{"id":2884,"date":"2018-07-11T14:05:47","date_gmt":"2018-07-11T14:05:47","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2884&#038;lang=cy"},"modified":"2018-07-11T14:05:47","modified_gmt":"2018-07-11T14:05:47","slug":"tony-woodcock-ba-1974","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/07\/11\/tony-woodcock-ba-1974\/","title":{"rendered":"Tony Woodcock (BA 1974)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Tony Woodcock <span style=\"color: #ff0000\">(BA 1974)<\/span> yw sylfaenydd a llywydd Scolopax Arts, cwmni ymgynghori blaenllaw ar gyfer addysg uwch a chelfyddydau perfformio. Ef yw cyn-Lywydd New England Conservatory yn Boston, UDA. Ag yntau\u2019n hen law ar godi arian, trafod a diwygio sefydliadau, mae egni arbennig a syniadau ffres yn sylfaen i\u2019w arweinyddiaeth. Mae wedi gadael syniadau grymus ar ei \u00f4l sy\u2019n parhau i gael eu defnyddio ar draws Unol Daleithiau a\u2019r Deyrnas Unedig.<!--more--><\/p>\n<p>Roedd Prifysgol Caerdydd yn ddewis naturiol i mi. Mae Cymru yn lle mor anhygoel ac fe ddaeth yn rhan bwysig iawn o fy mywyd cynnar. Roeddwn i wrth fy modd \u00e2\u2019r lle ac mae\u2019n rhywle dwi\u2019n dychwelyd ato bob blwyddyn.<\/p>\n<blockquote><p>Mae Cymru wedi cynnig y cyfleoedd mwyaf gogoneddus i mi bob tro a byddaf yn fythol ddiolchgar.<\/p><\/blockquote>\n<p>Fy uchafbwynt wrth astudio yn yr Ysgol Cerddoriaeth oedd gweithio gydag athro rhagorol, Richard Elfyn, oedd yn diwtor arna i. Roedd yn gerddor anhygoel o reddfol a allai droi at y piano ac atgynhyrchu unrhyw waith a glywai unwaith yn unig. Roedd ei wybodaeth a\u2019i anogaeth yn eithriadol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, dechreuais yrfa ym maes rheoli\u2019r celfyddydau gyda swyddi yng Nghyngor Celfyddydau Cymru a South East Arts, cyn dychwelyd i Gaerdydd ym 1984 fel Rheolwr Cyffredinol Neuadd Dewi Sant a oedd newydd ei agor.<\/p>\n<p>Arweiniodd hyn at swyddi fel cyfarwyddwr i nifer o gerddorfeydd yn y DU gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa Symffoni Bournemouth, cyn symud i\u2019r UDA ar ddiwedd y 1990au, ac arwain Cerddorfa Symffoni Oregon a Cherddorfa Minnesota wedi hynny.<\/p>\n<blockquote><p>Un o nifer o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd comisiynu Syr Paul McCartney i ysgrifennu <em>Oratorio Lerpwl<\/em> i ddathlu penblwydd 150 o flynyddoedd Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl.<\/p><\/blockquote>\n<p>Yn 2007, fe\u2019m penodwyd yn Llywydd yn New England Conservatory yn Boston, UDA. Yn ystod fy amser yno, fe wnes i ailosod y rhaglen gerddorfaol yn llwyr a phenodi\u2019r arweinydd Hugh Wolff yn Gyfarwyddwr. Fe wnes i hefyd greu rhaglen Sgiliau Cerddorol Entrepreneuraidd, sy\u2019n darparu sgiliau cerddorol newydd ychwanegol i helpu cerddorion i reoli eu gyrfaoedd, a sefydlu rhaglen El Sistema Fellows sy\u2019n gweithio\u2019n agos gyda Jose Antonio Abreu yn Venezuela.<\/p>\n<p>Yn 2015, fe sefydlais gwmni Scolopax Arts, cwmni ymgynghori arloesol sy\u2019n arbenigo mewn gwaith prosiect creadigol ym maes celfyddydau perfformio ac addysg. Yn y r\u00f4l hon, yr wyf yn ymgymryd \u00e2 gwaith cynllunio strategol, cyfarwyddyd artistig, codi arian, datblygu strategaeth, addysgu, a mentora. Rwyf wedi gweithio gyda rhai sefydliadau gwych gan gynnwys y Royal Northern College of Music; G\u0175yl Incontri in Terra di Siena, Tuscany; Shepherd School of Music ym Mhrifysgol Rice, Ysgol Celfyddydau Prifysgol North Carolina a Yale. Rydw i\u2019n Athro Gwadd yn Ysgol Cerddoriaeth Reina Sofia yn Madrid a Choleg Cerddoriaeth Berklee yn Valencia.<\/p>\n<blockquote><p>Ym mis Gorffennaf 2014, pleser o\u2019r mwyaf oedd dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Roedd 40 mlynedd ers i mi raddio a chefais fy nghroesawu gyda chymaint o gynhesrwydd a haelioni. Roedd y diwrnod cyfan yn llawn emosiwn a llawenydd. Mae Caerdydd yn wych ac yn parhau i feddu ar y fath fywiogrwydd ac egni.<\/p><\/blockquote>\n<p>Pe bawn i\u2019n rhoi cyngor i fyfyrwyr y dyfodol, byddwn yn dweud wrthynt i edrych ar bob cyfeiriad yn gyntaf a pheidio rhoi\u2019r gorau yn hawdd, mae\u2019n ddiwydiant anodd. Meddyliwch am beth sy\u2019n rhoi mantais i chi. Mae teithio ac astudio mewn amgylchedd a diwylliant gwahanol yn gyfle gwych i ddatblygu yn ddeallusol ac fel bod dynol. Ac, yn olaf, meddyliwch a myfyriwch. Dydyn ni ddim yn dueddol o wneud digon o\u2019r naill na\u2019r llall ac rydym yn ymwybodol o\u2019r problemau mae hyn yn ei greu. Dylech wastad yn ystyried eich cynllun a threfnu sut i\u2019w roi ar waith. Yn ei hanfod, mae\u2019n rhan o wneud bywyd yn fwriadol<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tony Woodcock (BA 1974) yw sylfaenydd a llywydd Scolopax Arts, cwmni ymgynghori blaenllaw ar gyfer addysg uwch a chelfyddydau perfformio. Ef yw cyn-Lywydd New England Conservatory yn Boston, UDA. Ag [&hellip;]","protected":false},"author":652,"featured_media":2881,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1991,159],"tags":[],"class_list":["post-2884","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-music-cy","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2884","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/652"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2884"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2884\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2886,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2884\/revisions\/2886"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2881"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2884"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2884"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2884"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}