{"id":10671,"date":"2026-09-28T12:58:24","date_gmt":"2026-09-28T12:58:24","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10671"},"modified":"2026-09-28T12:58:30","modified_gmt":"2026-09-28T12:58:30","slug":"cyn-fyfyrwyr-prifysgol-caerdydd-yn-llunio-gyrfaoedd-y-dyfodol-drwy-brofiad-gwaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/09\/28\/cyn-fyfyrwyr-prifysgol-caerdydd-yn-llunio-gyrfaoedd-y-dyfodol-drwy-brofiad-gwaith\/","title":{"rendered":"Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn llunio gyrfaoedd y dyfodol drwy brofiad gwaith"},"content":{"rendered":"<p><strong>Fel myfyrwyr, ymunodd Hin Fung (Tony) Tsang (MSc 2025) a Wajiya Jawaid (MSc 2025) \u00e2&#8217;r ymgynghoriaeth datblygu ac adeiladu Lee Wakemans fel rhan o interniaethau Trawsnewid Digidol. Ar \u00f4l cwblhau&#8217;r rhaglen, cynigiwyd swyddi parhaol i&#8217;r ddau ohonynt, gan roi hwb i&#8217;w gyrfaoedd a&#8217;u galluogi i gefnogi&#8217;r garfan nesaf o fyfyrwyr ar brofiad gwaith.<\/strong><\/p>\n<p>Mae Charlotte Evans yn Rheolwr Datblygu Busnes yn Lee Wakemans ac mae hi wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ei hun yn y gorffennol. I ddechrau, cyfarfu \u00e2 th\u00eem Profiad Gwaith Prifysgol Caerdydd i drafod gofynion y cwmni o ran interniaethau.<\/p>\n<p>Esboniodd Charlotte: \u201cDaeth fy nghymhelliant dros gynnig lleoliadau o angen busnes ymarferol i gael mwy o waith wedi\u2019i gwblhau\u2019n fewnol, heb ddibynnu bob amser ar gymorth allanol costus. Roedd yn gwneud synnwyr rhoi cyfle i fyfyrwyr galluog, gan gynnwys myfyrwyr meistr, gyfrannu, dysgu a magu hyder wrth gefnogi prosiectau sy\u2019n mynd rhagddynt.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10661 media-10661\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/09\/Tony-Tsang-crop.jpg\" alt=\"\" \/><figcaption class=\"caption\">Tony Tsang (MSc 2025)<\/figcaption><\/figure>\n<p>Helpodd yr interniaeth 12 wythnos o hyd Tony a Wajiya i wella eu sgiliau proffesiynol, magu eu hyder, a datblygu eu gallu i ddatrys problemau a gweithio fel t\u00eem. Fe wnaethon nhw gymryd perchnogaeth dros eu prosiectau a chreu systemau a mentrau newydd i Lee Wakemans.<\/p>\n<p>Myfyriodd Tony ar ei gyfnod fel intern: \u201cYr uchafbwynt i mi oedd adeiladu cymhwysiad pwrpasol, gan gynnwys cronfa ddata, o\u2019r newydd i symleiddio prosesau, gan ddatrys problemau busnes go iawn gan ddefnyddio\u2019r hyn a ddysgais ar fy nghwrs. Mae&#8217;r system yn dal i fod ar waith heddiw ac yn dal i ehangu.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10663 media-10663\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/09\/Wajia-Jawaid-crop.jpg\" alt=\"\" \/><figcaption class=\"caption\">Wajiya Jawaid (MSc 2025)<\/figcaption><\/figure>\n<p>Tynnodd Wajiya sylw at werth ychwanegol ennill profiad proffesiynol yn ystod ei chwrs: \u201cCefais brofiad gwerthfawr cyn cwblhau fy ngradd meistr, sy\u2019n bwysig iawn fel myfyriwr rhyngwladol. Rhoddodd y cyfle i ymuno \u00e2 Lee Wakemans tra oeddwn i\u2019n dal i astudio rywbeth i mi y byddaf yn ddiolchgar amdano byth \u2013 sef y cyfle i roi popeth roeddwn i\u2019n ei ddysgu ar waith mewn amgylchedd proffesiynol go iawn a chefnogol.\u201d<\/p>\n<p>Drwy groesawu myfyrwyr i&#8217;r gweithle, cafodd Lee Wakemans safbwyntiau ffres, syniadau arloesol, a chapasiti ychwanegol i gefnogi prosiectau allweddol. Gan eu bod yn newydd i gyflogi myfyrwyr drwy brofiad gwaith, croesawodd y t\u00eem yr ychwanegiadau diweddar a&#8217;r buddion y gall mewnwelediad ffres a sgiliau allweddol eu cael er mwyn diwallu anghenion busnes.<\/p>\n<p>Rhannodd cyfarwyddwr y cwmni, Mike Hughes, ei feddyliau ar y rhaglen: \u201cMae cynnig lleoliadau wedi ein galluogi i ddod \u00e2 meddwl ffres i\u2019r busnes wrth roi profiad ystyrlon ac ymarferol i fyfyrwyr ar brosiectau go iawn. Nid yw hyn wedi bod yn ymarfer ticio blychau; mae&#8217;r myfyrwyr wedi cyfrannu at feysydd sy&#8217;n wirioneddol bwysig i ni, gan gynnwys datblygu systemau, rheoli data, a gwella prosesau mewnol. Mae eu mewnbwn wedi ein helpu i symud prosiectau ymlaen a allai fod wedi cymryd llawer mwy o amser neu fod wedi gofyn am gymorth allanol fel arall.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu bod lleoliadau profiad gwaith yn hynod fuddiol i gyflogwyr a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae myfyrwyr yn cael profiad o amgylchedd gwaith proffesiynol, yn deall disgwyliadau busnes, ac yn magu hyder, tra bod cyflogwyr yn elwa ar frwdfrydedd, syniadau newydd a gallu ychwanegol. Mae hefyd yn caniat\u00e1u i fusnesau gefnogi talent y dyfodol a rhoi rhywbeth yn \u00f4l mewn ffordd ymarferol a gwerth chweil.\u201d<\/p>\n<p>Ysgogodd llwyddiant clir yr interniaethau fuddsoddiad pellach yn eu gyrfaoedd cynnar pan gynigiwyd contractau parhaol i Tony a Wajiya.<\/p>\n<p>Mae Tony, sydd bellach yn ddatblygwr systemau TG, wedi cwblhau\u2019r cylch, gan gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd ar brofiad gwaith.<\/p>\n<p>Nid yw straeon Tony a Wajiya yn unigryw, gyda nifer gynyddol o sefydliadau yn cydnabod gwerth recriwtio myfyrwyr talentog y maent wedi&#8217;u cefnogi trwy brofiad gwaith.<\/p>\n<figure id=\"post-10664 media-10664\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/09\/Natalia-Trunks-crop.jpg\" alt=\"\" \/><figcaption class=\"caption\">Natalia Trunks (BSc 2024)<\/figcaption><\/figure>\n<p>Cyflogodd Arwen McCarthy, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Connect Meet Educate (CME), y graddedigion Hana Hutton (BSc 2025) a Natalia Trunks (BSc 2024) yn dilyn eu profiad gwaith fel cynorthwywyr digwyddiadau.<\/p>\n<p>Ers hynny, mae&#8217;r ddau gyn-fyfyriwr wedi mynd ymlaen i gefnogi myfyrwyr profiad gwaith pellach fel rhan o&#8217;u rolau proffesiynol. Eglurodd: \u201cMae ein profiad yn CME wedi bod yn un cadarnhaol \u2013 rydym wedi cael pedwar myfyriwr ar leoliad gyda ni dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae tri ohonynt wedi mynd ymlaen i gael rolau parhaol gyda ni. Mae cynnig profiad gwaith fel busnes bach yn eich galluogi chi i elwa ar bobl ifanc dalentog a all wella eich busnes trwy eu dealltwriaeth o dueddiadau a&#8217;u parodrwydd i ddysgu systemau a thechnolegau newydd.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cylch ymgysylltu rhwng cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr yn tynnu sylw at fuddion cydfuddiannol profiad gwaith: mae myfyrwyr yn cael amlygiad ystyrlon i&#8217;r diwydiant, tra bod sefydliadau&#8217;n datblygu llif o raddedigion talentog sydd eisoes yn deall eu busnes a&#8217;u diwylliant.<\/p>\n<p>Bellach wedi hen ennill eu plwyf yn eu gyrfaoedd, mae Tony, Hana, Natalia a chyn-fyfyrwyr eraill mewn sefyllfa dda i helpu myfyrwyr y dyfodol gyda&#8217;u datblygiad proffesiynol a sicrhau bod y cyfle i ennill profiad gwaith yn cael ei gynnal yn eu sefydliad.<\/p>\n<p><strong>I unrhyw sefydliadau lleol sydd \u00e2 diddordeb mewn cynnig interniaeth, cysylltwch \u00e2&#8217;r t\u00eem Profiad Gwaith ar <a href=\"mailto:workexperience@caerdydd.ac.uk\">workexperience@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Fel myfyrwyr, ymunodd Hin Fung (Tony) Tsang (MSc 2025) a Wajiya Jawaid (MSc 2025) \u00e2'r ymgynghoriaeth datblygu ac adeiladu Lee Wakemans fel rhan o interniaethau Trawsnewid Digidol.","protected":false},"author":904,"featured_media":10666,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1975,170,203],"tags":[],"class_list":["post-10671","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gyrfaoedd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10671","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10671"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10671\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10673,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10671\/revisions\/10673"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10666"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10671"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10671"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10671"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}