{"id":4249,"date":"2024-02-22T14:17:51","date_gmt":"2024-02-22T14:17:51","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4249"},"modified":"2024-02-22T14:17:13","modified_gmt":"2024-02-22T14:17:13","slug":"cyfres-deledu-gyda-phrifysgol-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/02\/22\/cyfres-deledu-gyda-phrifysgol-caerdydd\/","title":{"rendered":"Prifysgol Caerdydd yn serennu mewn cyfresi teledu"},"content":{"rendered":"\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\" style=\"font-weight: 400\"><em>Ydych chi\u2019n hoff o hel atgofion am Brifysgol Caerdydd? Ydych chi\u2019n hoff o adnabod lleoliadau cyfarwydd ar y teledu? Rydym wedi llunio rhestr o gyfresi teledu sydd wedi eu ffilmio yn adeiladau&#8217;r campws ac o\u2019u cwmpas. I weld hyd yn oed rhagor ar y Brifysgol, edrychwch ar archif o sgr\u00een-luniau ar yr Instagram <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/filmatcardiffuni\/\">@filmatcardiffuni<\/a>.<\/em><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\" style=\"font-weight: 400\">Doctor Who\u00a0<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;r gyfres wyddonias adnabyddus hon wedi bodoli ers 1963 ond fe\u2019i hail-lansiwyd yn 2005 o\u2019i chartref yng Nghaerdydd. Mae&#8217;n debygol bod ein cyn-fyfyrwyr a&#8217;n myfyrwyr yn ymwybodol o&#8217;i chysylltiadau \u00e2&#8217;n campws, gyda nifer o\u2019i golygfeydd wedi&#8217;u saethu ar ein tiroedd. Bydd cyfle i chi adnabod sawl lleoliad yn y ddrama hon (yn enwedig yn y ddegfed gyfres, y mae Peter Capaldi yn ymddangos ynddi).\u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Doctor Who ar gael ar BBC iPlayer a BritBox.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Sherlock<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;r gyfres drosedd hynod boblogaidd hon yn tywys Benedict Cumberbatch a Martin Freeman ledled Caerdydd, \u00e2\u2019r ddinas yn cael ei defnyddio i bortreadu rhannau o Lundain. Fe sylwch ar Brif Adeilad y Brifysgol ym mhenodau cyntaf ac olaf y sioe, tra bod ystod o leoliadau eraill ar y campws yn ymddangos yn y ddrama, gan gynnwys Hadyn Ellis a&#8217;n labordai Optometreg. Mae&#8217;r Amgueddfa Genedlaethol leol hefyd yn ymddangos am gyfnodau byrion yn y ddrama ar wahanol adegau.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Gallwch ffrydio Sherlock ar BBC iPlayer a NOW TV.\u00a0<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">His Dark Materials\u00a0<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae His Dark Materials yn addasiad arall o gyfres o lyfrau tra phoblogaidd, ac mae nifer o s\u00ear yn ymddangos yn y ddrama. Mae Adeilad Morgannwg a Theml Heddwch Prifysgol Caerdydd ill dau yn gefndir i&#8217;r ddrama ffantasi, a bydd lleoliadau eraill yn gyfarwydd i&#8217;r rhai sydd wedi dod i adnabod Caerdydd y tu hwnt i\u2019r campws.\u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Ffrydiwch dri thymor y sioe ar BBC iPlayer.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">The Way<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Port Talbot yn serennu yn ddrama dair rhan hon, sydd ar y sgr\u00een nawr, ac sydd wedi\u2019i chyfarwyddo gan Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, Michael Sheen. Bu i\u2019r ffilmio ddigwydd y tu hwnt i Bort Talbot hefyd, a hynny ar gampws Prifysgol Caerdydd \u2013 gydag adeilad Hadyn Ellis yn ymddangos yn y ddrama.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae The Way ar gael ar BBC iPlayer.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">A Discovery of Witches<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Bu i Gymru groesawu cyfres ffantasi arall gyda A Discovery of Witches. Mae&#8217;r rhamant teithio trwy amser hon yn dilyn y s\u00ear Teresa Palmer a Matthew Goode drwy nifer o olygfeydd trawiadol ledled tirweddau a safleoedd treftadaeth Cymru. Fe welwch Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd yng nghyfres tri, lle mae\u2019n ymddangos fel llys yn New Orleans.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae A Discovery of Witches ar gael ar NOW TV.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Stella<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;r ddrama gomedi hon yn dilyn Ruth Jones yn nhref ffuglennol Pontyberry, a bu i\u2019r ffilmio ddigwydd yn y Rhondda\u2019n bennaf. Serch hynny, mae\u2019n anodd peidio \u00e2 sylwi ar Brifysgol Caerdydd yng nghyfres chwech \u2013 gwyliwch am y Prif Adeilad ac ambell i olygfa o wythnos y glas yn y dyddiau a fu.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Gallwch ffrydio Stella ar NOW TV.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Industry<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;r ddrama ddwys hon ynghylch gwaith yn dilyn graddedigion sy&#8217;n cystadlu mewn prif fanc buddsoddi. Er bod y ddrama wedi&#8217;i lleoli yn Llundain, bu i ran helaeth o\u2019r ffilmio ddigwydd yng Nghaerdydd \u2013 ac mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn ymddangos yn yr olygfa gyntaf un.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Industry ar gael ar BBC iPlayer.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Black Cake<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Drama hanesyddol gan y Cynhyrchydd Gweithredol Oprah Winfrey yw Black Cake, a daeth i\u2019r sgr\u00een yn 2023. Mae&#8217;r ddrama\u2019n tywys cynulleidfaoedd ar daith o amgylch y byd ac mae Cymru\u2019n gefnlen iddi ar sawl achlysur, gan gynnwys Adeilad Morgannwg y Brifysgol, Y Deml Heddwch, a sbarc.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Black Cake ar gael i&#8217;w ffrydio ar Disney +.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Decline and Fall<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Adeilad Morgannwg a&#8217;i bensaern\u00efaeth hardd yn ymddangos yn y gyfres fer hon o&#8217;r 1920au hefyd, y mae Jack Whitehall ac Eva Longoria yn serennu ynddi.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Decline and Fall ar gael ar hyn o bryd ar Prime Video.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Requiem<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;r ffilm ias a chyffro chwe rhan arswydus hon yn rhoi Cymru yng nghanol y llwyfan. Ydych chi\u2019n adnabod ambell i leoliad cyfarwydd ym Mhrifysgol Caerdydd ynddi? Efallai y byddwch yn dechrau gweld ein campws mewn goleuni hollol wahanol.\u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Requiem ar gael i&#8217;w ffrydio ar Netflix nawr.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Class<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Efallai bod y gyfres hon sy\u2019n deillio o Doctor Who hwn wedi&#8217;i gosod yn Academi ffuglennol Coal Hill yn Llundain, ond a wnewch chi sylwi ar adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd ynddi?<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Class ar gael i&#8217;w ffrydio ar BBC iPlayer a BritBox.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Traitors<\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Traitors yn llawn ysb\u00efo a brad \u2013 ond nid sioe realiti\u2019r BBC sydd dan sylw yma. Mae Keeley Hawes yn ogystal \u00e2 sawl lleoliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys Adeilad Morgannwg yn serennu yn gyfres fer hon a ddaeth i\u2019r sgr\u00een yn 2019.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Traitors ar gael ar Netflix ar hyn o bryd.<\/p>\r\n<h2 style=\"font-weight: 400\"><strong>Ydych chi eisiau gweld rhagor ar Gaerdydd?\u00a0<\/strong><\/h2>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Ydych chi eisiau parhau i hel atgofion \u2013 neu efallai eich bod eisoes wedi gwylio\u2019r cyfresi uchod \u2013 peidiwch \u00e2 phoeni, mae gennym ni ddigon i\u2019w gynnig i chi. Dyma restr o gyfresi teledu a ffilmiwyd yng Nghaerdydd a\u2019i chyffiniau: \u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Gavin a Stacey \u2013 Y Barri <\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn gyntaf, y gomedi sefyllfa boblogaidd a seiliwyd ar Ynys y Barri, Gavin a Stacey. Ar gael ar BBC iPlayer a NOW TV.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Being Human \u2013 Y Barri<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn y ddrama gomedi oruwchnaturiol hon roedd ysbryd, blaidd, a fampir yn rhannu t\u0177 \u00e2\u2019i gilydd. O gyfres tri ymlaen, y Barri oedd eu cartref. Ar gael i&#8217;w ffrydio ar ITVX a BritBox.\u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Sex Education \u2013 Dyffryn Gwy<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Ffilmiwyd y gyfres gomedi hon sydd wedi\u2019i seilio ar bobl yn eu harddegau, mewn sawl lleoliad yn Ne Cymru a bu tirwedd hardd Dyffryn Gwy yn rhan bwysig ohoni. Roedd ambell i fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, sydd yn gyn-fyfyrwyr erbyn hyn, yn serennu yn y gyfres! Ar gael ar Netflix<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Da Vinci\u2019s Demons \u2013 Tongwynlais<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Cyfres ffantasi hanesyddol yw hon, mae tirwedd hudolus Tongwynlais yn amlwg ynddi. Ar gael i&#8217;w ffrydio ar Disney +.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Merlin \u2013 Tongwynlais<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Drama ffantasi arall wedi\u2019i ffilmio o gwmpas Tongwynlais ac, yn benodol, Castell Coch. Ar hyn o bryd ar gael i&#8217;w ffrydio ar BBC iPlayer, Disney +, NOW TV, a BritBox.\u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Galavant \u2013 Castell Caerffili <\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Gan gadw at gestyll, efallai y bydd y ffantasi gerddorol ganoloesol hon yn sioe fydd at eich dant.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Torchwood \u2013 Caerdydd<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Cafodd y ddrama hon a ddeilliodd o <em>Doctor Who<\/em> hwn ei hanelu at gynulleidfa h\u0177n, ac mae\u2019n dilyn t\u00eem sydd ar hynt creaduriaid estron yn y \u2018Torchwood Institute\u2019 yng Nghaerdydd. Fe fu i\u2019r gyfres ennyn diddordeb enfawr, i\u2019r graddau fod cofeb i un o\u2019r prif gymeriadau ym Mae Caerdydd hyd heddiw. Ar gael i&#8217;w ffrydio ar BBC iPlayer a BritBox.\u00a0<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>The Lazarus Project \u2013 Caerdydd<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Dyw\u2019r teithio drwy amser byth yn dod i ben yng Nghaerdydd \u2013 fe sylwch ar leoliadau cyfarwydd yn y gyfres wyddonias hon y mae Paapa Essiedu yn serennu ynddi. Gallwch wylio dau dymor y gyfres ar NOW TV.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Alex Rider \u2013 Caerdydd<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae sawl lleoliad cyfarwydd yng Nghaerdydd yn cael eu defnyddio i bortreadu Llundain yn yr addasiad hwn sy\u2019n gyfres am ysb\u00efwr yn ei arddegau. Gallwch weld dau dymor cyntaf y sioe ar Freevee.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>War of the Worlds \u2013 Caerdydd<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Fe welwch siambr Senedd Bae Caerdydd yn yr addasiad cyfoes hwn sy\u2019n gyfres wyddonias y mae Daisy Edgar-Jones a Gabriel Byrne yn serennu ynddi. Ar gael ar Disney+a Channel 5.<\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Casualty \u2013 Caerdydd<\/strong><\/p>\r\n<p style=\"font-weight: 400\">Bydd trigolion Caerdydd yn gyfarwydd \u00e2&#8217;r gyfres hirdymor hon sy&#8217;n cael ei ffilmio yn y ddinas a&#8217;r cyffiniau. Mae\u2019r ddrama, sydd wedi sicrhau sawl cyfres, ar gael ar BBC iPlayer.<\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ydych chi\u2019n hoff o hel atgofion am Brifysgol Caerdydd? Ydych chi\u2019n hoff o adnabod lleoliadau cyfarwydd ar y teledu? Rydym wedi llunio rhestr o gyfresi teledu sydd wedi eu ffilmio yn adeiladau'r campws ac o\u2019u cwmpas.","protected":false},"author":904,"featured_media":9614,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-4249","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4249","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4249"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4249\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9610,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4249\/revisions\/9610"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9614"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4249"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4249"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4249"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}