{"id":2765,"date":"2018-05-30T13:22:48","date_gmt":"2018-05-30T13:22:48","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=2765&#038;lang=cy"},"modified":"2018-06-04T14:13:49","modified_gmt":"2018-06-04T14:13:49","slug":"gwylior-bylchau-strategaeth-prifysgol-caerdydd-ar-gyfer-cefnogi-myfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2018\/05\/30\/gwylior-bylchau-strategaeth-prifysgol-caerdydd-ar-gyfer-cefnogi-myfyrwyr\/","title":{"rendered":"Gwylio\u2019r bylchau: strategaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer cefnogi myfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-2564 size-medium\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-300x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-120x120.jpg 120w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-337x338.jpg 337w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-768x770.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2017\/11\/George-4.jpg 957w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<p class=\"lead\">Ym mis Mai, rhybuddiodd adroddiad gan Universities UK fod cenhedlaeth o fyfyrwyr mewn perygl o \u201clithro drwy&#8217;r bylchau\u201d mewn gwasanaethau iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Gyda 75% o salwch meddwl yn ymddangos erbyn 24 oed a&#8217;r amgylchiadau unigryw sy&#8217;n dod yn sgil astudio llawn amser, mae&#8217;n hawdd gweld pam fod 94% o sefydliadau addysg uwch wedi gweld cynnydd yn y nifer sy&#8217;n ceisio manteisio ar gymorth.<\/p>\n<p>&#8220;Daw bywyd prifysgol \u00e2 llu o heriau a phwysau newydd ar fyfyrwyr.\u00a0Mae&#8217;r pwysau ariannol yn sylweddol, ynghyd \u00e2\u2019r baich academaidd wrth astudio,&#8221; dywed yr Athro Deborah Cohen (MD 2008), cyfarwyddwr Cymorth i Fyfyrwyr yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ffactorau cymdeithasol yn cynnwys cael eich tynnu o strwythurau cymorth ffrindiau a theulu, cael eich amlygu fwyfwy i alcohol a chyffuriau, a&#8217;r pwysau i &#8216;ffitio i mewn&#8217;.&#8221;<\/p>\n<p>Mae ei hasesiad yn cyd-fynd \u00e2 phrofiad George Watkins, sydd ar fin graddio o Gaerdydd (Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth 2015-), ac sydd wedi wynebu ei anawsterau ei hun a gwasanaethu fel Swyddog Iechyd Meddwl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn 2017-18.<\/p>\n<p>&#8220;Doeddwn i ddim mewn lle da pan gyrhaeddais i&#8217;r Brifysgol,&#8221; dywedodd George. &#8220;Rwyf i wastad wedi brwydro gyda gorbryder; i ddechrau roeddwn i ar lawer o feddyginiaeth. Dim ond dwy awr mae&#8217;n ei gymryd i fi gyrraedd adref o Gaerdydd ac roedd hynny&#8217;n ffactor pwysig yn fy newis. Roeddwn i am gadw&#8217;r rhwyd diogelwch yna.&#8221;<\/p>\n<p>I George, roedd dod i Gaerdydd fel &#8220;agor y byd o&#8217;r newydd&#8221;. Ond hyd yn oed wedyn, dywed, &#8220;roedd rhai adegau anodd&#8221;.<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Roeddwn i&#8217;n gwadu fy mhroblemau iechyd meddwl. Daeth pethau i uchafbwynt ac roeddwn i mewn cyflwr y gallech chi ei ddisgrifio\u2019n hunanladdol. Dyna pryd es i weld gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgol; rhoddon nhw gwnsela brys i fi a chadwodd hynny fi i fynd. Mae&#8217;n rhywbeth rwyf i&#8217;n rhyfeddol o falch ohono.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;r Athro Cohen yn glir bod cefnogi lles meddyliol mewn adegau o angen yn rhywbeth mae Caerdydd yn ymroi&#8217;n llawn iddo, ond mae&#8217;n pwysleisio bod y Brifysgol yn awyddus i fynd ymhellach.<\/p>\n<p>&#8220;Rydym ni&#8217;n lansio astudiaeth newydd gyda&#8217;r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl,&#8221; dywed.\u00a0Drwy recriwtio carfan o fyfyrwyr Caerdydd i&#8217;w dilyn dros amser, bydd yr astudiaeth yn &#8220;ymchwilio sut y gallai pryderon iechyd meddwl newid wrth i fyfyrwyr fynd yn eu blaen, a beth allai fod yn ffactorau risg ac yn ffactorau amddiffynnol i&#8217;w hiechyd meddwl.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Yn gyffredinol, mae&#8217;r astudiaeth hon yn ceisio gwella mynediad, darpariaeth ac ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.&#8221;<\/p>\n<h2>Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl<\/h2>\n<p>Ond &#8211; o ystyried arbenigedd Caerdydd yn y maes hwn &#8211; mae&#8217;n hanfodol fod yr ymchwil yn mynd y tu hwnt i gyflenwi gwasanaeth ac i graidd rhai o&#8217;r ffactorau sy&#8217;n sail i&#8217;n hiechyd meddwl yn y cyfnod niwroddatblygol.<\/p>\n<p>&#8220;Fe wyddom fod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn dechrau yn gynnar mewn bywyd,&#8221; dywed yr Athro Jeremy Hall, cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Caerdydd. &#8220;Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar integreiddio iechyd meddwl plant a&#8217;r glasoed lle bynnag y bo&#8217;n bosibl.&#8221;<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 sefydlu t\u00eem cymorth Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn y Brifysgol i helpu&#8217;r rheini sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, yn ddiweddar dyfarnwyd grant o \u00a31m i&#8217;r Sefydliad gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i ymgymryd \u00e2 menter Pathfinder ar raddfa fwy.<\/p>\n<p>Y syniad yw rhannu data clinigol, amgylcheddol, datblygiadol a biolegol &#8211; a bydd rhan o&#8217;r prosiect yn cynnwys sefydlu carfan glasoed, gan edrych ar iechyd meddwl mewn ysgolion.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig ein bod ni fel Prifysgol sydd \u00e2 phroffil uchel o ran ymchwil iechyd meddwl yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r cwestiynau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 phroblemau iechyd meddwl ar yr oed bregus hwn,&#8221; dywed yr Athro Hall.<\/p>\n<p>Mae George yn cytuno i&#8217;r carn.<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;I fi, nid llefydd ar gyfer addysg yn unig yw&#8217;r rhain; mae gan brifysgolion ddyletswydd gofal i&#8217;w myfyrwyr. Gobeithio y gallwn ni arwain drwy ddangos esiampl i weddill y DU.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Mai, rhybuddiodd adroddiad gan Universities UK fod cenhedlaeth o fyfyrwyr mewn perygl o \u201clithro drwy'r bylchau\u201d mewn gwasanaethau iechyd meddwl.","protected":false},"author":1106,"featured_media":2564,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-2765","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2765","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1106"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2765"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2765\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2789,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2765\/revisions\/2789"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2765"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2765"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2765"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}