{"id":3014,"date":"2018-08-29T09:06:22","date_gmt":"2018-08-29T09:06:22","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=3014&#038;lang=cy"},"modified":"2018-08-29T10:30:47","modified_gmt":"2018-08-29T10:30:47","slug":"simon-blake-obe-ba-1995-graddio-2018","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/08\/29\/simon-blake-obe-ba-1995-graddio-2018\/","title":{"rendered":"Simon Blake OBE (BA 1995) &#8211; graddio 2018"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Yng nghanol mis Gorffennaf, bu Simon Blake OBE (BA 1995), cyn-brif weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn siarad \u00e2 graddedigion o&#8217;r Ysgolion Hanes, Archeoleg a Chrefydd, a Ffiseg a Seryddiaeth. Ers hynny, mae wedi cytuno i gymryd r\u00f4l newydd gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) Lloegr, ac yn ystod ei anerchiad yn y seremoni raddio cyfeiriodd at lwybr ei yrfa, cynlluniau a aeth o chwith, a bod yr annisgwyl wedi dod \u00e2 hapusrwydd iddo.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Simon Blake OBE (BA 1995) on speaking to the Class of 2018\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/15PC0YDhQvo?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>23 blynedd yn \u00f4l, roeddwn yn eistedd lle\u2019r ydych chi nawr yn llawn cyffro ac wedi synnu braidd o weld un o fy nghyd letywr yn cerdded i mewn i\u2019r seremoni fel yr oedd ar fin dechrau.\u00a0Roedd hi wedi argyhoeddi rhywun wrth y drws mai fy chwaer oedd hi a bod ei thocyn gan fy rhieni a oedd eisoes y tu mewn.\u00a0Rwy\u2019n si\u0175r bod y trefniadau diogelwch yn dynnach heddiw!<\/p>\n<p>Gobeithio eich bod chi\u2019n teimlo\u2019r un mor gyffrous ag yr oeddem ni. Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant.\u00a0Dylech fod yn falch iawn o\u2019ch hunain. Ac fel cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, rwy\u2019n falch o bob un ohonoch.<\/p>\n<p>I fod yn onest, roeddwn yn synnu fy mod yn graddio o gwbl. Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i brifysgol ac aeth yr amser yn rhy gyflym imi gymryd y cyfan i mewn ar y pryd.\u00a0Roedd y cyfan fel breuddwyd. Roedd diwrnod graddio yn gyffrous. Diwedd cyfnod a dechrau cyfnod newydd. Ar \u00f4l tair blynedd o astudio, roedd gen i gynllun eithaf da ar gyfer y dyfodol.\u00a0Tra bod fy nghyd letywyr yn aros ar Stryd Glynrhondda tan ddiwedd ein contract, roeddwn ar y ffordd i America, i chwilio am gariad.<\/p>\n<p>Ie; yn synhwyrol, defnyddiais gweddill fy ngorddrafft ac erfyn ar fy rhieni am arian i fynd ar drywydd un o\u2019r carwriaethau cythryblus hynny sy\u2019n gallu digwydd yn y brifysgol. Bydd rhai ohonoch yn gwybod am beth dwi\u2019n s\u00f4n.\u00a0Felly, dyma oedd fy nghynllun:<\/p>\n<p>Treulio cwpl o fisoedd yn America ac yna dod yn \u00f4l, symud i mewn gyda ffrind, cael swydd am flwyddyn, talu rhywfaint o fy nyledion, cynilo peth arian cyn mynd ati i hyfforddi i fod yn seicolegydd addysgol.<\/p>\n<p>Fel sy\u2019n digwydd yn aml gyda\u2019r cynlluniau gorau, ni wnaeth pethau weithio yn union fel yr oeddwn wedi\u2019i fwriadu.<\/p>\n<p>Syrthiodd fy ffrind mewn cariad a symud i fyw \u00e2&#8217;i phartner. Fe wnes i ddychwelyd i Gaerdydd <strong>heb<\/strong> gariad, heb <strong>unrhyw le<\/strong> i fyw a heb <strong>neb i fyw gyda mi<\/strong>.\u00a0Cefais swydd mewn tafarn. Allwn i ddim talu un geiniog o\u2019r ddyled yn \u00f4l. Doeddwn i ddim yn cynilo arian chwaith ac ni wnes i hyfforddi i fod yn seicolegydd addysgol.\u00a0Dwi dal ddim yn seicolegydd addysgol!<\/p>\n<p>Ni weithiodd fy nghynllun, ond fe ddysgodd fy amser yn y Brifysgol yn y ddinas hyfryd hon, fy nghrwydr i America, a\u2019r 23 blynedd ers hynny hyn y canlynol imi:\u00a0Mae bywyd yn gallu bod yn antur. Fe fyddwch yn hapus os ydych yn ei drin fel antur.\u00a0Ni ddychmygais fyth y byddai fy ngyrfa yn cynnwys cynifer o gamau amrywiol ac wedi fy arwain at fy r\u00f4l bresennol fel Prif Weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.\u00a0Nid yw ansicrwydd yn rhywbeth i\u2019w ofni. Dyma beth sy\u2019n rhoi pleser.<\/p>\n<p>Fy amser yma ym Mhrifysgol Caerdydd a roddodd i mi y sylfaen i ddatblygu, dysgu a wynebu heriau a chyfleoedd, a\u2019r hyder i ddechrau ar fy antur fawr.\u00a0Felly, beth ydw i wedi\u2019i ddysgu am anturiaethau bywyd?\u00a0Byddwch yn driw i\u2019ch hunan a chewch fyw bywyd llawn &#8211; i mi, roedd hynny\u2019n golygu dysgu sut i garu a chael fy ngharu fel dyn hoyw.\u00a0Mae caredigrwydd a gofal yn gwbl hanfodol: Dair blynedd yn \u00f4l bu farw fy mrawd yn annisgwyl. Caredigrwydd pobl eraill wnaeth fy helpu i ddygymod \u00e2\u2019r galar &#8211; cyffyrddiad llaw, neges destun, cwtsh, y cerdyn neu\u2019r cwestiwn &#8211; beth alla\u2019 i wneud?<\/p>\n<p>Os byddwch yn cofio un peth yn unig o\u2019r araith hon, cofiwch hyn &#8211; beth bynnag y byddwch yn ei wneud yn y dyfodol, does neb yn rhy bwysig i fod yn garedig i eraill.<\/p>\n<p>Mae camgymeriadau yn mynd law yn llaw ag antur. Gwnewch lawer ohonynt. Dysgwch o\u2019ch camgymeriadau. Byddwch yn barod i dderbyn cyfrifoldeb os ydych yn brifo rhywun ar hyd y daith, ond nid yw bywyd heb gamgymeriadau yn <strong>fywyd gwerth ei fyw.<\/strong>\u00a0 Bydd yr uchafbwyntiau yn wych a bydd yr isafbwyntiau yn eich profi ac yn galw am gryfder mewnol.\u00a0Manteisiwch ar gyfleoedd. Chwiliwch amdanynt. Mentrwch. Gofynnwch am gymorth. Dewch o hyd i bobl i\u2019w hedmygu a gofynnwch am gyngor ganddynt. Gwirfoddolwch. Bydd eich ymdrechion yn talu ar eu canfed yn y pen draw.\u00a0 Dyrchafwch eraill.\u00a0A chofiwch barhau i fwynhau dysgu, rhywbeth rwy\u2019n gobeithio yr ydych wedi\u2019i feithrin yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Mae bywyd yn gallu gwibio heibio, <strong>ond<\/strong> nid yw anturiaethau ar gyfer pobl yn eu hugeiniau yn unig!\u00a0Hyd yn oed yn 30 oed nid oeddwn wedi cyflawni fy mreuddwyd o deithio i Awstralia, felly cymerais ddeufis i ffwrdd o fy ngwaith a mynd. Nid blwyddyn allan yn union, ond profiad RHYFEDDOL.\u00a0Dim ond 6 wythnos yn \u00f4l \u2013 yn 44 mlwydd oed &#8211; fe wnes i gyflawni un o uchelgeisiau fy mywyd &#8211; cymryd rhan mewn cystadleuaeth marchogaeth. Dyna wireddu breuddwyd fu gen i ers fy mhlentyndod, o\u2019r diwedd.\u00a0Roedd y ddau beth yn teimlo mor wych.<\/p>\n<p>Pan raddiais, dim ond tua 5 mlynedd yn h\u0177n nag yr wyf i nawr oedd fy rhieni. Ac i fod yn onest, roeddwn i\u2019n credu bod y ddau mor hen!\u00a0Rwy\u2019n derbyn bod rhai ohonoch yn edrych arna i ac yn credu fy mod i hefyd mor hen.\u00a0Diolch!\u00a0Dwi ddim yn teimlo\u2019n hen. Ond dydyn ni ddim wir yn gwybod pryd y dylem ni deimlo\u2019n hen.\u00a0Roedd Andrew, fy mrawd yn 45 pan fu farw. Rwy\u2019n aml yn pendroni sut y byddai wedi byw ei fywyd &#8211; a fyddai wedi llywio ei fywyd yn wahanol petai ef yn gwybod ei fod am farw mor ifanc.<\/p>\n<p>Felly, fy nghyngor gorau rwy\u2019n ceisio ei ddilyn yw;\u00a0Byw pob dydd fel petai yr olaf. Nid yw hynny\u2019n golygu hidio dim am neb &#8211; nid yw hynny\u2019n synhwyrol nac yn gynaliadwy. Yn hytrach, dylech wneud hynny gyda chyffro, wrth ofalu a charu eich hun, eich teulu a\u2019ch ffrindiau.<\/p>\n<p>Mewn ychydig funudau byddwch yn dechrau ar eich antur \u00f4l-raddedig. Ewch amdani a gadewch eich marc \u2018Prifysgol Caerdydd\u2019 ym mhob man.\u00a0Defnyddiwch eich braint a cheisiwch wneud y byd yn lle gwell.\u00a0Rwy\u2019n dymuno bywyd llawn chwilfrydedd, cariad a chyfeillgarwch ichi. Antur fydd yn dod \u00e2 gwefr a hapusrwydd ichi. Ewch i fyw eich bywyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yng nghanol mis Gorffennaf, bu Simon Blake OBE (BA 1995), cyn-brif weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn siarad \u00e2 graddedigion o'r Ysgolion Hanes, Archeoleg a Chrefydd, a Ffiseg a Seryddiaeth. [&hellip;]","protected":false},"author":1504,"featured_media":3012,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[159],"tags":[],"class_list":["post-3014","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3014","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1504"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3014"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3014\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3044,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3014\/revisions\/3044"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3012"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3014"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3014"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3014"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}