{"id":3162,"date":"2018-11-22T11:26:31","date_gmt":"2018-11-22T11:26:31","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3162&#038;lang=cy"},"modified":"2018-11-22T11:26:31","modified_gmt":"2018-11-22T11:26:31","slug":"callum-davies-ba-2013","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/11\/22\/callum-davies-ba-2013\/","title":{"rendered":"Callum Davies (BA 2013)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Bu Callum Davies <span style=\"color: #ff0000\">(BA 2013)<\/span> yn astudio Ffrangeg a Chymraeg ac mae e\u2019n dweud mai i\u2019r Ysgol Ieithoedd Modern y mae\u2019r clod am ei helpu i sicrhau ei r\u00f4l bresennol fel Swyddog Cyswllt Chwaraewyr ar gyfer Clwb P\u00eal-droed Dinas Caerdydd.<!--more--><\/p>\n<p>Fe wnes i dyfu i fyny yng nghymoedd De Cymru, ac roeddwn i bob amser wrth fy modd yn mynd i Gaerdydd gyda\u2019m teulu.\u00a0 Roedd bod yn gyfarwydd \u00e2\u2019r ddinas yn help pan oeddwn i\u2019n ystyried pa brifysgol y dylwn i fynd iddi.\u00a0 Roeddwn i wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar yr amrywiol gyrsiau roedd prifysgolion eraill yn eu cynnig, ond fe ges i fy nenu gan y diwrnod agored y bues i\u2019n ei fynychu yng Nghaerdydd.\u00a0 Roeddwn i\u2019n astudio Cymraeg fel ail iaith ar y pryd, ac unwaith roeddwn i\u2019n gwybod mod i\u2019n gallu cyfuno dwy iaith yng Nghaerdydd, bu hynny\u2019n ddylanwad mawr ar fy mhenderfyniad.<\/p>\n<p>Fe wnes i fwynhau cwrdd \u00e2 phobl o bob rhan o\u2019r Deyrnas Unedig a\u2019r tu hwnt, a gwneud ffrindiau gwych ar hyd y ffordd. Roedd fy mlwyddyn gyntaf yn agoriad llygad, ac yn yr ail flwyddyn roedd llawer mwy o ffocws i bopeth, ond yn fy marn i, fy atgof gorau yw astudio dramor yn Montpellier yn ne Ffrainc.<\/p>\n<blockquote><p>Roedd y flwyddyn dramor yn brofiad a newidiodd fy mywyd, ac yn rhywbeth na ddylid ei golli.\u00a0 Roeddwn i\u2019n ffodus yn yr ystyr fy mod wedi cael cyfle i fyw mewn ardal a oedd yn debyg i Gaerdydd, yn yr ystyr ei bod yn fywiog ac yn ifanc, ond gyda mwy o heulwen!!<\/p><\/blockquote>\n<p>Roedd Caerdydd yn cynnig peth cymorth ardderchog i\u2019w disgyblion oedd yn astudio mewn gwlad dramor, ond doedd dim angen llawer o help arnaf fi, gan fod y flwyddyn yn un wych a\u2019m helpodd i ddatblygu\u2019n bersonol ac yn ieithyddol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio fe es i\u2019n syth i gyflogaeth yng nghlwb p\u00eal-droed Dinas Caerdydd. Wrth i mi nes\u00e1u at fy arholiadau terfynol, cysylltodd y clwb \u00e2\u2019r adran Ffrangeg mewn ymgais i gael hyd i siaradwyr Ffrangeg i helpu&#8217;r adran i recriwtio. B\u00fbm yn gweithio ar rai swyddi cyfieithu yn wirfoddol am rai misoedd cyn sicrhau swydd amser llawn wrth i\u2019r clwb gychwyn ar ei dymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.<\/p>\n<p>Mae fy r\u00f4l yn eang iawn ac yn sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed.<\/p>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n defnyddio fy sgiliau iaith bob dydd a gall hynny gynnwys unrhyw beth o gyfieithu sgyrsiau t\u00eem ein chwaraewyr t\u00eem cyntaf i gynllunio teithiau er mwyn i\u2019n sgowtiaid chwilio am y chwaraewyr mawr nesaf. Yn y b\u00f4n mae angen i mi ofalu am les y chwaraewyr a sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio eu hegni i gyd ar chwarae p\u00eal-droed.<\/p><\/blockquote>\n<p>Rydw i\u2019n helpu i gael hyd i eiddo ar gyfer chwaraewyr newydd, ac yn eu helpu nhw\u2019n weinyddol gyda bancio, fis\u00e2u a threthi pan fyddan nhw\u2019n cyrraedd am y tro cyntaf.<\/p>\n<p>Petawn i\u2019n gallu rhoi cyngor i fyfyrwyr presennol byddwn i\u2019n dweud wrthyn nhw am siarad cymaint o Ffrangeg a Chymraeg ag y gallwch chi y tu allan i&#8217;r darlithoedd a\u2019r seminarau. Mae sgiliau iaith wedi bod mor bwysig i mi yn y gwaith a\u2019r tu allan, ac mae\u2019n dal yn wych gweld ymateb pobl i mi pan fydda i\u2019n siarad Ffrangeg.\u00a0 Rwy\u2019n dal i feddwl mod i ddim yn rhugl 100%, felly mae siarad mwy a mwy mewn gwahanol sefyllfaoedd o fudd mawr i chi.<\/p>\n<p>Roeddwn i wrth fy modd gyda\u2019r profiad o fynd i\u2019r brifysgol, a byddwn i\u2019n dwlu cael gwneud y cyfan eto!\u00a0 O gymryd popeth i ystyriaeth, mae\u2019r ddinas a\u2019r brifysgol yn lle perffaith i fyw ac i ddysgu.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bu Callum Davies (BA 2013) yn astudio Ffrangeg a Chymraeg ac mae e\u2019n dweud mai i\u2019r Ysgol Ieithoedd Modern y mae\u2019r clod am ei helpu i sicrhau ei r\u00f4l bresennol [&hellip;]","protected":false},"author":652,"featured_media":3161,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1989,159,1997],"tags":[],"class_list":["post-3162","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-modern-languages-cy","category-uncategorized-cy","category-welsh-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3162","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/652"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3162"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3162\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3687,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3162\/revisions\/3687"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3161"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3162"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3162"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3162"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}