{"id":3363,"date":"2018-12-17T11:21:27","date_gmt":"2018-12-17T11:21:27","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3363&#038;lang=cy"},"modified":"2018-12-20T12:15:15","modified_gmt":"2018-12-20T12:15:15","slug":"examined-life-guto-harri-pgdip-1988","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/12\/17\/examined-life-guto-harri-pgdip-1988\/","title":{"rendered":"Examined Life &#8211; Guto Harri (PgDip 1988)"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-large wp-image-3440\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-1024x576.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"576\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri-970x545.jpg 970w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/12\/examined_life_guto_harri.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/p>\n<p class=\"lead\">Mae Guto Harri yn Awdur, Darlledwr ac yn Ymgynghorydd Cyfathrebu Strategol.<\/p>\n<p><strong>Cefais fy magu ar dir ysbyty seiciatrig &#8211; yn fab i awdur a seiciatrydd.\u00a0<\/strong>Rwy\u2019n chwilfrydig, yn wrthreddfol ac yn werthfawrogol o b\u0175er geiriau o achos hynny. Rhoddais fy mryd ar newyddiaduraeth pan oeddwn yn fyfyriwr yn Rhydychen. Dim ond dwy brifysgol oedd yn cynnig cyrsiau \u00f4l-raddedig yn y pwnc ar y pryd, felly roedd dychwelyd adref yn ddewis greddfol.<\/p>\n<p><strong>Roedd yr athrawon yn ddidrugaredd, yn cyferbynnu traethodau israddedigion gyda\u2019r cysyniad o \u201cgopi\u201d a fyddai\u2019n gwerthu. <\/strong>Roedd realiti\u2019r sefyllfa wedi syfrdanu sawl un ohonom a oedd yn meddwl ein bod mewn sefyllfa gyfforddus. Ac yn ystod y flwyddyn daethom i sylweddoli y bydd ffrindiau a chydweithwyr yn gystadleuwyr ar gyfer nifer cyfyngedig o gyfleoedd a swyddi. Roedd Prifysgol Caerdydd, felly yn gam da tuag at y byd gwaith a maes hynod gystadleuol.<\/p>\n<p><strong>Newyddiaduraeth, ar ei gorau, yw bod yn y lle mwyaf diddorol ar yr adeg fwyaf diddorol <\/strong>gyda\u2019r bobl fwyaf diddorol. Gwaith newyddiadurwr yw cyfleu beth sy\u2019n digwydd i gymaint o bobl \u00e2 phosibl; mae\u2019n alwedigaeth wych ac rwyf wrth fy modd.<\/p>\n<p><strong>Cymraeg oedd fy mamiaith, iaith fy mreuddwydion, <\/strong>a\u2019r iaith yr oeddwn yn gallu mynegi fy hun ynddi orau. Roedd y wasg cyfrwng Cymraeg yn lle amlwg i fi ddechrau fy ngyrfa. Roedd symud i\u2019r BBC, o bosibl y sefydliad newyddion uchaf ei pharch yn y byd, yn rhywbeth eithaf dychrynllyd ar y dechrau. Ond, ar \u00f4l cael fy nerbyn ac ymgymryd \u00e2\u2019r gwaith, fe fwynheais bob eiliad.<\/p>\n<p><strong>O ran gwir fwynhad y swydd, roedd cael fy lleoli yn Rhufain yn rhywbeth na ellir ei guro.<\/strong> Berlusconi a\u2019r Pab, y maffia, bwyd, ffasiwn, trysorau Rhufeinig a dan y m\u00f4r ac esgidiau Arnie Schwarzenegger &#8211; roedd pob eiliad yn llawn cyffro. Gellir dadlau, bod uchafbwynt fy ngyrfa wedi dod ar ddechrau fy ngyrfa: cael fy anfon i Saudi-Arabia yn 23 mlwydd oed ar gyfer rhyfel cyntaf y Gwlff. Roedd dechrau o\u2019r fath yn anghredadwy o lwcus.<\/p>\n<p><strong>Roedd mynd i faes Newyddiaduraeth Wleidyddol yn gam naturiol wedi hynny. <\/strong>\u00a0Aeth dros ddegawd heibio cyn imi sylweddoli bod drws yn gwahanu\u2019r newyddiadurwyr a\u2019r man lle\u2019r oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud. Roeddwn i eisiau bod gyda nhw yn yr ystafell honno. Roedd gorfod bod yn diduedd yn fater arall. Mae\u2019n hollol briodol i ddarlledwyr ond ceir adegau pan mae rhai ohonom eisiau ochri gydag un ochr o\u2019r stori. Digwyddodd hyn i fi gydag Ail Ryfel y Gwlff. Roeddwn i\u2019n credu ei fod yn gamfarn drychinebus, anfoesol, anghyfreithlon hyd yn oed. Daeth yn eglur i fi nad oeddwn eisiau treulio gweddill fy oes yn gorfod bod yn ddiduedd. Roedd symud at wleidyddiaeth a chyfathrebu yn gam rhesymegol.<\/p>\n<p><strong>Ar fy ail ddiwrnod gyda chwmni Cysylltiadau Cyhoeddus cefais fy anfon i Dde America lle\u2019r oedd Morgan Tsvangirai mewn t\u0177 diogel.\u00a0 <\/strong>Roedd Robert Mugabe yn gwrthod rhoi\u2019r gorau iddi ar \u00f4l iddo gael ei guro gan Tsvangirai mewn etholiad. Roeddwn yn yr ystafell ac yn meddwl pa mor ddiddorol oedd y stori cyn sylweddoli nad oeddwn i yno i ohebu\u2019r stori, ond i gynghori.<\/p>\n<p><strong>Pan gafodd Boris Johnson ei ethol yn Faer Llundain, fi oedd un o\u2019i gynghorwyr, <\/strong>yn ei gynorthwyo i redeg Llundain ac yn cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau a\u2019u cyfathrebu. Roedd cymaint i\u2019w wybod, y pwysau yn aruthrol ac roeddwn i\u2019n gyfrifol am ei holl gyfathrebiaeth allanol. Dyna\u2019r swydd anoddaf i fi ei gwneud erioed, a\u2019r un anoddaf y byddaf erioed yn ei gwneud gobeithio, ond roedd hi\u2019n un o\u2019r swyddi y gwnes i ei mwynhau fwyaf.<\/p>\n<p><strong>Nid cyfrinach oedd hi fod gen i a Boris farn wahanol dros Brexit <\/strong>ac rwyf wedi fy synnu, ac yn wir wedi fy siomi\u2019n fawr o hyd ei fod wedi arwain yr ymgyrch i adael. Mae gadael yn rhywbeth trychinebus y mae Prydain wedi ei gwneud i\u2019w hun, ac mae fwy neu lai yn angheuol i Gymru.<\/p>\n<p><strong>Ar \u00f4l y sgandal hacio ffonau, mae\u2019n bosib mai News International oedd y cwmni oedd pobl yn ei gas\u00e1u fwyaf yn y DU.<\/strong> Felly, roedd dechrau fel eu Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn dipyn o sioc i\u2019r system. Roedd y cwmni yn ei hanfod ar d\u00e2n, ac roedd y rhan fwyaf yn rhedeg oddi wrth y perygl. Fe wnaeth y newyddiadurwyr oedd yn gweithio yno eu gwaith yn wych, ddydd ar \u00f4l dydd, yn rhesymu\u2019r byd; yn herio\u2019r cyfoethog a\u2019r pwerus; ac yn rhannu\u2019r wybodaeth \u00e2\u2019r gweddill ohonom ac yn ein diddanu ar yr un pryd. Rwy\u2019n falch o\u2019r r\u00f4l a gymerais yn galluogi\u2019r bobl hynny i fod yn newyddiadurwyr unwaith eto, nid yn cael eu gweld fel hacwyr a llygrwyr bywyd cyhoeddus.<\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r demtasiwn i fod yn \u00f4l yn y byd darlledu <\/strong>ychydig fel taeru na fyddech erioed yn mynd yn \u00f4l i fod yn bianydd cyngherddau eto: nid yw\u2019n golygu na ddylech fynd yn \u00f4l a chwarae\u2019r piano o dro i dro. Mae angen archwilio gwleidyddiaeth Cymru yn ddyfnach, ac mae angen rhoi min ar newyddiaduraeth Cymru, ac os gallaf ddylanwadu ar hynny, byddaf yn hapusach fy myd.<\/p>\n<h3>Darllen fwy am Cardiff Connect<\/h3>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/features\/cardiff-on-a-plate\">Caerdydd ar bl\u00e2t<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/17\/why-universities?lang=cy\">Pam Prifysgolion?<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/2018\/12\/13\/game-changers-karen-cooke-bmus-1996?lang=cy\">Newid y Drefn<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>A wnaethoch chi fwynhau&#8217;r erthygl? <a href=\"https:\/\/www.surveymonkey.co.uk\/r\/MFJ89VL\">Beth yw eich barn?<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Guto Harri yn Awdur, Darlledwr ac yn Ymgynghorydd Cyfathrebu Strategol. Cefais fy magu ar dir ysbyty seiciatrig - yn fab i awdur a seiciatrydd.\u00a0Rwy\u2019n chwilfrydig, yn wrthreddfol ac yn [&hellip;]","protected":false},"author":904,"featured_media":3440,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,169],"tags":[],"class_list":["post-3363","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-examined-life-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3363","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3363"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3363\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3559,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3363\/revisions\/3559"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3440"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3363"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3363"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3363"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}