{"id":10645,"date":"2026-06-30T13:00:12","date_gmt":"2026-06-30T13:00:12","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10645"},"modified":"2026-07-02T14:08:31","modified_gmt":"2026-07-02T14:08:31","slug":"fy-mhrofiad-o-fenywod-yn-mentora-nisha-harichandran-llb-2002","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/06\/30\/fy-mhrofiad-o-fenywod-yn-mentora-nisha-harichandran-llb-2002\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad o Fenywod yn Mentora \u2013 Nisha Harichandran (LLB 2002)"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Nisha yn Hyfforddwr Llawenydd ag achrediad ACC ICF sy&#8217;n dod \u00e2 phersbectif aml-ddimensiynol ar ddatblygiad personol a diwylliant corfforaethol. Mae hi&#8217;n cyfuno 18 mlynedd o brofiad rhyngwladol ar draws cwmn\u00efau cyfreithiol blaenllaw a sectorau cymhleth (addysg, telathrebu, atal troseddau ariannol) \u00e2 gwyddoniaeth hapusrwydd yn ei hyfforddiant.<\/strong><\/p>\n<p>Yn bensaer diwylliant, mae Nisha yn meithrin partneriaethau pwerus, gan ganolbwyntio ar gysylltiad dynol ac adrodd straeon busnes. Mae hi&#8217;n awdur, siaradwr, Aelod Bwrdd ac yn Arweinydd Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn ateb. Wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Seren y Dyfodol 2023 (Gwobrau StartUp Cymru) a Gwobrau Meistroli Amrywiaeth 2025 (categori Cynrychiolaeth).<\/p>\n<p>Cymerodd Nisha ran yn ein cynllun <a href=\"https:\/\/discover.cardiff.ac.uk\/cy\/menywod-yn-mentora\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Menywod yn Mentora<\/a> yn 2026, a oedd wedi paru 24 o fentoriaid \u00e2 mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi\u2019n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a\u2019r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen.<\/p>\n<h4>Pam gwnaethoch chi benderfynu ymuno \u00e2 chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor?<\/h4>\n<p>Roedd yn eiliad cwblhau\u2019r cylch i mi, o fod yn fyfyriwr rhyngwladol i fod yn gyn-fyfyriwr sy&#8217;n byw yn y ddinas. Cynigiodd y cynllun Menywod yn Mentora gyfle ystyrlon i ailgysylltu \u00e2 chymuned y brifysgol ac ystyried sut gallwn i roi yn \u00f4l. Rwy wir yn credu ym mh\u0175er menywod sy\u2019n cefnogi ei gilydd, a chynigodd y cynllun hwn y lle hanfodol hwnnw. Wrth ddechrau fy mhrofiad fy hun o\u2019r sector cyfreithiol i ddiwydiannau cymhleth eraill, a fy r\u00f4l fel Hyfforddwr Llawenydd, roeddwn i eisiau pontio dealltwriaeth \u00e2 chefnogaeth i fenywod a chyn-fyfyrwyr eraill Prifysgol Caerdydd.<br \/>\nBeth sy\u2019n gwneud cynllun mentora menywod yn bwysig i chi?<\/p>\n<p>Rwy\u2019n cofio\u2019r menywod ysbrydoledig a chefnogol sydd wedi fy helpu ac yn parhau i roi cymorth i mi ar fy mhrofiad. Roeddwn i eisiau bod y person hwnnw i rywun arall: i\u2019w helpu i weld eu llwybr a dod o hyd i\u2019r dewrder i gredu y gallan nhw gyflawni\u2019r hyn y maen nhw wir ei eisiau. Mae\u2019r gwaith hwn yn creu effaith tonnau hyfryd. Pan fyddwch chi\u2019n gwneud gwahaniaeth i un person, maen nhw\u2019n dylanwadu ar eu hamgylchedd, ac mae\u2019r effaith yn tyfu.<\/p>\n<h4>Allwch chi ddweud wrthon ni am yr hyn oedd y mentora yn ei gynnwys?<\/h4>\n<p>Cefnogais i ddau fentorai mewn proffesiynau a pharthau amser gwahanol. Roedd them\u00e2u&#8217;r sgwrs yn amrywio o gyflwyno mwy o gyfleoedd i chwarae a rheoli ffiniau yn ystod datblygiad gyrfaol, i feithrin presenoldeb a hyder. Roedd yn cynnwys sgyrsiau agored, rhannu profiadau, edrych ar strategaethau a syniadau y gallai gael eu cymhwyso, a bod \u00e2 phartner atebolrwydd. Atgoffais i\u2019r ddau fentorai mai&#8217;r hyn y maen nhw\u2019n ei roi i&#8217;r profiad hwn yw&#8217;r hyn y bydden nhw\u2019n ei gael allan ohono ac roedd y ddau yn bresennol ac yn cymryd rhan yn llawn. Rwy\u2019n ddiolchgar fy mod i wedi meithrin perthynas wych gyda\u2019r ddau fentorai, ac rydyn ni\u2019n parhau gyda\u2019n sgyrsiau y tu hwnt i\u2019r cynllun Menywod yn Mentora.<\/p>\n<h4>Sut mae\u2019r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa?<\/h4>\n<p>Roedd fel cael sgwrs gyfeillgar. Mewn sawl ffordd, roedd yn teimlo fel siarad \u00e2 fy hun yn iau, yn ailymweld \u00e2\u2019r groesffordd roeddwn i yn ei llywio gyda graddau amrywiol o lwyddiant. Cynigiodd y profiad mentora gyfle i atgoffa fy hun yn iau ei bod hi wedi gwneud yn iawn, wrth fod yn bartner dibynadwy i fenyw sy&#8217;n cerdded y llwybr hwnnw nawr. Mae bod y person hwnnw i rywun drwy sgyrsiau personol yn hynod werthfawr. Mae\u2019n adleisio\u2019r hyn rwy\u2019n sefyll drosto yn fy ngyrfa fy hun ac i barhau i arwain yn \u00f4l y gwerthoedd hynny.<\/p>\n<h4>Beth yw un awgrym defnyddiol y byddech chi\u2019n ei roi i fenywod ar ddechrau eu gyrfaoedd\/chi eich hun pan oeddech chi\u2019n iau?<\/h4>\n<p>Byddwch chi\u2019n wynebu ambell rwystr ar hyd y ffordd. Tra bod panig yn opsiwn, mae gennych chi adnodd llawer mwy gwerthfawr: sef adborth. Byddwch yn agored i\u2019w dderbyn a\u2019i ddysgu ganddo. Dylech chi drin adborth fel cyfle dysgu pwerus sy&#8217;n cefnogi eich profiad, a pheidiwch byth \u00e2 rhoi&#8217;r gorau i gredu ynoch chi eich hun a&#8217;r gwerth rydych chi&#8217;n ei gynnig.<\/p>\n<p><strong>Rhowch eich amser, eich arbenigedd a\u2019ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr eraill. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darllen mwy<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Nisha yn Hyfforddwr Llawenydd ag achrediad ACC ICF sy'n dod \u00e2 phersbectif aml-ddimensiynol ar ddatblygiad personol a diwylliant corfforaethol. Cymerodd Nisha ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2026, a oedd wedi paru 24 o fentoriaid \u00e2 mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi\u2019n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a\u2019r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen.","protected":false},"author":904,"featured_media":10644,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-10645","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10645","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10645"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10645\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10648,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10645\/revisions\/10648"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10644"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10645"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10645"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10645"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}