{"id":10551,"date":"2026-05-26T15:03:51","date_gmt":"2026-05-26T15:03:51","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10551"},"modified":"2026-05-26T15:03:51","modified_gmt":"2026-05-26T15:03:51","slug":"dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/05\/26\/dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2026\/","title":{"rendered":"Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2026"},"content":{"rendered":"<h2>Dathlu 7,853\u00a0o oriau o gyn-fyfyrwyr yn gwirfoddoli<\/h2>\n<p><strong>Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 1 Mehefin i ddydd Sul 7 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau. <\/strong><\/p>\n<p>Bob blwyddyn, mae ein cyn-fyfyrwyr gwych sy\u2019n gwirfoddoli yn cael effaith enfawr ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny wrth gefnogi myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr eraill drwy gynlluniau <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\/mentoring\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">mentora<\/a>, eistedd ar fyrddau\u2019r Brifysgol, bod yn rhan o <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/alumni-chapters-and-groups\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gangen cyn-fyfyrwyr<\/a>, dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i roi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\/provide-career-support\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cyflwyniad ar yrfaoedd<\/a> i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\/offer-an-internship\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">interniaethau<\/a> i&#8217;n myfyrwyr. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dysgwch fwy am wirfoddoli<\/a>.<\/p>\n<p>Rydyn ni am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i bob un o&#8217;n cyn-fyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli. Mae eich cefnogaeth chi yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymuned Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<figure id=\"post-10618 media-10618\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/05\/Shopping-list-graphic-2026-3002-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae ein cyn-fyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a s\u00f4n am y boddhad maen nhw\u2019n ei gael wrth wneud hynny.<\/p>\n<h3>Maddison Coomber (LLB 2023)<\/h3>\n<p>Ar y cyd \u00e2 Phrifysgol Caerdydd, mae\u2019r rhaglen Llwybrau at y Gyfraith yn cefnogi myfyrwyr talentog ysgolion a cholegau lleol i ystyried y sector cyfreithiol. Daeth Maddison yn \u00f4l i\u2019r Brifysgol i sgwrsio \u00e2 gr\u0175p o 50 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 am eu profiadau o ymuno \u00e2 byd y gyfraith a sut beth yw\u2019r proffesiwn mewn gwirionedd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/stories\/making-a-career-in-law-accessible\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rhagor o wybodaeth<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cDyma oedd y trydydd tro i mi wirfoddoli, ac rwy\u2019n mwynhau dal i fyny \u00e2\u2019r staff a ddylanwadodd ar fy mhrofiad a chwrdd \u00e2 myfyrwyr sydd ar ddechrau eu profiadau eu hunain. Mae wir yn cwblhau\u2019r cylch. Pan oeddwn i\u2019n fyfyriwr, roedd clywed gan gyn-fyfyrwyr yn gwneud i ddyfodol ym maes y gyfraith deimlo\u2019n llai haniaethol ac yn fwy cyraeddadwy. Trodd \u2018Ryw ddydd, rwy\u2019n gobeithio&#8230;\u2019 yn \u2018Mae hyn yn bosibl i mi.\u2019&#8221;<\/p>\n<h3>Hannah Williams (BSc 2014)<\/h3>\n<p>Roedd Hannah yn fentor yn ein cynllun <a href=\"https:\/\/discover.cardiff.ac.uk\/cy\/menywod-yn-mentora\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Menywod yn Mentora 2026<\/a> a welodd 24 o fentoriaid sy\u2019n gyn-fyfyrwyr yn cael eu paru \u00e2 mentoreion sy\u2019n gyn-fyfyrwyr ar ddechrau eu gyrfa.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r profiad wedi bod yn ddymunol ac yn fuddiol i bawb. Rwy wir wedi gwerthfawrogi cyfle i rannu fy safbwynt, wrth hefyd edrych yn \u00f4l ar fy nysgu fy hun drwy\u2019r sgyrsiau hyn.\u00a0Braint go iawn oedd cael fy newis yn un o\u2019r 24 o fentoriaid sy\u2019n gyn-fyfyrwyr, ac rwy\u2019n ddiolchgar iawn o fod wedi bod yn rhan o\u2019r rhaglen eleni. Mae mentora yn un o\u2019r cyfleoedd prin hynny lle rydych chi\u2019n rhannu dealltwriaeth ond yn ei chael yn \u00f4l ar ei chanfed\u2013 ac mae&#8217;r profiad hwn wedi bod yn union hynny.\u201d<\/p>\n<h3>Dale Perrett (BScEcon 1989)<\/h3>\n<p>Dale yw un o\u2019r cyfarwyddwyr a sefydlodd Novo Executive Search and Selection ac mae\u2019n angerddol dros feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent. Dros lawer o flynyddoedd, mae Novo wedi cynnig profiad yn y byd go iawn, mentora proffesiynol a llwybr i swydd ar \u00f4l graddio i fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/3043133-how-cardiff-business-school-alumnus-supports-the-next-generation-of-talent\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rhagor o wybodaeth<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cMae myfyrwyr ar leoliad yn dod \u00e2 safbwyntiau newydd i\u2019r busnes. Maen nhw\u2019n herio rhagdybiaethau mewn ffordd adeiladol ac yn aml yn sylwi ar bethau nad yw eraill wedi\u2019u hystyried. \u201cMae llawer o\u2019n graddedigion wedi dod drwy\u2019r llwybr hwn, sy\u2019n golygu eu bod yn ymuno \u00e2 ni eisoes yn deall ein diwylliant a&#8217;n disgwyliadau. Mae rhywbeth unigryw am fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Maen nhw\u2019n dueddol o fod yn bragmatig, yn feddylgar, ac yn fasnachol ymwybodol yn gynharach na llawer. Roedd cynnig lleoliadau yn caniat\u00e1u i ni roi profiad go iawn i fyfyrwyr tra ein bod hefyd yn adeiladu ffrwd o weithwyr talentog y dyfodol ar gyfer Novo. Mae partneriaethau cryf yn creu llif dwy ffordd o werth. Mae Prifysgolion yn cael cipolwg ar y diwydiant, ac mae sefydliadau yn cael mynediad cynnar at dalent newydd.\u201d<\/p>\n<h3>Mina Okuru Addico (MA 2019)<\/h3>\n<p>Mina yw un o arweinwyr Cangen Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Ghana. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/alumni-chapters-and-groups\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rhagor o wybodaeth am Ganghennau Cyn-fyfyrwyr<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cErs dychwelyd i Ghana yn 2019 ar \u00f4l fy astudiaethau, rwy wastad wedi bod eisiau dwyn ynghyd bobl o Ghana a astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd \u2013 wedi\u2019r cyfan, cafodd rhai o\u2019r meddyliau disgleiriaf sy\u2019n cyfrannu at Ghana heddiw eu hyfforddi yno. Gweithio gyda\u2019r swyddfa cysylltiadau \u00e2 chyn-fyfyrwyr i wireddu\u2019r weledigaeth hon oedd yn ffordd berffaith i\u2019w wneud. Roedd arwain lansiad Cangen Ghana Prifysgol Caerdydd yn bleser. Rhoddodd gyfle i mi gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr rwy\u2019n edmygu eu gwaith a&#8217;u heffaith yn fawr ar draws gwahanol feysydd, a chreu platfform ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth a chreu effaith ar y cyd yn Ghana.\u201d<\/p>\n<h3>Emma Barlow (BA 2009)<\/h3>\n<p>Cymerodd Emma ran yn rhaglen mentora gyrfaoedd y Brifysgol a chafodd ei pharu ag Erin, sy\u2019n fyfyriwr. Gwnaeth Emma ac Erin gysylltu yn gyflym ac arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfres o sesiynau mentora ar-lein at interniaeth, gan roi cyfle i Erin gael profiad ymarferol. <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/11\/21\/mentora-gyrfaol-ar-waith-o-sgyrsiau-i-ddechrau-gyrfa\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rhagor o wybodaeth<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l sawl sesiwn ar-lein gydag Emma, daeth yn amlwg ein bod wedi sefydlu perthynas dda, ac roeddwn i wedi rhannu llawer am fy ngwaith a\u2019r diwydiant. Roeddwn i\u2019n gwybod y byddai profiad gwaith yn werthfawr \u2013 fel yr oedd wedi bod i mi \u2013 a byddai Erin yn ffitio i mewn yn berffaith yn Northstar. Diolch byth, cytunodd fy nghyfarwyddwyr gwych.\u201d Adeiladodd yr interniaeth ar y pethau roedden nhw wedi&#8217;u trafod yn ystod eu sesiynau mentora a rhoddodd gyfle i Erin weld yn uniongyrchol sut mae&#8217;r diwydiant yn gweithio.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Ni fyddai\u2019n bosib cyflawni\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei wneud heb wirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn \u00f4l, dewch i gymryd rhan. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darganfod mwy<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 1 Mehefin i ddydd Sul 7 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.","protected":false},"author":904,"featured_media":10548,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[170],"tags":[],"class_list":["post-10551","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10551","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10551"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10551\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10560,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10551\/revisions\/10560"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10548"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10551"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10551"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10551"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}