{"id":3437,"date":"2018-11-23T11:21:26","date_gmt":"2018-11-23T11:21:26","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3437&#038;lang=cy"},"modified":"2018-12-20T11:49:19","modified_gmt":"2018-12-20T11:49:19","slug":"gwyn-ein-byd-esboniad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/11\/23\/gwyn-ein-byd-esboniad\/","title":{"rendered":"Gwyn ein byd &#8211; esboniad"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Mae bardd ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd, Osian Rhys Jones, yn rhoi cyd-destun i\u2019r gerdd a ysgrifennodd yn benodol ar gyfer cylchgrawn Cyswllt Caerdydd, yn y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd. Enillodd Osian y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M\u00f4n yn 2017.<\/p>\n<h2>Gwyn ein byd \u2013 Osian Rhys Jones<\/h2>\n<p><em>Wedi Eisteddfod Caerdydd, Awst 2018<\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-3227\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/11\/osian_web.jpg\" alt=\"\" width=\"400\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/11\/osian_web.jpg 480w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/11\/osian_web-200x300.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><\/p>\n<h4>Hen ddociau boneddicach<br \/>\nsydd erbyn hyn yma\u2019n iach,<br \/>\nYn enw\u2019r Bae, gwyn yw\u2019r byd<br \/>\na hwyliau\u2019n hafau hefyd.<br \/>\nY Bae gl\u00e2n, Bae gwag o laid,<br \/>\nBae diwyneb, dienaid.<\/h4>\n<h4><\/h4>\n<h4>Rhy Brydeingar ddiaros<br \/>\n\u2019di\u2019r byd sy\u2019n dweud pwy-\u2019di\u2019r-b\u00f2s.<br \/>\nCynghanedd senedd ein s\u0175n<br \/>\nyw\u2019r weriniaeth a rannwn.<br \/>\nCroesawn pob c\u00e2r a sinig;<br \/>\nchwalu\u2019r mur, nid chwarae mig.<\/h4>\n<h4><\/h4>\n<h4>Nid Bae oer, ond Bae euraid<br \/>\na Bae\u2019r \u0175yl yw\u2019r Bae o raid.<br \/>\nYfwn ein haf heno\u2019n hir,<br \/>\nhaf undod ein cyfandir\u2026<br \/>\nOnd amodol ei olud<br \/>\nyw\u2019r bae hwn, os gwyn yw\u2019r byd.<\/h4>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dyma gerdd sy\u2019n enghraifft o hen grefft farddonol Cymru, y gynghanedd. Yn ei hanfod, patrwm safonol o odlau, cytseinedd a mydrau yw\u2019r gynghanedd, sy\u2019n manteisio ar yr acen naturiol sydd ynghlwm wrth bob gair, sef \u2018y goben\u2019. Yn draddodiadol, byddai darpar feirdd yn mireinio eu sgiliau am flynyddoedd lawer mewn Ysgolion Barddol, lle byddent yn dysgu gan feistri\u2019r grefft. Cerddi ar gyfer y bonedd fyddai&#8217;r rhain yn bennaf \u2013 cerddi sy\u2019n canmol, moli a cherddi at ddibenion cymdeithasol eraill yn y Gymru ganoloesol.<\/p>\n<p>Yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif, bu adfywiad rhyfeddol i\u2019r grefft hon, a daeth yn gyfrwng ar gyfer barddoniaeth boblogaidd, heriol a chyfoes, heb golli ceinder cymhleth y ffurfiau traddodiadol. Erbyn hyn, mae llawer o feirdd yn defnyddio\u2019r ffurfiau hyn mewn ffyrdd mwyfwy arloesol. Maent yn dewis ysgrifennu am faterion cyfredol fel daeargrynfeydd gwleidyddol, ymdreiddiad mewnwthiol y cyfryngau cymdeithasol, a\u2019r trawma seicolegol y mae ein cymdeithas fodern orgysylltiedig yn ei achosi. Drwy gydol hyn oll, cynghanedd yw\u2019r llinyn bogail sy\u2019n ein cysylltu \u00e2\u2019r gorffennol pell, ac mae hyn yn cryfhau dehongliadau modern o\u2019r grefft.<\/p>\n<p>Yn y gerdd hon, mae Osian Rhys Jones wedi defnyddio ffurf farddonol y cywydd, lle mae pob llinell yn cynnwys cynghanedd unigol, ac wedi\u2019u trefnu\u2019n gwpledi sy\u2019n odli.<br \/>\nMae barddoniaeth sy\u2019n defnyddio\u2019r gynghanedd, yn enwedig y cywydd, yn ffordd wych o gyfosod syniadau gwrthdrawiadol. Dyma ffordd o begynnu\u2019r syniadau hyn, lle gall y bardd, neu\u2019r gwrand\u00e4wr\/darllenydd, bontio&#8217;r bwlch deallusol drwy gyfrwng anghytgord y gerdd. Mae hefyd yn ddiddorol sut mae\u2019r cywydd yn gadael i\u2019r bardd gyflwyno anghytgord \u00e2 harmoni cerddorol drwy hogi syniadau a seiniau ar ei gilydd nes eu bod yn cyfuno.<\/p>\n<p>I\u2019r preswylydd hwn o Gaerdydd, roedd yn galonogol iawn gweld yr Eisteddfod Genedlaethol ddi-d\u00e2l, agored a chynhwysol yn cofleidio Bae Caerdydd. Ond mae&#8217;r ffaith bod y Bae ei hun wedi&#8217;i adeiladu mor ddiweddar yn rhoi ymdeimlad bod ei orffennol wedi cael ei wyngalchu o\u2019r golwg. Yma, roeddwn i am ofyn y cwestiwn \u2018pwy biau Bae Caerdydd?\u2019 Trigolion Butetown a Bae Tiger? Y Senedd a chelfyddyd gain? All y pethau hyn gydfodoli, neu a yw&#8217;r gwahaniaethau cymdeithasol ac ethnig yn rhy fawr? Roedd taflu\u2019r Eisteddfod i\u2019r pair hwn yn weithred diddorol. Byddai llawer o bobl yn ystyried siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif difreintiedig sy\u2019n prinhau ac yn colli ei lais yn y byd Saesneg ei iaith. Ar yr un pryd, mae grymoedd economaidd yn denu mwy a mwy o siaradwyr Cymraeg ifanc i Gaerdydd (mae newidiadau demograffig yng nghadarnleoedd gwledig \u2018traddodiadol\u2019 yr iaith yn adlewyrchu hyn). Yn eironig, felly, mae hyn yn cyfrannu at sefyllfa lle mae llawer o drigolion Caerdydd yn methu fforddio byw mewn ardaloedd fel Treganna a Grangetown. Cododd Catrin Dafydd, enillydd y Goron eleni, y mater hwn mewn ffordd gampus yn ei detholiad o gerddi arobryn.<\/p>\n<p>Mae gan y cywydd enw am fod yn erfyn ar gyfer uniongyrchedd gwleidyddol, a ddefnyddiwyd yn fwyaf sylweddol gan y diweddar Gerallt Lloyd Owen yn ystod yr ugeinfed ganrif. Er llwyddiant yr \u0175yl, mae&#8217;n anodd osgoi cysgodion y wleidyddiaeth ddinistriol sydd am ein llusgo yn \u00f4l i orffennol dychmygol a chodi rhwystrau rhwng pobl. Ond am un wythnos, gadawodd yr Eisteddfod i ni ddychmygu Cymru agored a mwy unedig mewn byd gwell.<\/p>\n<h3>Darllen fwy am Cardiff Connect<\/h3>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/features\/cardiff-on-a-plate\">Caerdydd ar bl\u00e2t<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities?lang=cy\">Pam Prifysgolion?<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/13\/game-changers-karen-cooke-bmus-1996?lang=cy\">Newid y Drefn<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>A wnaethoch chi fwynhau&#8217;r erthygl? <a href=\"https:\/\/www.surveymonkey.co.uk\/r\/MFJ89VL\">Beth yw eich barn?<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae bardd ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd, Osian Rhys Jones, yn rhoi cyd-destun i\u2019r gerdd a ysgrifennodd yn benodol ar gyfer cylchgrawn Cyswllt Caerdydd, yn y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd. Enillodd Osian y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M\u00f4n yn 2017.","protected":false},"author":904,"featured_media":3236,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166],"tags":[],"class_list":["post-3437","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3437","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3437"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3437\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3492,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3437\/revisions\/3492"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3236"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3437"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3437"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3437"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}