018Quarantine and Create\u2019 wedi cefnogi pobl ifanc ddu greadigol sydd wedi colli eu swyddi yn ystod y cyfnod clo ac wedi codi eu hwyliau yn ystod ein hargyfwng hiliol byd-eang presennol. Mae\u2019r rhain yn bethau na allwn fod wedi ei gwneud fel arall.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>O\u2019n gwaith diweddar, rwy\u2019n falch iawn o\u2019n prosiect&nbsp;<\/strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.blackonblackcreative.com\/post\/comme-the-f-ck-on\" target=\"_blank\"><strong>\u2018COMME THE F*CK ON\u2019<\/strong><\/a><strong>.&nbsp;<\/strong>Roedd yn brosiect ffotograffig dychanol i godi ymwybyddiaeth o\u2019r hiliaeth a meddiannu amlwg o fewn y diwydiant ffasiwn &#8211; yn benodol yn yr achos hwn, Comme Des Garcons, a anfonodd nifer o fodelau gwyn lawr rhodfa, mewn wigiau \u2018cornrow\u2019 gwael, fel \u201cteyrnged\u201d i \u201cddiwylliant Eifftaidd\u201d. Y prosiect oedd ein ffordd ni o ysgogi ffurf newydd o feirniadaeth, a arweinir gan y defnyddwyr, yn y diwydiant, ffurf sydd ddim yn gwasanaethu i\u2019r brandiau drwy roi cyhoeddusrwydd am ddim iddynt, ond yn eu gwatwar. Roeddem eisiau annog gwneud y brandiau hiliol (a gwaharddol) yn destun gwatwar a chreu byd lle mae bod ynghanol trafodaethau fel hyn yn codi embaras. Nid yw amrywiaeth yn y diwydiant creadigol am gynrychiolaeth ar y sgr\u00een neu mewn sioeau yn unig. Mae gwir amrywiaeth yn cynnwys y timau tu \u00f4l i\u2019r camer\u00e2u, y strategwyr a chyfarwyddwyr a all achub y brandiau rhag methiannau fel hyn, bwriadol neu ddim.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Fel gweithiwr llawrydd yn y gofod digidol, mae COVID-19 wedi fy ngwneud yn brysurach nag erioed,&nbsp;<\/strong>gyda llawer o\u2019m cleientiaid yn gwthio i newid a symud ar-lein. Rwyf yn werthfawrogol iawn am hyn ond baswn yn dymuno cael ychydig mwy o seibiant! O ran BLACKONBLACK, mae COVID-19 wedi gwneud pethau ychydig yn ansicr, yn benodol sut rydym yn pontio yn \u00f4l i fod yn fusnes ac nid llwyfan gefnogol yn unig. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi pobl greadigol drwy weithdai, gweminarau a heriau, ond ein prif nod yw darparu cyfleoedd diriaethol yn y diwydiant iddynt yn ogystal.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ar gyfer pobl ddu, mae beth sy\u2019n digwydd ynghylch #MaeBywydauDuoBwys wastad wedi bodoli iddynt.<\/strong>&nbsp;Does dim wedi newid oni bai am gyrhaeddiad y neges yn cyrraedd pellach ac yn uwch. I fy nghymuned, mae hil wastad wedi bod yn gynhenid yn eu creadigrwydd. Os edrychwch yn \u00f4l ar ein dau gyfnod cyflwyno cyntaf, ysbrydoliaeth llawer o\u2019r artistiaid oedd hil a ffeministiaeth. Mae ein cymuned fwy nag erioed angen cefnogaeth, allfeydd creadigol a chyfleoedd am adnewyddiad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Wrth edrych i\u2019r dyfodol, rwy\u2019n gobeithio bydd y diwydiannau creadigol yn cefnu ar docenistiaeth, ar fod yn arwynebol ac anwiredd.<\/strong>&nbsp;Mae cynnydd wedi\u2019i wneud ond mae\u2019n rhaid iddo fod yn ddiffuant. Rwyf hefyd yn gobeithio fod pobl greadigol ddu yn camu\u2019n llawn i\u2019w grym a sylweddoli eu gallu i greu eu mudiadau, gofod, llwyfannau a phrosiectau eu hunain!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yn ddiweddar cefais y newyddion fy mod wedi cael fy nerbyn ar raglen PhD yng Nghaergrawnt.&nbsp;<\/strong>Byddaf yn edrych ar y Defnydd o AI ar Newid Hinsawdd gyda ffocws ar sut allwn rymuso cymunedau brodorol a rheiny mewn gwledydd sy\u2019n datblygu. Rwyf hefyd wedi lansio llwyfan creadigol newydd, Climate in Colour, er mwyn gwneud sgyrsiau am hinsawdd yn fwy hygyrch, amrywiol ac addysgiadol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy ffocws wedi newid ychydig, ond dim ond ychydig, a byddaf yn defnyddio\u2019r amser hyn i ddeall sut bydd BLACKONBLACK yn symud yn ei flaen ac yn parhau i fod yn rhan o\u2019m bywyd newydd.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Joycelyn Longdon (BSc 2019) yn farchnatwr llawrydd a sylfaenydd BLACKONBLACK, asiantaeth greadigol sy\u2019n hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol a chefnogi pobl greadigol o liw. Cawsom air gyda hi am ei gwaith, effaith COVID-19 ac #MaeBywydauDuoBwys, a beth ddaw gyda\u2019r dyfodol. ","protected":false},"author":904,"featured_media":4638,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-4641","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4641","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4641"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4641\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4645,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4641\/revisions\/4645"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4638"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4641"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4641"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4641"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}