{"id":3125,"date":"2018-10-10T13:49:04","date_gmt":"2018-10-10T13:49:04","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3125&#038;lang=cy"},"modified":"2018-10-10T13:49:04","modified_gmt":"2018-10-10T13:49:04","slug":"emma-garnett-ba-2015","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/10\/10\/emma-garnett-ba-2015\/","title":{"rendered":"Emma Garnett (BA 2015)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Mae Emma Garnett <span style=\"color: #ff0000\">(BA 2015)<\/span> yn Gynorthwy-ydd Cyfrifon Allweddol ar gyfer busnes technoleg rheilffordd, sydd \u00e2 throsiant blynyddol o \u00a30.5 biliwn. Yn \u00f4l Emma, a astudiodd Saesneg Iaith a Ffrangeg, &#8220;mae bob amser yn bleser dychwelyd i Gaerdydd&#8221;.<!--more--><\/p>\n<p>Cefais fy magu yn ne Cymru felly roeddwn yn awyddus i fanteisio ar gael un o Brifysgolion Gr\u0175p Russell ar stepen fy nrws. Cefais fy nenu at y graddau cydanrhydedd yr oedd Caerdydd yn eu cynnig, oedd yn berffaith i rywun fel fi fu&#8217;n cael trafferth penderfynu beth i&#8217;w astudio. Roeddwn wedi gallu cyfuno pwnc yr oeddwn wedi rhagori ynddo&#8217;n gyson yn yr ysgol, gyda phwnc oedd o ddiddordeb mawr i mi.<\/p>\n<p>Fy mlwyddyn dramor yn Ffrainc oedd fy hoff ran o&#8217;m gradd. Yn \u00f4l pob tebyg, ni fyddwn cael y cyfle hwn oni bai am fy nghradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bues i drwy gyfnodau anodd yn ogystal \u00e2 chael digonedd o hwyl, ond roedd cefnogaeth staff yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ddiwyro drwy gydol yr amser. Roeddwn yn arbennig o falch o allu rhoi cyflwyniadau ar fywyd yng Nghymru i ddosbarthiadau y b\u00fbm yn eu haddysgu mewn ysgol uwchradd leol ger Chamb\u00e9ry, lle&#8217;r oeddwn yn byw yn Ffrainc.<\/p>\n<blockquote><p>Heddiw, rwy&#8217;n gweithio i d\u00eem Rheoli Cyfrifon Allweddol mewn cwmni byd-eang. Rwy&#8217;n gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd ac yn cyfrannu at ddatblygu strategaethau ennill cytundebau gwaith er mwyn uwchraddio isadeiledd rheilffyrdd y DU ar gyfer yr oes ddigidol. Rwy&#8217;n ymgysylltu \u00e2&#8217;n cleient mwyaf yn ogystal \u00e2 chadw llygad ar gyfleoedd newydd i gael cytundebau gwaith.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ers imi raddio, rwyf wedi gweithio ar draws maes cyfathrebu, gan wneud popeth o ysgrifennu cylchlythyron gweithwyr a phrawfddarllen datganiadau i&#8217;r wasg, i reoli cysylltiadau cwsmeriaid a datblygu hwb data deallusrwydd busnes.<\/p>\n<p>Bu fy ngradd ym Mhrifysgol Caerdydd yn fodd o fodloni fy obsesiwn \u00e2 iaith, ac fe wnaeth fy annog i weithio ym maes cyfathrebu. Fe wnaeth fy modiwl ar anhwylderau cyfathrebu fy ysbrydoli i wirfoddoli mewn clwb ar gyfer plant ag awtistiaeth. Cefais fy nghyflwyno i gymuned newydd a hyfryd y bues i\u2019n cydweithio \u00e2 hi wedi hynny am amryw o flynyddoedd.<\/p>\n<p>Pe gallwn gynnig ychydig o gyngor i fyfyrwyr presennol, byddwn yn awgrymu eu bod yn treulio amser yn penderfynu pa ddulliau dysgu ac adolygu sy&#8217;n gweithio orau iddynt hwy. P&#8217;un a bod hynny&#8217;n golygu defnyddio cardiau fflach, ysgrifennu tudalennau o nodiadau neu drafod pwnc yn fanwl gyda chymheiriaid, mae&#8217;n werth gweld a yw hynny&#8217;n golygu eich bod yn cadw mwy o wybodaeth ac, yn y pen draw, yn perfformio&#8217;n well mewn asesiadau.<\/p>\n<blockquote><p>Mae fy argraff barhaol o&#8217;r Brifysgol yn dechrau gyda fy nhiwtoriaid \u2013 rwy&#8217;n dal mewn cysylltiad \u00e2 rhai ohonyn nhw ar LinkedIn a&#8217;r cyfryngau cymdeithasol. Maent yn dod yn rhieni ac yn ffrindiau i chi, ac yn gwneud popeth y gallant i&#8217;ch helpu i ffynnu. Mae bob amser yn bleser dychwelyd i Gaerdydd gan mai&#8217;r peth cyntaf a welwch wrth ddod oddi ar y tr\u00ean yw arwydd sy\u2019n eich croesawu i &#8216;gartref Prifysgol Caerdydd&#8217;.<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Emma Garnett (BA 2015) yn Gynorthwy-ydd Cyfrifon Allweddol ar gyfer busnes technoleg rheilffordd, sydd \u00e2 throsiant blynyddol o \u00a30.5 biliwn. Yn \u00f4l Emma, a astudiodd Saesneg Iaith a Ffrangeg, [&hellip;]","protected":false},"author":652,"featured_media":3123,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1989,159],"tags":[],"class_list":["post-3125","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-modern-languages-cy","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3125","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/652"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3125"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3125\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3127,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3125\/revisions\/3127"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3123"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3125"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3125"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3125"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}