{"id":10538,"date":"2026-03-10T09:23:08","date_gmt":"2026-03-10T09:23:08","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10538"},"modified":"2026-06-18T07:28:40","modified_gmt":"2026-06-18T07:28:40","slug":"bossing-it-menywod-yn-grymuso-menywod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/03\/10\/bossing-it-menywod-yn-grymuso-menywod\/","title":{"rendered":"Menywod yn Grymuso Menywod \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn rhan o\u2019n dathliadau Mis Hanes Menywod, buon ni\u2019n siarad \u00e2 rhai o\u2019n mentoriaid sy\u2019n gyn-fyfyrwyr anhygoel o\u2019n rhaglen flynyddol <a href=\"https:\/\/discover.cardiff.ac.uk\/cy\/menywod-yn-mentora\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Menywod yn Mentora<\/a> ar gyfer yr argraffiad arbennig hwn o \u2018Bossing It.\u2019 Mae pob un o\u2019r arweinwyr yn y diwydiant wedi cynnig eu prif awgrymiadau gyrfaol i rymuso\u2019r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-10532 media-10532\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/03\/Rachel-Rawlings-square-scale.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Rachel Rawlings (BA 2008)<\/h2>\n<p>Mae Rachel, Pennaeth Cynnyrch yn Trustify, yn dod \u00e2 dros 15 mlynedd o brofiad mewn yswiriant a chyllid. Mae hi\u2019n gyrru canlyniadau sy\u2019n canolbwyntio ar y cwsmer, twf cynaliadwy, ac arweinyddiaeth cynnyrch y dyfodol ac yn gwasanaethu fel Is-gadeirydd Goleudy, elusen tai yng Nghymru.<\/p>\n<p><strong>Rhowch ganiat\u00e2d i chi eich hun i newid cyfeiriad <\/strong><\/p>\n<p>Yn gynnar yn fy ngyrfa, roeddwn i\u2019n credu bod rhaid i bob cam olygu symud i fyny a\u2019u bod yn anwrthdroadwy. Y gwir amdani yw ei fod yn fwy cymhleth o lawer \u2013 ac yn llawer mwy diddorol! Rwy wedi newid diwydiannau, camu i\u2019r ochr, a hyd yn oed wedi gweithio mewn rolau a oedd yn ymddangos i fod yn gam yn \u00f4l. Bob tro, ces i gipolwg craffach ar beth sy\u2019n fy ysgogi a beth sy\u2019n fy mlino. Nid bod yn gaeth i gynllun a arweiniodd at y twf mwyaf, ond rhoi sylw i beth roeddwn i\u2019n ei ddysgu amdana i fy hun. Os nad yw rhywbeth yn gweithio, does dim rhaid cyfiawnhau aros. Hwyrach mai rhoi caniat\u00e2d i\u2019ch hun newid cyfeiriad fydd y penderfyniad mwyaf strategol rydych chi\u2019n ei wneud.<\/p>\n<h2>Leticia Korin-Moore (BA 2006)<\/h2>\n<figure id=\"post-10533 media-10533\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/03\/Leticia-Korin-Moore-Headshot-square-scale.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Leticia yw Rheolwr Gyfarwyddwr SBW, un o\u2019r prif asiantaethau marchnata a hysbysebu integredig yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Mae\u2019n gweithio fel marchnatwr siartredig CIM ers 12 mlynedd, ac mae ganddi bron i 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu.<\/p>\n<p><strong>Meithrin y cysylltiadau rydych chi\u2019n eu gwneud drwy gydol eich gyrfa<\/strong><\/p>\n<p>Yn wreiddiol o Frasil, symudais i i Gymru i astudio mewn gwlad a thrwy iaith newydd, cyn dechrau fy ngyrfa yn weithredwr iau ym maes hysbysebu. Gweithiais fy ffordd drwy bob lefel i ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar asiantaeth. Y cysylltiadau oedd yr elfen gyson yn ystod pob cam. Y bobl a gredodd ynof fi, a roddodd o\u2019u hamser i fy arwain, a wnaeth gwahaniaeth mawr. Pobl dda sy\u2019n codi eich calon, yn eich herio chi ac yn eich helpu chi i dyfu. Rwy wedi dysgu taw cynnydd, nid perffeithrwydd, sy\u2019n eich symud ymlaen. Felly, byddwch yn chwilfrydig, gofynnwch gwestiynau, gwnewch gamgymeriadau a sicrhewch eich bod yn meithrin y cysylltiadau sy\u2019n gwneud i chi deimlo\u2019n ddewr. Byddan nhw\u2019n mynd \u00e2 chi\u2019n bellach nag yr ydych chi\u2019n ei feddwl.<\/p>\n<figure id=\"post-10534 media-10534\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/03\/Hannah-Williams-square-scale.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Hannah Williams (BSc 2014)<\/h2>\n<p>Mae Hannah yn Ddirprwy Uwch Reolwr a Phennaeth Datblygu Busnes Newydd yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad ar draws adrannau Sony, mae hi\u2019n arwain prosiectau byd-eang, yn gyrru partneriaethau strategol, ac yn ysbrydoli timau \u2013 gan lywio gweledigaeth a thwf trwy arweinyddiaeth ac arloesedd.<\/p>\n<p><strong>Croesawu cyfleoedd<\/strong><\/p>\n<p>Daeth rhai o\u2019r camau mwyaf pwysig yn fy ngyrfa o groesawu cyfleoedd oedd yn fy herio, gan gynnwys symud rhwng caffael, rheoli prosiectau a datblygu busnesau newydd. Llwyddodd bob profiad i ehangu fy ngorwelion a gwella fy hyder fel arweinydd. Yn gynnar yn eich gyrfa, does dim angen cynllun perffaith arnoch chi neu fod wedi cynllunio popeth. Yn aml, daw twf yn sgil heriau annisgwyl sy\u2019n eich helpu chi i greu cysylltiadau, datblygu sgiliau newydd a deall sut mae sefydliadau wir yn gweithio. Pan fydd y cyfle\u2019n codi, rhowch ystyriaeth iddo a bod yn barod i roi cynnig arnyn nhw. Hyd yn oed os yw rhywbeth yn teimlo\u2019n anghyfarwydd, hwyrach y profiad hwnnw fydd yn llunio eich llwybr yn y dyfodol.<\/p>\n<h2>Sophie Wint (BSc 2008)<\/h2>\n<figure id=\"post-10536 media-10536\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/03\/Sophie-Wint-square-scale.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Sophie yw Cyfarwyddwr Cyllid Hedyn, lle mae hi\u2019n arwain ar gynllunio ariannol strategol, trysorlys, a chaffael. Yn eiriolwr angerddol dros dai cymdeithasol, mae hi\u2019n gyrru newid diwylliannol ac yn herio\u2019r sefyllfa sydd ohoni i gyflawni effaith barhaol wrth sicrhau cynaliadwyedd ariannol.<\/p>\n<p><strong>Byddwch yn driw i chi eich hun yn y gwaith<\/strong><\/p>\n<p>Wrth feddwl am fy ngyrfa, y peth cyntaf y byddwn i\u2019n ei awgrymu i unrhyw un sy\u2019n dechrau arni heddiw fyddai i fod yn onest ac yn driw i chi eich hun yn y gwaith. Rwy\u2019n meddwl bod cred yn bodoli bod angen cadw at ymddygiadau neu ddisgwyliadau penodol i fod yn broffesiynol; fodd bynnag, mae pethau megis gwerthoedd personol, profiadau bywyd, angerdd a brwdfrydedd yn eich rhoi chi gam ar y blaen ac yn eich galluogi chi i ychwanegu gwerth drwy eich gwaith, felly peidiwch \u00e2 bod ofn dangos y rhain a meddyliwch am sut y gallwch chi eu defnyddio i wneud beth rydych chi\u2019n ei garu.<\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">Ymunwch \u00e2\u2019n gr\u0175p LinkedIn a dechrau rhwydweithio<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn rhan o\u2019n dathliadau Mis Hanes Menywod, buon ni\u2019n siarad \u00e2 rhai o\u2019n mentoriaid sy\u2019n gyn-fyfyrwyr anhygoel o\u2019n rhaglen flynyddol Menywod yn Mentora ar gyfer yr argraffiad arbennig hwn o \u2018Bossing It.\u2019 ","protected":false},"author":904,"featured_media":10531,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10538","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10538","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10538"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10538\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10636,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10538\/revisions\/10636"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10531"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10538"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10538"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10538"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}