{"id":10522,"date":"2026-01-09T11:13:40","date_gmt":"2026-01-09T11:13:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10522"},"modified":"2026-06-18T07:29:24","modified_gmt":"2026-06-18T07:29:24","slug":"bossing-it-sut-i-gyrraedd-y-lefel-nesaf-yn-broffesiynol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2026\/01\/09\/bossing-it-sut-i-gyrraedd-y-lefel-nesaf-yn-broffesiynol\/","title":{"rendered":"Sut i gyrraedd y lefel nesaf yn broffesiynol \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong>Ydych chi\u2019n barod i wneud 2026 y flwyddyn orau eto? P\u2019un a ydych chi\u2019n anelu i fireinio eich sgiliau, dringo\u2019r ysgol yrfaol, neu feistroli\u2019r grefft o rwydweithio, dyma\u2019r amser i gymryd yr awenau. Gofynnon ni i rai o\u2019n cyn-fyfyrwyr anhygoel rannu eu cyngor gorau ar sut i gyrraedd y lefel nesaf yn broffesiynol.<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-10516 media-10516\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/01\/Diksha-headshot-square.png\" alt=\"Diksha Dwivedi\" \/><\/figure>\n<h2>Diksha Dwivedi (MA 2014)<\/h2>\n<p>Yn angerddol dros adrodd straeon a gyda dawn am adeiladu brandiau dylanwadol, mae Diksha wedi canolbwyntio ei gyrfa ar helpu arweinwyr i lunio naratifau personol gafaelgar. A hithau\u2019n sylfaenydd gwefan newyddiaduraeth sy\u2019n cael ei phweru gan bobl AkkarBakkar.com a\u2019r asiantaeth frandio <a href=\"https:\/\/www.yosomedia.in\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">YOSO Media<\/a>, mae hi wedi llywio strategaethau cynnwys arloesol a thechnegau adrodd straeon pwerus, gan gyrraedd miliynau yn fyd-eang. Mae ei gwaith proffesiynol yn rhychwantu rolau amrywiol, o ysgrifennu erthyglau nodwedd yn Yahoo! i arwain ar waith marchnata\u2019r brand yn Invideo.io.<\/p>\n<p>Mae Diksha hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr gan gynnwys <a href=\"https:\/\/www.amazon.co.uk\/Letters-Kargil-through-soldiers-Paperback\/dp\/9386228432\/ref=sr_1_1?adgrpid=1188573815786655&amp;dib=eyJ2IjoiMSJ9.5_qkssCBDmF9NQMIt7x_VXrOU0NOhc1MymurouD85lLGjHj071QN20LucGBJIEps.b324sQTHwxy3Pj3hcQgABXkSaP3Y2Q-C76_XgIkX6XU&amp;dib_tag=se&amp;hvadid=74286089847021&amp;hvbmt=be&amp;hvdev=c&amp;hvlocphy=41163&amp;hvnetw=o&amp;hvqmt=e&amp;hvtargid=kwd-74286145208935%3Aloc-188&amp;hydadcr=11645_2519529&amp;keywords=letters+from+kargil&amp;mcid=a0264d9a39ea3a3697e6680388a24075&amp;qid=1766053693&amp;sr=8-1\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Letters from Kargil<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.amazon.co.uk\/Nimbu-Saab-Barefoot-Naga-Kargil\/dp\/9362133687\/ref=sr_1_2?crid=1NDHENQ95NF8I&amp;dib=eyJ2IjoiMSJ9.QbAqNRmz0kUXR02BGpfgug.oxi6xqfZX4t4Pjjagleq6bVhvUpGNnGqnGz5RwOq4Qo&amp;dib_tag=se&amp;keywords=Nimbu+Saab&amp;qid=1766053719&amp;sprefix=nimbu+saab+%2Caps%2C94&amp;sr=8-2\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Nimbu Saab<\/a> ac yn Gadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr India Prifysgol Caerdydd, gan gyd-arwain ein Cangen yn New Delhi. Cenhadaeth eithaf Diksha yw rhoi\u2019r gallu i sylfaenwyr ac entrepreneuriaid fynegi eu straeon, cysylltu \u00e2&#8217;u cynulleidfaoedd, ac adeiladu brandiau personol sy\u2019n para.<\/p>\n<p><strong>Caiff cysondeb ei adeiladu dros amser<\/strong><\/p>\n<p>Os ydw i wedi dysgu un peth o fy mhrofiad entrepreneuraidd, dyma fe. Mae i gyd yn cronni dros amser! Popeth rydych chi\u2019n ei wneud yn eich gwaith \u2013 bob dydd. Mae\u2019n bosibl i hynny deimlo\u2019n ddiflas ar y cychwyn, heb lwyddiannau sydyn, dim cymeradwyaeth, dim cydnabyddiaeth. Ond y diflastod hwnnw yw pris dod yn feistr ar rhywbeth. Mae bod yn bresennol bob dydd i ddatblygu un sgil, gan wella 1% yn unig, yn teimlo\u2019n ddibwys ar y pryd. Ond dros amser, mae\u2019r ymdrechion bach hynny\u2019n pentyrru, yn lluosi ac yn golygu eich bod chi\u2019n rhagori ar y lleill. Tra bod eraill yn chwilio am ddatrysiadau cyflym ac atebion hawdd, rydych chi\u2019n datblygu dyfnder, hygrededd a hyder. Dyna yw\u2019r fantais annheg go iawn. Yn anaml iawn y mae llwyddiant yn datblygu\u2019n gyflym, mae\u2019n digwydd drwy ymdrech gyson pan nad oes neb yn edrych.<\/p>\n<h2>Emmeline Brooks (MSc 2018)<\/h2>\n<figure id=\"post-10517 media-10517\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/01\/Emmeline-Brooks-Headshot-square.png\" alt=\"Emmeline Brooks\" \/><\/figure>\n<p>Cwblhaodd Emmeline ei MSc mewn Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi bellach yn gweithio\u2019n Gynllunydd Trefi Siartredig ac yn Brif Swyddog Polisi Cynllunio yn Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr, ym Mryste. Yn y r\u00f4l hon, mae hi\u2019n cefnogi datblygiad Strategaeth Datblygu Gofodol Gorllewin Lloegr, a fydd yn arwain twf y rhanbarth yn y dyfodol. Cyn hyn, treuliodd Emmeline wyth mlynedd yn gweithio yn y sector preifat yn Ymgynghorydd Cynllunio i Arup.<\/p>\n<p><strong>Dysgwch gan eich cyfoedion<\/strong><\/p>\n<p>Un o\u2019r effeithiau mwyaf cadarnhaol ar fy ngyrfa hyd yma oedd fy r\u00f4l wirfoddol gyda fy nghorff proffesiynol, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI). Rwy wedi cadeirio \u2018Young Planners\u2019 Cymru RTPI \u2013 gr\u0175p wedi\u2019i sefydlu i roi cymorth i weithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa. Rhoddodd hyn gyfle i fi rwydweithio a dysgu gan fy nghyfoedion \u2013 roedd llawer ohonyn nhw\u2019n gweithio mewn gwahanol sefydliadau ac ar wahanol agweddau ar gynllunio trefol. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gref i fi o led fy mhroffesiwn. Roedd hefyd wedi cynnig gwahanol gyfleoedd a heriau i mi yn gynnar yn fy ngyrfa mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol, gan fy ngwneud i\u2019n gynlluniwr trefi mwy effeithiol ac ystyriol.<\/p>\n<figure id=\"post-10518 media-10518\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/01\/He-River-Huang-square.png\" alt=\"River Huang\" \/><\/figure>\n<h2>River Huang (MA 2013)<\/h2>\n<p>Cyn-fyfyriwr rhyngwladol Prifysgol Caerdydd o Tsieina yw River a gyd-sefydlodd PingPong Digital yn y DU yn 2013. Mae\u2019r asiantaeth ddigidol arobryn hon yn helpu brandiau a sefydliadau byd-eang i ymgysylltu \u00e2 chynulleidfaoedd yn Tsieina drwy ymgyrchoedd wedi\u2019u teilwra ar blatfformau megis WeChat, RED, Douyin, a Weibo. Bellach mae PingPong Digital yn helpu cleientiaid gan gynnwys prifysgolion mawr yn y DU, datblygwyr eiddo tirol moethus a brandiau defnyddwyr byd-eang. Ar hyn o bryd, mae\u2019r cwmni\u2019n cyflogi dros 25 o aelodau staff yn y DU a mwy na 40 ledled y byd i gefnogi ei bortffolio sy\u2019n tyfu ac anghenion cynhyrchu cynnwys.<\/p>\n<p><strong>Byddwch yn chwilfrydig<\/strong><\/p>\n<p>I fi, mae \u201ccymryd y cam nesaf\u201d yn ymwneud \u00e2 bod yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu rhywbeth newydd, hyd yn oed os yw hynny\u2019n anghyfarwydd i fi. Mae gweithio ar wahanol farchnadoedd a phlatfformau yn newid yn gyflym, felly rwy wedi dod i\u2019r arfer o wella fy sgiliau\u2019n barhaus \u2013boed hynny\u2019n ystyried technolegau newydd, deall tueddiad newydd i\u2019r farchnad, neu wella sut rwy\u2019n gweithio o ddydd i ddydd. Mae gwelliannau bach, cyson yn cronni dros amser. Peidiwch ag aros am y cyfle perffaith neu ddyrchafiad mawr i dyfu; dechreuwch gydag un sgil ymarferol a datblygwch oddi yno. Dyma yw\u2019r meddylfryd sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn fy ngyrfa hyd yma.<\/p>\n<figure id=\"post-10519 media-10519\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2026\/01\/Bianca-De-Souza-Headshot-square.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Bianca de Souza (LLB 2019)<\/h2>\n<p>Mae Bianca yn Gyfreithiwr ac yn Swyddog Cydymffurfio Lleol yn Daimler Truck UK, lle mae hi\u2019n cynghori ar faterion masnachol, rheoleiddiol a diogelu data wrth arwain mentrau ar groesffordd y gyfraith, technoleg a strategaeth. Wedi\u2019i henwi\u2019n Gynghorydd Cyfreithiol Mewnol y Flwyddyn gan Gymdeithas y Gyfraith yn 2025, mae Bianca\u2019n adnabyddus am ei hymagwedd gyfoes tuag at ymarfer cyfreithiol, gan gyfuno gwybodaeth gyfreithiol ag ymwybyddiaeth fasnachol, deallusrwydd emosiynol a rhuglder technolegol.<\/p>\n<p>Dechreuodd ei gyrfa yn fewnol mewn cwmni technolegol prysur cyn symud i\u2019r sector modurol, lle mae hi\u2019n negodi cytundebau gwerth uchel, datblygu offer cyfreithiol wedi\u2019i yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, a chynllunio systemau i wneud swyddogaethau cyfreithiol yn fwy cyraeddadwy ac effeithiol. Mae gan Bianca radd Meistr yn y Gwyddorau yn y Gyfraith a Rheoli Busnes, lle canolbwyntiodd ar effaith technolegau sy\u2019n dod i\u2019r amlwg ar y proffesiwn cyfreithiol.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n siaradwraig TEDx ar fentro i dir anghyfarwydd, mae Bianca\u2019n angerddol am fentora\u2019r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr a\u2019u helpu i ddatblygu gyrfaoedd wedi eu gwreiddio mewn eglurder, hyder a thwf bwriadol.<\/p>\n<p><strong>Peidiwch ag aros nes eich bod chi\u2019n teimlo\u2019n \u201cbarod\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Mae cymryd y cam nesaf yn broffesiynol yn dechrau gyda chymryd cyfrifoldeb o\u2019ch twf, eich cyflymder a\u2019ch safonau. Does neb yn cynnig y cam nesaf i chi; chi sy\u2019n ei ddatblygu drwy fod yn gyson, yn ddewr, a dangos parodrwydd i fentro. Daeth y newid mwyaf yn fy ngyrfa pan benderfynais i beidio ag aros i deimlo\u2019n \u201cbarod\u201d a dechrau dewis y cyfleoedd oedd yn fy herio i. Trodd pob her yn sgil, pob rhwystr yn ddata, ac roedd pob llwyddiant bach yn datblygu hunanhyder. Y meddylfryd hwn wnaeth fy ngwthio i o Brifysgol Caerdydd I ddod yn Gynghorydd Cyfreithiol Mewnol y Flwyddyn. Nid yw cynnydd yn digwydd yn ddamweiniol \u2013 mae\u2019n benderfyniad bob dydd.<\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">Ymunwch \u00e2\u2019n gr\u0175p LinkedIn a dechrau rhwydweithio<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"P\u2019un a ydych chi\u2019n anelu i fireinio eich sgiliau, dringo\u2019r ysgol yrfaol, neu feistroli\u2019r grefft o rwydweithio, dyma\u2019r amser i gymryd yr awenau. Gofynnon ni i rai o\u2019n cyn-fyfyrwyr anhygoel rannu eu cyngor gorau ar sut i gyrraedd y lefel nesaf yn broffesiynol.","protected":false},"author":904,"featured_media":10521,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10522","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10522","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10522"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10522\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10638,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10522\/revisions\/10638"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10521"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10522"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10522"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10522"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}