{"id":3429,"date":"2018-12-17T11:19:55","date_gmt":"2018-12-17T11:19:55","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3429&#038;lang=cy"},"modified":"2018-12-20T12:14:23","modified_gmt":"2018-12-20T12:14:23","slug":"why-universities-powering-worldwide-economic-growth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/12\/17\/why-universities-powering-worldwide-economic-growth\/","title":{"rendered":"Mae Prifysgolion yn ysgogi twf economaidd ledled y byd"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Dr Godfrey Ainsworth (BSc 1977, PhD 1980) yw Cadeirydd Gweithredol IQE, cwmni technolegau gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-large wp-image-3379\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-1024x576.jpg\" alt=\"Godfrey holds an example of IQE's work\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/godfrey_web.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Ers dyfeisio\u2019r teclyn silicon yn 1961, mae datblygiadau technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi newid popeth, o sut rydym yn gyrru i\u2019r ffyrdd yr ydym yn siopa. Maent yn sail i ryfeddodau oes y cyfrifiadur, ac yn gwneud y cyfraniad mwyaf at dwf economaidd byd-eang.<\/p>\n<p>Arsylwodd yr Athro Gordon Moore, un o sefydlwyr Intel, ar yr hyn a elwir yn \u2018Ddeddf Moore\u2019 erbyn hyn, sef bod gallu cyfrifiadurol yn dyblu bob 18 mis. Mae\u2019r cynnydd yma wedi cael ei ysgogi gan y gallu i leihau deunyddiau electronig, sy\u2019n golygu bod mwy a mwy o rannau yn gallu cael eu hymgorffori mewn un sglodyn bach. Er mai silicon yw defnydd mwyaf poblogaidd microbroseswyr o hyd, mae hi\u2019n mynd yn anoddach ac yn fwy costus fyth i gynnal y twf yma. Yn wir, mae Moore wedi rhybuddio na allwn fynd ymhellach yn y maes hwn. Yn syml: gallwn ni ddim gwneud pethau yn llai eto.<\/p>\n<p>Mae galw\u2019r defnyddiwr am gynnyrch gwell a doethach yn herio lled-ddargludyddion traddodiadol. Er mwyn eu pweru, mae angen teclynnau perfformiad-uchel, \u00e2 gallu cyflymach, sy\u2019n defnyddio llai o ynni. Dyna pam mae lled-ddargludyddion cyfansawdd mor bwysig. Maent lawer cyflymach na\u2019r rhai silicon yn unig, ac mae deunyddiau fel gallium arsenide, indium phosphide a gallium nitride yn allweddol lle mae perfformiad effeithlon, cyflym yn hanfod.<\/p>\n<p>Mae priodoleddau photonic y deunyddiau yma &#8211; eu gallu i allyrru a chanfod golau yn golygu y gallent fod yn ddefnyddiol ar gyfer pob math o dechnolegau synhwyro sy\u2019n hynod bwysig yn y byd awtonomaidd a chysylltiedig sydd ohoni. Mae gan led-ddargludyddion cyfansawdd r\u00f4l ganolog yn ein bywyd bob dydd yn barod, o ddyfeisiau sy\u2019n gallu adnabod wynebau i gerbydau cysylltiedig electronig, o dechnolegau gofal iechyd uwch i ddyfeisiau p\u0175er solar effeithlon iawn.<\/p>\n<p>Mae Prifysgol Caerdydd wedi cydnabod y potensial mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd ers amser. Yma yn IQE, rydym yn gwerthfawrogi ymchwil academaidd arloesol ac rydym wedi buddsoddi mewn menter ar y cyd gyda\u2019r Brifysgol er mwyn agor Y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) yn 2015.<\/p>\n<p>Drwy gyfuno ymchwil, arloesedd a phrofiadau gweithgynhyrchu, rydym yn gallu creu technolegau newydd y mae datblygwyr, busnesau a\u2019r gymuned ehangach yn gallu eu defnyddio yn syth. Mae ein partneriaeth hefyd yn cynnig hyfforddiant er mwyn cefnogi\u2019r peirianwyr sy\u2019n deall lled-ddargludyddion cyfansawdd a\u2019u potensial enfawr.<\/p>\n<p>Mae IQE yn falch bod eu pencadlys ym mhrifddinas Cymru. Mae\u2019r CSC, Prifysgol Caerdydd a\u2019r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gerllaw &#8211; ac oherwydd hynny mae de Cymru yn cael ei chydnabod yn fyd-eang fel canolfan ragoriaeth yn y maes.<\/p>\n<p>Mae hynny\u2019n fuddiol i\u2019r economi leol ac yn sail ar gyfer ecosystem hynod arloesol. Mae\u2019r clwstwr yma yn prydur ddenu sylw\u2019r ymchwilwyr, peirianwyr a\u2019r datblygwyr mwyaf talentog &#8211; a drwy rannu\u2019r arbenigedd a\u2019r cyfleusterau sydd gennym wrth law, gallwn gyflawni unrhyw beth.<\/p>\n<h3>Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:<br \/>\n<strong><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities-for-everyone?lang=cy\">Mae Prifysgolion i bawb<\/a><\/strong><\/h3>\n<p>Hefyd yn y gyfres:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities-closing-the-skills-gap?lang=cy\">Mae prifysgolion yn cau&#8217;r bwlch sgiliau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities-making-communities-better-places?lang=cy\">Mae Prifysgolion yn gwneud cymunedau yn llefydd gwell<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities-changing-our-horizons?lang=cy\">Mae Prifysgolion yn newid ein gorwelion<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities-shaping-our-communities-and-government?lang=cy\">Mae Prifysgolion yn siapio ein cymunedau a\u2019n llywodraeth<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities-saving-changing-and-enriching-lives?lang=cy\">Mae Prifysgolion yn achub, newid a chyfoethogi bywydau<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dr Godfrey Ainsworth (BSc 1977, PhD 1980) yw Cadeirydd Gweithredol IQE, cwmni technolegau gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd.","protected":false},"author":904,"featured_media":3379,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,168],"tags":[],"class_list":["post-3429","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-pam-prifysgolion"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3429","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3429"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3429\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3468,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3429\/revisions\/3468"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3379"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3429"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3429"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3429"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}