{"id":2867,"date":"2018-07-10T13:32:50","date_gmt":"2018-07-10T13:32:50","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2867&#038;lang=cy"},"modified":"2018-07-10T13:35:50","modified_gmt":"2018-07-10T13:35:50","slug":"rowena-sefton-ba-2015","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/07\/10\/rowena-sefton-ba-2015\/","title":{"rendered":"Rowena Sefton (BA 2015)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">Mae Rowena Sefton <span style=\"color: #ff0000\">(BA, 2015)<\/span> yn diolch i\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/modern-languages\">Ysgol Ieithoedd Modern<\/a> am ddangos iddi sut mae rheoli llwyth gwaith a sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith; dau beth hanfodol i fywyd athro Ieithoedd Tramor Modern.<!--more--><\/p>\n<p>Dewisais astudio ym Mhrifysgol Caerdydd oherwydd roedd ganddi enw da ac roedd cyflogwyr yn ei gwerthfawrogi; mae hyn yn wir hyd heddiw. Roedd y lleoliadau a oedd ar gael ar gyfer fy mlwyddyn dramor yn ffactor mawr yn fy mhenderfyniad i fynd i Gaerdydd, ac roedd y staff yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn gymwynasgar a chefnogol iawn yn ystod fy nghais. Rhoddodd hyn dawelwch meddwl i mi y buaswn yn cael addysg drylwyr yn fy nghyfnod yno.<\/p>\n<blockquote><p>Fy amser mwyaf cofiadwy yn y brifysgol oedd bod yn rhan o\u2019r Gymdeithas Almaeneg ac yn Llywydd am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn cefais drefnu a chymryd rhan mewn teithiau i\u2019r Almaen yn ogystal \u00e2 theithiau dydd i arddangosfeydd Almaenig gwahanol mewn amgueddfeydd.<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r Gymdeithas Almaeneg yn rhywbeth dwi\u2019n edrych yn \u00f4l arno gyda gw\u00ean.<\/p>\n<p>Ers graddio dwi wedi cwblhau fy TAR ac erbyn hyn dwi hanner ffordd drwy fy mlwyddyn gyntaf fel athro Ieithoedd Modern cymwys mewn academi yn Wiltshire. Un peth da am fy swydd yw nad oes unrhyw ddiwrnod yr un peth. Byddaf fel arfer yn addysgu rhwng tair a chwe gwers y dydd ac yn paratoi gwersi ar gyfer y diwrnodau\/wythnosau nesaf pan nad ydw i\u2019n addysgu. Dwi hefyd wedi cwblhau modiwl cyntaf fy Ngradd Meistr mewn Addysg, a byddaf yn parhau gyda hyn am yr ychydig flynyddoedd nesaf.<\/p>\n<blockquote><p>Mae fy addysg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyfrannu at fy llwyddiant drwy ddangos i mi sut mae rheoli fy llwyth gwaith yn effeithiol a sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae wedi fy helpu i weithio gyda therfynau amser yn effeithlon, a gwnaeth fy amser fel Llywydd y Gymdeithas Almaeneg ddatblygu fy sgiliau trefnu oherwydd roeddwn yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau mawr ac yn gwybod beth yr oedd angen ei drefnu cyn, yn ystod ac ar \u00f4l y rhain.<\/p><\/blockquote>\n<p>Tasen i\u2019n gallu rhoi cyngor i\u2019r Rowena ifanc, buaswn yn ei hannog yn gryf i gael mwy o brofiad yn y gweithle yn ystod y gwyliau. Gall hyn fod yn eithaf brawychus gan fod cymaint o ddyddiadau cau i weithio iddynt ar gyfer arholiadau a gwaith cwrs, ond dyma\u2019r ymrwymiad a\u2019r profiad sy\u2019n gwneud i chi sefyll allan.<\/p>\n<p>Buaswn yn annog myfyrwyr presennol i achub ar gyfleoedd sy\u2019n dod eu ffordd nhw yn ystod eu gradd ond i beidio ag aros am y cyfleoedd hyn oherwydd efallai na fyddant yn dod mor gyflym ag y credwch. Cr\u00ebwch eich cyfleoedd eich hun!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Rowena Sefton (BA, 2015) yn diolch i\u2019r Ysgol Ieithoedd Modern am ddangos iddi sut mae rheoli llwyth gwaith a sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith; dau beth hanfodol [&hellip;]","protected":false},"author":652,"featured_media":2865,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1977,171,1989,159],"tags":[],"class_list":["post-2867","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arts-humanities-social-sciences-cy","category-our-alumni-cy","category-modern-languages-cy","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2867","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/652"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2867"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2867\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2869,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2867\/revisions\/2869"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2865"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2867"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2867"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2867"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}