{"id":3988,"date":"2019-09-25T10:59:12","date_gmt":"2019-09-25T10:59:12","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3988"},"modified":"2019-09-30T13:48:06","modified_gmt":"2019-09-30T13:48:06","slug":"tu-fewn-i-sain-ffagan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2019\/09\/25\/tu-fewn-i-sain-ffagan\/","title":{"rendered":"Tu fewn i Sain Ffagan"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-1024x576.jpg\" alt=\"Elen Phillips (right) with peace activist, Thalia Campbell, at an event to celebrate International Women\u2019s Day at St Fagans.\" class=\"wp-image-3982\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/09\/St-Fagans-Image.jpg 1215w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption> Elen Phillips (ar y dde) gyda\u2019r ymgyrchydd heddwch, Thalia Cambpell, mewn digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Sain Ffagan. <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"lead wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l llwyddiant\ndiweddar Amgueddfa Sain Ffagan yng nghystadleuaeth Amgueddfa\u2019r Flwyddyn 2019,\ngofynnon ni i un o\u2019r prif guraduron am y rhesymau dros y llwyddiant a\nchysylltiadau\u2019r Amgueddfa gyda Phrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ddechrau Gorffennaf,\nfe wnaeth Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ennill gwobr Amgueddfa\u2019r Flwyddyn\nArt Fund gan guro pedwar o gystadleuwyr eraill yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys\ny V&amp;A Dundee a\u2019r HMS Belfast.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Agorodd yr\nAmgueddfa awyr agored i\u2019r cyhoedd ym 1948 ac mae bellach yn cynnwys dros 40 o\narddangosfeydd yn dangos datblygiad hanes a diwylliant Cymru, o\u2019r amser\ncynhanesyddol hyd at y presennol, yn cynnwys: tai crwn o Oes yr Haearn, Llys\nTywysogion Cymraeg o\u2019r 12fed ganrif, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a Chastell Sain\nFfagan ei hun.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Disgrifiodd y prif guradur hanes cyfoes a chymunedol, a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Caerdydd, Elen Phillips (MA 2005), y wobr fel \u2018goron\u2019 i\u2019r flwyddyn<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Disgrifiodd y prif guradur hanes cyfoes a chymunedol, a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Caerdydd, Elen Phillips (MA 2005), y wobr fel \u2018goron\u2019 i\u2019r flwyddyn, yn enwedig ar \u00f4l i\u2019r amgueddfa gwblhau ailddatblygiad Creu Hanes yn 2018, gwerth \u00a330 miliwn, a oedd wedi trawsnewid profiad yr ymwelwyr trwy agor orielau a gweithdai newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l y beirniaid\ny gystadleuaeth, dyma esiampl bod yr Amgueddfa wedi dangos \u2018dychymyg\neithriadol\u2019 ac wedi sicrhau canlyniadau anhygoel dros y flwyddyn ddiwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nododd Ms.\nPhillips bod cyfraniadau nifer fawr o bobl wedi arwain at y llwyddiant, yn\nogystal \u00e2 phwyslais yr Amgueddfa ar gyd-greu hanes gyda phobl Cymru:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u2018Mae\u2019r wobr yn eiddo i\u2019r miloedd o unigolion, gwirfoddolwyr a chymunedau sydd wedi cyfrannu eu straeon a\u2019u llafur i\u2019r Amgueddfa dros y blynyddoedd.\u2019<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Prifysgol\nCaerdydd yn un o\u2019r sefydliadau sydd wedi mabwysiadau perthynas agos gyda\u2019r\namgueddfa dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi cydweithio sawl gwaith gan\ngynnwys ar y prosiect Traces yn 2017, i ddatblygu ap adrodd straeon ar gyfer yr\nAmgueddfa.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r ddau hefyd\nwedi cydweithio ar brosiectau addysgol i bobl ifanc, fel cystadleuaeth dylunio\ngenedlaethol yr Ysgol Cymraeg Pensaern\u00efaeth, Shape My Street. Mae\u2019r\ngystadleuaeth, sy\u2019n cynnal ei diwrnod gwobrwyo yn yr Amgueddfa, yn annog plant\nysgol gynradd i gysylltu gyda\u2019u cymunedau trwy ddylunio cymdogaethau newydd,\ngan integreiddio addysg gwyddoniaeth a thechnoleg gydag ymarferion dylunio\ncreadigol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 hyn,\narwyddodd y Brifysgol a\u2019r Amgueddfa Genedlaethol Cymru gytundeb o\nddealltwriaeth yn 2015, gyda\u2019r nod o weithio mewn meysydd ymchwil a rennir gan\ny ddau sefydliad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn wir, yr \u2018ethos\ncyfranogol\u2019 hyn mae Sain Ffagan wedi ei fabwysiadu \u2018fu\u2019n gyfrifol am ein\nllwyddiant yn y gystadleuaeth\u2019, yn \u00f4l Ms Phillips. Nododd hefyd y cysylltiad\naddysgol rhwng Prifysgol Caerdydd a Sain Ffagan sydd wedi bod yn bwysig yn\nbersonol i hi:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2018Fe wnes i\ngwblhau gradd MA mewn Astudiaethau Gwerin ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2004-05.\nAr y pryd, roedd y radd hon yn cael ei chynnig ar y cyd gyda Sain Ffagan a\nchyfran helaeth o\u2019r dysgu yn digwydd yn yr Amgueddfa. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ganlyniad, mae\nrhai o\u2019r darlithwyr bellach yn gydweithwyr agos i fi. Dw i\u2019n edrych n\u00f4l ar fy\nnghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd gydag atgofion hapus. Roeddwn yn fy ugeiniau\ncanol ar y pryd, ac wedi cael sawl blwyddyn ym myd gwaith cyn dychwelyd i\u2019r\nddarlithfa. Dw i\u2019n credu bod y seibiant hwnnw o fyd addysg wedi bod yn llesol i\nfi, ac wedi dylanwadu\u2019n bositif ar fy nghyfnod yng Nghaerdydd.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r berthynas rhwng y Brifysgol a chymunedau Caerdydd gyda\u2019r Amgueddfa&nbsp; wedi bod yn ffrwythlon iawn. Mae dyfodol yr Amgueddfa yn edrych yn ddisglair ac yn adlewyrchu cryfder a chyfoeth diwylliant Caerdydd a Chymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar \u00f4l llwyddiant diweddar Amgueddfa Sain Ffagan yng nghystadleuaeth Amgueddfa\u2019r Flwyddyn 2019, gofynnon ni i un o\u2019r prif guraduron am y rhesymau dros y llwyddiant a chysylltiadau\u2019r Amgueddfa gyda Phrifysgol Caerdydd.","protected":false},"author":904,"featured_media":3982,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[171,192,170,159],"tags":[193,194,195,196],"class_list":["post-3988","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-our-alumni-cy","category-history-archaeology-and-religion-cy-cy","category-news-cy","category-uncategorized-cy","tag-archaeology-cy","tag-cardiff-alumni-cy","tag-history-cy","tag-st-fagans-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3988","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3988"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3988\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3993,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3988\/revisions\/3993"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3982"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3988"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3988"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3988"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}