{"id":3911,"date":"2019-04-25T14:53:40","date_gmt":"2019-04-25T14:53:40","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3911"},"modified":"2023-03-20T09:10:41","modified_gmt":"2023-03-20T09:10:41","slug":"examined-life-syr-craig-oliver-pgdip-1992","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2019\/04\/25\/examined-life-syr-craig-oliver-pgdip-1992\/","title":{"rendered":"Examined Life &#8211; Syr Craig Oliver (PGDip 1992)"},"content":{"rendered":"<p><strong>Syr Craig Oliver yw cyn-reolwr BBC Global a Chyn-gyfarwyddwr Cyfathrebu 10 Stryd Downing, ac mae bellach yn bennaeth ar gwmni ymgynghori Teneo.<\/strong><\/p>\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ei henw da anhygoel wnaeth fy nenu i Brifysgol Caerdydd.<\/strong> Roeddwn i wir eisiau bod yn newyddiadurwr darlledu ond dwi\u2019n credu mai dim ond 15 o lefydd oedd ar y cwrs. Fe ges i le, ac roedd y gwerthoedd a ddysgais am degwch, sut i fod yn ddiduedd, gwneud y peth iawn a gwirio ffeithiau o fudd mawr i mi pan es i at gyflogwyr megis y BBC a Newyddion ITV.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Os ydych chi eisiau bod yng nghanol bwrlwm newyddiaduraeth, y tu \u00f4l i\u2019r camera yw\u2019r lle i fod. <\/strong>Os ydych chi\u2019n ohebydd, rydych chi\u2019n adrodd y stori, a dyna\u2019r cwbl. Ond beth os oes rhywbeth arall yn digwydd? Roedd bod tu \u00f4l i\u2019r llen yn fy ngalluogi i deithio, i olygu rhaglenni a gwneud penderfyniadau yngl\u0177n \u00e2 pha straeon roeddem ni eu hadrodd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pan ddechreuais, dywedodd rhywun wrthyf \u201cgallwch gael sedd flaen mewn hanes\u201d. <\/strong>Un o fy straeon cyntaf oedd stori Abbie Humphries [plentyn bach a chafodd ei herwgipio yn 1994], lle wnaethom ffilmio heddwas mawr cryf yn cario\u2019r babi hwn i ddiogelwch, ac fe enillom Wobr RTS. Roeddwn i yn Irac, a oedd yn brofiad anhygoel. Ac yn dilyn marwolaeth Jean Charles de Menezes, daethom ar draws canfyddiad mawr sef bod yr heddlu mewn anrhefn llwyr a bod y dyn anghywir wedi\u2019i saethu.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Fe newidiodd y chwyldro digidol bopeth ym myd newyddiaduraeth.<\/strong> Dwi\u2019n dal i gredu mai dim ond nawr mae pobl yn dechrau dod i delerau \u00e2\u2019r goblygiadau &#8211; maent yn tueddu i orbwysleisio\u2019r effaith yn rhy gynnar ac yn ei thanbwysleisio yn y tymor hir. Er enghraifft, pan oeddwn i yn y BBC, roedden nhw\u2019n rhoi llawer gormod o egni i\u2019w gorsaf newyddion 24 awr ac yn mynd ag adnoddau o\u2019r rhaglen newyddion prif ffrwd. Wrth weithio ar y bwletin newyddion gyda\u2019r nos, roeddwn i\u2019n dweud &#8220;arhoswch, rydyn ni\u2019n dal i ddenu pum miliwn o bobl bob nos!&#8221; Roeddwn i eisiau gwneud yn si\u0175r eu bod nhw\u2019n defnyddio\u2019r adnoddau yn y lle mwyaf addas a dylanwadol.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Roedd mynd o faes newyddiaduraeth i fyd gwleidyddiaeth fel taflu eich hun yn syth i\u2019r pen dwfn. <\/strong>Roeddwn yn ymuno \u00e2 llywodraeth a oedd eisoes wedi\u2019i sefydlu ac roedd yna ddisgwyliad fy mod yn gwybod popeth ac yn gallu delio \u00e2\u2019r cyfan &#8211; wrth i gannoedd o bobl geisio eich rhwystro wrth eu gwaith bob dydd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae Gwleidyddiaeth yn gyrru llawer o bobl yn wallgof. <\/strong>Fe ddaeth i\u2019r amlwg i fi yn gynnar iawn y buaswn yn mynd o fy ngho\u2019 oni bai fy mod yn cadw \u2018mhwyll. Gallwch ei weld gyda phopeth sy\u2019n digwydd gyda Brexit; mae llawer o bobl yn troi yn fwyfwy afresymol wrth edrych ar eu hymatebion i\u2019r holl beth.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Roeddwn yn trefnu fy mywyd i\u2019r funud.<\/strong> Hyd yn oed ar \u00f4l mynd i\u2019r gwely yn hwyr iawn, byddwn yn codi\u2019n fore i wrando ar y newyddion am 6am. Erbyn 6.01, roeddwn ar y ff\u00f4n gyda\u2019r BBC yn ceisio eu perswadio i newid eu stori oherwydd bod y bwletinau boreol hynny yn cyrraedd 24 miliwn o bobl. Yna byddwn yn mynd drwy\u2019r papurau newydd, blogiau, Twitter a chasglu fy nh\u00eem yn Stryd Downing am 8am cyn cwrdd \u00e2\u2019r Prif Weinidog am 8:30am a mynd yn fy mlaen ar \u00f4l hynny.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Roedd yna adegau rhyfeddol. <\/strong>Roeddwn wrth y T\u0177 Gwyn un tro yn aros i gael fy nghyflwyno i Barack Obama a dyma rhywun yn cyffwrdd fy ysgwydd i ddweud helo &#8211; neb llai na George Clooney. Yna, byddwn yn Myanmar yn siarad \u00e2\u2019r cadfridogion sy\u2019n unbeniaid a cheisio cael sgwrs synhwyrol \u00e2 phobl sy\u2019n cael eu gweld fel llofruddwyr.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Gwnaeth y llywodraeth glymbleidiol brofi bod dwy blaid yn gallu cydweithio. <\/strong>Roedd gennym lywodraeth sefydlog, ac rwy\u2019n falch o lawer o bethau y gwnaethom ni. Roedd y refferendwm yn yr Alban yn amlwg yn rhywbeth anodd dros ben, ac roedd mynd ymlaen i ennill etholiad cyffredinol 2015 yn annisgwyl yn gyflawniad mawr.<\/p>\r\n\r\n<blockquote>\r\n<p><strong>&#8220;Fe newidiodd y chwyldro digidol bopeth ym myd newyddiaduraeth. Dwi\u2019n dal i gredu mai dim ond nawr mae pobl yn dechrau dod i delerau \u00e2\u2019r goblygiadau&#8221;<\/strong><\/p>\r\n<\/blockquote>\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae pobl yn credu bod David Cameron wedi dihuno un bore a dweud \u201cDwi\u2019n mynd i gynnal refferendwm\u201d [ar Ewrop]. <\/strong>Mewn gwirionedd, roedd pobl yn fwyfwy pryderus nad oedd yr UE yn gwrando arnynt. Roedd UKIP yn ennill tir mewn etholaethau lle roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif bach &#8211; a chan fod y Tor\u00efaid yn blaid wleidyddol rymus ledled y wlad, roedd hi\u2019n broblem roedd angen ei datrys. Byddai\u2019n rhaid ichi fod yn 62 o leiaf i fod wedi pleidleisio yn y refferendwm diwethaf ar Ewrop, felly daeth yr holl ffactorau hyn ynghyd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Am 10pm ar 23 Mehefin 2016 roedd pob pleidlais wedi\u2019i bwrw.<\/strong> Doedd dim modd dod o hyd i un dyn byw a oedd yn credu bod yr ymgyrch Gadael wedi llwyddo. Roedd Nigel Farage yn credu bod popeth ar ben i\u2019r ymgyrch i adael. Wedyn dyma\u2019r canlyniadau yn dechrau ymddangos o ogledd ddwyrain Lloegr ac fe ddaeth hi\u2019n amlwg nad oeddem wedi perfformio hanner cystal ag y dylem. Roedd hi\u2019n teimlo fel cerdded ar hyd llwybr i fan diogel, a\u2019r llwybr hwnnw yn disgyn yn ddarnau gyda phob cam.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Am 4am cefais hyd i David Cameron yn ei stydi. <\/strong>Roeddem wedi cael sgwrs y diwrnod cynt am beth fyddai\u2019n digwydd pe byddem yn colli ac a fyddai\u2019n rhaid iddo ymddiswyddo neu beidio &#8211; ac roeddwn wedi bod yn gryf fy marn y dylai ymddiswyddo. Ar \u00f4l trafod beth oedd e\u2019n mynd i ddweud fe gerddodd ymaith, a\u2019r oll y gallwn wneud, mewn modd Saesnig, oedd ei gofleidio ac yna mynd am ychydig o awyr iach. Roedd yn adeg hynod o isel.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ers 40 o flynyddoedd, roedd gwleidyddion ar y naill ochr wedi beirniadu Ewrop yn hallt. <\/strong>Roedd Tony Blair wedi bod wrthi pan oedd hynny\u2019n gyfleus, Gordon Brown a David Cameron hefyd ar adegau. Dywedodd Nick Clegg bod angen refferendwm. Nid ni wnaeth greu\u2019r sefyllfa emosiynol &#8211; felly pe bawn i\u2019n gallu newid unrhyw beth byddwn yn dyfeisio peiriant amser er mwyn mynd n\u00f4l a rhoi pwysau ar wleidyddion dylanwadol i weithio ar rhywbeth oedd yn wirioneddol bwysig.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae bod mewn swydd arweinyddol yn gallu bod yn brofiad unig iawn. <\/strong>\u00a0Mae\u2019r swydd Prif Weinidog yn debyg iawn i swydd Prif Weithredwr a dwi\u2019n meddwl mai dyma\u2019r rheswm pam fod Teneo eisiau gweithio gyda fi. Rydym yn rhoi cyngor i Brif Weithredwyr sy\u2019n wynebu problemau sy\u2019n aml yn gymhleth ac yn fanwl iawn, heb atebion cywir, felly fy swydd i yw ceisio eu rhoi ar ben ffordd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rydw i am ddyfynnu o lyfr o\u2019r enw <em>The Leopard<\/em>: &#8220;os ydym am i bopeth aros yr un peth, mae\u2019n rhaid i bopeth newid&#8221;.<\/strong> Yn aml mae pobl mewn sefyllfaoedd lle maent yn llwyddiannus iawn ac yna\u2019n sydyn mae\u2019r byd yn newid o\u2019u cwmpas. Mae hynny i\u2019w weld dro ar \u00f4l tro ar hyn o bryd.<\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Syr Craig Oliver yw cyn-reolwr BBC Global a Chyn-gyfarwyddwr Cyfathrebu 10 Stryd Downing, ac mae bellach yn bennaeth ar gwmni ymgynghori Teneo.","protected":false},"author":904,"featured_media":3896,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,171,169,1985],"tags":[1970],"class_list":["post-3911","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-examined-life-cy","category-journalism-media-and-cultural-studies-cy","tag-examined-life-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3911","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3911"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3911\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8908,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3911\/revisions\/8908"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3896"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3911"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3911"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3911"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}