{"id":4423,"date":"2020-06-04T15:50:35","date_gmt":"2020-06-04T15:50:35","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4423"},"modified":"2020-06-05T08:35:16","modified_gmt":"2020-06-05T08:35:16","slug":"codwyr-arian-rhithwir-timcaerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/06\/04\/codwyr-arian-rhithwir-timcaerdydd\/","title":{"rendered":"Codwyr Arian Rhithwir #T\u00eemCaerdydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/bloglead-teamcardiff.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4419\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/bloglead-teamcardiff.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/bloglead-teamcardiff-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/bloglead-teamcardiff-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/bloglead-teamcardiff-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Tra bo\u2019r cyfyngiadau symud ar waith, mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol i godi arian ar gyfer achosion pwysig. Mae sawl marathon a ras wedi cael eu canslo, ond nid yw Josh Little (MEng 2019) ac Owain Davies (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019 -) wedi gadael i hynny eu rhwystro rhag codi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o #T\u00eemCaerdydd. Maent wedi penderfynu mynd i\u2019r afael \u00e2 heriau newydd sydd o fewn y canllawiau&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Josh Little (MEng 2019)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae llwybrau rhithwir yn gweithio?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4415\" width=\"161\" height=\"161\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1.jpg 644w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/IMG-20200531-WA0003-1-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 161px) 100vw, 161px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd f\u2019un i wedi\u2019i wneud yn gwbl drwy Strava, sy\u2019n gosod heriau a llwybrau rhithwir. Penderfynais wneud 200km dros 26 diwrnod drwy Mai, gan orffen gyda hanner marathon. Mae\u2019n cael ei gofnodi drwy GPS a phob tro ry&#8217;ch chi&#8217;n mynd i redeg mae\u2019n cael ei ychwanegu at y cyfanswm ac mae\u2019n cael ei dracio drwy gydol y mis.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli i godi arian ar gyfer ymchwil canser?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd\/Prifysgol Caerdydd i #T\u00eemCaerdydd am y tair blynedd diwethaf. Roeddwn am ei wneud eto eleni pan welais yr her 2.6. Mae\u2019r gwaith mae Caerdydd yn ei wneud yn rhagorol ac mae\u2019r holl ymchwil gyda\u2019r Celloedd-T yn gyffrous iawn. Mae\u2019n teimlo\u2019n dda i fod yn rhan o hynny<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae eich bywyd wedi newid o ganlyniad i COVID-19?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n eithaf diddorol mewn gwirionedd. Mae wedi mynd yn \u00f4l i sut oedd hi ar \u00f4l i mi raddio, lle\u2019r oedd rhaid i mi symud yn \u00f4l gartref ac aros tu mewn yn gwneud ceisiadau am swyddi. Roeddwn yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio mewn bar pan ddigwyddodd COVID ac rwyf bellach yn \u00f4l yn lle yr oeddwn, heblaw fy mod ar ffyrlo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pa fuddiannau sydd wedi dod o\u2019r profiad hwn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae wedi rhoi esgus i mi fynd allan i redeg. Mae mwy o elltydd ym Mhenfro na Chaerdydd, felly mae wedi helpu datblygu fy nygnwch. Mae\u2019n rhoi rhywbeth i chi ganolbwyntio arno ac yn rhywbeth i\u2019w wneud bob dydd. Mae hi llawer tawelach gyda\u2019r cyfyngiadau symud ac nid oes ceir yn unman. Mae\u2019n bosibl rhedeg ar lonydd heb orfod bod mor wyliadwrus \u00e2\u2019r arfer. Rwy\u2019n rhoi cynnig ar lwybrau a lonydd newydd weithiau ond gall hynny orffen yn wael os ydych yn crwydro rhy bell o gartref!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer pobl eraill sy\u2019n ystyried menter debyg?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credaf bydd pobl yn synnu at faint y gallan nhw ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae\u2019r meddwl yn ildio llawer ynghynt na\u2019r corff. Os gallwch ddod o hyd i ffordd i\u2019ch gwahanu eich hunain yn feddyliol o\u2019r syniad fod rhywbeth drwg am ddigwydd, er mwyn gwahaniaethu rhwng beth yw anaf a beth yw blinder, yna dyna\u2019r rhan bwysig. Hynny ac ymestyn &#8211; llawer o ymestyn pob nos. Mae\u2019n gwneud cymaint o wahaniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Josh bron \u00e2 chyrraedd ei darged o \u00a3250 ar gyfer ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. <\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/joshs-26-challenge6?fbclid=IwAR2mq-J7lmH-BRtp1IzXPNCfikG2ZYbmShkf9kmP8DsFUaVp9_ZaEdnaF5w\"><strong><em>Gallwch ei gefnogi drwy ei dudalen Just Giving<\/em><\/strong><\/a><strong><em>.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Owain Davies (International Relations and Politics 2019 -)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Allwch chi ddweud wrthym am eich llwybr rhithwir?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4417\" width=\"174\" height=\"174\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d.jpg 695w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/06\/Screenshot_20200530_162024_com.android.gallery3d-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 174px) 100vw, 174px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wel, mae fy llwybr rhithwir innau o Faesteg i Newcastle (405km) ond beth fyddai\u2019n ei wneud mewn gwirionedd fydd rhedeg yn ac o gwmpas fy nghwm lleol. Ni fydd yn debyg i redeg ar felin draed, ond ni fyddaf yn rhedeg i Newcastle go iawn chwaith! Byddaf yn hytrach yn cronni\u2019r cilometrau yn fy ardal fy hun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oes gennych chi unrhyw brofiad rhedeg blaenorol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Na, dim mewn gwirionedd! Fe wnes i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd dros y Nadolig ac fe wnes i brynu esgidiau rhedeg. Pan osodwyd y cyfyngiadau symud, fe benderfynais i gychwyn rhedeg. Rwyf fel arfer yn chwarae rygbi a sboncen, ond nid wyf yn rhedwr profiadol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth eich ysgogi i godi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n achos gwerth chweil ac mae iechyd meddwl wedi dod yn amlycach i bobl yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae unrhyw beth sy\u2019n gallu helpu, unrhyw ddatblygiadau yn ein dealltwriaeth o sut mae\u2019r ymennydd yn gweithio a sut mae\u2019n gweithredu, yn gam cadarnhaol ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae eich bywyd wedi newid o ganlyniad i COVID-19?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy mywyd wedi newid o fod 100 milltir yr awr i 0 milltir yr awr. Yr her rhedeg hon yw\u2019r unig beth sydd wedi fy nghadw yn heini ac yn gwneud ymarfer corff rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019n rhaid fod gan ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud ei heriau. Pa rwystrau ydych wedi eu hwynebu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">C\u0175n! Fe es i redeg i brofi pecyn hydradu newydd ac wrth i mi fynd heibio t\u0177 mawr daeth pump o g\u0175n rhydd dros y stryd ar fy \u00f4l. Roedd yn rhaid i mi stopio am funud neu byddent wedi dal i redeg ar fy \u00f4l!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A pha fuddiannau sydd wedi dod ohono?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhedeg, i mi, wedi bod yn rhywbeth i ganolbwyntio arno yn ystod y cyfyngiadau symud. Am yr wythnosau cyntaf roeddwn yn ddibwrpas, ond rhoddodd hyn gyfeiriad i mi. Mae\u2019n rhywbeth i weithio tuag at a rhywbeth rwy\u2019n teimlo mae\u2019n rhaid i mi ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer pobl eraill sy\u2019n ystyried menter debyg?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw unrhyw beth yn rhy fach. Mae unrhyw beth hoffech roi cynnig arni &#8211; boed yn wneud deg ymwthiad y dydd &#8211; yn helpu a gallwch ddatblygu o fanno. Yr her fwyaf yw penderfynu ei wneud. Pan ddaw yn rhan o\u2019ch trefn dyddiol byddwch chi\u2019n ymdopi\u2019n hawdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Owain wedi hel \u00a3330 hyd yn hyn ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd a <\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/justgiving.com\/fundraising\/Owain-Davies10\"><strong><em>gallwch ei gefnogi drwy ei dudalen Just Giving<\/em><\/strong><\/a><strong><em>.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/alumni\/get-involved\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\">Gallwchgofrestru eich diddordeb i ymuno \u00e2 #T\u00eemCaerdydd <\/a>a chodi arian ar gyfer ymchwil pwysig ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tra bo\u2019r cyfyngiadau symud ar waith, mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol i godi arian ar gyfer achosion pwysig. Mae sawl marathon a ras wedi cael eu canslo, ond nid yw Josh Little (MEng 2019) ac Owain Davies (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019 -) wedi gadael i hynny eu rhwystro rhag codi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o #T\u00eemCaerdydd. Maent wedi penderfynu mynd i\u2019r afael \u00e2 heriau newydd sydd o fewn y canllawiau...","protected":false},"author":1811,"featured_media":4419,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[170],"tags":[],"class_list":["post-4423","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4423","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4423"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4423\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4428,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4423\/revisions\/4428"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4419"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4423"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4423"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4423"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}