{"id":10491,"date":"2025-11-03T09:42:57","date_gmt":"2025-11-03T09:42:57","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10491"},"modified":"2025-11-05T15:02:39","modified_gmt":"2025-11-05T15:02:39","slug":"fy-nghyfnod-ym-mhrifysgol-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/11\/03\/fy-nghyfnod-ym-mhrifysgol-caerdydd\/","title":{"rendered":"Fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd \u2013 \u2018Flossing It\u2019"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn y rhifyn arbennig hwn o Bossing It &#8211; &#8216;Flossing It&#8217;, siaradon ni \u00e2 rhai o\u2019n cymuned wych o gyn-fyfyrwyr a rannodd eu profiadau o\u2019u hamser yn astudio ar raglenni deintyddol \u00f4l-graddedig Prifysgol Caerdydd. Mae\u2019r cyrsiau arbenigol hyn mewn Endodonteg, Prosthodonteg, Mewnblanoleg a Orthodonteg yn grymuso clinigwyr i ehangu eu harbenigedd, mynd i\u2019r afael ag achosion cymhleth gyda hyder, ac agor cil y drws i gyfleoedd proffesiynol newydd.<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-10489 media-10489\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/11\/Sasha-Gracias-Headshot-web.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Dr Sasha Gracias (MClinDent 2025)<\/h2>\n<p>Cymhwysodd <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/dr-sasha-gracias-10bbb2207\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sasha<\/a> fel deintydd yn 2020 yn India. Cwblhaodd hi radd Meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol (Endodonteg) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 2025. Mae hi&#8217;n aelod o\u2019r Gyfadran Ddeintyddiaeth yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Iwerddon ac mae hi hefyd wedi pasio arholiad aelodaeth mewn endodonteg gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin. Mae hi bellach yn gweithio mewn practis yn Newcastle, gan gynnig gofal deintyddol y GIG a phreifat gan ganolbwyntio ar endodonteg.<\/p>\n<p><strong>Aeth fy mhrofiad y tu hwnt i\u2019r ystafell dosbarth<\/strong><\/p>\n<p>Roedd fy amser yng Nghaerdydd yn allweddol wrth greu sylfeini cryf ar gyfer deall prosesau clefydau endodontegol. Dysgais i sut i fynd i\u2019r afael ag achosion heriol gyda thystiolaeth orau gyfredol i gefnogi fy mhenderfyniadau. Drwy drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth a thrafodaethau clinigol, enillais i\u2019r hyder i ymgymryd ag achosion rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol cymhleth ac i fynnu cael fy nghydnabod ymhlith cydweithwyr a chyfoedion.<\/p>\n<p>Roedd cyfeiriadau bob amser at oblygiadau byd go iawn ymarfer endodonteg. Cefais fy hyfforddi gan d\u00eem rhagorol o oruchwylwyr a oedd yn fy arwain gyda\u2019u syniadau arbenigol a\u2019u defnydd o dechnegau a deunyddiau. Drwy hyn, datblygais i sgiliau technegol annibynnol wrth gynnig gofal o safon uwch.<\/p>\n<p>Gwnes i hefyd y gorau o\u2019r nifer o gyfleoedd oedd ar gael i ddatblygu\u2019n bersonol ac yn broffesiynol tra roeddwn i ym Mhrifysgol Caerdydd \u2013 o fynd i gynadleddau arbenigol wedi\u2019u trefnu gan Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a&#8217;r Sefydliad ar gyfer Astudio Dramor, i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth fel Cynrychiolydd Myfyrwyr ac fel Cynorthwyydd Bywyd Preswyl. Gwnaeth Gwobr Caerdydd Dyfodol Myfyrwyr a\u2019u cyngor personol fy helpu i baratoi i ddeall y farchnad swyddi fel darpar endodontydd. Ar y cyfan, rhoddodd fy mhrofiad yn y Brifysgol i mi\u2019r arbenigedd clinigol, yr hyder, a\u2019r ddealltwriaeth broffesiynol oedd eu hangen arnaf i ragori yn fy ngyrfa a chyfrannu mewn ffordd ystyrlon i\u2019r maes.<\/p>\n<figure id=\"post-10488 media-10488\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/11\/Karrar-Al-Kadhim-Headshot-web.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Karrar Al-Kadhim (MSc 2017)<\/h2>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/karrar-al-kadhim-754242121\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Karrar<\/a> yn fewnblanydd sy\u2019n gweithio yn Basra, Irac. Ers graddio o Brifysgol Caerdydd gyda MSc mewn Mewnblanoleg, mae wedi dod yn un o\u2019r arbenigwyr ym maes mewnblannu sy\u2019n cael ei argymell mwyaf aml yn ei ranbarth, gan ganolbwyntio\u2019n gyfan gwbl ar lawdriniaethau i osod mewnblaniadau. Mae yn darlithio\u2019n genedlaethol, yn rhedeg ei gyrsiau hyfforddiant ei hun mewn mewnblanoleg sylfaenol ac yn astudio am PhD gyda chydran glinigol yn yr un maes.<\/p>\n<p><strong>Cefais fwy na sgiliau clinigol<\/strong><\/p>\n<p>Roedd cwblhau\u2019r MSc mewn Mewnblanoleg ym Mhrifysgol Caerdydd (2015 \u2013 2016) yn gam trawsnewidiol yn fy ngyrfa. Nid yn unig y cryfhawyd y rhaglen fy sgiliau clinigol gan y rhaglen \u2013 yn cynllunio, yn mewnosod ac yn adfer mewnblaniadau gyda hyder \u2013 ond hefyd rhoddodd y gallu i mi arfarnu tystiolaeth yn feirniadol a chyhoeddi fy nhraethawd hir mewn cyfnodolyn uchel ei fri.<\/p>\n<p>Gwnaeth yr hyfforddiant fy mharatoi i wneud triniaethau uwch megis impio esgyrn a llawdriniaethau mewnblannu cymhleth, a wnaeth helpu i feithrin ymddiriedaeth gyda meddygon teulu a ddechreuodd gyfeirio eu hachosion ataf i. Mae\u2019r sefydliad hwn wedi caniat\u00e1u i mi ganolbwyntio\u2019n gyfan gwbl ar fewnblanoleg a sefydlu fy hun yn arbenigwr blaenllaw yn Basra ac mae wedi fy ysbrydoli i wneud PhD gyda chydran glinigol yn yr un ysgol.<\/p>\n<figure id=\"post-10487 media-10487\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/11\/Jhenelle-Black-Headshot-web.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Dr Jhenelle Black (MSc 2025)<\/h2>\n<p>Deintydd o Jamaica sydd \u00e2 deng mlynedd o brofiad yw <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/jhenelleblack\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jhenelle<\/a>, ac mae ganddi hyfforddiant \u00f4l-raddedig ym maes Endodonteg o Brifysgol Caerdydd. Mae hi wedi gweithio mewn nifer o glinigau preifat ac ar hyn o bryd mae hi\u2019n gweithio yn Sefydliad Endodonteg y Carib\u00ee yn Kingston, Jamaica. Y tu hwnt i ymarfer clinigol, mae hi&#8217;n darlithio i fyfyrwyr deintyddol israddedig mewn addysgu didactig a chlinigol, yn gweithio fel Arholwr Allanol ym Mhrifysgol India\u2019r Gorllewin ac wedi trefnu rhaglenni allgymorth deintyddol i ddarparu gofal i gymunedau nad ydyn nhw\u2019n cael eu gwasanaethu&#8217;n ddigonol yn Jamaica.<\/p>\n<p><strong>Roedd mentora\u2019n hanfodol i fy llwyddiant<\/strong><\/p>\n<p>Roedd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn brofiad trawsnewidiol a\u2019m gwnaeth i hyd yn oed yn fwy angerddol dros Endodonteg. Gwnaeth y rhaglen fy herio i wthio fy ffiniau a rhoi hyder i mi yn fy sgiliau. Fel un o ddim ond pedwar Endodontydd yn Jamaica, mae fy agwedd at ymarfer preifat yn cael ei lunio gan yr addysgu a\u2019r llif gwaith clinigol a feithrinwyd ynof i yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd. Rwy\u2019n hynod ddiolchgar am yr ymgynghorwyr a gyfoethogodd fy hyfforddiant gyda\u2019u o gwybodaeth gynhwysfawr, eu harbenigedd clinigol a&#8217;u harweiniad. Rhoddodd eu mentoriaeth hyder i mi reoli achosion endodontegol cymhleth ac mae yn parhau i ysbrydoli fy nhwf fel clinigwr ac fel athro.<\/p>\n<h2>Aisha Ashukri (MClinDent 2025)<\/h2>\n<figure id=\"post-10486 media-10486\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/11\/Aisha-Ashukri-Headshot-web.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Enillodd <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/aisha-ashukri-36203911b\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Aisha<\/a> ei Gradd mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol o Brifysgol Tripoli. Wrth ddilyn ei hangerdd dros ddeintyddiaeth adferol, bu\u2019n gwneud gradd meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg) ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mireiniodd ei sgiliau mewn teclynnau prosthodonteg parhaol, y gellir eu tynnu, a mewnblaniadau. Mae hi wedi cwblhau\u2019r arholiad ymadael arbenigol mewn prosthodonteg o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin, ac wedi cyflwyno posteri mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Alisha yn glinigwr ymroddedig sy\u2019n cyfuno arbenigedd clinigol \u00e2 dull amlddisgyblaethol sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni deilliannau sy\u2019n rhagweladwy ac yn foddhaol o ran eu hesthetig.<\/p>\n<p><strong>Yn y Brifysgol, dysgais i\u2019r \u201crheswm pam\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Roedd fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn drobwynt sylweddol yn fy ngyrfa. Gwnaeth y rhaglen meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg) fy ngwthio i feddwl y tu hwnt i\u2019r achosion arferol a gwir ddeall y \u201crheswm pam\u201d y tu \u00f4l i bob penderfyniad. Drwy weithio yn ysbyty deintyddol y Brifysgol, dysgais i sut i reoli achosion cymhleth gyda hyder a sut i gydweithio\u2019n effeithiol. Diolch i\u2019r dull hwn sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, drwy glybiau cyfnodolion, prosiectau ymchwil a chyflwyniadau o achosion, rhoddwyd min ar fy nghrebwyll clinigol a fy ffordd o cyfathrebu fel gweithiwr proffesiynol. Rhoddodd yr hyfforddiant hwnnw&#8217;r sylfaen a&#8217;r hyder i mi sefyll fy arholiad ymadael arbenigol gyda&#8217;r Coleg Brenhinol a symud yn agosach at gofrestru&#8217;n llawn fel prosthodontydd n\u00f4l adref.<\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">Ymunwch \u00e2\u2019n gr\u0175p LinkedIn a dechrau rhwydweithio<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y rhifyn arbennig hwn o Bossing It - 'Flossing It', siaradon ni \u00e2 rhai o\u2019n cymuned wych o gyn-fyfyrwyr a rannodd eu profiadau o\u2019u hamser yn astudio ar raglenni deintyddol \u00f4l-graddedig Prifysgol Caerdydd.","protected":false},"author":904,"featured_media":10485,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10491","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10491","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10491"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10491\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10505,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10491\/revisions\/10505"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10485"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10491"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10491"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10491"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}