{"id":4360,"date":"2020-05-13T14:32:35","date_gmt":"2020-05-13T14:32:35","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4360"},"modified":"2024-10-08T12:48:09","modified_gmt":"2024-10-08T12:48:09","slug":"cerflun-ar-gyfer-arglwyddes-rhondda-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/05\/13\/cerflun-ar-gyfer-arglwyddes-rhondda-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda &#8211; I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" class=\"wp-image-4354\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-1024x576.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/juliebloglead_linkedin.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd. <\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Rhondda, oedd un o fenywod amlycaf yr ugeinfed ganrif \u2013 yn ymgyrchydd hawliau menywod a dylanwad diwylliannol am sawl degawd. Mae ei CV anhygoel yn cynnwys bod yn garcharor swffrag\u00e9t, sefydlu a golygu\u2019r cyfnodolyn amlycaf rhwng y rhyfeloedd, Time &amp; Tide, ac yn 1950 dod yn Llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy; y sefydliad a fyddai\u2019n dod yn Brifysgol Caerdydd<sup>1<\/sup>. Dywedodd y pennaeth ar y pryd, Anthony Steele, fod ei hetholiad \u2018yn nhraddodiad gorau\u2019r peidio gwahaniaethu yn \u00f4l rhyw sydd yn y coleg\u2019.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y tro cyntaf i mi glywed am Arglwyddes Rhondda oedd mewn sylw a wnaeth siaradwr wrth fynd heibio yng Ng\u0175yl y Gelli yn 2013. Roedd Margaret Haig Mackworth (n\u00e9e Thomas) wedi sefydlu\u2019r gangen Swffrag\u00e9t leol yng Nghasnewydd ac wedi ffrwydro fy mlwch postio lleol, fel rhan o\u2019r ymgyrch llosgi bwriadol cenedlaethol gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU). Mae bywyd Arglwyddes Rhondda yn llawn digwyddiadau arwyddocaol ac arloesi ffeministaidd; goroesodd suddo\u2019r Lusitania, cymerodd yr awenau i ymerodraeth fusnes rhyngwladol ei thad, ac yn 1926 cafodd ei hethol yn llywydd benywaidd cyntaf yr Institute of Directors. Yn ei blynyddoedd diweddarach, brwydrodd i fod y fenyw gyntaf i gael sedd yn Nh\u0177\u2019r Arglwyddi. Mae <a href=\"https:\/\/www.parliament.uk\/about\/living-heritage\/transformingsociety\/electionsvoting\/womenvote\/parliamentary-collections\/collections-the-vote-and-after\/lady-rhondda\/\">ei phortread<\/a> yn hongian yn ystafell fwyta T\u0177\u2019r Arglwyddi heddiw. Ni allwn ddeall pam nad oeddwn wedi clywed am Arglwyddes Rhondda ynghynt; fel rhywun sydd \u00e2 diddordeb mewn hanes lleol a chyfiawnder cymdeithasol, sut gallai menyw gyda chymaint o lwyddiant ac arwyddoc\u00e2d gael ei anghofio mor gyflym?<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Penderfynais wneud <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-22740340\">cofeb o flodau a baneri<\/a> yn 2013 wrth y blwch postio i ddathlu can mlynedd ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw. Cafodd cysylltiadau ei gwneud &#8211; diolch i fy niweddar AS rhagorol, Paul Flynn &#8211; gyda Jayne Bryant, a fydd yn Aelod Cynulliad cyn bo hir, ac AS Dwyrain Casnewydd Jessica Morden, y ddwy ohonynt yn hoff iawn o Arglwyddes Rhondda. Cysylltais \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.parthianbooks.com\/products\/turning-the-tide\">chofiannydd<\/a> Arglwyddes Rhondda, yr Athro Angela V John, y <a href=\"http:\/\/www.windingsnake.com\/projects\/bird-in-a-cage\">gwneuthurwr ffilmiau<\/a> Amy Morris, a llawer o fenywod lleol eraill, a daeth pawb ynghyd i ffurfio criw o selogion Arglwyddes Rhondda.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd cynllun ei drefnu i sicrhau cofeb fwy parhaol; fe gydlynais ymgyrch codi arian i gael plac glas. Yn 2015\u00a0<a href=\"https:\/\/www.southwalesargus.co.uk\/news\/13329876.watch-the-unveiling-of-a-blue-plaque-in-honour-of-newports-firebrand-feminist-lady-rhondda\/\">fe wnaethom ddadorchuddio\u2019r plac<\/a>\u00a0wrth y blwch postio a roddodd Arglwyddes Rhondda ar d\u00e2n, y gofeb gyhoeddus hir-ddisgwyliedig cyntaf i Arglwyddes Rhondda yn ei thref genedigol, Casnewydd.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"257\" class=\"wp-image-4356\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/statue-for-lady-rhondda-group-300x257.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/statue-for-lady-rhondda-group-300x257.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/statue-for-lady-rhondda-group-768x659.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/statue-for-lady-rhondda-group-1024x878.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/05\/statue-for-lady-rhondda-group.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2018, wedi\u2019n hysbrydoli gan y nifer o\u00a0<a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/must-treasure-brave-women-who-14587620\">gerfluniau oedd yn ymddangos<\/a>\u00a0ar draws Lloegr i ddathlu canrif o bleidlais i fenywod, cysylltom ninnau &#8211; \u2018<a href=\"https:\/\/www.jessicamorden.com\/news\/2019\/12\/01\/lady-rhondda-statue-team\/\">y criw o selogion Arglwyddes Rhondda\u2019<\/a>\u00a0&#8211; \u00e2 mudiad \u2018Monumental Welsh Women\u2019 drwy ymgyrch\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/programmes\/profiles\/4Tz2cH6JnlT0Rc1kwRyWkx6\/hidden-heroines\">Menywod Mawreddog<\/a>\u00a0y BBC, mudiad sy\u2019n anelu i godi arian ar gyfer pump o gerfluniau newydd o fenywod ar draws Cymru yn y bum mlynedd nesaf. Yn 2019 fe anwyd yr ymgyrch \u2018Statue for Lady Rhondda\u2019.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diolch i Lywodraeth Cymru, fe dderbynion swm hael o \u00a320,000 tuag at ein targed o \u00a3100,000. Cafodd llawer o sefydliadau eu heffeithio gan athrylith a chefnogaeth Arglwyddes Rhondda yn ystod ei hoes, ac rydym yn ddiolchgar iawn i\u2019r sefydliadau hynny sy\u2019n gallu cyfrannu\u2019n uniongyrchol neu gefnogi\u2019r ymgyrch. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Brifysgol Caerdydd am rodd tuag at y cerflun ac ystyriaeth iddi ar gyfer yr\u00a0ymgyrch\u00a0<a href=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/cardiffs-notable-names\">Enwau Nodedig<\/a>\u00a0(fe bleidleisiais i dros Lady R, gan iddi hithau frwydro dros fy mhleidlais!).\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n darganfod rhywbeth newydd am Arglwyddes Rhondda yn weddol reolaidd. Fel rhywun sydd wedi cael gradd Meistr mewn Materion Tai ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi gweithio mewn gwasanaethau Tai Cymdeithasol a Digartrefedd ers dros 20 mlynedd, roeddwn yn arbennig o falch o glywed fod y gr\u0175p Women\u2019s Pioneer Housing wedi darganfod ei bod yn un o\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.insidehousing.co.uk\/insight\/insight\/the-women-who-reinvented-housing-55400\">noddwyr gwreiddiol i\u2019r sefydliad<\/a>.\u00a0Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel oedd y genedl yn sicrhau cartrefi ar gyfer arwyr y rhyfel, roedd Arglwyddes Rhondda yn\u00a0cefnogi mynediad menywod at dai da, fforddiadwy hefyd. Roedd hithau yno ar gychwyn y mudiad maes tai modern.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i mi ysgrifennu\u2019r erthygl hon, nid oes cerflun cyhoeddus o fenyw wedi\u2019i henwi yng Nghymru, ond y newyddion da yw bod llawer ar y gweill, diolch i grwpiau lleol fel \u2018Statue for Lady Rhondda\u2019. Mae menywod Cymreig dylanwadol yn haeddu cael eu dathlu a\u2019u cofio, yn enwedig i helpu ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, crewyr a meddylwyr o\u2019r ddau ryw. Mae \u2018Statue for Lady Rhondda\u2019 yn anelu unioni\u2019r cam presennol yn erbyn menywod. Ewch ati i ddysgu mwy am yr\u00a0<a href=\"http:\/\/monumentalwelshwomen.org\/about-us\">Ymgyrch \u2018Monumental Welsh Women\u2019<\/a>\u00a0a\u2019r gr\u0175p\u00a0<a href=\"https:\/\/uk.gofundme.com\/f\/statue-for-lady-rhondda\">\u2018Statue for Lady Rhondda\u2019<\/a>\u00a0ac ymunwch. Gallwn wneud hyn!<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><sup>1<\/sup> Turning the Tide: The Life of Lady Rhondda, Angela V John, Parthian:2013<br \/><br \/><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h6 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/h6>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych<\/a>\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\">rhestr o ddigwyddiadau byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd. ","protected":false},"author":904,"featured_media":4354,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,203],"tags":[],"class_list":["post-4360","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4360","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4360"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4360\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10066,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4360\/revisions\/10066"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4354"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4360"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4360"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4360"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}