{"id":4328,"date":"2020-05-01T11:00:02","date_gmt":"2020-05-01T11:00:02","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4328"},"modified":"2020-05-01T10:58:43","modified_gmt":"2020-05-01T10:58:43","slug":"cynfyfyrwyr-caerdydd-camu-ymlaen-yn-ystod-argyfwng","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/05\/01\/cynfyfyrwyr-caerdydd-camu-ymlaen-yn-ystod-argyfwng\/","title":{"rendered":"Cynfyfyrwyr Caerdydd: camu ymlaen yn ystod argyfwng"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"547\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/virus-4937553_1920-1024x547.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4314\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/virus-4937553_1920-1024x547.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/virus-4937553_1920-600x320.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/virus-4937553_1920-300x160.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/virus-4937553_1920-768x410.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/virus-4937553_1920.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae aelodau o deulu Caerdydd bellach yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i\u2019r afael \u00e2 COVID-19. P\u2019un a oes ganddynt gefndir mewn peirianneg, meddygaeth, cyfathrebu, cyfrifiadureg, busnes neu chwaraeon, mae\u2019r cynfyfyrwyr hyn o Brifysgol Caerdydd yn rhoi eu hamser, eu hegni a\u2019u sgiliau i ymladd yn erbyn pandemig y coronafeirws.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai o\u2019r straeon anhygoel am bobl o bob cwr o\u2019r byd yn ogystal ag yn agosach at adref. Os ydych chi, eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesi, yn addasu neu\u2019n gwneud gwahaniaeth yn ystod yr argyfwng, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dr Cameron Durrant (MBBCh 1983)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Dr Durant gefndir helaeth ym maes clefydau heintus, ac mae\u2019n brif swyddog gweithredol yn Humanigen Inc, sef cwmni sydd wedi cael cymeradwyaeth gan yr FDA i wneud defnydd tosturiol o\u2019i <a href=\"https:\/\/www.proactiveinvestors.com\/companies\/news\/915556\/humanigen-plans-phase-iii-clinical-trial-for-lenzilumab-to-treat-symptoms-of-coronavirus-patients-915556.html\">astudiaeth Cam III o lenzilumab ymhlith cleifion COVID-19<\/a>. Mae\u2019r treial yn defnyddio lenzilumab i drin storm sytocin; cemegau yn y gwaed sydd, wrth gael eu sbarduno, yn debygol o achosi syndrom anadlol ac\u00edwt (ARS), sy\u2019n gysylltiedig ag achosion mwy difrifol o\u2019r coronafeirws.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Eglura Dr Durant: &#8220;Rydym yn cynllunio astudiaeth Cam III i ddechrau ar unwaith ymhlith cleifion sydd mewn perygl uchel o ddatblygu, ond nad ydynt eto ar beiriant anadlu nac yn yr Uned Gofal Dwys ac i atal syndrom trallod anadlol ac\u00edwt. Os byddwn yn llwyddiannus, bydd yn achub bywydau ac yn lleihau rhai o\u2019r pwysau llethol ar adnoddau prin, drud sydd eisoes dan bwysau ym maes gofal iechyd hefyd.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Leighton John (BEng 1999)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Leighton yn gyfarwyddwr gweithrediadau yn y Bathdy Brenhinol, sydd yn ddiweddar wedi newid o wneud darnau arian i wneud feisorau amddiffynnol ar gyfer y GIG. Mae si ar led eu bod wedi creu\u2019r dyluniadau meddygol ar gyfer y feisorau ar \u00f4l 48 awr yn unig. Mae\u2019r Bathdy Brenhinol yn awyddus i gael mwy o ddeunyddiau crai gyda\u2019r gobaith o greu miloedd o\u2019r feisorau hyn a helpu staff y GIG ar y rheng flaen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth siarad \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/royal-mint-switches-making-coins-17993769\">WalesOnline<\/a>, dywedodd Leighton: \u201cMae fy chwaer i\u2019n gweithio i\u2019r GIG ac mae\u2019n gwneud i chi feddwl go iawn am yr heriau y maen nhw\u2019n eu hwynebu a\u2019r cyfle sydd gennym i\u2019w cefnogi.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-twitter wp-block-embed is-type-rich is-provider-twitter\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\"><p lang=\"en\" dir=\"ltr\">We are supplying 1.9 million medical visors exclusively to the <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/NHS?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#NHS<\/a> to help protect medical workers from <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/coronavirus?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#coronavirus<\/a>. To reach that number, our dedicated team are producing over 100,000 per week. More here &gt;&gt; <a href=\"https:\/\/t.co\/IWbY8IZ92b\">https:\/\/t.co\/IWbY8IZ92b<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/StayHome?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#StayHome<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/NHSuk?ref_src=twsrc%5Etfw\">@NHSuk<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/PublicHealthW?ref_src=twsrc%5Etfw\">@PublicHealthW<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/NHSHeroes?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#NHSHeroes<\/a> <a href=\"https:\/\/t.co\/bwIpBZWXdm\">pic.twitter.com\/bwIpBZWXdm<\/a><\/p>&mdash; The Royal Mint (@RoyalMintUK) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/RoyalMintUK\/status\/1254780692342337541?ref_src=twsrc%5Etfw\">April 27, 2020<\/a><\/blockquote><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Strive Masiyiwa (BEng 1985, Hon 2019) <\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Strive Masiyiwa yn ddyn busnes llwyddiannus ac yn sylfaenydd Econet Global. Mae wedi rhoi 45 o beiriannau anadlu i unedau gofal dwys Zimbabwe, ac mae\u2019n <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/strivemasiyiwa\/\">rhan o fenter<\/a> sy\u2019n pwyso am gronfa ysgogi ar gyfer llywodraethau yn Affrica i helpu eu busnesau a\u2019u hentrepreneuriaid. Mae Ecosure, rhan o gr\u0175p Econet, yn <a href=\"https:\/\/uk.reuters.com\/article\/health-coronavirus-zimbabwe-idUKL8N2BK6X4\">cynnig yswiriant bywyd ac iechyd<\/a> i feddygon a nyrsys, lwfans arian parod dyddiol os ydynt yn cael eu derbyn i\u2019r ysbyty wrth weithio a thrafnidiaeth am ddim am hyd at flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=TsBaSD0YjZo&amp;feature=youtu.be\">siaradodd Strive \u00e2 ni ar \u00f4l seremon\u00efau graddio 2019<\/a> (cyn achosion y coronafeirws) esboniodd ei bod hi\u2019n bwysig defnyddio eich cyflawniadau \u201cer budd dynoliaeth,\u201d ac mae\u2019n sicr yn ymddangos ei fod yn ymarfer yr hyn a bregethodd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dr Steve Margetts (PhD 2001) and Helen Jones (BA 2001)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Dr Steve Margetts (VP peirianneg) a Helen Jones (CFO) yn gweithio i Intelligent Ultrasound, sef cwmni sy\u2019n helpu i hyfforddi clinigwyr yn Ysbyty Nightingale y GIG i gynnal uwchseiniau o\u2019r ysgyfaint. Mae\u2019r Efelychwyr Uwchsain Pwynt Gofal (PoCUS) wedi\u2019u rhoi yn yr uned gofal dwys a sefydlwyd yng nghanolfan ExCel Llundain gyda\u2019r nod o drin cleifion \u00e2 COVID-19.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Thomas Grother (BSc 2018, Medicine 2014-)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Thomas Grother, sydd yn fyfyriwr meddygol yn y flwyddyn olaf, bellach yn gweithio ar y rheng flaen yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn dilyn ei gwrs chwe blynedd. Ar \u00f4l dysgu drwy\u2019r Brifysgol fod y GIG yn chwilio am gymorth, cynigiodd ei wasanaethau ac mae\u2019n defnyddio ei sgiliau i helpu gyda\u2019r achos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Thomas wrth <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/health\/medical-students-joining-fight-against-18096713\">WalesOnline<\/a>: &#8220;Yn amlwg, mae bywydau pawb wedi\u2019u troi wyneb yn waered gan y sefyllfa bresennol, ac nid yw\u2019n ddelfrydol i fyfyrwyr fynd i ysbytai sydd wedi\u2019u newid rhywfaint, ond rwyf wedi teimlo\u2019n fodlon ac yn barod i fynd ati i helpu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-twitter wp-block-embed is-type-rich is-provider-twitter\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\"><p lang=\"en\" dir=\"ltr\">Really proud to be playing a part with <a href=\"https:\/\/twitter.com\/CwmTafMorgannwg?ref_src=twsrc%5Etfw\">@CwmTafMorgannwg<\/a> and <a href=\"https:\/\/twitter.com\/CardiffMBBChC21?ref_src=twsrc%5Etfw\">@CardiffMBBChC21<\/a> to help at Royal Glamorgan Hospital in my hometown. <a href=\"https:\/\/t.co\/AIMX0h6uRD\">https:\/\/t.co\/AIMX0h6uRD<\/a><\/p>&mdash; Thomas Grother (@ThomasGrother) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/ThomasGrother\/status\/1250507475138351105?ref_src=twsrc%5Etfw\">April 15, 2020<\/a><\/blockquote><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Amelia Tee (BSc 2018, Medicine 2014-)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Amelia (Millie) ar leoliad gwaith mewn ysbyty dramor pan ddaeth ar draws COVID-19 am y tro cyntaf. Roedd ganddi un lleoliad yn weddill i\u2019w gwblhau yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ond yn hytrach, mae hi wedi derbyn r\u00f4l reng flaen yn y GIG yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ymysg tasgau eraill, mae hi\u2019n gofalu am yr henoed wrth iddynt gael eu profi am y feirws.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth siarad \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/health\/medical-students-joining-fight-against-18096713\">WalesOnline<\/a>, dywedodd Millie: \u201cRwy\u2019n edrych ymlaen at allu teimlo fy mod wedi cyfrannu at yr ymdrech.\u201d<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rupert Jones (BSc 1990)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r cynfyfyriwr o Gaerdydd, Rupert Jones, yn rheolwr gyfarwyddwr yn Renishaw Medical Ltd. Mae Renishaw wedi rhoi cyfran o\u2019i safleoedd yn Swydd Gaerloyw ac yn ne Cymru i gyfrannu at ymdrechion <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/ventilator-challenge-uk\/\">consortiwm VentilatorChallengeUK<\/a>, sef gr\u0175p pwrpasol ar gyfer gweithgynhyrchu peiriannau anadlu meddygol. Mewn ymdrech t\u00eem go iawn, maen nhw wedi cydweithio \u00e2 chwmn\u00efau eraill i helpu i gynhyrchu ar raddfa fwy.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Martin Lewis (PGDip 1998, Hon 2017) <\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Martin Lewis, sylfaenydd Money Saving Expert, yn rhoi <a href=\"https:\/\/www.moneysavingexpert.com\/#coronavirus\">cyngor ariannol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r coronafeirws<\/a> y mae mawr alw amdano i\u2019r cyhoedd, megis sut i hawlio treth yn \u00f4l wrth weithio gartref, cyngor am gynllun furlough, hawliau o ran teithio a sgamiau ar-lein i fod yn wyliadwrus ohonynt. Trwy gydweithio \u00e2\u2019r Llywodraeth a banciau, mae Martin yn cynnig gwasanaeth ymarferol ac yn defnyddio ei arbenigedd i helpu\u2019r rhai sy\u2019n ei chael hi\u2019n anodd o dan yr amodau presennol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Jamie Roberts (MBBCh 2013)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae seren rygbi Cymru a chynfyfyriwr meddygol Caerdydd, Jamie Roberts, yn cyfrannu drwy fod yn gymrawd arloesedd clinigol i\u2019r GIG, saith mlynedd ar \u00f4l derbyn ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei r\u00f4l yn un ysgogol ac yn canolbwyntio ar gyfathrebu. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn rhannu ei brofiadau o\u2019r rheng flaen drwy <a href=\"https:\/\/docrobertsblog.wordpress.com\">blogiau<\/a> ac ar <a href=\"https:\/\/twitter.com\/Jamiehuwroberts\">y cyfryngau cymdeithasol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Jamie wrth <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/sport\/rugby\/rugby-news\/wales-rugby-player-jamie-roberts-18058216\">WalesOnline<\/a> bod ganddo \u201cradd feddygol o Brifysgol Caerdydd,\u201d gan ychwanegu, \u201cGraddiais yn 2013 ac rwyf wedi gwneud ychydig o ymchwil ers hynny [\u2026] Byddwn i wrth fy modd yn helpu\u2019r achos yma yng Nghaerdydd gyda\u2019r bwrdd iechyd a\u2019m helpodd i hyfforddi fel meddyg.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-twitter wp-block-embed is-type-rich is-provider-twitter\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\"><p lang=\"en\" dir=\"ltr\">Privilege to be able to volunteer for the Cardiff &amp; Vale NHS trust <a href=\"https:\/\/twitter.com\/CV_UHB?ref_src=twsrc%5Etfw\">@CV_UHB<\/a> <br><br>The first three days have been busy and am witnessing first hand another level of work ethic,attitude and resilience by people in extraordinary circumstances. The machine that is the NHS is remarkable<\/p>&mdash; Jamie Roberts (@Jamiehuwroberts) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/Jamiehuwroberts\/status\/1247999253013827585?ref_src=twsrc%5Etfw\">April 8, 2020<\/a><\/blockquote><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dr Rebecca Jordache (MBBCh 2019)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y chwaraewr lacrosse rhyngwladol a meddyg yn y GIG, Rebecca Jordache, yn gweithio ar y rheng flaen ond cafodd COVID-19 yn ddiweddar. Gan ei bod hi newydd ymuno \u00e2\u2019r proffesiwn meddygol, naw mis yn unig yr oedd hi wedi bod yn ymarfer cyn iddi gamu ymlaen i chwarae ei rhan yn y pandemig. Yn ffodus, gyda symptomau coronafeirws ysgafn, mae hi wedi gallu gwella gartref ond mae&#8217;n awyddus i ddychwelyd i helpu eraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan ofynnwyd iddi am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd: \u201cGwnaeth Caerdydd fy hyfforddi i gael y gallu i wynebu gweithio yn ystod y cyfnodau heriol hyn, ac rwy\u2019n ddiolchgar iawn ac yn falch o fod yn un o raddedigion Caerdydd! \u201d<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Andy Mallows (MBA 1994) <\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Andy Mallows yn gyfarwyddwr ac yn bartner sylfaenol <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/hensol-castle-distillery\/\">Hensol Castle Distillery<\/a>, sef distyllfa ym Mro Morgannwg sydd wedi troi o greu gwinoedd a gwirodydd i fasgynhyrchu hylif diheintio ar gyfer y GIG ac awdurdodau lleol. Yn debyg i nifer o gwmn\u00efau eraill, mae hi wedi bod yn frwydr anodd ceisio dod o hyd i ddeunyddiau i greu cynhyrchion hanfodol ar raddfa eang, ond creodd Andy ap\u00eal LinkedIn lwyddiannus i helpu\u2019r achos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Andy wrth <a href=\"https:\/\/businessnewswales.com\/distillery-overcomes-supply-difficulties-to-make-hand-sanitisers-for-the-nhs\/\">Newyddion Busnes Cymru<\/a> fod sefyllfa\u2019r coronafeirws \u201cyn debyg i\u2019r Trydydd Rhyfel Byd ond rydym yn brwydro yn erbyn gelyn anweladwy sy\u2019n lladd pobl, a&#8217;r hyn rydyn ni&#8217;n ceisio bod yw gwneuthurwr sy&#8217;n creu&#8217;r bwledi sy&#8217;n tanio&#8217;n \u00f4l.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-instagram wp-block-embed is-type-rich is-provider-instagram\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\nhttps:\/\/www.instagram.com\/p\/B_UQPO6lmG3\/?igshid=1r1ve39l4117v\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ross Hartland (BSc 2016, MArch 2018, PgDip 2020)<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Ross Hartland yn gynorthwy-ydd pensaern\u00efol yn Purcell ac mae\u2019n defnyddio ei argraffydd 3D i greu gorchuddion wyneb i\u2019r GIG. Hyd yn hyn, mae wedi helpu i ddosbarthu 170 o orchuddion wyneb i ysbytai lleol. Mae Ross yn rhan o <a href=\"https:\/\/twitter.com\/3dcrowduk\">gymuned 3DCrowd<\/a> sy\u2019n defnyddio argraffwyr i greu gorchuddion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Ross ar Twitter: \u201cMae fy argraffydd 3D wedi neilltuo modelau pensaern\u00efol i ymateb i\u2019r galw, gan gynhyrchu gorchuddion wyneb amddiffynnol ar gyfer @NHSuk yn Ysbyty Tywysoges Cymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-twitter wp-block-embed is-type-rich is-provider-twitter\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\"><p lang=\"en\" dir=\"ltr\">My 3D printer has set aside architectural models to respond to its call of duty, producing protective face shields for <a href=\"https:\/\/twitter.com\/NHSuk?ref_src=twsrc%5Etfw\">@NHSuk<\/a> staff at the Princess of Wales Hospital.<br><br>If you have a printer, get involved with the amazing community at <a href=\"https:\/\/twitter.com\/3dcrowduk?ref_src=twsrc%5Etfw\">@3dcrowduk<\/a>!<a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/madeinwales?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#madeinwales<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/COVID19?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#COVID19<\/a> <a href=\"https:\/\/t.co\/iOdHtaP2N9\">pic.twitter.com\/iOdHtaP2N9<\/a><\/p>&mdash; Ross Hartland (@ross_hartland) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/ross_hartland\/status\/1247430064318353409?ref_src=twsrc%5Etfw\">April 7, 2020<\/a><\/blockquote><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Bydd rhoddion i <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/covid-19-protection-fund\">Gronfa Diogelu COVID-19 Prifysgol Caerdydd<\/a> yn rhoi cefnogaeth ar gyfer lles meddyliol a chorfforol myfyrwyr a staff &#8211; gan gadw pobl a mannau yn ddiogel drwy gymuned Prifysgol Caerdydd benbaladr.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae aelodau o deulu Caerdydd bellach yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i\u2019r afael \u00e2 COVID-19. P\u2019un a oes ganddynt gefndir mewn peirianneg, meddygaeth, cyfathrebu, cyfrifiadureg, busnes neu chwaraeon, mae\u2019r cynfyfyrwyr hyn o Brifysgol Caerdydd yn rhoi eu hamser, eu hegni a\u2019u sgiliau i ymladd yn erbyn pandemig y coronafeirws.","protected":false},"author":1811,"featured_media":4314,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-4328","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4328","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4328"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4328\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4344,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4328\/revisions\/4344"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4314"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4328"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4328"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4328"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}