{"id":4143,"date":"2019-11-29T17:15:50","date_gmt":"2019-11-29T17:15:50","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=4143"},"modified":"2019-11-29T17:18:25","modified_gmt":"2019-11-29T17:18:25","slug":"beth-yw-beth-mewn-etholiad-cyffredinol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2019\/11\/29\/beth-yw-beth-mewn-etholiad-cyffredinol\/","title":{"rendered":"\u2018Beth yw beth\u2019 mewn etholiad cyffredinol"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4140\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/rhydian_edited-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Rhydian Thomas (BSc 2000)<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Ar Rhagfyr 12 bydd miliynau o bobl yn gwneud y siwrne i neuaddau preswyl ac ysgolion ledled y DU i roi eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Er mai\u2019r cwbl sydd angen ei wneud ar y diwrnod yw rhoi croes syml mewn blwch, mae\u2019r broses o gynllunio a gweithredu etholiad yn swydd amser llawn.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghymru, Rhydian Thomas (BSc 2000)  sy\u2019n cael y cyfrifoldeb hwn fel pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru. Cawsom air gydag ef i drafod beth yw trefnu etholiadol cyffredinol, ac am ei amser fel myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Swydd y comisiwn<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe ddechreuom wrth ofyn i Rhydian, a raddiodd mewn Hanes Modern a Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd, beth yw swydd y comisiwn mewn etholiad cyffredinol. Eglurodd fod camsyniad cyffredin mai\u2019r comisiwn sy\u2019n rhedeg yr etholiad, ond mewn gwirionedd, \u201cmae\u2019r gweithredu sylfaenol o\u2019r etholiad yn cael ei wneud gan swyddogion etholiad annibynnol. Mae 22 ohonynt yng Nghymru ac yn gyffredinol, prif weithredwyr yr awdurdodau lleol ydynt\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedai Rhydian wrthym fod gan y comisiwn dair prif r\u00f4l yn yr etholiad yn Rhagfyr. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweinyddu\u2019r etholiad<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gweinyddu etholiad cyffredinol yn amrywio o enwebiadau, i\u2019r cyfri, i bleidleisio absennol, yn ogystal \u00e2 gwerthuso perfformiad swyddogion etholiad ac arsylwi\u2019r etholiad ei hun. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y disgwylir, mae\u2019n weithrediad mawr. \u201cO ran niferoedd rydym yn s\u00f4n am o gwmpas 7000 o staff yng Nghymru, ac mae hynny\u2019n cynnwys rheiny yn y cyfri a\u2019r staff sy\u2019n gweithio yn un o\u2019r 2300 gorsaf pleidleisio ledled y wlad,\u201d dywedai.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn unigryw yng Nghymru, mae\u2019r etholiad yn cael ei weithredu yn hollol ddwyieithog, gan gynnwys y datganiad gan y swyddogion etholiad y gwelwch ar y teledu. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae\u2019n bwysig i ni bod etholiadau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, a bod pleidleiswyr unigol yn gallu cael mynediad i\u2019r broses yn ddwyieithog ar unrhyw lefel,\u201d nodai.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfathrebu \u00e2\u2019r cyhoedd<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ail r\u00f4l y comisiwn yw cyfathrebu, a rhan fawr o hynny yw canolbwyntio ar gofrestru pleidleiswyr. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Rhydian wrthym am y newidiadau enfawr mewn cyfathrebu dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at y comisiwn yn addasu ei arferion. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cOs ewch yn \u00f4l 10 mlynedd, canolbwynt ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd oedd teledu a radio a hyd yn oed ychydig o brint. Mae hynny wedi newid erbyn hyn. Rydym yn dal i redeg hysbysebion teledu gan ei fod dal yn ffordd effeithiol i negeseuo elfennau penodol o\u2019r etholwyr. Llawer o\u2019n gwaith, yn enwedig o ran targedu pobl ifanc a myfyrwyr, a rheiny sydd ddim mor gysylltiedig i\u2019r broses ddemocrataidd \u00e2 grwpiau eraill yn ein cymdeithas, yw i ledaenu\u2019r neges i\u2019r grwpiau hynny drwy\u2019r cyfryngau cymdeithasol\u201d. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"512\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/got5laundrettewelsh-1024x512.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4144\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/got5laundrettewelsh.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/got5laundrettewelsh-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/11\/got5laundrettewelsh-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nododd nad yw hyn yn cael ei wneud drwy hysbysebu y talwyd amdano yn unig, ond hefyd drwy ffyrdd mwy organig drwy ddefnyddwyr cyffredin, gan nodi sut mae nodwedd \u2018rhannu eich cofrestriad\u2019 Facebook ac anogaeth gan enwogion wedi helpu hyrwyddo cofrestriadau. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae trydydd ffocws swydd Rhydian yn canolbwyntio ar reoliad etholiadol. \u201cRydym yn rheoleiddio gwariant y pleidiau gwleidyddol sy\u2019n cymryd rhan yn yr etholiad\u201d, ac, \u201cyn rhoi cyngor ac arweiniad i bleidiau ac ymgeiswyr yn ogystal.\u201d<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Atgofion o Gaerdydd <\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel cynfyfyriwr Caerdydd, siaradodd am ei amser yn y Brifysgol a sut mae wedi dylanwadu ar ei safbwyntiau. \u201cRwy\u2019n dod o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin, tref fach yng Ngorllewin Cymru, ac wrth dyfu fyny rydych yn meddwl fod gennych ddealltwriaeth o gymdeithas a\u2019ch ffyrdd o feddwl. Rwy\u2019n credu mai\u2019r hyn a ddysgais drwy fod yng Nghaerdydd oedd bod llawer o ffyrdd o feddwl am bethau\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd hyn mewn seminarau a darlithoedd yn unig, ond drwy ei fywyd personol ei hun fel myfyriwr israddedig. \u201cRoeddwn yn byw gyda hogiau o Lundain, Caerdydd, Ffrainc, Groeg a Zambia yn fy fflat, a hwythau i gyd yn bobl wahanol gyda syniadau gwahanol. Roeddwn wedi fy amgylchynu gan bobl o bob cwr o\u2019r byd, roedd wir yn gyd-destun rhyngwladol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd ei ddiddordeb mewn etholiadau yn amlwg o\u2019r cychwyn. \u201cAr fy niwrnod cyntaf, ar \u00f4l i\u2019m rhieni fy nghludo i yno, mi wnes i gwrdd fy nghyd-letywyr a mynd draw i Undeb y Myfyrwyr. Fodd bynnag, noson refferendwm datganoli 1997 i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd hi, felly fe wnes yn si\u0175r fy mod yn gadael ddigon cynnar i wylio\u2019r canlyniad!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, gofynnom iddo am ei hoff dafarn yng Nghaerdydd. Ar \u00f4l rhoi cynnig ar nifer o lefydd yn ei flynyddoedd cynnar fel myfyriwr, fe wnaeth ymgartrefu mewn un lle yn y pen draw. \u201cFe dreulion ni lawer o amser yn y Taf yn Undeb y Myfyrwyr, yn bennaf oherwydd y diodydd rhad a\u2019r gerddoriaeth dda!\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cawsom air gyda Rhydian Thomas (BA 2000) am ei ran hanfodol yn ein democratiaeth a sut ddylanwadodd ei amser ym Mhrifysgol Caerdydd ar ei lwybr gyrfa.","protected":false},"author":904,"featured_media":4140,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166],"tags":[],"class_list":["post-4143","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4143","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4143"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4143\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4147,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4143\/revisions\/4147"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4140"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4143"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4143"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4143"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}