{"id":2998,"date":"2018-08-14T13:25:48","date_gmt":"2018-08-14T13:25:48","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2998&#038;lang=cy"},"modified":"2018-08-14T13:25:48","modified_gmt":"2018-08-14T13:25:48","slug":"matthew-whitley-ba-2018","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/08\/14\/matthew-whitley-ba-2018\/","title":{"rendered":"Matthew Whitley (BA 2018)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Astudiodd Matthew Whitley <span style=\"color: #ff0000\">(BA 2018)<\/span> Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn ddiweddar mae wedi ennill r\u00f4l gyda\u2019r cwmni archwilio rhyngwladol, KPMG. Mae o\u2019r farn bod &#8220;ieithoedd yn hollol hanfodol ym mhob proffesiwn.&#8221;<!--more--><\/p>\n<p>Rydw i wastad wedi bod yn angerddol am ddysgu ieithoedd tramor, yn enwedig Ffrangeg gan i mi ymweld \u00e2 Ffrainc eithaf tipyn drwy gydol fy mhlentyndod. Roedd y cyfle i astudio\u2019r iaith mewn mwy o ddyfnder a byw yn Ffrainc ar gyfer fy mlwyddyn dramor yn apelio\u2019n fawr.<\/p>\n<blockquote><p>Roeddwn i\u2019n caru\u2019r ymdeimlad o gymuned glos sydd gan yr Ysgol. Mae hi o faint hyfryd sy&#8217;n eich galluogi i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid ar lefel bersonol, sydd wir yn gwella eich profiadau dysgu a chymdeithasol.<\/p><\/blockquote>\n<p>Fy hoff atgof o fy amser yn y Brifysgol oedd fy mlwyddyn dramor yn Nantes. Fe wnes i fwynhau pob eiliad yn fawr gan fy mod i\u2019n ymwneud \u00e2 chlwb p\u00eal-droed lleol tra&#8217;r oeddwn i\u2019n byw yno. Roeddwn i\u2019n gallu chwarae a hyfforddi p\u00eal-droed a oedd yn brofiad gwych, a bydd wastad yn aros gyda mi gan fy mod wedi ffurfio ambell i gyfeillgarwch cryf iawn. Fe wnes i hefyd weithio fel Cynorthwyydd Saesneg yn &#8220;Lyc\u00e9e&#8221; (ysgol uwchradd wedi\u2019i hariannu gan y wladwriaeth) fel rhan o gynllun lleoliad gwaith. Roedd hyn yn brofiad gwirioneddol gwerth chweil gan i mi allu cael profiad gwaith gwerthfawr, yn ogystal \u00e2\u2019r cyfle i archwilio diwylliant proffesiynol gwahanol a fydd yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol.<\/p>\n<blockquote><p>Yn ddiweddar, rydw i wedi derbyn swydd gyda KPMG ar eu Cynllun Graddedig Archwilio Dwys. Mi fyddaf yn gweithio ar brosiectau archwilio sy\u2019n wynebu cleientiaid tra hefyd yn gweithio tuag at ennill y cymhwyster proffesiynol ACA y byddaf yn ei ennill ar \u00f4l cwblhau cynllun graddedig tair blynedd. Mi fyddaf wedyn yn gyfrifydd siartredig cymwys.<\/p><\/blockquote>\n<p>Roedd fy astudiaethau yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn hynod fuddiol gan iddynt roi i mi\u2019r sgiliau academaidd a phersonol sydd eu hangen i gyflawni o fewn amgylchedd proffesiynol. Mae ieithoedd yn rhan hanfodol o bob proffesiwn gan fod cyfathrebu yn hanfodol i greu busnes llwyddiannus. Mae cwmn\u00efau o hyd yn chwilio am ieithyddion dawnus i helpu i ehangu eu busnes a\u2019u sylfaen cleientiaid.<\/p>\n<p>I mi, bydd gallu siarad Ffrangeg yn KPMG yn agor llawer o gyfleoedd proffesiynol. Mae gan y cwmni swyddfeydd ledled y byd a sylfaen cleientiaid byd-eang, felly rydw i\u2019n edrych ymlaen at allu defnyddio\u2019r sgiliau iaith hynny yr ydw i wedi\u2019u datblygu o fewn y byd gwaith.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Astudiodd Matthew Whitley (BA 2018) Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn ddiweddar mae wedi ennill r\u00f4l gyda\u2019r cwmni archwilio rhyngwladol, KPMG. Mae o\u2019r farn bod \"ieithoedd yn hollol [&hellip;]","protected":false},"author":652,"featured_media":2997,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1989,159],"tags":[],"class_list":["post-2998","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-modern-languages-cy","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2998","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/652"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2998"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2998\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3001,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2998\/revisions\/3001"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2997"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2998"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2998"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2998"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}