{"id":2839,"date":"2018-06-29T08:27:44","date_gmt":"2018-06-29T08:27:44","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2839&#038;lang=cy"},"modified":"2018-06-29T08:44:04","modified_gmt":"2018-06-29T08:44:04","slug":"beth-yw-eisteddfod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/06\/29\/beth-yw-eisteddfod\/","title":{"rendered":"Beth yw eisteddfod?"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\">G\u0175yl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformio yw eisteddfod, sy\u2019n dathlu iaith a diwylliant Cymru. Mae\u2019n aml yn ddigwyddiad cystadleuol, gyda chorau, beirdd, cantorion, cerddorion a dawnswyr yn perfformio am wobrau.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-2836 size-full\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041.jpg\" alt=\"\" width=\"570\" height=\"321\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/06\/athn_eisteddfod_gwener_al1_9041-370x208.jpg 370w\" sizes=\"auto, (max-width: 570px) 100vw, 570px\" \/><\/a>Gan ddyddio\u2019n \u00f4l i 1176 (pan ddaeth pobl ynghyd am y tro cyntaf i gastell Rhys ap Gruffydd yn Aberteifi), mae gan yr eisteddfod fodern gryn ddyled i adfywiad y 1790au.<\/p>\n<p>Yr eisteddfod bwysicaf yw <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/\">Eisteddfod Genedlaethol Cymru<\/a>, sef i bob golwg yr \u0175yl gerddorol a barddol fwyaf yn Ewrop. Caiff ei chynnal unwaith y flwyddyn, ac mae\u2019n symud rhwng gogledd a de Cymru bob blwyddyn.<\/p>\n<p>Yn 2018, bydd yn ymweld \u00e2 Chaerdydd am y tro cyntaf ers degawd \u2013 a bydd y maes (cae yw hwn yn aml, ond dyma safle\u2019r \u0175yl yn fwy cyffredinol) wedi\u2019i wasgaru ar draws Bae Caerdydd, gan ymgorffori casgliad enfawr o grwpiau, cymdeithasau, elusennau, a stondinau bwyd a diod.<\/p>\n<p>Disgwylir y bydd 6,000 o gystadleuwyr a 150,000 o ymwelwyr yn heidio i\u2019r ddinas i weld treftadaeth ddiwylliannol Cymru \u2013 ac eleni, c\u00e2nt weld llawer o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd.<\/p>\n<h2><strong>Y beth? <\/strong><\/h2>\n<p>Mae llawer o seremon\u00efau\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r eisteddfod. Mae Gorsedd y Beirdd yn gymdeithas o feirdd, cerddorion, ysgrifenwyr a phobl eraill sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant Cymru, ac mae lliwiau\u2019r gwisgoedd yn dynodi\u2019r cyfraniad o dan sylw.<\/p>\n<p>Cyn 2012, roedd y lliwiau\u2019n dynodi safle \u2013 gwyrdd i Ofyddion, glas i Feirdd a gwyn i Dderwyddon. Ers hynny, cyfeirir at yr holl aelodau fel Derwyddon.<\/p>\n<p>Adfywiad y 1790au sydd i\u2019w gyfrif am sawl un o\u2019r traddodiadau, ond mae gwreiddiau\u2019r seremon\u00efau\u2019n ddyfnach yn hanes Cymru. Mae\u2019r cofnod cynharaf o fardd yn ennill y Gadair yn dyddio\u2019n \u00f4l i\u2019r 12<sup>fed<\/sup> ganrif!<\/p>\n<h2><strong>Beth sy\u2019n digwydd pan fyddwch yn ennill?<\/strong><\/h2>\n<p>Am hyder! Mae seremon\u00efau\u2019r Orsedd yn cydnabod Coroni\u2019r Bardd (am bryddest neu gerddi rhydd), dyfarnu\u2019r Fedal Ryddiaith, a Chadeirio\u2019r Bardd (am awdl neu gerddi mewn cynghanedd gyflawn).<\/p>\n<p>Bydd yr Archdderwydd ac aelodau\u2019r Orsedd yn ymgynnull mewn gwisgoedd seremon\u00efol i gyhoeddi pwy yw\u2019r enillwyr. Bydd y rheini sy\u2019n cystadlu\u2019n defnyddio ffugenw, a bydd yr enillydd yn parhau i fod yn ddirgelwch hyd nes y bydd ar ei draed ar alwad y corn gwlad.<\/p>\n<p>Bydd yn ymlwybro tua\u2019r llwyfan, ond cyn y gellir coroni neu gadeirio\u2019r bardd buddugol, neu gyflwyno\u2019r fedal i\u2019r llenor buddugol, caiff y cledd mawr ei ddal ar i fyny. Yn rhyfedd iawn, arwydd o heddwch yw\u2019r llafn chwe throedfedd. Nid yw\u2019n cael ei ddadorchuddio\u2019n llawn a chaiff ei gario wrth y llafn yn hytrach na\u2019r carn.<\/p>\n<p>Bydd yr Archdderwydd yn gofyn deirgwaith a oes heddwch, a bydd y dorf yn ateb \u2018Heddwch\u2019 deirgwaith, i gadarnhau hynny. Caiff y buddugwr ei ddatgan yn ffurfiol, wedyn, fel y Prifardd neu\u2019r Prif Lenor. Oni bai, wrth gwrs, bod neb yn deilwng yn nhyb y beirniaid, sydd wedi digwydd o bryd i\u2019w gilydd.<\/p>\n<h2><strong>Ddylwn i fynd?<\/strong><\/h2>\n<p>Dylech! Ceir awyrgylch parti go iawn, gyda phawb eisiau dathlu a rhannu diwylliant ac iaith Cymru \u2013 gydag ymdrechion enfawr i wneud yr \u0175yl ddiwylliannol hon yn agored i\u2019r rheini nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg, yn y blynyddoedd diwethaf.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/eisteddfod\">Bydd eich hoff brifysgol yno, hefyd.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"G\u0175yl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformio yw eisteddfod, sy\u2019n dathlu iaith a diwylliant Cymru. Mae\u2019n aml yn ddigwyddiad cystadleuol, gyda chorau, beirdd, cantorion, cerddorion a dawnswyr yn perfformio am wobrau.","protected":false},"author":1504,"featured_media":2836,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-2839","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2839","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1504"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2839"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2839\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2844,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2839\/revisions\/2844"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2836"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2839"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2839"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2839"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}