{"id":3887,"date":"2019-04-25T13:34:14","date_gmt":"2019-04-25T13:34:14","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3887"},"modified":"2019-04-25T13:35:56","modified_gmt":"2019-04-25T13:35:56","slug":"llundain-yn-galw-dr-sara-jones-yn-rhedeg-ar-ran-teamcardiff","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2019\/04\/25\/llundain-yn-galw-dr-sara-jones-yn-rhedeg-ar-ran-teamcardiff\/","title":{"rendered":"Llundain yn galw &#8211; Dr Sara Jones yn rhedeg ar ran #TeamCardiff"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover has-background-dim-40 has-background-dim is-layout-flow wp-block-cover-is-layout-flow\" style=\"background-image:url(http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/04\/Sara-Jones-LM-weights-crop.jpg)\"><p class=\"wp-block-cover-text\"><strong>Ers 2016, mae bron i 1,000 o bobl wedi cofrestru i godi arian dros ymchwil canser, niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl o safon fyd-eang yn rhan o #TeamCardiff. <\/strong><br><br><strong>Mae Dr Sara Jones (PhD 2000) yn un ohonynt. <\/strong><\/p><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond, yn wahanol i aelodau eraill y t\u00eem, fydd hi ddim yn aros wrth y llinell ddechrau ar Stryd y Castell ym mis Hydref. Yn lle hynny, bydd Sara yn gwisgo lliwiau Caerdydd drwy Canary Wharf, dros Tower Bridge ac i lawr The Mall fel rhedwraig gyntaf y Brifysgol i redeg Marathon Llundain ddydd Sul 29 Ebrill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cawsom air gyda hi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sara, beth mae rhedeg dros ymchwil niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn ei olygu i ti?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n agos iawn at fy nghalon. Bu farw fy nhad yn 2016 ar \u00f4l brwydro \u00e2 dementia. Roedd yn wyddonydd anhygoel ac yn dioddef o diabetes math 1, ond y frwydr \u00e2 dementia oedd fwyaf heriol iddo. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ychwanegol at hynny, dros y 10 mlynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn gweithio gyda DECIPHer, cyfleuster ymchwil iechyd cyhoeddus sydd ynghlwm \u00e2 Phrifysgol Caerdydd. Dwi\u2019n gwybod bod ymchwilio i\u2019r meysydd heriol yma yn hanfodol os ydym am greu newid gwirioneddol a chael effaith gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut gwnaethoch chi ddechrau rhedeg?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuais i tua chwe mlynedd yn \u00f4l. Prin oeddwn yn gallu rhedeg cilomedr &#8211; ond yn araf bach dechreuais redeg yn bellach cyn i ffrind argymell y dylwn redeg ras 5k, ac ar \u00f4l hynny, un 10k. Y peth nesaf, roeddwn wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd. Dwi heb edrych \u2018n\u00f4l ers hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd rhedeg o les i fy iechyd meddwl hefyd. Pan oedd Dad yn byw gyda ni, roedd mynd allan i redeg am hanner awr fach yn ddigon i glirio fy meddwl ac yn help mawr. Rydw i bob amser yn teimlo\u2019n well ar \u00f4l rhedeg. Gyda lwc, bydd yn gwella bywydau pobl eraill drwy godi arian tuag at ymchwil gan olygu bod pawb ar eu hennill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ydych chi wedi rhedeg marathon llawn o\u2019r blaen? Sut mae\u2019r her yma yn wahanol yn feddyliol ac yn gorfforol i Hanner Marathon Caerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Doeddwn i byth yn credu y gallwn redeg marathon, ond ar \u00f4l rhedeg dros 13.1 milltir wrth ymarfer, roeddwn yn teimlo\u2019n llawer mwy hyderus. Wrth ymarfer y pellter llawn, rwy\u2019n credu yn fy hun. Gawn ni weld!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae\u2019r paratoadau\u2019n mynd ar gyfer diwrnod y ras?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dwi wedi cael cymaint o gefnogaeth gan ffrindiau sydd wedi rhedeg marathon o\u2019r blaen. Rydw i wedi dod ar draws cynllun ymarfer sy\u2019n addas: mae\u2019n 16 wythnos o hyd a oedd yn golygu fy mod yn rhedeg bedair gwaith yr wythnos, pellter isel ar ddyddiau Mawrth a Iau, 10-13k ar ddyddiau Mercher a phellter hir ar ddyddiau Sadwrn. Hynny, a chodi pwysau ar ddyddiau Llun. Mae\u2019n heriol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuais y cynllun hyfforddi ar y 31ain o Ragfyr a dwi wedi cadw ato heblaw am golli un sesiwn ganol wythnos o ganlyniad i annwyd bach. Roeddwn yn teimlo\u2019n euog yn ei gylch! Mae\u2019r ci wedi mwynhau\u2019r broses hefyd oherwydd ei fod yn gallu dod allan gyda fi. Daeargi yw e felly 10k yw\u2019r pellaf mae\u2019n gallu rhedeg. <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-cover has-background-dim-20 has-background-dim is-layout-flow wp-block-cover-is-layout-flow\" style=\"background-image:url(https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2019\/04\/running-cover.jpg)\"><p class=\"wp-block-cover-text\"><strong>&#8220;Rwy\u2019n meddwl bod hyfforddi ar gyfer rhedeg marathon yn debyg i wneud PhD &#8211; mae\u2019n rhaid i chi gadw ati. Mae\u2019n anodd os ydych yn colli ffydd ond mae\u2019n werth yr holl ymdrech yn y pen draw. Yr hyn sy\u2019n fy nghymell ar gyfer y marathon yw\u2019r arian sydd wedi\u2019i godi at achos da a gwireddu uchelgais.&#8221;<\/strong><\/p><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor hyfforddi ar gyfer rhedwyr marathon?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credwch yn eich hun. Os alla\u2019 i gyflawni hyn, gall unrhyw un. Doeddwn i ddim yn or hoff o chwaraeon yn yr ysgol a doeddwn i byth wedi gweld fy hun fel person ffit. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dilyn rhaglen <em>Couch to 5k<\/em> ac yna, os hoffech, adeiladu ar hynny. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n meddwl bod hyfforddi ar gyfer rhedeg marathon yn debyg i wneud PhD &#8211; mae\u2019n rhaid i chi gadw ati. Mae\u2019n anodd os ydych yn colli ffydd ond mae\u2019n werth yr holl ymdrech yn y pen draw. Yr hyn sy\u2019n fy nghymell ar gyfer y marathon yw\u2019r arian sydd wedi\u2019i godi at achos da a gwireddu uchelgais. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yn yr un modd, a ydych wedi dysgu unrhyw ffyrdd da o godi arian?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae estyn allan i rwydwaith eang o ffrindiau i ffrindiau wedi bod yn wych &#8211; mae pobl nad oeddwn i wedi disgwyl iddynt fy noddi wedi bod yn hael iawn (er nad yw fy ng\u0175r wedi fy noddi eto!). Mae casglu arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl yn agos iawn at fy nghalon. Dwi wedi bod yn emosiynol yn ystod rhai o\u2019r sesiynau rhedeg wrth imi feddwl am Dad a\u2019r gwaith pwysig yr ydym yn gallu ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ebostio pobl a chwmn\u00efau wedi bod yn ddull llwyddiannus hefyd. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod rhai siopau lleol a chwmn\u00efau yn cadw arian wrth gefn i gefnogi pobl i godi arian. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth ydych yn edrych ymlaen ato fwyaf ar y diwrnod &#8211; ac yn ei ofni fwyaf? <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yn benwythnos anhygoel. Dwi\u2019n gwylio\u2019r marathon bob blwyddyn ar y teledu, felly bydd yn brofiad rhyfedd rhedeg heibio cymaint o lefydd adnabyddus yn Llundain. Dywedodd ffrind mai nid cyrraedd y llinell derfyn oedd y rhan fwyaf cyffrous, ond rhedeg dros Tower Bridge sy\u2019n dynodi hanner ffordd. Byddaf yn rhedeg ymysg nifer o enwogion &#8211; a\u2019r rhedwyr cyflymaf, er y bydd athletwyr fel Mo Farah yn rhedeg ddwywaith mor gyflym \u00e2 fi! <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dwi ddim yn si\u0175r eto sut byddaf yn dathlu croesi\u2019r llinell derfyn wrth Balas Buckingham. Mae sawl aelod o\u2019r teulu o bob cwr o\u2019r wlad yn dod i fy nghefnogi yn Llundain ac mae twba twym yn ein gwesty. Efallai y byddaf yn dathlu drwy eistedd ynddo am oriau! <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddaf yn\ngwisgo\u2019r crys-t sy\u2019n cael ei roi i\u2019r rhedwyr sy\u2019n gorffen y ras a\u2019r medal am\nwythnosau ar \u00f4l y ras.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Gallwch gefnogi Sara drwy ei <a href=\"https:\/\/uk.virginmoneygiving.com\/SaraJones29\">thudalen noddi Virgin Money<\/a>. Gallwch ddilyn Sara ar y diwrnod mawr drwy Ap Marathon Llundain Virgin Money. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ers 2016, mae bron i 1,000 o bobl wedi cofrestru i godi arian dros ymchwil canser, niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl o safon fyd-eang yn rhan o #TeamCardiff. Mae Dr Sara [&hellip;]","protected":false},"author":904,"featured_media":3848,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-3887","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3887","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3887"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3887\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3894,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3887\/revisions\/3894"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3848"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3887"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3887"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3887"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}