{"id":2903,"date":"2018-07-11T15:24:33","date_gmt":"2018-07-11T15:24:33","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2903&#038;lang=cy"},"modified":"2018-07-11T15:24:33","modified_gmt":"2018-07-11T15:24:33","slug":"sebastian-wanumen-jimenez-ma-2015","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/07\/11\/sebastian-wanumen-jimenez-ma-2015\/","title":{"rendered":"Sebasti\u00e1n Wanumen Jim\u00e9nez (MA 2015)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Mae Sebasti\u00e1n Wanumen Jim\u00e9nez <span style=\"color: #ff0000\">(MA, 2015)<\/span> yn ddarlithydd mewn Hanes Cerddoriaeth a Dadansoddi Cerddorol ym Mhrifysgol Corpas, Bogot\u00e1.\u00a0 Cwblhaodd Sebasti\u00e1n MA mewn Cerddoleg yn yr Ysgol Cerddoriaeth.<!--more--><\/p>\n<p>Byddaf bob amser yn ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd. Roedd ystod enfawr o bynciau ar gael i mi yn yr Ysgol Cerddoriaeth, gydag amrywiaeth o ddarlithwyr profiadol sy&#8217;n adnabyddus yn y byd academaidd. Yn fy astudiaethau israddedig roedd eu henwau&#8217;n cael eu dyfynnu&#8217;n aml ac roeddwn i&#8217;n gyfarwydd \u00e2&#8217;u gwaith ac yn awyddus i gael fy addysgu ganddyn nhw.<\/p>\n<p>Roedd y gyfadran a&#8217;r staff yn yr Ysgol Cerddoriaeth bob amser yn barod i helpu. Roeddwn i&#8217;n teimlo fy mod i wedi fy nghefnogi a chefais fy annog i wella fy mherfformiad fel cerddolegydd. O ganlyniad, roedd fy nghyd-fyfyrwyr a&#8217;r myfyrwyr PhD bob amser yn cydweithio ac yn edrych ymlaen at weld ymchwil ei gilydd.<\/p>\n<blockquote><p>Roedd mynd i Brifysgol Caerdydd yn gam hanfodol er mwyn cyflawni fy nodau.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ar \u00f4l graddio yn 2015, cefais fy ngwahodd i fod yn athro gwadd mewn cerddoriaeth gyda chymrodoriaeth yng Ngweinyddiaeth Diwylliant Colombia yn La Universidad Pedag\u00f3gica y Tecnol\u00f3gica de Colombia.<\/p>\n<p>Yn 2016, cefais fy mhenodi&#8217;n Ddarlithydd Hanes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Corpas yn Bogot\u00e1. Ers hynny rydw i wedi addysgu Hanes Cerddoriaeth a Dadansoddi i fyfyrwyr israddedig sy&#8217;n canolbwyntio ar berfformio cerddoriaeth, hanes cerddoriaeth Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, a cherddoriaeth America Ladin yn yr ugeinfed ganrif. Rydw i hefyd yn ymchwilio i ddulliau ar gyfer gwella technegau addysgu ar gyfer dadansoddi cerddoriaeth a theori cerddoriaeth.<\/p>\n<blockquote><p>Pan gefais fy mhenodi ym Mhrifysgol Corpas, yn ystod yr un flwyddyn cefais fy ngwahodd gan Gerddorfa Symffoni Genedlaethol Colombia i ysgrifennu rhai o&#8217;u nodiadau rhaglen ar gyfer y tymor. Yn 2017 a 2018, des i&#8217;n anodydd swyddogol y Gerddorfa.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ar ddechrau 2018, cefais fy mhenodi hefyd yn ddarlithydd rhan-amser yn y Brifysgol Bedagogaidd Genedlaethol. Mae gweithio yno ac ym Mhrifysgol Corpas wedi bod yn gymaint o fraint.<\/p>\n<p>Ym mis Mawrth 2018, cefais fy nerbyn ar raglen PhD Cerddoleg Prifysgol Boston. Cefais ysgoloriaeth lawn am bum mlynedd a byddaf yn symud i Boston ym mis Medi.<\/p>\n<p>Byddaf yn cofio fy amser yng Nghaerdydd fel cyfnod dynamig, cefnogol, cyfeillgar, gweithgar a rhyngddiwylliannol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Sebasti\u00e1n Wanumen Jim\u00e9nez (MA, 2015) yn ddarlithydd mewn Hanes Cerddoriaeth a Dadansoddi Cerddorol ym Mhrifysgol Corpas, Bogot\u00e1.\u00a0 Cwblhaodd Sebasti\u00e1n MA mewn Cerddoleg yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Byddaf bob amser [&hellip;]","protected":false},"author":652,"featured_media":2901,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1991,159],"tags":[],"class_list":["post-2903","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-music-cy","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2903","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/652"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2903"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2903\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2905,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2903\/revisions\/2905"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2901"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2903"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2903"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2903"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}