{"id":10653,"date":"2026-08-27T07:39:10","date_gmt":"2026-08-27T07:39:10","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10653"},"modified":"2026-08-27T07:39:22","modified_gmt":"2026-08-27T07:39:22","slug":"rhannu-profiad-llunio-dyfodol-traweffaith-sgwrs-gyrfaoedd-ym-mhrifysgol-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/08\/27\/rhannu-profiad-llunio-dyfodol-traweffaith-sgwrs-gyrfaoedd-ym-mhrifysgol-caerdydd\/","title":{"rendered":"Rhannu profiad, llunio dyfodol: traweffaith sgwrs gyrfaoedd ym Mhrifysgol Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Bu Tom Walby (BSc 2003, MSc 2005), arbenigwr geodechnegol a geoamgylcheddol a Rheolwr Technegol yn Prichard Remediation, yn rhannu ei daith o\u2019r brifysgol i fyd diwydiant, gan gynnig cyngor ymarferol a barn onest ar banel gyrfaoedd cyn-fyfyrwyr.<\/strong><\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2 thri chyn-fyfyriwr arall, a roddodd o\u2019u hamser i gymryd rhan mewn sesiwn banel gyda&#8217;r nos a drefnwyd gan y Brifysgol, tynnodd sylw at yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y Geowyddorau.\u00a0Wrth ddychwelyd i Brifysgol Caerdydd, cafodd Tom gyfle i fyfyrio a theimlodd bwrpas o\u2019r newydd, a rhoddodd i\u2019r myfyrwyr gipolwg gwerthfawr ar fywyd ar \u00f4l graddio.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei radd yn Ysgol Gwyddorau&#8217;r Ddaear a\u2019r Amgylchedd, dechreuodd Tom ar yrfa ymgynghori yn y sector peirianneg amgylcheddol a sifil.<\/p>\n<p>\u201cDechreuais drwy gael profiad ymarferol, gan ddysgu sut roedd ymchwiliadau ac asesiadau o dir sydd wedi\u2019i lygru\u2019n gweithio\u2019n ymarferol,\u201d eglurodd Tom. \u201cUnwaith i fi fagu hyder, roeddwn i allan yn y maes yn gwneud y gwaith fy hun.\u201d<\/p>\n<p>Dros amser, datblygodd y profiad ymarferol hwnnw yn fentora pobl eraill, cyn i symud i&#8217;r sector contractio gyda Prichard&#8217;s. Heddiw, mae ei r\u00f4l yn pontio&#8217;r bwlch rhwng asesiadau technegol a gwaith ar y safle \u2013 gan gynghori ar strategaethau at ddibenion adfer adnoddau, lleihau gwastraff a phrosiectau datblygiadau sylweddol.<\/p>\n<p>Y profiad sylweddol hwn sy&#8217;n gwneud lleisiau cyn-fyfyrwyr mor werthfawr i fyfyrwyr \u2013 maen nhw\u2019n dod \u00e2&#8217;u pynciau&#8217;n fyw ac yn dangos sut mae eu gwybodaeth yn trosi i\u2019r byd go iawn.<br \/>\nPan gafodd wahoddiad i ddychwelyd i Gaerdydd, roedd Tom wedi\u2019i synnu.<\/p>\n<p>\u201cDoeddwn i ddim wedi llawn sylweddoli pa mor bell roeddwn i wedi dod ers fy nghyfnod fel myfyriwr,\u201d dywedodd. \u201cRoedd y cyfle\u2019n ffordd o siarad \u00e2 fi fy hun pan oeddwn i\u2019n iau, a rhannu fy marn onest am yr yrfa sydd o\u2019u blaenau.\u201d<\/p>\n<p>Er fy mod i wedi bod i ffwrdd ers 20 mlynedd, roedd dychwelyd i&#8217;r campws yn teimlo&#8217;n brofiad cyfarwydd.<\/p>\n<p>\u201cEr bod llawer o bethau wedi newid, mae brwdfrydedd ac uchelgais myfyrwyr yn dal i fod yn sail i\u2019r amgylchedd dysgu hwn.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Rose (Daeareg 2023-) , un o&#8217;r myfyrwyr yn y gynulleidfa: \u201cRwy\u2019n credu bod panel y cyn-fyfyrwyr yn ysbrydoledig tu hwnt. Clywsom gan dri chyn-fyfyriwr sy\u2019n gwneud swyddi gwahanol ynghylch sut mae eu gyrfaoedd wedi datblygu a&#8217;u prif awgrymiadau ar gyfer creu CV a gwneud cais am swyddi. Rwy&#8217;n ddiolchgar am gael cyfleoedd fel y rhain, gan eu bod yn ehangu eich gorwelion ac yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r math hwn o ymateb yn tynnu sylw at werth sgyrsiau gyrfaoedd. Maen nhw\u2019n agor posibiliadau, yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol ac yn rhoi&#8217;r hyder i fyfyrwyr ofyn cwestiynau am eu llwybrau eu hunain. Er bod manteision clir i fyfyrwyr, cafodd y profiad effaith barhaol ar Tom hefyd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd mynd yn \u00f4l i\u2019r brifysgol wedi rhoi hwb i fi fyfyrio ar fy ngyrfa, ar y diwydiant ehangach a fy amcanion hun,\u201d meddai. Daeth hyn yn ddatblygiad proffesiynol pendant, gan gefnogi cyflawniadau ar draws sawl corff proffesiynol, gan gynnwys y Gymdeithas Ddaearegol, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad Siartredig Adeiladu a Sefydliad Arweinyddiaeth.<\/p>\n<p>Fe wnaeth hefyd atgyfnerthu\u2019r neges allweddol yr oedd Tom yn awyddus i&#8217;w rhannu: \u201cNid graddio yw diwedd y stori \u2013 does dim diwedd i\u2019r stori, dim ond penodau newydd.\u201d<\/p>\n<p>Y tu hwnt i ddatblygiad personol, mae sgyrsiau gyrfaoedd yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr a&#8217;r Brifysgol. I Tom, roedd yn gyfle i ailgysylltu \u00e2 Phrifysgol Chaerdydd a dod i nabod unigolion dawnus sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg yn ei faes.<\/p>\n<p>\u201cMae cyn-fyfyrwyr yn cynnig safbwyntiau sy\u2019n mynd y tu hwnt i ddarlithoedd ac arholiadau,\u201d eglura. \u201cMae rhannu llwybrau gyrfa yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae eu sgiliau academaidd yn troi\u2019n gyfleoedd proffesiynol. Mae&#8217;n profi bod llwybrau\u2019n bodoli yn y diwydiant ac mae\u2019n amlygu myfyrwyr i yrfaoedd nad oedden nhw efallai wedi&#8217;u hystyried.\u201d<\/p>\n<p>I gyn-fyfyrwyr sy&#8217;n ystyried cymryd rhan, mae neges Tom yn syml: mae eich profiad yn bwysig. \u201cByddwn i\u2019n annog unrhyw gyn-fyfyriwr i gymryd rhan. Mae profiad yn rhoi persbectif i chi nad oedd gennych chi ar ddechrau eich gyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Nid bwriad rhannu straeon gyrfa, mentora a chefnogi myfyrwyr yw adlewyrchu taith yrfaol berffaith \u2013 y bwriad yw rhannu barn, y gwersi a ddysgwyd gennych a realiti byd gwaith. Drwy wneud hynny, gall cyn-fyfyrwyr wneud gwahaniaeth parhaol i fyfyrwyr ar gyfnod allweddol yn eu bywydau. \u201cMae gennych chi fwy i\u2019w gynnig nag yr ydych chi\u2019n meddwl,\u201d ychwanega Tom. \u201cRhannwch eich profiad.\u201d<\/p>\n<p><strong>Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi o\u2019ch amser, eich arbenigedd a\u2019ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">byddem wrth ein bodd yn cael clywed gennych chi<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bu Tom Walby (BSc 2003, MSc 2005), arbenigwr geodechnegol a geoamgylcheddol a Rheolwr Technegol yn Prichard Remediation, yn rhannu ei daith o\u2019r brifysgol i fyd diwydiant, gan gynnig cyngor ymarferol a barn onest ar banel gyrfaoedd cyn-fyfyrwyr. ","protected":false},"author":904,"featured_media":10651,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,170,203],"tags":[],"class_list":["post-10653","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10653","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10653"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10653\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10655,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10653\/revisions\/10655"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10651"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10653"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10653"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10653"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}