{"id":2770,"date":"2018-05-31T08:45:34","date_gmt":"2018-05-31T08:45:34","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2770&#038;lang=cy"},"modified":"2018-12-20T12:15:46","modified_gmt":"2018-12-20T12:15:46","slug":"examined-life-chris-jackson-bsc-2002","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/05\/31\/examined-life-chris-jackson-bsc-2002\/","title":{"rendered":"Examined Life: Chris Jackson (BSc 2002)"},"content":{"rendered":"<p class=\"lead\"><em><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-2768 size-full\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002.jpg\" alt=\"\" width=\"1592\" height=\"895\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002.jpg 1592w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-250x141.jpg 250w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-550x309.jpg 550w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-600x338.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-768x432.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-670x376.jpg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-770x433.jpg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-870x489.jpg 870w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2018\/05\/Examined-Life-Chris-Jackson-BSc-2002-970x545.jpg 970w\" sizes=\"auto, (max-width: 1592px) 100vw, 1592px\" \/><\/a>Chris Jackson (BSc 2002) yw\u2019r ffotograffydd brenhinol arobryn ar gyfer Getty Images, un o&#8217;r asiantaethau ffotograffiaeth mwyaf blaenllaw yn y byd.<\/em><\/p>\n<p><strong>Roedd priodas frenhinol y Tywysog Harry a Meghan Markle (Dug a Duges Sussex bellach) yn brofiad anhygoel.<\/strong> O diroedd Castell Windsor roedd awyrgylch a oedd yn syndod o ymlaciedig. Roedd yn anhygoel gweld cymaint o gynrychiolwyr o elusennau\u2019r Tywysog Harry fel Sentebale wedi\u2019u gwahodd i fod yn dyst uniongyrchol i ddiwrnod mor arbennig. Roeddwn i yno i gofnodi ennyd cyntaf y p\u00e2r brenhinol fel p\u00e2r priod.<\/p>\n<p><strong>Fy ngwaith i yw ceisio cipio\u2019r cyffro hwnnw.<\/strong> Pan wnaeth Dug a Duges Caergrawnt briodi, roedd mwy na dau biliwn o bobl yn gwylio. Roedd gennym d\u00eem o 30 o ffotograffwyr yn cwmpasu pob safbwynt. Gwnaethom hyd yn oed yn ei saethu mewn 3D. Roeddwn i\u2019n tynnu lluniau o\u2019r Dug a\u2019r Dduges pan ddaethant allan o Abaty Westminster. Aeth fy lluniau i yn syth at d\u00eem golygu Getty Images, drwy gebl a oedd wedi cael ei osod yn arbennig o dan y ffordd. Yna yn syth bin \u2013 fel fflach \u2013 roedd fy lluniau wedi teithio ledled y byd.<\/p>\n<p><strong>O ran materion ymarferol, rwyf bob amser yn gwneud rhagchwiliad o\u2019r safle yn gyntaf a gwneud yn si\u0175r bod gennyf y lensys iawn.<\/strong> Ar y noson rwyf yn aros mewn gwesty rownd y gornel fel y gallaf fynd heibio i\u2019r torfeydd \u2013 allwch chi ddim cymryd y risg o beidio \u00e2 gallu cyrraedd yno. Yn y briodas frenhinol ddiwethaf, roeddwn i ar ddihun am ddau y bore, yn profi fy holl offer.<\/p>\n<p><strong>Fel ffotograffydd brenhinol, mae gennyf sedd rhes flaen i eiliadau mewn hanes. <\/strong>Mae&#8217;n gymaint o wefr i fod yn rhan o hynny. Rwyf yn cyfarfod \u00e2 chymaint o bobl anhygoel, o bob cefndir, hyd yn oed arweinwyr y byd. Mae\u2019r teulu brenhinol yn destunau gwych \u2013 mae cymaint o bersonoliaethau gwahanol. Rwyf wrth fy modd tynnu ffotograffau o\u2019r Tywysog George, mae ef mor annwyl.<\/p>\n<p><strong>Nid oes dau ddiwrnod yn yr un peth yn y dyddiadur brenhinol.<\/strong> Ond mae yna lawer o bethau traddodiadol \u2013 Royal Ascot, Cyflwyno\u2019r Faner, Gemau\u2019r Ucheldir.\u00a0 Efallai fy mod yn gwneud portreadau ffurfiol un funud ac yna rhywbeth ymlaciedig yn Affrica y funud nesaf.<\/p>\n<p><strong>Rwy&#8217;n teimlo&#8217;n freintiedig iawn cael teithio, ac rwy\u2019n ddiolchgar iawn. <\/strong>Mae teithiau brenhinol drwy gydol y flwyddyn, ond mae pwy fydd yn mynd yn dibynnu ar yr amgylchiadau \u2013 a oes rhywun yn feichiog? A oes priodas? Fis Medi diwethaf gwnes i dynnu ffotograffau o\u2019r Gemau Invictus yn Toronto: roedd hynny&#8217;n wych; mae\u2019r Tywysog Harry yn teimlo mor angerddol amdanynt, ac wrth gwrs dyna oedd ymddangosiad swyddogol cyntaf Duges Sussex. Hefyd cefais daith wych i&#8217;r Eidal gyda Thywysog Cymru. Eleni, wrth gwrs aethom i Awstralia ar gyfer Gemau&#8217;r Gymanwlad, a chael taith wych i Sweden a Norwy gyda Dug a Duges Caergrawnt.<\/p>\n<p><strong>Gweithio gyda Sentebale [elusen y Tywysog Harry] yw\u2019r peth mwyaf buddiol rwyf wedi\u2019i wneud. <\/strong>Mae\u2019r plant rydych yn eu cyfarfod yn anhygoel, ac mae HIV gan lawer ohonynt \u2013 ond roedd modd i ni dynnu\u2019r camer\u00e2u allan a dysgu ychydig o ffotograffiaeth iddynt, a oedd yn wych. Roedd y plant wirioneddol wrth eu bodd.<\/p>\n<p><strong>Mae sawl aelod o\u2019r teulu brenhinol yn mynegi diddordeb mewn ffotograffiaeth.<\/strong> Rydym wedi gweld y Frenhines yn defnyddio camera ychydig o weithiau! Mae Duges Caergrawnt wedi cymryd rhai ffotograffau hyfryd; rydym wedi gweld rhai y mae hi wedi&#8217;u cymryd yn ddiweddar o\u2019r Dywysoges Charlotte.<\/p>\n<p><strong>Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gwneud llawer o bethau y tu allan i ddigwyddiadau Brenhinol.<\/strong> Rwyf wedi teithio i Kilimanjaro ar gyfer Diwrnod Trwynau Coch, rwyf wedi gweithio gyda brandiau moethus ac mewn gwyliau ffilm yn Fenis a Cannes. Dyna\u2019r peth gwych am Getty Images, rydym yn gweithio mewn nifer o feysydd ac mae gennym d\u00eem anhygoel o bobl.<\/p>\n<p><strong>Wnes i ddim dechrau ar fy ngyrfa gyda\u2019r sicrwydd y byddwn yn dod yn ffotograffydd brenhinol.<\/strong> Mae&#8217;r pethau hyn yn datblygu yn organig. Rwyf yn berson celfyddydol, ond roedd gwyddoniaeth yn teimlo fel y peth synhwyrol i&#8217;w wneud! Fe wnes i radd yn y pynciau a oedd o ddiddordeb i mi yn ystod Safon Uwch: bioleg, ffiseg a chemeg. Roedd cwrs Caerdydd mewn Ffisioleg a Seicoleg yn unigryw. Rwyf yn wirioneddol falch i mi ei wneud oherwydd rhoddodd y sgiliau i mi astudio ac roedd yn ffordd wahanol o wneud pethau.<\/p>\n<p><strong>Roedd Caerdydd yn lle gwych i fynd i&#8217;r brifysgol, am ei fod mor ymlaciedig.\u00a0 <\/strong>Gan fy mod i\u2019n hanu o Fannau Brycheiniog, roeddwn i\u2019n adnabod Caerdydd yn eithaf da. Ond gwnes i ddod i\u2019w hadnabod mewn ffordd wahanol fel myfyriwr. Fwy na thebyg treuliais ychydig <span style=\"text-decoration: line-through\">gormod<\/span> o amser yn Jive Hive\u2013 bob dydd Mercher, am tua dwy flynedd a hanner! Hefyd arferwn weithio yn nhafarn The End, nad yw\u2019n bodoli bellach. Roedd yn gyfnod da iawn mewn bywyd.<\/p>\n<p><strong>Gwariais fy nhaliad benthyciad myfyriwr cyntaf ar gamera.<\/strong> Roeddwn yn gweld fy ffotograffau yn cael eu cyhoeddi bob wythnos yn y <em>Gair Rhydd<\/em> ac roeddwn yn cael f\u2019anfon ar aseiniadau fel: \u2018Oes \u2019na broblem sbwriel yng Nghaerdydd?&#8217; ac &#8216;Ydy diodydd egni yn wael i&#8217;ch iechyd?&#8217; Weithiau roeddwn i\u2019n cael fy ffrindiau i fodelu, roeddent bob amser yn fodelau parod!<\/p>\n<p><strong>Roedd gennyf ystafell dywyll yn seler fy nh\u0177 ar Heol Woodville.<\/strong> Roedd yn dwll o le, felly es i ati i\u2019w lanhau i gyd. Roeddwn i wir yn mwynhau datblygu fy ffotograffau, ac roedd fy ffrindiau yn y fflat fwy na thebyg yn pendroni i ble roeddwn i wedi mynd.<\/p>\n<p><strong>Mae\u2019n rhaid i chi fod yn wirioneddol angerddol i lwyddo ym maes ffotograffiaeth a gweithio\u2019n galed. <\/strong>Ar \u00f4l y brifysgol, symudais i Lundain, a gwnes i lawer o brofiad gwaith mewn lleoedd fel Reuters. Cefais fenthyciad i raddedigion i brynu\u2019r camer\u00e2u a chyfrifiaduron a phopeth roedd eu hangen arnaf. Roeddwn i\u2019n tynnu ffotograffau yn fy amser rhydd, ac roeddwn i\u2019n mynd i dynnu ffotograffau o bopeth y gallwn i. Roedd yn golygu fy mod yn dechrau adeiladu portffolio i ddangos i\u2019m penaethiaid yn Getty Images.<\/p>\n<p><strong>Nid oes unrhyw reolau llym ar gyfer tynnu ffotograff da. <\/strong>Yr hyn sy&#8217;n bwysig yw penderfynu ar sut i fynd ati o ran eich testun: efallai y byddwch yn ceisio cyflawni rhywbeth haniaethol, efallai byddwch yn ceisio gwneud cofnod dogfennol gwir o&#8217;r hyn sydd o&#8217;ch blaen. Mae angen ichi ymateb yn gyflym i unrhyw sefyllfa, boed yn newid o ran golau neu leoliad \u2013 ac mae\u2019n rhaid i mi bob amser gyrraedd lleoliadau yn gynnar i baratoi. Peidiwch \u00e2 bod yn hwyr!<\/p>\n<p><strong>Byddwn wrth fy modd yn dod yn \u00f4l i Gaerdydd. Mae&#8217;n ddinas wych. <\/strong>Hoffwn i redeg Hanner Marathon Caerdydd\/Prifysgol Caerdydd! Cyn gynted ag y byddaf yn cyrraedd yn \u00f4l, rwyf yn mynd allan i redeg. Dyma\u2019r ffordd orau i weld popeth fel y gwyddoch, ac mae cymaint o bethau ar garreg eich drws yng Nghymru.<\/p>\n<p><em>Darlun gan Anton Brand<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Chris Jackson (BSc 2002) yw\u2019r ffotograffydd brenhinol arobryn ar gyfer Getty Images, un o'r asiantaethau ffotograffiaeth mwyaf blaenllaw yn y byd.","protected":false},"author":1504,"featured_media":2768,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,169,170],"tags":[],"class_list":["post-2770","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-examined-life-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2770","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1504"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2770"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2770\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2793,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2770\/revisions\/2793"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2768"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2770"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2770"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2770"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}