{"id":4626,"date":"2020-07-16T14:04:10","date_gmt":"2020-07-16T14:04:10","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4626"},"modified":"2024-10-08T12:47:37","modified_gmt":"2024-10-08T12:47:37","slug":"mercy-ships-y-gig-a-systemau-gofal-iechyd-ar-draws-y-byd-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/07\/16\/mercy-ships-y-gig-a-systemau-gofal-iechyd-ar-draws-y-byd-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" class=\"wp-image-4609\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Leo-Cheng-combined-image-line.jpg\" alt=\"Patient trying to feel face after surgery and Dr Cheng in the surgical theatre. \" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Leo-Cheng-combined-image-line.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Leo-Cheng-combined-image-line-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Leo-Cheng-combined-image-line-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae Leo Cheng (LLM 2006) yn\u00a0llawfeddyg y geg, y genau a\u2019r wyneb, y pen, a\u2019r gwddf\u00a0sydd wedi treulio rhan fwyaf o\u2019i fywyd yn teithio\u2019r byd ac yn helpu\u2019r rheiny o\u2019r ardaloedd tlotaf drwy roi llawdriniaeth am ddim a darparu gofal iechyd sydd ei ddirfawr angen. Mae bellach wedi troi ei sylw a\u2019i ymdrechion tuag at COVID-19 ac mae\u2019n myfyrio ar ei brofiad hyd yn hyn gyda\u2019r GIG a\u2019i bryderon ynghylch y rheiny sydd heb system iechyd gwladol.\u00a0<\/em><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers bron i 20 mlynedd rwyf wedi bod yn defnyddio fy ngwyliau blynyddol i wasanaethu gyda\u2019r Mercy Ships yng Ngorllewin Affrica, yn darparu llawdriniaethau arbenigol: ailadeiladol, i\u2019r genau a\u2019r wyneb, a thyroid am ddim i\u2019r tlodion angof. Mae fy ngwraig a\u2019n dwy ferch wedi do gyda mi ar rai o fy nheithiau allgymorth, yn helpu cleifion pryderus gyda\u2019n gilydd fel p\u00e2r neu fel teulu.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Mercy Ships yn gweithredu\u2019r llong ysbyty fwyaf yn y byd i gael ei chynnal gan elusen. Mae\u2019n cynnig gofal meddygol a llawfeddygol angenrheidiol am ddim i rai o wledydd lleiaf datblygedig y byd. Mae\u2019r ysbyty hwn sy\u2019n arnofio yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, sy\u2019n rhoi eu harbenigedd am ddim i helpu cleifion gyda phroblemau llygaid a deintyddol, anffurfiadau wynebol fel gwefus a thafod hollt, tiwmorau yn y pen, wyneb, gwddf, aelodau a\u2019r corff, traed clwb, anafiadau genedigol, llosgiadau a llawer o anffurfiadau a chyflyrau eraill.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn yn helpu pobl Senegal ar fwrdd yr Africa Mercy gyda fy ngwraig Hilary, sy\u2019n Weinidog o\u2019r Gylchdaith Goedwig Fethodistaidd yng Ngogledd Ddwyrain Llundain, pan ddechreuodd COVID19 ledu ar draws y byd. Roedd y sefyllfa yn ei gwneud hi\u2019n amhosibl i\u2019r Mercy Ships barhau gyda\u2019n gwasanaeth maes gan fod yr Africa Mercy yn uned lawfeddygol arbenigol a does ganddi mo\u2019r adnoddau i ddelio \u00e2 haint anadlol hynod heintus O fewn ychydig wythnosau ar \u00f4l cyrraedd yn \u00f4l yn y DU, roeddwn yn gweithio goramser yn y ras yn erbyn ymchwydd coronafeirws mewn sawl ysbyty yn Llundain\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar wah\u00e2n i lawdriniaethau hanfodol canser a thrawma ar gyfer anafiadau i\u2019r pen a\u2019r wyneb, mae fy nh\u00eem a minnau hefyd yn darparu cymorth llawfeddygol i\u2019r llwybr anadlu ar gyfer cleifion COVID-19 difrifol wael drwy wneud tyllau yn eu corn gwynt (traceostomi) er mwyn hwyluso gweithrediad eu hysgyfaint mewn ysbytai COVID-19.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gweithio gyda Chyfarpar Diogelu Personol (PPE) wedi bod yn broses ddysgu gan ein bod angen sicrhau digon o dd\u0175r i\u2019n cyrff wrth leihau nifer yr egwyliau t\u0177 bach (anodd ar adegau!), mynegiant clir er mwyn osgoi camddealltwriaeth gyda llais wedi\u2019i fygu o dan y masg FFP3 (N99) a\u2019r miswrn, diwygio gweithdrefnau llawfeddygol er mwyn lleihau\u2019r cynhyrchiad diangen o aerosol, gweithdrefnau ac archwiliadau ychwanegol i leihau\u2019r risg o \u2018ddychwelyd i\u2019r theatr driniaeth\u2019, a hylendid personol estynedig yn erbyn y gelyn anweledig.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignleft is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-4613\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/EDIT-Leo-and-Hilary-Cheng-laughing-and-waving-1.jpg\" alt=\"Leo Cheng with wife Hilary Cheng, waving outside a Mercy Ship hospital\" width=\"292\" height=\"207\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/EDIT-Leo-and-Hilary-Cheng-laughing-and-waving-1.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/EDIT-Leo-and-Hilary-Cheng-laughing-and-waving-1-476x338.jpg 476w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/EDIT-Leo-and-Hilary-Cheng-laughing-and-waving-1-300x213.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/EDIT-Leo-and-Hilary-Cheng-laughing-and-waving-1-768x545.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 292px) 100vw, 292px\" \/><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod coronafeirws wedi tarfu\u2019n eithriadol ar bob lefel o\u2019r gymdeithas, mae wedi cyflymu\u2019r broses o groesawu technoleg a\u2019r rhyngrwyd, yn enwedig mewn gofal iechyd. Mae clinigau ff\u00f4n a rhithwir wedi dod yn \u2018normal newydd\u2019 a chynadledda ar y ff\u00f4n wedi dod yn rhan fawr o\u2019m hamser clinigol &#8211; yn cysylltu \u00e2\u2019n timau clinigol a rheoli, a chael cyfarfodydd t\u00eem canser amlddisgyblaethol.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y pandemig, mae\u2019r GIG yn edrych ar \u00f4l pawb yn y ffordd fwyaf diogel posibl ac wedi cynhyrchu\u2019r capasiti i ddelio \u00e2\u2019r argyfwng iechyd digynsail hwn Er y marwolaethau trist sy\u2019n cael eu hadrodd yn ddyddiol yn y newyddion, mae straeon o lwyddiant lle mae cleifion COVID-19 yn gadael yr uned gofal dwys ac yn cael cerdded allan o\u2019r ysbyty.\u00a0 Mae pawb yn ein gwlad yn curo dwylo ar gyfer y GIG a gweithwyr allweddol eraill pob wythnos, ond mae staff y GIG hefyd yn curo dwylo ar gyfer y cleifion sydd wedi gwella ac yn gadael yr ysbyty. Er enghraifft, fe wnaeth nain i dri o blant drechu coronafeirws mewn amser ar gyfer ei phen-blwydd yn 74 yn ddiweddar.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n hynod ddiolchgar am adnoddau a darpariaeth ein GIG (gwasanaeth rhad ac am ddim ein gwlad sydd o\u2019r radd flaenaf), yr holl gyfleustodau hanfodol sydd ar gael (e.e. trydan, d\u0175r, nwy), bwyd a nwyddau traul ar silffoedd archfarchnadoedd, a chyngor arbenigol synhwyrol gan weithwyr iechyd cyhoeddus i atal lledu\u2019r gelyn anweledig hwn.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy mhrofiad innau ar draws y byd yn golygu fy mod yn gwybod pa mor ffodus yr ydym a pha mor anodd bydd y pandemig i eraill, yn enwedig y rheiny mewn rhannau o Affrica.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Affrica yn paratoi ar gyfer y gwaethaf gyda COVID-19. Clywais rywun yn dweud hyn: pan mae gogledd y byd yn dal anwyd, mae Affrica yn cael niwmonia. Mae hyn oherwydd ei hisadeiledd gofal iechyd gwael a lefelau uchel o dlodi a diffyg addysg. Gallwch weld yr anghydraddoldeb anhygoel ac enfawr mewn adnoddau a chyfleusterau gofal iechyd rhwng y byd datblygedig a\u2019r byd sy\u2019n datblygu.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Unwaith bydd y sefyllfa fyd-eang yn caniat\u00e1u, fe wnawn ddychwelyd i Affrica a helpu i gryfhau systemau gofal iechyd ar \u00f4l y pandemig. Roedd yr Africa Mercy yno ar gyfer Guinea yn 2016 wedi i Ebola ledu ar draws Gorllewin Affrica a byddwn yno ar gyfer Gorllewin Affrica wedi COVID-19.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y cyfnod heriol hwn o gyfyngiadau symud ac ansicrwydd i\u2019r economi, cyflogaeth a theithio, rwy\u2019n gobeithio ac yn gwedd\u00efo y byddwn ni ddinasyddion y byd yn dod allan o COVID-19 yn dangos mwy o gariad a gofal at ein gilydd drwy fod yn barod i helpu eraill o fewn ein cymuned a thu hwnt.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h6 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/h6>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">w<\/a><a href=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\">r<\/a><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">th ein bodd yn clywed gennych<\/a>\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyryr\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\">rhestr o ddigwyddiadau byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Leo Cheng (LLM 2006) yn llawfeddyg y geg, y genau a\u2019r wyneb, y pen, a\u2019r gwddf sydd wedi treulio rhan fwyaf o\u2019i fywyd yn teithio\u2019r byd ac yn helpu\u2019r rheiny o\u2019r ardaloedd tlotaf drwy roi llawdriniaeth am ddim a darparu gofal iechyd sydd ei ddirfawr angen. Mae bellach wedi troi ei sylw a\u2019i ymdrechion tuag at COVID-19 ac mae\u2019n myfyrio ar ei brofiad hyd yn hyn gyda\u2019r GIG a\u2019i bryderon ynghylch y rheiny sydd heb system iechyd gwladol. ","protected":false},"author":904,"featured_media":4613,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,203],"tags":[],"class_list":["post-4626","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4626","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4626"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4626\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10064,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4626\/revisions\/10064"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4613"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4626"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4626"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4626"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}