{"id":4310,"date":"2020-05-01T11:00:43","date_gmt":"2020-05-01T11:00:43","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4310"},"modified":"2020-05-01T11:01:13","modified_gmt":"2020-05-01T11:01:13","slug":"fe-wnaeth-fy-amser-yng-nghaerdydd-fy-mharatoin-drylwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/05\/01\/fe-wnaeth-fy-amser-yng-nghaerdydd-fy-mharatoin-drylwyr\/","title":{"rendered":"Fe wnaeth fy amser yng Nghaerdydd fy mharatoi\u2019n drylwyr"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog_lead.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4305\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog_lead.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog_lead-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog_lead-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog_lead-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Cymhwysodd Emily Chestnut (BN 2019) fel nyrs ddiwedd 2019 ac mae\u2019n gweithio yn Ysbyty\u2019r Mynydd Bychan, Caerdydd. Mae hi\u2019n gweithio ar y ward gastroenteroleg a chlefydau heintus A7, sy\u2019n darparu triniaeth ar gyfer cleifion COVID-19 ar hyn o bryd. Mae hi\u2019n un o\u2019r miloedd o gynfyfyrwyr Caerdydd sydd ar reng flaen yr argyfwng byd-eang.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4300\" width=\"250\" height=\"250\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500.jpg 500w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_500x500-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 250px) 100vw, 250px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rwyf wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.<\/strong> Cefais fy magu yn Sir Benfro ac roeddwn yn gwybod fy mod eisiau aros yng Nghymru i fynd i\u2019r brifysgol. Roedd Caerdydd yn ymddangos fel y lleoliad perffaith: digon pell oddi cartref; ond digon agos i fynd yn \u00f4l pan oeddwn i eisiau. Mae Caerdydd yn ddinas hardd, ac rwyf wastad wedi bod yn hoff o ba mor gyfeillgar a chefnogol oedd y Brifysgol. Graddiodd fy chwaer hynaf o Gaerdydd fel nyrs hefyd, ac roeddwn yn gwerthfawrogi\u2019r cyfleoedd a gafodd hi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Roeddwn yn ffodus i gael lleoliadau gwych fel myfyriwr nyrsio.<\/strong> Es i i\u2019r uned Damweiniau ac Achosion Brys, yr uned Gofal Dwys, ac amrywiaeth o wahanol wardiau meddygol\/llawfeddygol. Fe barat\u00f4dd y profiadau hyn i mi weithio\u2019n amser llawn yn Ysbyty\u2019r Mynydd Bychan. Roeddwn eisoes yn gwybod sut roedd yr ysbyty yn gweithredu a sut roeddynt yn gweithio fel t\u00eem, ac wedi creu perthnasoedd ag aelodau eraill o\u2019r staff.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Er na allai neb fod wedi rhagweld beth rydym yn delio ag e ar hyn o bryd, mae fy amser yng Nghaerdydd wir wedi fy mharatoi. <\/strong>Cynhaliwyd senarios ymarferol cyson oedd yn ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth a\u2019n gallu i wneud asesiadau clinigol mewn sefyllfaoedd argyfwng. Mae\u2019r arbenigedd ymarferol yma wedi fy nysgu i adnabod claf sy\u2019n dirywio, a sut i ddelio \u00e2 sefyllfaoedd argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yn ystod yr argyfwng presennol, nid yw fy ngwaith fel nyrs wedi newid lawer.<\/strong> Mae nyrsio\u2019n hanfodol i bob claf gwael. Rwyf eisiau cynnig gofal o\u2019r safon uchaf i bawb, ni waeth beth fo\u2019r rheswm eu bod yn yr ysbyty. Beth sydd wedi newid yw\u2019r pwysau yn y gwaith o ganlyniad i salwch a phrinder staff. Rwyf hefyd yn gweld fod y cyflenwadau sydd gennym yn y GIG wedi cael eu heffeithio. Nid yw\u2019n cymryd hir i gleifion redeg allan o ddillad eu hunain, byrbrydau, a chynhyrchion fel sebon, past dannedd a siamp\u0175. Mae\u2019r rhain yn bethau rydym yn ceisio darparu, ond nid oes gennym ddigon ohonynt i gyflenwi ysbyty cyfan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Er gall fod yn anodd, mae\u2019n fraint gallu helpu a defnyddio fy sgiliau i fod o fudd ar y rheng flaen. <\/strong>Ni allwn ei ddychmygu unrhyw ffordd arall. Mae\u2019n sicr yn wahanol i beth mae unrhyw un wedi delio ag e o\u2019r blaen. Mae pawb yn ofni\u2019r feirws ac yn poeni a yw ein PPE yn ddigonol, ac rydym i gyd yn mynd adref yn bryderus ein bod yn dod \u00e2\u2019r feirws gyda ni. Mae rhieni wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu plant a\u2019u teuluoedd. Rydym i gyd yn dibynnu ar ein gilydd a\u2019r cyfeillgarwch rhyngom ni i ddal ati.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Un o\u2019r heriau mwyaf yw peidio \u00e2 derbyn ymwelwyr i\u2019r ysbyty. <\/strong>Mae bod yn yr ysbyty yn frawychus iawn, a gall ein cleifion deimlo\u2019n ynysedig ac ar eu pennau eu hunain. Maent wedi\u2019u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a\u2019u hanwyliaid. Fwy nag erioed, rwy\u2019n sylwi ar staff yn gweithredu i sicrhau ein bod yn cefnogi ein cleifion a\u2019u teuluoedd yn emosiynol yn y ffordd orau bosibl. Gall hynny olygu aros am sgwrs, sychu dagrau rhywun i ffwrdd pan maent yn teimlo ar eu pennau eu hunain, neu afael yn eu llaw yn ystod eu horiau olaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae fy nghydweithwyr ar ward A7 wedi bod yn nerth i mi. <\/strong>Ni allwn ddychmygu gwneud hyn hebddynt. Rydym yn gweithio gyda\u2019n gilydd fel t\u00eem go iawn ac os oes unrhyw beth rwyf angen gwybod, neu\u2019n ansicr amdano, mae cydweithwyr yno i helpu. Rwy\u2019n teimlo fy mod yn cael llawer o gefnogaeth. Ar \u00f4l shifft anodd, nid wyf yn oedi cyn siarad \u00e2 rhywun. Mae\u2019n galonogol iawn gwybod ein bod i gyd yn yr un cwch, a\u2019n bod yn gweithio fel t\u00eem i gadw\u2019n pennau uwchlaw\u2019r d\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"450\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4303\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog.jpg 800w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/04\/emily_blog-770x433.jpg 770w\" sizes=\"auto, (max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019r ffrindiau gwnes i raddio gyda nhw yn ail deulu i mi. <\/strong>Roeddwn yn arfer eu gweld nhw ar ddiwrnodau rhydd; erbyn hyn rwy\u2019n siarad \u00e2 nhw yn rheolaidd dros y ff\u00f4n neu\u2019n cael sgwrs wrth fynd heibio ein gilydd yn yr ysbyty. Rydym hefyd yn chwerthin gyda\u2019n gilydd yn ystod nosweithiau cwis ar ein ffonau symudol. Mae\u2019n helpu i wybod ein bod i gyd yn mynd drwy\u2019r un peth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rwy\u2019n teimlo bod rhedeg ar fy niwrnodau rhydd yn helpu lawer. <\/strong>Mae awyr iach yn fy helpu i glirio fy meddwl, ac mae gwthio fy hun wrth redeg yn helpu i dynnu fy sylw oddi ar unrhyw bryderon. Weithiau ar \u00f4l shifft hir, ni wna i symud oddi ar y soffa gan fy mod wedi yml\u00e2dd. Gall fod yn anodd tynnu fy meddwl oddi ar y gwaith a dychwelyd i fywyd y tu allan iddo. Ond rwy\u2019n gwybod bod hynny\u2019n iawn, a bod angen yr amser yma arnaf i brosesu. Rwy\u2019n ffodus i gael cyd-letywyr anhygoel sy\u2019n deall fy sefyllfa ac yn rhoi cymaint o gefnogaeth i mi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Nawr yn fwy nag erioed, mae\u2019n braf gweld haelioni a charedigrwydd pobl. <\/strong>Mae ymateb a chefnogaeth y cyhoedd wedi bod yn anhygoel. Mae\u2019r wardiau wedi\u2019u gorlifo \u00e2 rhoddion o lechi a gwefryddion ff\u00f4n i gleifion. Mae bwytai lleol wedi bod yn gwneud bwyd i ni fwyta ar ein hegwyl, ac mae pobl wedi gwneud misyrnau wedi\u2019u hargraffu\u2019n 3D a bandiau addasu wedi\u2019u gwau ar gyfer ein masgiau wyneb. Mae staff y GIG mor ddiolchgar am bopeth mae pobl wedi\u2019i ddweud, ei roi a\u2019i wneud i ni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019r clap am 8 o\u2019r gloch nos Iau yn dod \u00e2 dagrau i lygaid y staff. <\/strong>Mae\u2019n helpu\u2019r tu hwnt i\u2019r dychymyg. Rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau symud ac ymneilltuo oddi wrth eich anwyliaid a\u2019ch ffrindiau yn anodd. Mae\u2019n gyfnod brawychus iawn i bawb, ond rydym wedi gwneud mor dda hyd yn hyn, ac mae ymrwymiad pawb i gyfyngu eu symudiadau\u2019n gwneud gwahaniaeth pwysig ar ein cyfer ni yn y GIG, ac i\u2019n cleifion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Bydd rhoddion i <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/covid-19-protection-fund\">Gronfa Diogelu COVID-19 Prifysgol Caerdydd<\/a> yn rhoi cefnogaeth ar gyfer lles meddyliol a chorfforol myfyrwyr a staff &#8211; gan gadw pobl a mannau yn ddiogel drwy gymuned Prifysgol Caerdydd benbaladr.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cymhwysodd Emily Chestnut (BN 2019) fel nyrs ddiwedd 2019 ac mae\u2019n gweithio yn Ysbyty\u2019r Mynydd Bychan, Caerdydd. Mae hi\u2019n gweithio ar y ward gastroenteroleg a chlefydau heintus A7, sy\u2019n darparu [&hellip;]","protected":false},"author":904,"featured_media":4305,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-4310","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4310","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4310"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4310\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4347,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4310\/revisions\/4347"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4305"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4310"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4310"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4310"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}