{"id":10509,"date":"2025-11-21T10:21:10","date_gmt":"2025-11-21T10:21:10","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10509"},"modified":"2025-11-21T10:21:10","modified_gmt":"2025-11-21T10:21:10","slug":"mentora-gyrfaol-ar-waith-o-sgyrsiau-i-ddechrau-gyrfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/11\/21\/mentora-gyrfaol-ar-waith-o-sgyrsiau-i-ddechrau-gyrfa\/","title":{"rendered":"Mentora gyrfaol ar waith: O sgyrsiau i ddechrau gyrfa"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae&#8217;r cyn-fyfyriwr Emma Barlow (BA 2009) yn Bennaeth Cynnwys yn Northstar, asiantaeth cynnwys bwt\u00eec yn Llundain. Yn 2025, cymerodd ran yn rhaglen mentora myfyrwyr y Brifysgol a chafodd ei pharu \u00e2 chyd-fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg, Erin Shiels (Llenyddiaeth Saesneg 2023\u2013). Gwnaeth Emma ac Erin gysylltu\u2019n gyflym ac arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfres o sesiynau mentora ar-lein at interniaeth, gan roi cyfle i Erin gael profiad ymarferol.<\/strong><\/p>\n<p>Cafodd Emma ei hysbrydoli i ymuno \u00e2\u2019r rhaglen ar \u00f4l ei gweld yn ei chylchlythyr i gyn-fyfyrwyr. \u00c2 hithau wedi elwa o fentora anffurfiol yn gynharach yn ei gyrfa, roedd hi&#8217;n ei gweld yn gyfle i roi rhywbeth yn \u00f4l \u2013 ac ailgysylltu \u00e2&#8217;i gwreiddiau yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>\u201cMae cwpl o bobl wedi bod yn fentoriaid i mi yn fy mywyd (p\u2019un a oedden nhw\u2019n sylweddoli hynny neu beidio!), ac rydw i bellach yn teimlo bod gen i rywfaint o brofiad a gwybodaeth i\u2019w rhannu.\u201d<br \/>\nRoedd y broses baru yn syml ac wedi&#8217;i chynllunio i gysylltu mentoriaid a mentoreion \u00e2 diddordebau cyffredin a nodau cydnaws.<\/p>\n<p>\u201cYsgrifennais baragraff byr amdanaf i fy hun a fy ngwaith a chefais fy mharu ag Erin \u2013 dyma bartneriaeth wych. Cawson ni amser da yn dod i adnabod ein gilydd mewn pum sesiwn ar-lein, ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i roi cipolwg ar farchnata cynnwys, hysbysebu a newyddiaduraeth.\u201d<\/p>\n<p>Wrth i&#8217;w perthynas fentora ddatblygu, sylweddolodd Emma pa mor werthfawr oedd y profiad i\u2019r ddwy. Cynigodd gyfle i fyfyrio ar ei gyrfa ei hun wrth gefnogi myfyriwr a oedd yn cymryd ei chamau proffesiynol cyntaf.<\/p>\n<p>\u201cCwpwl o oriau yn unig sy\u2019n rhaid eu rhoi ac roedd edrych n\u00f4l ar fy nghynnydd yn fy ngyrfa, yn ogystal \u00e2 bod o gymorth i\u2019r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy\u2019n ymuno \u00e2\u2019r gweithle yn brofiad gwerth chweil.\u201d<\/p>\n<p>Daeth y profiad mentora ar adeg ddelfrydol i Erin. Yn ogystal ag astudio, roedd hi&#8217;n chwilio am arweiniad a syniadau am beth i\u2019w wneud ar \u00f4l graddio. Pan ddysgodd am y rhaglen fentora drwy ei Chynghorydd Gyrfaoedd yn y Brifysgol, penderfynodd roi cynnig arni.<\/p>\n<p>\u201cMae pobl yn gofyn i mi drwy\u2019r amser \u2018beth wyt ti\u2019n bwriadu ei wneud ar \u00f4l y Brifysgol?\u2019, a dydw i byth yn gwybod sut i ateb. Ar ddechrau\u2019r ail flwyddyn doeddwn i heb ddatrys pethau eto, felly dechreuais bori drwy adnoddau&#8217;r Brifysgol i gael rhywfaint o gyngor.\u201d<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael ei pharu ag Emma, dysgodd Erin yn gyflym fod y profiad mentora yn rhoi hyder ac eglurder iddi am ei dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cGwnaeth mentora gydag Emma fy helpu i dawelu fy meddwl rhag poeni am y dyfodol. Cwrddais i \u00e2 rhywun a oedd wedi bod ar yr un daith \u00e2 fi ac wedi llwyddo, yn union fel y bydda i\u2019n ei wneud.\u201d<br \/>\nPan ddaeth y rhaglen fentora i ben, gwelodd Emma gyfle i fynd cam ymhellach.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l sawl sesiwn ar-lein gydag Emma, daeth yn amlwg ein bod wedi sefydlu perthynas dda, ac roeddwn i wedi rhannu llawer am fy ngwaith a\u2019r diwydiant. Roeddwn i\u2019n gwybod y byddai profiad gwaith yn werthfawr \u2013 fel yr oedd wedi bod i mi \u2013 a byddai Erin yn ffitio i mewn yn berffaith yn Northstar. Diolch byth, cytunodd fy nghyfarwyddwyr gwych.\u201d<\/p>\n<p>Adeiladodd yr interniaeth ar y pethau roedden nhw wedi&#8217;u trafod yn ystod eu sesiynau mentora a rhoddodd gyfle i Erin weld yn uniongyrchol sut mae&#8217;r diwydiant yn gweithio.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yr interniaeth yn gyfle anhygoel i mi weld popeth roedd Emma wedi s\u00f4n amdano, yn ogystal \u00e2 chael rhywfaint o brofiad ymarferol. Rwy\u2019n gobeithio y bydd y sgiliau rydw i wedi\u2019u dysgu yma yn fy helpu yn fy ngyrfa, yn ogystal \u00e2 gwneud i mi ymgyfarwyddo ag amgylchedd swyddfa yn hytrach nag ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd.\u201d<\/p>\n<p>Mae Erin bellach yn teimlo llawer yn fwy parod ar gyfer bywyd ar \u00f4l y brifysgol, ac mae\u2019n ddiolchgar am yr anogaeth a chefnogaeth y mae wedi\u2019u derbyn drwy\u2019r rhaglen.<\/p>\n<p>\u201cByddwn i\u2019n bendant yn argymell bod myfyrwyr eraill yn cymryd rhan yn y rhaglen mentora gyrfaoedd. Mae wedi bod mor wych i mi ac yn bendant wedi tawelu fy meddwl o ran poeni am fy nyfodol. Mae hefyd yn hawdd iawn i\u2019w gwneud ac yn hyblyg o amgylch eich astudiaethau \u2013 chi a\u2019ch mentor sy\u2019n dewis amser y galwadau.\u201d<\/p>\n<p>Dim ond un o gannoedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd drwy fentora ac interniaethau yw Emma.<\/p>\n<p>Mae T\u00eem Profiad Gwaith Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol yn chwilio am gyflogwyr a hoffai gefnogi myfyrwyr yn y dyfodol. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/work-with-us\/develop-your-workforce\/recruit-our-graduates\/student-placements\">Dysgwch ragor am y cymorth sydd ar gael<\/a>.<\/p>\n<p>Mae croeso i chi hefyd gysylltu \u00e2\u2019r T\u00eem Profiad Gwaith ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/cuworkexperience\/\">LinkedIn<\/a> i gael diweddariadau rheolaidd am eu holl gynlluniau a chyfleoedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cafodd Emma Barlow (BA 2009) ei pharu ag Erin Shiels (Llenyddiaeth Saesneg 2023\u2013) yn rhan o raglen mentora myfyrwyr eleni. Gwnaeth Emma ac Erin gysylltu\u2019n gyflym ac arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfres o sesiynau mentora ar-lein at interniaeth, gan roi cyfle i Erin gael profiad ymarferol.","protected":false},"author":904,"featured_media":10513,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10509","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10509","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10509"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10509\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10510,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10509\/revisions\/10510"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10513"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10509"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10509"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10509"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}