{"id":4400,"date":"2020-05-29T09:19:27","date_gmt":"2020-05-29T09:19:27","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4400"},"modified":"2020-06-09T07:53:14","modified_gmt":"2020-06-09T07:53:14","slug":"11-podlediad-poblogaidd-gan-gynfyfyrwyr-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/05\/29\/11-podlediad-poblogaidd-gan-gynfyfyrwyr-caerdydd\/","title":{"rendered":"11 podlediad poblogaidd gan gynfyfyrwyr Caerdydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/podcast-blog-lead.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4397\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/podcast-blog-lead.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/podcast-blog-lead-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/podcast-blog-lead-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/podcast-blog-lead-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae ein cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn griw creadigol sydd wedi canfod ffordd i gyrraedd llawer drwy b\u0175er y podlediad. P\u2019un a ydych awydd chwerthin, gwers werthfawr neu gyngor defnyddiol, rydym wedi casglu ychydig o\u2019r nifer o bodlediadau poblogaidd gan ein cynfyfyrwyr medrus a dawnus i\u2019ch helpu i ladd amser.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">1 &#8211; Hank!<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r podlediad bwyd Caerdydd hwn yn cael ei gyflwyno gan Matt Appleby a <strong>Jane Cook (BA 2008)<\/strong> a gychwynnodd <a href=\"http:\/\/www.hungrycityhippy.co.uk\">flog bwyd a chynaliadwyedd<\/a> flynyddoedd lawer yn \u00f4l. Cychwynnodd Jane ei thaith mewn bwyd a choginio yn ystod ei hamser fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar \u00f4l graddio symudodd i Lundain a dechreuodd ymwneud mwy \u00e2\u2019r s\u00een fwyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r podlediad hwn yn berffaith ar gyfer pobl sy\u2019n caru bwyd a&#8217;r rheiny sy\u2019n bwriadu prynu a gwneud prydau mewn ffordd eco-gyfeillgar. Yn <a href=\"https:\/\/www.spreaker.com\/user\/bengomedia\/episode-4-riverside-markets-20th-anniver\">Rhaglen 4<\/a> maent yn dathlu ugain mlynedd o un o sefydliadau Caerdydd, Marchnad Glan-yr-afon, ac yn siarad gyda\u2019r sylfaenydd sydd hefyd yn gynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, <strong>Steve Garrett (MSc 2009)<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: Hank! A Cardiff Food Podcast\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/7DKK0H7tvu10baX26bkHPR?si=fJ99YQVQS_Kxrx3smeIOBw&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">2 &#8211; In the Moment<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Sarah Orme (MA 2009)<\/strong> yn fyfyriwr graddedig newyddiaduraeth ac yn gyflwynydd i\u2019r podlediad arobryn In the Moment. Mae hwn yn bodlediad ymwybyddiaeth ofalgar sy\u2019n anelu i helpu gwrandawyr i ddod o hyd i ychydig o heddwch a thawelwch yn eu bywydau prysur. Mae Sarah yn cyfweld awduron, academyddion a hyfforddwyr lles i roi cyngor ar sut i gysgu\u2019n well, bwyta\u2019n iach a byw bywyd llawn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: A Calmer Life\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/3UuZL5u2hSt13O8XYzpnbQ?si=931PrzfiQZuAJiu2D-3WDA&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">3 &#8211; Straeon Graddedigion Seicoleg<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yma cawn raddedigion seicoleg Prifysgol Caerdydd yn trafod eu hastudiaethau, eu profiadau mewn gwahanol feysydd seicoleg, a beth mae eu gyrfaoedd yn cynnwys. Gallwch gymryd golwg ar sut beth yw gweithio fel ymchwilydd neu seicolegydd fforensig, ynghyd \u00e2 darganfod yr heriau a\u2019r gwobrau o weithio o fewn y trydydd sector, yr heddlu a busnesau mawr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Grandwech yma:  <\/strong><a href=\"https:\/\/player.fm\/series\/psychology-graduate-stories-cardiff-uni\"><strong>https:\/\/player.fm\/series\/psychology-graduate-stories-cardiff-uni<\/strong><\/a><strong> <\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">4 &#8211; Inside the Petri Dish<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Alice Gray (BSc 2013)<\/strong> yn gweithio mewn cyfathrebu ac yn arbenigo mewn cyfathrebu gwyddonol ac ymchwil. Mae\u2019n defnyddio\u2019r sgiliau hyn a\u2019i harbenigedd i gyd-gyflwyno Inside the Petri Dish, podlediad sy\u2019n edrych ar bynciau dadleuol o fewn gwyddoniaeth. Mae Alice yn cyfweld gwyddonwyr ac arbenigwyr i archwilio pwnc gwahanol pob rhaglen, gan gadw\u2019r cynnwys yn ffres, deallus a diddorol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: Inside The Petri Dish\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/16tCJkAO45or2UjId0a51F?si=1jsMcwZJRHaG5HIzcKeKHw&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">5 &#8211; Podlediad Archaeoleg Caerdydd<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r podlediad hwn yn cynnwys siaradwyr o brifysgolion eraill, trafodaethau gr\u0175p gydag academyddion a myfyrwyr, a darlithoedd wedi\u2019u recordio. Mae\u2019r rhaglenni yn dyddio i chwe blynedd yn \u00f4l, ond mae\u2019r pynciau yn berthnasol o hyd ac yr un mor ddiddorol, gan gynnwys amaethyddiaeth Roegaidd, pobl fodern cynnar, cynnydd a chwymp y wladwriaeth Eifftaidd a mwy. Er pa mor aml caiff ei recordio mewn ystafell llawn pobl, mae ansawdd y sain yn glir a\u2019r siaradwyr yn ddiddorol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Listen here:  <\/strong><a href=\"https:\/\/player.fm\/series\/audio-and-video-cardiff-archaeology-podcasts\"><strong>https:\/\/player.fm\/series\/audio-and-video-cardiff-archaeology-podcasts <\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">6 &#8211; That HR Podcast<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae That HR Podcast, a lansiwyd gan <strong>Emily Burt (MA 2016)<\/strong>, yn canolbwyntio ar adnoddau dynol a rheoli busnes, gan edrych ar bopeth o adrodd ar y bwlch rhwng cyflogau dynion a merched a phrentisiaethau i gynhyrchiant a rheoli argyfwng. Mae\u2019r gwesteion yn cynnwys amrywiaeth o Brif Weithredwyr, rheolwyr ymchwil, arbenigwyr a golygyddion. Gallwch hefyd <a href=\"https:\/\/www.peoplemanagement.co.uk\/voices\/podcasts\/that-hr-podcast-14-four-day-week?fbclid=IwAR2pRswHiDOEUSGmppHGO24lL3q6U4-bLYnlNe3o7DVXYegYW9BmjMbjn3w\">glywed llais y cynfyfyriwr, <\/a><strong><a href=\"https:\/\/www.peoplemanagement.co.uk\/voices\/podcasts\/that-hr-podcast-14-four-day-week?fbclid=IwAR2pRswHiDOEUSGmppHGO24lL3q6U4-bLYnlNe3o7DVXYegYW9BmjMbjn3w\">Lauren Brown (MA 2018)<\/a> <\/strong>sy\u2019n cyd-gyflwyno llawer o\u2019r rhaglenni.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: What If?\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/6AoGggSZ3Txa4URr1Urx0j?si=AGrXUGbCTgK23n3mA9eHhA&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">7 &#8211; Elis James and John Robins<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Elis James (MA 2005)<\/strong> yw un hanner o\u2019r deuawd hamddenol a doniol yma. Mae\u2019r cynnwys yn ysgafn ac amrywiol gan greu gwledd i\u2019r glust sy\u2019n llawn tynnu coes, pysgod a sglodion a chyngor cnofilod. Nid yw hwn yn un i gymryd o ddifri yn ormodol, ond mae\u2019n sicr yn un dymunol i ladd amser. Nid yw\u2019r cyfyngiadau symud wedi eu rhwystro rhag eu mwydro dibwys, ond yn hytrach, mae wedi eu sbarduno ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: Elis James and John Robins\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/6D8o3LYJnRrx9qCDBSa62l?si=fjNmSl3ERt-ky8qLsqKSSQ&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">8 &#8211; The Socially Distant Sports Bar<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma bodlediad arall sy\u2019n cael ei gyd-gyflwyno gan gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Elis James a <strong>Steffan Garrero (PgDip 2000)<\/strong>. Y \u2018Socially Distant Sports Bar\u2019 yw\u2019r ateb i\u2019r cwestiwn: \u201cLle awn i siarad am chwaraeon gan fod y tafarndai wedi cau?\u201d Mae Elis yn \u2018cyfarfod\u2019 Mike Bubbins a Steff Garrero i siarad am bopeth sy\u2019n ymwneud \u00e2 chwaraeon ac i awgrymu rhaglenni dogfen, llyfrau a phodlediadau i gadw cefnogwyr chwaraeon yn eu iawn bwyll yn ystod y cyfyngiadau symud.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: The Socially Distant Sports Bar\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/32TCAZClErWNRfDoI2YD2d?si=ttna0bFMQhGmFZyybwroGA&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">9 &#8211; Brain Yapping &#8211; The Podcast<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Dr Dean Burnett (PhD 2011) <\/strong>yn niwrowyddonydd a oedd yn arfer gweithio fel tiwtor seiciatreg a darlithydd yng Nghanolfan Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd ac mae\u2019n gydymaith ymchwil anrhydeddus yn Ysgol Seicoleg Caerdydd. Ond, heb yn wybod i rai, mae hefyd yn bodlediwr llwyddiannus. Mae Brain Yapping yn bodlediad heb ei sgriptio sy\u2019n edrych ar sut mae\u2019r ymennydd yn gweithio mewn sefyllfaoedd bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: Brain Yapping\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/1D8wa0Fd3jZvFFHW0viOAR?si=MKFU1u5DTKyIo-SLo7nxBg&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">10 &#8211; Smart Welsh People<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Podlediad arall gan Dr Dean Burnett ond mae hwn yn canolbwyntio ar y Cymry a diwylliant Cymreig. Mae Dr Burnett yn siarad \u00e2 Chymry o bob cefndir er mwyn darganfod beth yw eu safbwynt ar hunaniaeth Gymreig a lleoliad Cymru yn y byd. Mae\u2019n siarad \u00e2 chomediwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, awduron ac actorion er mwyn deall beth mae\u2019n olygu i fod yn Gymro yn 2020.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-spotify wp-block-embed is-type-rich is-provider-spotify wp-embed-aspect-21-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Spotify Embed: Smart Welsh People with Dean Burnett\" style=\"border-radius: 12px\" width=\"100%\" height=\"152\" frameborder=\"0\" allowfullscreen allow=\"autoplay; clipboard-write; encrypted-media; fullscreen; picture-in-picture\" loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/open.spotify.com\/embed\/show\/43xDE5OBXCsoTXerUJOZHK?si=6Gvlf-l1Qxu0M1M_ebDPAw&#038;utm_source=oembed\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">11 &#8211; Podlediad Prifysgol Caerdyd<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyflwynwyr a gwesteion y podlediad hwn yn cynnwys ymgyrchwyr hawliau dynol, amgylcheddwyr, athrawon prifysgol, arbenigwyr a ffigurau gwleidyddol. Er nad oes rhaglenni newydd wedi cael eu recordio eto, mae\u2019n cynnwys gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, y gyfraith ac economeg. Yn ddadleuol ac yn ysgogi\u2019r meddwl, mae\u2019r cynnwys ym mhodlediad Prifysgol Caerdydd yn amrywio o gyfweliadau i ddarlithoedd ac maent yn darparu ysbrydoliaeth a rhywbeth i gnoi cil drosto.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Grandwech yma: <\/strong><a href=\"https:\/\/player.fm\/series\/cardiff-university\"><strong>https:\/\/player.fm\/series\/cardiff-university<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae ein cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn griw creadigol sydd wedi canfod ffordd i gyrraedd llawer drwy b\u0175er y podlediad. P\u2019un a ydych awydd chwerthin, gwers werthfawr neu gyngor defnyddiol, rydym wedi casglu ychydig o\u2019r nifer o bodlediadau poblogaidd gan ein cynfyfyrwyr medrus a dawnus i\u2019ch helpu i ladd amser.","protected":false},"author":1811,"featured_media":4397,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-4400","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4400","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4400"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4400\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4431,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4400\/revisions\/4431"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4397"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4400"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4400"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4400"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}