{"id":4256,"date":"2020-03-27T08:20:57","date_gmt":"2020-03-27T08:20:57","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4256"},"modified":"2020-03-27T08:20:50","modified_gmt":"2020-03-27T08:20:50","slug":"ymateb-ffydd-i-argyfwng","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2020\/03\/27\/ymateb-ffydd-i-argyfwng\/","title":{"rendered":"Ymateb ffydd i argyfwng"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/03\/delyth_blog_lead-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4238\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/03\/delyth_blog_lead-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/03\/delyth_blog_lead-507x338.jpg 507w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/03\/delyth_blog_lead-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/03\/delyth_blog_lead-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2020\/03\/delyth_blog_lead.jpg 1500w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae\u2019r Parchedig Delyth Liddell (BTh 2003, MTh 2014) yn weinidog Methodistaidd, a hi yw Caplan Cydlynu Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae\u2019r Gaplaniaeth yn cynnig lle o gyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gwedd\u00efo, cymorth a deialog, lle gall fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd. Mae pob un o\u2019r caplaniaid yn dod o gefndiroedd crefyddol gwahanol.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yn ystod y cyfnod hwn, fel yr arfer, mae\u2019r Gaplaniaeth yma ar gyfer cymdeithas gyfan Prifysgol Caerdydd.<\/strong> Bydd yr heriau mae\u2019r pandemig hwn yn eu cyflwyno, o orbryder a cholled i effaith cadw pellter synhwyrol oddi wrth bobl, yn effeithio ar wahanol bobl mewn ffyrdd na allwn ddychmygu. Mae\u2019n bwysicach nag erioed ein bod yn mynd ati nawr i dynnu sylw at bresenoldeb y Gaplaniaeth. Ni allwn fyth wybod ar bwy fydd angen ein cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydym yn cefnogi ymateb y Brifysgol i bandemig y Coronafeirws. <\/strong>Rydym yn cynnig presenoldeb gweddigar, ac rydym ar gael i ddelio \u00e2 materion sy\u2019n dod i\u2019r amlwg i unigolion neu grwpiau. Rydym yn addasu\u2019n gyflym mewn byd sy\u2019n newid yn gyflym: er enghraifft, ar y funud rydym yn newid y ffordd rydym yn cynnal gwasanaethau crefyddol a digwyddiadau eraill. Ond gan gyd-fynd \u00e2\u2019n cenhadaeth graidd, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu ein gofal bugeiliol a\u2019n cefnogaeth grefyddol ar gyfer myfyrwyr a staff Caerdydd, drwy dosturi a thrwy gariad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rwy\u2019n caru fy ngwaith. Mae\u2019n alwedigaeth, nid swydd.<\/strong> Mae darparu cefnogaeth ysbrydol, emosiynol a bugeiliol i fyfyrwyr a staff, beth bynnag eu crefydd, yn arbennig iawn ac yn deimlad gwerth chweil. Fe wnes i ddod i Gaerdydd yn 2000 i astudio ar gyfer gradd mewn Diwinyddiaeth, a dychwelais fel Gweinidog Methodistaidd i fod yn Gaplan yn 2010. Yn 2017 cefais fy mhenodi\u2019n Gaplan Cydlynu ar gyfer y Gaplaniaeth. Caerdydd yw fy nghartref, felly rydw i wrth fy modd pan mae myfyrwyr yn dychwelyd flynyddoedd ar \u00f4l gadael, i roi gwybod eu bod yn byw bywydau llwyddiannus a hapus. Weithiau, y cymorth gawsant gennym ni wnaeth ysgogi eu llwyddiant.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae crefydd yn rhan bwysig o waith y Gaplaniaeth.<\/strong> Mae\u2019r Gaplaniaeth yn cynnig man agored a chynhwysol lle gall bobl siarad am ffydd, crefydd, ethos a moeseg &#8211; gan gefnogi crefydd fel nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae staff a myfyrwyr yn addoli a gwedd\u00efo gyda\u2019n caplaniaid, sydd yn Anglicanaidd, Catholig, Cristion y Dwyrain, Iddewig, Methodistaidd a Mwslimaidd. Rydym i gyd yn gweithio gyda chymdeithasau myfyrwyr sy\u2019n seiliedig ar ffydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ond rydym yn cynnig mwy na chefnogaeth sy\u2019n seiliedig ar ffydd.<\/strong>  O bryd i\u2019w gilydd, mae angen angen rhywun gofalgar ar fyfyrwyr a staff i wrando arnynt, cynnig geiriau caredig neu roi help llaw. Rydym yn gweld llawer o staff a myfyrwyr ac yn eu cefnogi gyda\u2019n cinio \u00a31 wythnosol (cwmni gr\u00eat, cyrri gr\u00eat!), digwyddiadau gyda\u2019r nos wythnosol, a thrrwy gyfarfodydd cyfrinachol. Mae pawb &#8211; gan gynnwys cynfyfyrwyr &#8211; sy\u2019n ymweld \u00e2\u2019r Gaplaniaeth yn 61 Plas y Parc yn cael croeso cynnes a phaned. Wrth gwrs, mae\u2019r digwyddiadau hyn wedi dod i ben yn ystod y pandemig, ond mae\u2019r caplaniaid ar gael o hyd drwy ebost neu dros y ff\u00f4n.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i ymestyn ar draws y gymuned yn gyflym.<\/strong> Mae ein tudalennau Twitter, Facebook ac Instagram, a\u2019n presenoldeb ar y fewnrwyd yn ein galluogi i gael effaith ar lawer o fywydau. Rydym yn ymdrechu i roi gwybodaeth i bobl a\u2019u cadw mewn cysylltiad. Yn fwy na dim, rydym yn eu hatgoffa ein bod yma. Mae pobl yn gwerthfawrogi\u2019r sicrwydd fod ein caplaniaid yma iddynt pan mae arnynt ein hangen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae\u2019r Gaplaniaeth yn gweithio yn agos gyda\u2019r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ac wedi\u2019i leoli ynddynt &#8211; ond nid yw\u2019n cael ei redeg ganddynt.<\/strong> Rydym yn annibynnol o\u2019r ddau gorff, ond rydym yn lwcus iawn i gael llawer o gysylltiadau ynddynt. Rydym yn cynnig man niwtral a diogel ar gyfer myfyrwyr a staff.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>uchafbwyntiau\u2019r flwyddyn<\/strong> yn dechrau gydag wythnos y glas pan rydym yn gweithio\u2019n galed i sicrhau bod myfyrwyr ac eraill yn gwybod ein bod yma i bawb, beth bynnag fo\u2019u crefydd. Rydym yn bresenoldeb gweddigar mewn gwyliau dinesig a chrefyddol drwy\u2019r flwyddyn &#8211; er enghraifft yng ngwasanaeth Sul y Cofio, a Charolau Nadolig o amgylch y goeden yn Oriel VJ. Mae Ramadan ac Eid, ynghyd \u00e2\u2019r Pasg, yn aml yn digwydd y tu allan i amser y tymor, ond fel caplaniaid crefyddol mae\u2019r rhain yn rhan fawr o\u2019n bywydau a\u2019n gwaith. Mae diwrnod graddio yn llawenydd pur ac yn fraint i ni: rydym wrth ein bodd yn dathlu llwyddiannau pobl rydym wedi\u2019u cefnogi a\u2019u caru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydym yn cefnogi amrywiaeth mor eang o bobl.<\/strong> Wrth gwrs, rydym yn helpu\u2019r rheiny sydd ag anghenion difrifol i ddod o hyd i adnoddau a chymorth; ond mae\u2019r Gaplaniaeth gan amlaf yn rhywle lle gall myfyrwyr a staff ddod o hyd i gadarnhad a charedigrwydd. Mae pobl yn dod atom a theimlo bod rhywun wir yn gwrando arnynt, eu gweld, eu deall, yn cynnig gw\u00ean, yn gwedd\u00efo drostynt os yw\u2019n briodol, neu\u2019n cynnig rhywun i wedd\u00efo gyda nhw os ydynt yn dymuno. Gallwn eu helpu i deimlo\u2019n llai unig, codi eu hwyliau, meithrin cyfeillgarwch, a dechrau gwella. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda myfyrwyr LGBTQ+: mae llawer ohonynt yn gweld y brifysgol fel lle sy\u2019n cynnig rhyddid, ond wedyn gallent wynebu profiad brawychus neu unig o ddod allan i\u2019w teulu a\u2019u ffrindiau gartref. A minnau\u2019n fenyw hoyw fy hun, rwyf yn gwneud fy ngorau i gynnig empathi a dealltwriaeth o\u2019r sefyllfaoedd gall y myfyrwyr hynny eu wynebu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Fy nghyngor i unrhyw un sy\u2019n wynebu amser caled neu\u2019n teimlo gorbryder, ofn, unigrwydd yw: byddwch yn hael arnoch eich hun.<\/strong> Gwnewch beth sydd ei angen arnoch chi i ymlacio &#8211; boed hynny\u2019n cael bath, dweud gweddi neu wylio Netflix un rhaglen ar \u00f4l y llall! Ni allwn ddianc o\u2019r amser pryderus sy\u2019n ein hwynebu ar hyn o bryd. Ond mae fy ffydd yn fy nysgu y gallwn wynebu ein hofnau gan fod cariad gyda ni. Gall hynny fod yn gariad cyfeillion neu deulu; i eraill bydd hynny yn gariad Duw, sydd wastad gyda ni.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u2019r Parchedig Delyth Liddell (BTh 2003, MTh 2014) yn weinidog Methodistaidd, a hi yw Caplan Cydlynu Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae\u2019r Gaplaniaeth yn cynnig lle o gyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gwedd\u00efo, cymorth a deialog, lle gall fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd. Mae pob un o\u2019r caplaniaid yn dod o gefndiroedd crefyddol gwahanol.","protected":false},"author":904,"featured_media":4238,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,171,203],"tags":[],"class_list":["post-4256","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4256","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4256"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4256\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4257,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4256\/revisions\/4257"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4238"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4256"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4256"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4256"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}