{"id":10589,"date":"2026-05-26T12:41:38","date_gmt":"2026-05-26T12:41:38","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10589"},"modified":"2026-05-26T14:38:51","modified_gmt":"2026-05-26T14:38:51","slug":"gwobrau-tua30-ble-maen-nhw-nawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/05\/26\/gwobrau-tua30-ble-maen-nhw-nawr\/","title":{"rendered":"Gwobrau (tua)30 \u2013 ble maen nhw nawr?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Bum mlynedd yn \u00f4l, fe aethon ni ati i ddathlu cyn-fyfyrwyr Caerdydd sy&#8217;n gwneud gwahaniaeth \u2013 y rhai sy&#8217;n herio\u2019r drefn, yr arloeswyr, y rhai sydd am newid pethau er gwell, y rhai sy\u2019n barod i rebelio a\u2019r torwyr ffiniau.<\/strong><\/p>\n<p>Ers hynny, rydym wedi cael dros 1,000 o enwebiadau (hyd yma) ac wedi cydnabod tua 150 o enillwyr rhagorol o 22 o wledydd a 21 o genhedloedd.<\/p>\n<p>Ydych chi&#8217;n meddwl eich bod chi neu rywun rydych chi&#8217;n ei adnabod yn perthyn i&#8217;n carfan nesaf o gyn-fyfyrwyr (tua)30? Mae amser gennych chi o hyd i brofi hynny \u2013 <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/the-30ish-awards\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cyflwynwch eich enwebiad<\/a> cyn <strong>21 Mehefin 2026.<\/strong><\/p>\n<p>Wrth inni nodi ein pumed flwyddyn o wobrau (tua)30, cawsom air \u00e2 rhai o&#8217;n henillwyr blaenorol i weld beth maen nhw\u2019n ei wneud erbyn hyn.<\/p>\n<figure id=\"post-10575 media-10575\" class=\"image align-left\"><\/figure>\n<figure id=\"post-10585 media-10585\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners1-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Will Hayward (BScEcon 2011, MA 2017)<\/h3>\n<p><strong>Colofnydd yn The Guardian, golygydd The Will Hayward Newsletter, ac awdur sy&#8217;n archwilio gwleidyddiaeth, lle, a bywyd cyhoeddus. <\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillydd (tua)30 yn 2024<\/strong><\/p>\n<p>\u201cErs imi ennill y wobr mae fy nghwmni cyfryngau wedi tyfu&#8217;n sylweddol. Erbyn hyn, mae gennym dros 11k o danysgrifwyr, swyddfa, a sawl aelod o staff. Ar ben hynny, rydw i newydd ryddhau fy nhrydydd llyfr. &#8220;Who Cares About Wales&#8221;.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cyfan yn teimlo&#8217;n eithaf swreal, i fod yn onest. Hyd yn oed nawr rydw i\u2019n parhau i ddefnyddio&#8217;r sgiliau sylfaenol y gwnes i eu mireinio ym Mhrifysgol Caerdydd bob dydd yn rhan o fy nghwrs newyddiaduraeth.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10604 media-10604\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners-new-images-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Roha Nadeem (MA 2022)<\/h3>\n<p><strong>Gohebydd a newyddiadurwr chwaraeon, yn hyrwyddo dulliau adrodd straeon cynhwysol ac yn rhoi mwy o lais i bobl heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd y cyfryngau chwaraeon.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillydd (tua)30 yn 2024<\/strong><\/p>\n<p>\u201cWrth edrych yn \u00f4l, rwy\u2019n falch o ddweud fy mod i wedi bod yn brysur gyda fy mhodlediad a chynnwys digidol. Ar hyn o bryd rwy&#8217;n gweithio ar Uwch-gynghrair Pacistan (PSL) ac yn creu cynnwys ar draws ystod o blatfformau o&#8217;i chwmpas. Ychydig fisoedd yn \u00f4l, dechreuais weithio gyda Wisden \u2013 un o blatfformau criced mwyaf y DU yn ogystal \u00e2\u2019r un mwyaf credadwy. Mae archwilio sut i bontio cysylltiadau rhwng Pacistan a&#8217;r DU drwy griced ac adrodd straeon wedi bod yn broses mor gyffrous. Mae fy sioe chwaraeon fyw ar PTV Sports, sianel wladwriaethol Pacistan, hefyd wedi bod yn fy nghadw\u2019n brysur.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10579 media-10579\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners3-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Jack Collard (BSc 2021)<\/h3>\n<p><strong>Cyd-sylfaenydd British Roundnet ac Uwch-gynllunydd yn Lichfields, yn cyfuno arloesedd ym myd chwaraeon \u00e2 chynllunio trefol.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2022<\/strong><\/p>\n<p>\u201cErs bod yn rhan o\u2019r gwobrau (tua)30 yn 2022, mae fy ngwaith gwirfoddol yn arwain British Roundnet yn dal i ffynnu. Fe wnaethon ni gynnal pencampwriaethau y byd Roundnet 2024 yn Surrey yn llwyddiannus gyda th\u00eem o 30 ac 800 o athletwyr yn bresennol o 34 o wledydd. Mae&#8217;r gamp wedi tyfu o ganlyniad, ac rydyn ni newydd lofnodi cytundeb nawdd gyda FatFace i helpu i hyrwyddo ein camp ymhellach fyth ar lefel y t\u00eem cenedlaethol a&#8217;r lefel sylfaenol.<\/p>\n<p>Rwyf hefyd yn dal i ddefnyddio fy ngradd o Brifysgol Caerdydd yn fawr yn fy swydd bob dydd a des i\u2019n gynlluniwr tref siartredig gyda&#8217;r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ym mis Chwefror 2026.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10605 media-10605\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners-new-images2-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Sheilla Mamona (BSc 2016)<\/h3>\n<p><strong>Hyfforddai gydag ITV News sy\u2019n dilyn gyrfa gynyddol addawol ym maes gohebu a newyddiaduraeth sgrin.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2022<\/strong><\/p>\n<p>\u201cErs derbyn fy Ngwobr (tua)30, rydw i wedi cael lle ar raglen hynod gystadleuol Hyfforddeiaeth ITV News, fel un o 12 a ddewiswyd o blith miloedd o ymgeiswyr. Ers hynny, rydw i wedi dechrau cynhyrchu a gohebu ar gyfer y teledu, ac mae nifer o eitemau wedi cael eu darlledu. Ar ben hynny, rydw i&#8217;n parhau i ganolbwyntio ar adrodd straeon sy&#8217;n cynrychioli pobl o liw yn well mewn newyddion prif ffrwd. Mae wedi bod yn gam cyffrous iawn i faes newyddiaduraeth y teledu, ac rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at weld ba mor bell y medra i fynd.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10580 media-10580\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners5-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Sagnik Basu (MA 2019)<\/h3>\n<p><strong>Cr\u00ebwr a Chynhyrchydd Amlgyfrwng Gweithredol yn The Washington Post, yn cefnogi dulliau arloesol a arweinir gan grewyr ym meysydd y cyfryngau digidol ac adrodd straeon.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillydd (tua)30 yn 2024<\/strong><\/p>\n<p>\u201cRydw i bellach y Cynhyrchydd Gweithredol yn y Washington Post, ac yn arwain gwaith amlgyfrwng wrth gyflwyno safbwyntiau. Ceir cydnabyddiaeth gynyddol ym maes y cyfryngau prif ffrwd\/traddodiadol bod angen iddyn nhw newid eu tactegau er mwyn aros yn berthnasol ar adeg pan fo crewyr mor ddylanwadol. Fy r\u00f4l i yw bod yn ddolen gyswllt yn y newid hwn. Rwy\u2019n creu fy nghynnwys fy hun hefyd ar Instagram sy&#8217;n sefydlu fy mhresenoldeb newydd yn y cyfryngau. Rwy&#8217;n angerddol am greu gyrfa newydd imi fy hun, rhywbeth sydd wedi&#8217;i wneud gan entrepreneuriaid cyfryngau yn unig &#8211; y swyddog gweithredol sydd hefyd yn gr\u00ebwr. Dw i&#8217;n hoffi creu ac mi fydda i bob amser yn gwneud hynny wrth helpu pobl a chwmn\u00efau eraill.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10583 media-10583\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners6-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>He (River) Huang (MA 2013)<\/h3>\n<p><strong>Cyd-sylfaenydd PingPong Digital Ltd, yn defnyddio dulliau adrodd straeon gweledol i archwilio diwylliant, hunaniaeth, a safbwyntiau byd-eang.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2023<\/strong><\/p>\n<p>\u201cErs derbyn y wobr yn 2023, rydw i a PingPong Digital wedi gallu cynnal momentwm ac ehangu\u2019n sylweddol.<\/p>\n<p>Carreg filltir rwy&#8217;n arbennig o falch ohoni yw cael Prifysgol Caerdydd (fy mhrifysgol fy hun!) fel cleient allweddol, gan arwain ei strategaeth marchnata digidol Tsieineaidd ac ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr.<br \/>\nDros y ddwy flynedd diwethaf, rydym hefyd wedi ehangu ein maes gwaith y tu hwnt i addysg uwch, gan weithio gyda brandiau fel Uber Eats ac LNER i&#8217;w helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd Tsieineaidd yn well a cheisio eu denu.<\/p>\n<p>Yn fwyaf diweddar, rydym wedi bod yn paratoi pennod nesaf y busnes \u2013 gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn marchnata trawsffiniol a&#8217;i gymhwyso i&#8217;r gwrthwyneb i gynorthwyo cwmn\u00efau o Tsieina wrth iddyn nhw ehangu&#8217;n rhyngwladol drwy gynnig strategaethau wedi&#8217;u teilwra sy&#8217;n benodol i&#8217;r farchnad. Mae wedi bod yn daith gyffrous o ehangu, arallgyfeirio ac ailddiffinio sut mae marchnata trawsddiwylliannol yn gweithio.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10606 media-10606\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners-new-images3-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Maleena Awn (MSc 2017)<\/h3>\n<p><strong>Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Meridian Maritime Services Ltd, yn arwain gweithrediadau strategol yn y sector morwrol.<br \/>\n<\/strong><br \/>\n<strong>Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2025<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae wedi bod yn nifer o fisoedd hynod lwyddiannus ers ennill y Wobr (tua)30 y llynedd. Rwyf wedi cael y cyfle i helpu i yrru cydweithrediad rhyngwladol rhwng corff addysgol a chymdeithas forwrol ieuenctid. Y bwriad yw gwella mynediad at ddysgu, rhwydweithio a chyfleoedd i weithwyr proffesiynol morwrol ifanc ledled y byd. Mae gweld ei effaith wedi bod yn arbennig o werth chweil.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, rydw i wedi cael y fraint o fentora myfyrwyr y brifysgol sy\u2019n dilyn llwybrau tebyg i&#8217;r rhai y gwnes i eu dilyn yn ystod fy amser yng Nghaerdydd. Mae cefnogi ac annog myfyrwyr wrth iddyn nhw ddod o hyd i\u2019w ffordd o gwmpas eu hastudiaethau a&#8217;u gyrfaoedd cynnar wedi cwblhau\u2019r cylch mewn modd gwirioneddol ystyrlon. Mae\u2019r cyfnod cyffrous hwn o dwf, dysgu a chydweithio wedi bod yn fraint, ac rwy&#8217;n edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn y blynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n<figure id=\"post-10582 media-10582\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Profile-pics-30ish-winners8-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Sam MacGregor (BSc 2020) a Danni Diston (BA 2019)<\/h3>\n<p><strong>DJs Radio 1 y BBC yn hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd drwy ddarlledu.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Enillwyr (tua)30 yn 2024 a\u2019r cyflwynwyr yn 2025<\/strong><\/p>\n<p>\u201cPen-blwydd Hapus Gwobrau (tua)30! Roedd cael ein henwi\u2019n enillwyr yn y categori Newyddiaduraeth a\u2019r Cyfryngau yn 2024 yn anrhydedd enfawr, a phleser pur oedd cael y gwahoddiad i ddod yn \u00f4l yn 2025 i gyflwyno\u2019r digwyddiad! Mae Prifysgol Caerdydd yn golygu llawer inni gan mai yno y gwnaethon ni sioe radio gyda&#8217;n gilydd am y tro cyntaf. Ers ennill y wobr, rydym wedi cyrraedd llawer o gerrig milltir y tu hwnt i\u2019r hyn yr oedden ni wedi gobeithio eu cyrraedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhain yn cynnwys darlledu ein sioe <em>Weekend Afternoon<\/em> arferol ar Radio 1 yn fyw o \u0175yl Glastonbury a threulio haf 2025 yn cyflwyno\u2019r slot <em>Drive Time<\/em> enwog (Mynd Adref) ar yr orsaf. Does gennym ni ddim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau cyn bo hir! Mae Gwobrau (tua)30 yn noson sy\u2019n llawn hwyl ac mae\u2019n wych clywed am y pethau anhygoel y mae cyn-fyfyrwyr eraill wedi&#8217;u cyflawni a rhannu ein cariad at Gaerdydd\u201d<\/p>\n<p><strong>Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli ac am ymuno \u00e2&#8217;r criw unigryw o enillwyr (tua)30? <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/the-30ish-awards\/nominate-or-apply\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyflwynwch eich cais ar gyfer gwobrau<\/a> 2026 cyn 21 Mehefin. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Wrth inni nodi ein pumed flwyddyn o wobrau (tua)30, cawsom air \u00e2 rhai o'n henillwyr blaenorol i weld beth maen nhw\u2019n ei wneud erbyn hyn.","protected":false},"author":904,"featured_media":10603,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-10589","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10589","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10589"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10589\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10607,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10589\/revisions\/10607"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10603"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10589"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10589"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10589"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}